Gwella effeithlonrwydd y fuches sugno drwy gydamseru oestrws

Prif nod y digwyddiad oedd trafod buddiannau cydamseru oestrws mewn buches fasnachol. Roedd y 

digwyddiad hefyd wedi’i anelu at dynnu sylw at bwysigrwydd iechyd a ffrwythlondeb da er mwyn gwella perfformiad a phroffidioldeb y fuches yn ogystal â thrafod manteision ffrwythloni artiffisial a defnyddio geneteg o ansawdd uchel ar gyfer yr allbwn uchaf posib.

 

Y broblem a’i effaith:

Gallai patrwm lloia estynedig arwain at gostau uchel ar gyfer cynhyrchwyr bîff. Bydd lleihad yn y pwysau ar y bachyn a chyfnod magu estynedig yn cael effaith negyddol ar broffidioldeb ac effeithlonrwydd buches. Mae patrwm lloia yn y gwanwyn a’r hydref wedi dangos bod yna gysondeb uwch mewn pwysau ar y bachyn, gyda 10kg o wahaniaeth ym mhwysau carcas rhwng lloi sydd wedi’i geni ym mis Mawrth a mis Gorffennaf.  Yn ogystal â chyfyngu’r patrwm lloia, gallai cydamseru a defnyddio AI leihau costau cyfnewid tarw yn sylweddol.

 

Yr ateb a’r camau nesaf:

Roedd rhan gyntaf y digwyddiad yn cynnwys trafodaeth am y dulliau a ddefnyddiwyd ym mhrosiect Cyswllt Ffermio yn Fferam Gyd. Cafodd 55 buwch/heffer eu cynnwys yn y cydamseru, tra bod 34 wedi cael eu troi at y tarw yn naturiol ar yr un diwrnod y cafodd y grŵp cydamseru eu ffrwythloni’n artiffisial. Llwyddodd 77% o’r grŵp cydamserol i gyfloi ar y tro cyntaf sy’n uwch na’r targed gwreiddiol o 60% sy’n eithriadol o dda. Roedd y mwyafrif o’r gwartheg cydamseru wedi lloia o fewn pythefnos, tra bod y gwartheg a gafodd eu troi at y tarw yn naturiol yn lloia dros gyfnod llawer hwy. Mae defnyddio AI o Kingbull (tarw Limousin pedigri) yn galluogi Llyr, sy’n ffermio Fferam Gyd, i gael at eneteg uwch am bris fforddiadwy, cadw heffrod cyfnewid ac yn ei alluogi i gadw’r teirw stoc presennol ar y fferm. Pwysleisiodd Llyr bwysigrwydd talu sylw i’r manylion er mwyn cael canlyniadau da. Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd cyfleusterau trin gwartheg da yn enwedig o ran iechyd a diogelwch, yn ogystal â digon o le ar gyfer cyfnod lloia prysur.

Roedd lloia mewn cyfnod byr wedi galluogi Llyr i gadw llygad agosach ar y lloi gan eu bod yn cael eu cadw mewn un grŵp o dan do. Roedd hyn yn golygu bod unrhyw salwch yn cael ei ganfod a’i drin heb effeithio gormod ar berfformiad y llo. Golyga hefyd y gallai ysbaddu a digornio’r holl loi cyn eu troi allan, gan osgoi’r pwysau ar y fuwch a’r llo o orfod eu cael yn ôl i mewn i gwblhau’r gwaith yn hwyrach.

Yn y dyfodol, byddai Llyr yn ystyried y posibilrwydd o annog y gwartheg a oedd yn hwyr yn lloia i ddod â lloi yn gynt er mwyn osgoi lloia caled o ganlyniad i loi mawr. Ar y cyfan, mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiant yn Fferam Gyd a bydd Llyr yn dechrau’r rhaglen cydamseru nesaf o fewn wythnos ar ôl y digwyddiad. Er mwyn cwblhau’r prosiect hwn bydd data yn cael ei gofnodi a’i gasglu ar bwysau’r llo a’r dyddiad gwerthu er mwyn canfod unrhyw fanteision o’i gymharu â lloi'r llynedd nad oedd yn rhan o raglen gydamseru.

Yn ystod rhan nesaf y digwyddiad, dywedodd Iwan Parry, Milfeddygon Dolgellau, nad oes unrhyw fanteision o lloia caled ac o ganlyniad dylai cynhyrchwyr ddewis heffrod a theirw cyfnewid sy’n addas ar gyfer lloia syml. Un o’r prif bwyntiau yn ystod trafodaeth Iwan oedd y buddion o fesur pelfis yr heffrod.  Cynigiodd Iwan fabwysiadu dull didostur ac osgoi magu o heffrod gyda phelfis cul.

