Gwaelodlin bioamrywiaeth ar draws Ein Ffermydd

Crynodeb Gweithredol

Prif ganlyniadau

  • Nodwyd ystod syfrdanol o 24 math o gynefin ar draws y 15 fferm gan ddangos yr ystod o ffermydd sy’n cael eu cynrychioli yn y rhwydwaith.

  • Y fferm gyda’r mwyaf o fathau o gynefinoedd oedd un o’r ffermydd cig coch, a oedd yn cynnwys ffigwr syfrdanol o 15 gwahanol fath o gynefin

  • Roedd cyfanswm y tir sydd wedi’i orchuddio â chynefin naturiol neu led-naturiol yn amrywio o 1.3% i 77.3%

  • Roedd gan 11 o’r 15 fferm fwy na 10% o’u tir wedi’i orchuddio gan gynefinoedd naturiol.

Cyflwyniad

Mae bioamrywiaeth yn rhan annatod o’n systemau ffermio. Bydd y mathau o fywyd gwyllt sy’n byw ar fferm yn ddibynnol ar y math o fferm, lleoliad, uchder, yn ogystal â’r systemau rheoli a weithredir ar y fferm honno, ymysg ffactorau eraill. Mae ffermwyr wedi gweithio ochr yn ochr â bywyd gwyllt am genedlaethau ac yn gwerthfawrogi’r rhywogaethau maen nhw’n eu gweld yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Rydym ni bellach yn deall mwy am bwysigrwydd tirwedd gyda llawer o fioamrywiaeth a’r dangosyddion y mae rhywogaethau penodol yn eu darparu o ran iechyd a lles y dirwedd a’r cymunedau ar y dirwedd honno.

Mae’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a fydd yn cael ei gyflwyno yn 2026, yn amlinellu sut y bydd cynefinoedd o ddiddordeb yn cael eu cefnogi, yn ogystal â chreu cynefinoedd newydd mewn lleoliadau addas. Ceir gofyniad arfaethedig i ffermwyr sy’n ymuno â’r cynllun sicrhau bod o leiaf 10% o’u ffermydd yn cael eu rheoli fel cynefin, a gyda hynny mewn cof, cynhaliwyd arolygon gwaelodlin bioamrywiaeth ar y 15 fferm sy’n rhan o’r Rhwydwaith Ein Ffermydd. Mae hyn wedi galluogi’r ffermwyr a fu’n cymryd rhan i weld a yw eu fferm yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer ymuno â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ynghyd ag unrhyw ardaloedd sy’n addas ar gyfer creu cynefinoedd os ydynt yn dymuno cynyddu eu hardaloedd cynefin ar eu ffermydd. Mae Llywodraeth Cymru’n rhestru’r cynefinoedd canlynol fel cynefinoedd sydd angen eu cynnal er mwyn cyflawni’r Weithred Gyffredinol yn ymwneud â chynnal cynefinoedd:

  • Morfa heli arfordirol

  • Twyni tywod arfordirol a thraethau graean

  • Rhos yr arfordir a rhos llawr gwlad

  • Gwlypdir wedi'i amgáu a glaswelltir corsiog

  • Glaswelltir sych lled-naturiol wedi'i amgáu (yn cael ei reoli fel porfa neu weirglodd)

  • Cynefinoedd agored yr ucheldir 

  • Perllannau traddodiadol (cynefin coediog)

  • Rhedyn trwchus

  • Prysgwydd (cynefin coediog)

  • Coed Pori (cynefin coediog)

  • Pyllau bywyd gwyllt parhaus

  • Ardaloedd o gynefin newydd ei greu ar dir wedi’i wella

     

Methodoleg

Er mwyn profi gwahanol fethodoleg ar gyfer cynnal yr arolygon, defnyddiwyd dau wahanol ddull.

  1. Arolwg Cam 1 llawn a gynhaliwyd gan ecolegydd cymwys. Ar gyfer yr arolwg hwn, roedd yr ecolegydd yn cerdded ar draws y fferm ac yn mapio’r gwahanol ardaloedd o gynefin cyn paratoi adroddiad llawn ar y fferm. Defnyddiwyd y dull hwn ar 6 o’r ffermydd gan gynhyrchu cofnod o’r data gwirioneddol yn seiliedig ar arsylwadau.
  2. Arolwg desg a gynhaliwyd gan y Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol (LERC) yng Nghymru. Roedd yr arolwg hwn yn golygu lawr lwytho gwybodaeth o gronfeydd data ar-lein (yn seiliedig ar waith mapio cynefinoedd Cam 1) i ddangos y mathau o gynefinoedd a’r rhywogaethau a arsylwyd ar y ffermydd. Defnyddiwyd y dull hwn ar 9 o’r ffermydd gan gynhyrchu cofnod hanesyddol yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd o’r cronfeydd data 
    ar-lein. Cafodd y 9 arolwg eu gwirio drwy gynnal teithiau cerdded ar y ffermydd yn ystod haf 2024 i wirio bod y data hanesyddol yn cyfateb â’r sefyllfa bresennol.

Mae arolwg Cam 1 yn system safonol ar gyfer dosbarthu a mapio cynefinoedd bywyd gwyllt ym Mhrydain, a chafodd y system ei datblygu gan y Cyngor Cadwraeth Natur (1990). Caiff pob cynefin ei ddiffinio a rhoddir enw penodol a chod sy’n gyson ar gyfer pob defnyddiwr.

Cynhaliwyd yr arolygon yn ystod tymor yr haf a gwanwyn 2024. Mae’n bwysig bod arolygon fel hyn yn cael eu cwblhau yn ystod y tymor tyfu gweithredol gan fod nodi rhai o’r planhigion yn gallu bod yn allweddol er mwyn adnabod rhai o’r cynefinoedd.

