Gwella iechyd y pridd a sefydlu system bori ohiriedig
Prif ganlyniadau a deilliannau
- Gwella iechyd y pridd: Roedd y system stocio sefydlog a’r system bori glaswellt tal yn dangos prinder gwelliant o ran iechyd y pridd. Roedd dangosyddion perfformiad allweddol megis poblogaeth pryfed genwair, cyfraddau ymdreiddio a dyfnder gwreiddio yn dal i fod yr un fath.
- Cywasgiad y pridd: Gwelwyd problemau cywasgiad yn y ddwy system, gan effeithio’n negyddol ar ddyfnder gwreiddio ac ymdreiddiad dŵr. Roedd darlleniadau mesurydd treiddiad yn nodi haenau cywasgedig yn gyson ar wahanol ddyfnderoedd, gan effeithio ar strwythur ac iechyd cyffredinol y pridd.
- Gorchudd llystyfiant: Roedd dwysedd y gwndwn yn dal i fod yn isel, gan effeithio ar ansawdd y borfa ac argaeledd porthiant.
- Datblygiad Gwreiddbilen (rhizosheath) a Chnapiau: Mae absenoldeb datblygiad gwreiddbilen arwyddocaol a chnapiau mewn planhigion codlysiau yn awgrymu prinder gweithgarwch microbaidd ac ychydig iawn o gylchu maetholion o fewn y pridd.
Cefndir
Mae Teleri a Ned yn ffermio bîff a defaid ar fferm Hafod y Llyn yn Eryri, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’r caeau yn briddoedd gwastad a thywodlyd, 3m yn unig uwchben lefel y môr, ac felly’n agored iawn i lifogydd. Ar hyn o bryd, maent yn torri silwair ac yn prynu gwellt i’w fwydo dros y gaeaf.
Nod y prosiect yw archwilio dull adfywiol o reoli glaswelltir gyda chyfnodau gorffwys o 60 diwrnod a system bori cylchdro i wella ffrwythlondeb y pridd, lleihau costau, a gwella bioamrywiaeth. Mae’r nodau’n cynnwys tyfu porfa o ansawdd uchel drwy gydol y flwyddyn, mwy o infertebratau, gwella iechyd y pridd, a chyfrannu at ddeilliannau rheoli tir yn gynaliadwy megis lles anifeiliaid ac ecosystemau gwydn.
Diben y gwaith
Nod Teleri a Ned yw ffermio’n gynaliadwy ac yn effeithlon yn Hafod y Llyn, gan weithredu’r canlynol:
- Monitro twf glaswellt, iechyd y pridd, poblogaethau chwilod y dom, gan hefyd fabwysiadu strategaeth bori adfywiol.
- Gwella iechyd y pridd i leihau dŵr ffo, gwella ansawdd dŵr a chynyddu’r storfa garbon.
- Cyd-fynd â deilliannau rheoli’r tir yn gynaliadwy drwy hybu bioamrywiaeth, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, a gwella gwytnwch y fferm gyda chyn lleied o fewnbynnau â phosibl.
Yr hyn a wnaed
Cynhaliwyd yr arbrawf ar draws tri chae: Ffridd Ganol (1.4ha), Ffridd Uchaf (1.4ha), a Chae Terfyn (1.5ha). Datgelodd asesiad o’r pridd a gynhaliwyd ym mis Medi 2023 broblemau cywasgiad tebyg ar draws pob cae, gyda haen nodedig yn is na 127mm. Mae Ffridd Ganol a Ffridd Uchaf yn cynnwys mwy o frwyn a chwyn, ac mae Cae Terfyn yn cynnwys dros 90% o frwyn.
Roedd data cychwynnol a gasglwyd ar y fferm yn nodi’r canlynol:
Iechyd y pridd:
- Ymdreiddiad: Ymdreiddiad gwael (30 munud ar gyfer y fodfedd gyntaf), gan ddangos prinder amsugno dŵr.
- Pryfed genwair: Nifer uchaf o 32 gan awgrymu bioleg wael yn y pridd.
- Dyfnder gwreiddio: Yn amrywio o 3-5cm, gan ddangos potensial ar gyfer gwell twf ar gyfer gwreiddiau.
Dwysedd llystyfiant a’r gwndwn:
- Nifer fawr o rywogaethau annymunol: Presenoldeb sylweddol o chwyn glaswellt annymunol, gan effeithio ar ansawdd y borfa.
- Dwysedd y gwndwn: Yn isel yn gyffredinol (3-4), ond yn gwella gyda rheolaeth.
Strwythur y pridd:
Sgorau VESS: Amlygu strwythur gwael i’r pridd gyda chywasgiad amlwg. Darlleniadau’r mesurydd treiddiad: Gwelwyd cywasgiad ar haenau dyfnach (hyd at 300 PSI), gan awgrymu’r angen am reolaeth i leihau cywasgiad.
Cymerwyd y camau adfer canlynol:
- Ymyriadau Mecanyddol: Defnyddio aradr isbridd ac awyru gyda llafn droellog i fynd i’r afael â chywasgiad a gwella strwythur y pridd.
- Strategaethau pori: Pori cylchdro a byrnau i reoli llystyfiant a hybu iechyd y pridd. Hefyd yn cymharu stocio sefydlog gyda phori glaswellt tal o ran eu heffaith ar lystyfiant ac iechyd y pridd.
- Monitro Bioamrywiaeth: Ffawna’r pridd, amrywiaeth planhigion, a thracio chwilod y dom gan ddefnyddio’r Ap Soilmentor.