Siaradodd hefyd am bwysigrwydd iechyd da o fewn y fuches er mwyn sicrhau ffrwythlondeb da. Dywedodd Iwan fod yna nifer ddulliau o gydamseru, ac mae cyfraddau cenhedlu yn medru amrywio’n fawr. Mae’n hanfodol bod gwartheg yn rhydd o unrhyw glefydau ac afiechydon er mwyn bod yn gynhyrchiol a chyrraedd eu targed o un llo'r fuwch y flwyddyn. Tynnodd sylw hefyd at y manteision o gynnal profion am BVD trwy raglen ‘Gwaredu BVD’ a lleihau unrhyw berygl o glefydau a allai effeithio cynhyrchiant. Roedd hefyd yn argymell bod gwartheg yn cynnal cyflwr corff da er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau posib.

Yn nhermau dewis geneteg uwch, roedd Arwel Owen, Genus, yn argymell dewis teirw fydd yn cwrdd â’ch gofynion. Holodd Arwel y gynulleidfa ynglŷn â’u dewisiadau gan ofyn a ydyn nhw (fel cynhyrchwyr) yn dewis ar gyfer y llinach famol er mwyn magu heffrod cyfnewid. Dywedodd nifer fach o’r gynulleidfa eu bod yn dewis am y llinach famol. Dywedodd Arwel fod dewis y llinach famol yn dod yn bwysicach, yn enwedig os yw cynhyrchwyr angen gwella cynhyrchiant a magu gwartheg magu sy’n fwy effeithlon.

Yn ystod y drafodaeth, siaradodd Arwel am loia caled. Defnyddiodd darw Limousin adnabyddus, Lodge Hamlet (semen wedi’i werthu gan Genus), fel enghraifft. Mae’n ymddangos fel petai gwartheg a gafodd y tarw Hamlet heb gael unrhyw broblemau wrth loia, ond mae unrhyw fuwch sy’n cario’r eneteg myostatin (Belgian Blue/crosiad, South Devon) wedi cael lloia anodd. Cynigiodd Arwel y gallai profi gwartheg am yr eneteg myostatin fod yn ddewis ond gallai hyn fod yn aneffeithlon ar y gost o £30 y prawf.  Serch hynny, gallai gwybod statws myostatin y llinach famol fod yn ddefnyddiol iawn wrth wneud penderfyniadau wedi’u cyfiawnhau wrth ddewis teirw.

 

Tystiolaeth o’r buddion:

Mae amrywiaeth yn y misoedd geni yn effeithio ar y diwrnod lladd, gyda lloi mis Gorffennaf yn cymryd 30 diwrnod yn ychwanegol i besgi o gymharu â lloi sydd wedi’i geni ym mis Chwefror a Mawrth ar gyfartaledd. Gallai colled o 10kg ar y bachyn gostio hyd at £25 y pen, tra bod bwydo am 30 diwrnod yn ychwanegol yn costio £1.50 y diwrnod sy’n gyfanswm o £45 o gostau ychwanegol. Mae’r ffactorau hyn wedi’u cyfuno yn golygu colled o £70 y pen a mwy. Yn ogystal â chyfyngu’r patrwm lloia, gallai cydamseru a defnyddio AI leihau costau tarw cyfnewid yn sylweddol o £14.37 y fuwch. Mewn buches o gant o wartheg, byddai hyn yn gyfatebol i arbediad o £1,437 y flwyddyn. Byddai bridio confensiynol gyda dau darw stoc yn costio tua £63 y fuwch gyda’r ddau darw yn cael eu newid bob dwy flynedd er mwyn galluogi cadw heffrod cyfnewid. Mae cyfanswm y gost o gydamseru yn £43.63 y fuwch ac felly mae adenillion ar y buddsoddiad bron yn sicr.

 

Prif negeseuon:

  • Mae rhoi sylw i fanylder yn allweddol wrth roi rhaglen cydamseru oestrws ar waith.
  • Mae cyfleusterau trin gwartheg yn hanfodol yn ogystal â sicrhau digon o le ar gyfer cyfnodau lloia prysur. 
  • Mae iechyd a chyflwr corff da yn angenrheidiol i gyflawni ffrwythlondeb uchel a chyfraddau cenhedlu da o fewn rhaglen gydamseru. 
  • Ystyriwch ddewis heffrod cyfnewid yn seiliedig ar fesuriadau pelfis. 
  • Ystyriwch ddefnyddio teirw ar gyfer gwella llinach famol os ydych chi’n cynhyrchu eich heffrod cyfnewid eich hun.
  • Mae dewis geneteg dda sy’n addas ar gyfer eich system a’r allbwn delfrydol yn hanfodol wrth wella cynhyrchiant a phroffidioldeb.