Canlyniadau

Wrth ddehongli’r data o’r arolygon ac asesu canran y cynefinoedd cymwys ar y ffermydd, daeth anghysondeb i’r amlwg o ran y derminoleg a ddefnyddiwyd yn yr arolygon Cam 1 a’r derminoleg a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru yn nogfennau’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Un o’r categorïau yn yr arolwg Cam 1 yw glaswelltir wedi’i wella’n rhannol, sy’n gategori pontio ar gyfer glaswelltiroedd sydd wedi cael eu gwella i ryw raddau drwy wasgaru gwrtaith neu drwy bori. Gall rhai o’r glaswelltiroedd hyn gynnwys amrywiaeth o rywogaethau, ond maent yn dal i ddangos gwelliant i ryw raddau.  Nid yw’r rhestr o gynefinoedd a ddarperir yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (a restrir yn y cyflwyniad) yn cyfeirio at laswelltir wedi’i wella’n rhannol, ond yn hytrach, mae’n defnyddio’r term ‘lled-naturiol’. Nid yw’n glir pryd y mae glaswelltir wedi’i wella’n rhannol yn dod yn laswelltir 
lled-naturiol, ac felly at ddibenion yr adroddiad hwn, nid yw glaswelltir wedi’i wella’n rhannol yn cael ei gynnwys yn y cyfrifiad o ganran tir cynefin.

Nodwyd ystod syfrdanol o 24 gwahanol fath o gynefin ar draws y 15 fferm, gan ddangos yr ystod o ffermydd a gynrychiolir yn y rhwydwaith. Mae’r rhain i’w gweld yn Nhabl 1. 

Tabl 1. Yr ystod o wahanol fathau o gynefinoedd a nodwyd ar draws ffermydd y rhwydwaith Ein Ffermydd a nifer y ffermydd lle’r oedd pob cynefin i’w gweld.

 

Dosbarthiad bras

Math o gynefin

Nifer y ffermydd

Coetir a phrysgwydd

Coetir conifferaidd

3

 

Coetir llydanddail

15

 

Gwrychoedd

15

 

Parcdir a choed gwasgaredig

1

 

Amaeth goedwigaeth

1

 

Prysgwydd

1

Glaswelltir a chorsydd

Glaswelltir wedi’i wella

15

 

Glaswelltir wedi’i wella’n rhannol

10

 

Glaswelltir niwtral heb ei wella

2

 

Glaswelltir asidig heb ei wella

3

 

Glaswelltir corsiog

5

Tir wedi’i amaethu

Tir âr

5

Perlysiau a rhedyn tal

Rhedyn

4

 

Perlysiau tal

1

Rhostir

Rhostir sych/glaswelltir asidig

2

 

Rhostir gwlyb/glaswelltir asidig

1

 

Rhostir coreithin sych

2

 

Rhostir coreithin gwlyb

1

 

Rhostir cennau brÿoffyt

1

Mawndir

Dŵr daear - asidig

1

 

Gorgors

1

 

Mawndir wedi’i addasu

1

Nodweddion dŵr

Pwll

1

 

Afonydd/nentydd

2

Y fferm gyda’r mwyaf o wahanol fathau o gynefinoedd oedd un o’r ffermydd cig coch, gyda chyfanswm syfrdanol o 15 gwahanol fath o gynefin. Roedd y ffermydd llaeth yn dueddol o gael llai o wahanol fathau o gynefinoedd, ond yn yr un modd, roedd rhai o’r ffermydd cig coch yn cynnwys cyfran uchel o laswelltir wedi’i wella a llai o ystod o gynefinoedd.

Er mwyn cyfrifo canran y tir cynefin ar bob fferm, cafodd y mathau canlynol o gynefinoedd o Dabl 1 eu heithrio gan nad ydynt yn cael eu hystyried yn naturiol na’n lled-naturiol: Glaswelltir wedi’i wella, glaswelltir wedi’i wella’n rhannol, tir âr a choetir conifferaidd.

Roedd cyfanswm y tir sydd wedi’i orchuddio gan gynefinoedd naturiol neu led-naturiol yn amrywio o 1.3% i 77.3%. Nid oes unrhyw ddiben creu ffigwr cyfartalog gan fod yr ystod mor eang. Coetiroedd llydanddail yw’r cynefin sy’n cyfrannu fwyaf ar draws yr holl ffermydd gan ddangos eu gwerth fel cynefin ar ffermydd yng Nghymru. Roedd 11 o’r 15 fferm yn nodi bod mwy na 10% o’u tir wedi’i orchuddio gan gynefinoedd naturiol.

 

Casgliadau

  • Mae’r ffermydd sy’n rhan o’n rhwydwaith Ein Ffermydd yn cynnwys ystod eang o gynefinoedd sy’n nodweddiadol o ffermydd yng Nghymru.

  • Mae 11 o’r 15 fferm yn cynnwys mwy na 10% o dir cynefin ar eu ffermydd.

  • Coetir llydanddail sy’n cyfrannu fwyaf at gynefin naturiol ar y ffermydd.

  • Mae’r rhain oll yn ffermydd cynhyrchiol a gweithredol, ac felly, glaswelltir wedi’i wella yw’r rhan fwyaf o arwynebedd y tir. Mae hyn yn nodweddiadol o ffermydd ar draws Cymru.

  • Roedd cyfanswm y tir sydd wedi’i orchuddio gan gynefinoedd naturiol neu led-naturiol yn amrywio o 1.3% i 77.3%.