- Asesiadau Iechyd y Pridd: Profion gwlychu’r pridd a chyfraddau ymdreiddiad i fonitro gwelliannau i ansawdd y pridd.
Deilliannau
Bydd canlyniadau’r camau adfer a wnaed yn cael eu hasesu dros y misoedd nesaf ac mae’n bosibl y gallai gymryd blynyddoedd i weld eu heffaith yn llawn.
Dangosodd un elfen o’r prosiect a oedd yn canolbwyntio ar asesu iechyd y pridd a llystyfiant mewn dwy system reoli tir gwahanol: Stocio Sefydlog a Phori Glaswellt Tal dueddiadau sy’n peri pryder yn y ddwy system dros y cyfnod arsylwi.
- Iechyd y pridd: Roedd cyflwr y pridd yn parhau i fod yn wael ar y systemau stocio sefydlog a phori glaswellt tal drwy gydol yr astudiaeth. Roedd poblogaethau pryfed genwair yn isel, ac roedd cyfraddau ymdreiddio yn dal i fod yn 30 munud ar gyfer y fodfedd gyntaf o bridd, gan ddangos ychydig iawn o welliant o ran y pridd. Roedd darlleniadau mesurydd treiddio yn dangos arwyddion o gywasgiad pridd, gyda gwerthoedd yn nodi haenau cywasgedig ar amrywiaeth o ddyfnderoedd (hyd at 24 modfedd mewn rhai achosion). Nid oedd gwreiddbilen (rhizosheath) yn datblygu, ac nid oedd planhigion codlysiau yn cnapio, gan awgrymu prinder gweithgarwch microbaidd.
- Llystyfiant: Roedd gorchudd sylfaenol y tir yn cael ei ddominyddu gan dir moel yn y lle cyntaf (100%) ar bob llain, gyda rhywogaethau annymunol yn cynyddu erbyn diwedd y cyfnod arsylwi. Roedd dwysedd llystyfiant yn dal i fod yn isel, gyda thwf glaswelltau, planhigion a chodlysiau yn wasgaredig. Roedd dwysedd y gwndwn yn amrywio o ddwys i wasgaredig, gyda bylchau’n dod yn fwy a mwy amlwg, yn enwedig yn y system bori glaswellt tal.
- Gwreiddio a strwythur y pridd: Gwelwyd ychydig iawn o gynnydd o ran dyfnder gwreiddio dros amser, gyda gwreiddiau bas (1.5 i 7cm) ar y rhan fwyaf o leiniau, gan awgrymu diffyg ymdreiddiad gan y gwreiddiau o ganlyniad i gywasgiad pridd a strwythur annigonol. Dangosodd asesiadau VESS haenau onglaidd, sy’n gadarnhad pellach o ddiraddiad y pridd.
Ar y cyfan, mae’r astudiaeth yn dangos bod systemau Stocio Sefydlog a Phori Glaswellt Tal yn profi problemau sylweddol o ran iechyd y pridd, gan gynnwys cywasgiad, diffyg twf gwreiddiau a gorchudd llystyfiant isel. Mae angen ymyriadau rheoli ar unwaith, megis addasiadau i’r systemau pori, addasiadau i’r pridd a gwella rheolaeth llystyfiant i adfer ffrwythlondeb y pridd a chefnogi arferion defnyddio tir yn gynaliadwy.
Er mwyn gwella iechyd y pridd a chyflwr llystyfiant ar eich fferm eich hun, dilynwch y canllaw cam wrth gam ymarferol hwn:
- Asesu a monitro iechyd y pridd
- Profi iechyd y pridd yn rheolaidd i fesur cywasgiad, poblogaeth pryfed genwair, cyfraddau ymdreiddio a dyfnder gwreiddio.
- Defnyddio mesurydd treiddio i wirio ar gyfer cywasgiad pridd ar wahanol ddyfnderoedd (yn enwedig rhwng 9-24 modfedd).
- Mesur Gwerthusiad Gweledol o Strwythur y Pridd (VESS) i ganfod problemau gyda strwythur y pridd megis blociau onglaidd a haenau cywasgedig.
- Gwella arferion rheoli’r borfa
- Cyflwyno system bori cylchdro i osgoi gor-bori a chaniatáu i borfeydd adfer.
- Addasu cyfraddau stocio yn seiliedig ar amodau’r borfa, gan anelu at bwysau pori cyfartal nad yw’n diraddio’r pridd na’r llystyfiant.
- Defnyddio holltwyr gwndwn neu offer awyru arall i chwalu pridd cywasgedig a hybu gwell twf gwreiddiau ac ymdreiddiad dŵr.
- Annog adferiad llystyfiant
- Meithrin twf planhigion amrywiol drwy annog twf glaswelltau, codlysiau a phorfa. Mae’r planhigion hyn yn gwella ffrwythlondeb y pridd ac yn lleihau erydiad.
- Rheoli rhywogaethau annymunol a allai ddominyddu’r tir, lleihau’r gystadleuaeth ar gyfer planhigion dymunol.
- Gwella strwythur y pridd
- Ychwanegu deunydd organig megis compost neu wrtaith i wella gwead a ffrwythlondeb y pridd.
- Ystyried rhywogaethau gyda gwahanol ddyfnderoedd gwreiddio i wella strwythur y pridd.
- Monitro ac addasu arferion rheoli
- Monitro iechyd y pridd a’r llystyfiant yn rheolaidd i gadw golwg ar welliannau ac addasu arferion fel bo’r angen.
- Gosod nodau penodol ar gyfer gwella’r pridd (e.e. lleihau’r tir moel i lai na 10%, cynyddu poblogaethau pryfed genwair, gwella dyfnder gwreiddio).