Gwobrau Lantra 2024
Gwobr Cyfraniad Oes Lantra 2024
Mae’r wobr hon yn cydnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad ‘eithriadol a sylweddol’ i amaethyddiaeth yng Nghymru
Stephen James FRAgS, Clunderwen, Sir Benfro
Mae Stephen yn ffermwr llaeth o Sir Benfro, yn Gymrawd Cymdeithasau Amaethyddol Prydain, yn gyn-fyfyriwr yn y Brifysgol Amaethyddol Frenhinol, ac yn ffigwr blaenllaw ac uchel ei barch ym myd amaeth yng Nghymru. Mae Stephen yn adnabyddus am ddathlu ffermwyr ifanc a’u heffaith ar foderneiddio amaethyddiaeth yng Nghymru, ac ers dros ugain mlynedd, mae wedi bod yn eiriolwr gwledig blaenllaw gan gynrychioli’r diwydiant i Lywodraeth Cymru a’r DU.
Fel cyn-lywydd NFU Cymru, mae wedi ymwneud yn helaeth â nifer o feysydd polisi gan gynnwys Diwygio’r PAC a Brexit. Yn ystod ei gyfnod gydag NFU Cymru, bu Stephen yn cyflawni nifer o rolau Ewropeaidd gan gynnwys aelodaeth o COPA Praesidium (Sefydliad Ffermio Ewropeaidd), grŵp iechyd a lles anifeiliaid COPA yn ogystal ag amrywiaeth o weithgorau’r Comisiwn Ewropeaidd.
Ers 2018, mae Stephen wedi bod yn cadeirio Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru, gan weithio’n agos gyda Phrif Swyddog Milfeddygol Llywodraeth Cymru i oruchwylio gweithrediad y fframwaith, a cyn hyn roedd yn cynrychioli’r diwydiant ar fwrdd rhaglen TB Buchol Llywodraeth Cymru. Mae’n aelod o Fwrdd Rhaglen Cyswllt Ffermio ac yn ymwneud yn agos â rhaglen Arwain DGC (defnydd gwrthficrobaidd cyfrifol) Mentera.
Mae Stephen yn angerddol dros gefnogi ffermwyr y genhedlaeth nesaf ac mae’n eiriolwr brwd dros ddatblygu sgiliau a gwybodaeth waeth beth fo’ch oedran. Mae eisoes wedi rhannu cyfrifoldeb dros fusnes fferm Gelliolau gyda’i fab Daniel sydd bellach yn bartner yn y busnes. Mae hefyd yn ymwneud yn helaeth â mudiad y Ffermwyr Ifanc yn lleol ac yn genedlaethol.
Mae’n gefnogol iawn o fentrau cydweithredol ym myd amaeth, mae’n aelod o First Milk ers cryn amser ac yn Gyfarwyddwr ac yn gyn Gaderiydd Clynderwen and Cardiganshire Farmers. Yn ei gymuned leol, mae Stephen wedi bod yn Llywydd Cymdeithas Amaethyddol Sir Benfro, yn Llywydd ac yn Aelod Bwrdd gweithgar ar gyfer Cymdeithas Sioe Clunderwen, cyn-gadeirydd Cyngor Cymuned Clunderwen ac yn aelod a
chyn-gadeirydd Cymdeithas Tir Glas Arberth.
Gwobr Goffa Brynle Williams
Sefydlwyd y wobr hon yn 2011 i gofio am gyfraniad sylweddol y diweddar Mr Williams i amaethyddiaeth yng Nghymru fel AC ac fel ffermwr uchel ei barch. Mae’r wobr bellach yn cael ei chyflwyno gan weddw Mr Williams, Mrs Mary Williams, i gydnabod cyflawniadau ffermwr ifanc sydd wedi camu i mewn i fusnes ffermio drwy raglen ‘Dechrau Ffermio’ Cyswllt Ffermio.
Enillydd: Dafydd Elfyn Owen, Dolwen, ger Abergele
Cyflwynwyd Gwobr Goffa Brynle Williams 2024 i Dafydd Elfyn Owen, ffermwr ifanc ardderchog ac eiriolwr ysbrydoledig i newydd ddyfodiaid.
Cafodd Dafydd ei enwebu ar gyfer y wobr gan staff a’r ymgynghorwyr busnes, ariannol a chyfreithiol sy’n rhan o ddarparu rhaglen ‘Dechrau Ffermio’ Cyswllt Ffermio (rhaglen Mentro gynt). Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae wedi rhagori ar ddisgwyliadau yn gyson ar fferm Coed Coch ger Abergele, rhan o’r ystâd yng Ngogledd Cymru lle mae bellach yn ffermio mewn menter ar y cyd gyda’r tirfeddiannwr a’r ffermwr Harry Featherstonhaugh a’i bartner ffermio cyfran, Rhys Williams.
Magwyd Dafydd ar fferm ddefaid yn Llanddoged, gan sefydlu ei ddiadell gyntaf o 100 o famogiaid ar 12 hectar o dir rhent gerllaw. Mae’n uchelgeisiol, yn llawn ffocws ac yn wydn, ac yn benderfynol iawn i gyflawni nodau busnes yn ogystal â nodau datblygiad personol. O ganlyniad i’w angerdd dros amaethyddiaeth gynaliadwy, mae Dafydd wedi manteisio ar nifer o gyfleoedd datblygu proffesiynol drwy raglen Cyswllt Ffermio ac wedi ennill lle haeddiannol ar raglen gystadleuol yr Academi Amaeth.
Mae Dafydd, sydd bellach yn byw ar yr ystâd gyda’i wraig a’i deulu ifanc, yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i fusnes y fferm, lle mae’n helpu i reoli diadell o 2,000 o famogiaid Romney o ddydd i ddydd, ynghyd â darparu cyfeiriad strategol, wrth i Fferm Coed Coch barhau ar ei thaith tuag at ddyfodol ffermio cynaliadwy ac adfywiol.
Ffermwyr Dyfodol Cymru 2024
Sefydlwyd grŵp Ffermwyr Dyfodol Cymru ym 1988. Ei nod yw dwyn ynghyd corff anwleidyddol o ffermwyr ifanc medrus a dynamig gyda hanes o lwyddiant a phrofiad, sy’n barod i drafod a mynegi barn, pryderon a syniadau ar gyfer dyfodol ffermio a’r gymuned wledig yng Nghymru.
Erin McNaught – Fferm Pandy, Rhos-y-gwaliau, Gwynedd
Wrth gyhoeddi enw Erin McNaught fel enillydd gwobr Ffermwyr y Dyfodol 2024, dywedodd y beirniaid ei bod yn “seren at y dyfodol ac yn fodel rôl arbennig”.
Mae’n gystadleuydd medrus mewn treialon cŵn defaid ac wedi ennill nifer o dlysau, ac yn 2018, enillodd deitl Arddangoswr Ifanc yn y Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol. Yn ystod y flwyddyn ganlynol, roedd yn rhan o’r bartneriaeth a enillodd dlws ‘One Man and His Dog’ y BBC, ac arweiniodd y llwyddiannau gwych hyn at ymddangosiadau ar raglenni teledu poblogaidd gan gynnwys Blue Peter.
Flwyddyn yn ddiweddarach, a gyda chanlyniadau Lefel A ardderchog, roedd Erin yn bwriadu mynd i’r brifysgol. Daeth ffawd i’r adwy pan gafodd gynnig y cyfle annisgwyl i helpu i redeg fferm bîff a defaid ei thaid o ganlyniad i broblemau iechyd. Penderfynodd Erin oedi ei thaith academaidd, am y tro o leiaf! Ar hyn o bryd, mae’n ffermio ochr yn ochr ag astudio ar gyfer gradd mewn daearyddiaeth a gwyddor amgylcheddol.
Yn 2022, penodwyd Erin yn Llysgennad Myfyrwyr a Ffermwyr Ifanc NFU Cymru. Fis Medi'r llynedd, cafodd wahoddiad i gynrychioli’r DU mewn cyfarfod o weinidogion amaeth y G7 yn Sisili, ac yn ddiweddar derbyniodd Wobr Dai Davies Ffermwyr Dyfodol Cymru ar gyfer Effaith ar y Diwydiant er cof am ddiweddar sylfaenydd y sefydliad.
Fel ffermwr gweithredol ar fferm Pandy lle mae ei thaid wedi’i gwneud yn bartner, mae’n canolbwyntio’n gryf ar ddatblygu’r busnes. Roedd cynyddu nifer y defaid o 20 i 400 yn gam cyntaf arwyddocaol, cyn symud ymlaen i newid o’r fuches sugno i fenter lwyddiannus yn magu lloi llaeth i gynhyrchu bîff.
Mae Erin yn fentor cymeradwy ym maes trin cŵn defaid ar ran Cyswllt Ffermio, ac mae’n eiriolwr brwd dros ddatblygiad personol parhaus wedi iddi wneud defnydd o nifer o wasanaethau Cyswllt Ffermio gan gynnwys hyfforddiant busnes, ariannol a thechnegol. Does dim amheuaeth y bydd cyn-ymgeisydd yr Academi Amaeth yn cael llawer mwy o gyfleoedd, ac roedd y beirniaid yn cytuno bod Erin yn “glod i’n diwydiant”.
Gwobr Dysgwr Ifanc y Flwyddyn – 20 oed ac iau
Enillydd: Ellen Firth, Llanfair Dyffryn Clwyd, Rhuthun
Mae Ellen ar ei hapusaf yn tyfu ac yn gwerthu blodau cynaliadwy, organig a thymhorol yn Firth Flock Flowers – y busnes llwyddiannus a sefydlwyd ganddi ddwy flynedd yn ôl ar dyddyn y teulu – neu’n gofalu am ei diadell o Ddefaid Mynydd Duon Cymreig pedigri.
Ar ôl symud i Gymru gyda’i theulu yn 2019 a sefydlu’r fenter ddefaid, dechreuodd Ellen edrych ar opsiynau ar gyfer sefydlu ffrwd incwm ychwanegol. Dyna ddechrau busnes Firth Flock Flowers, fferm flodau newydd sbon lle mae Ellen yn tyfu blodau ffres a sych ar sail fasnachol. Mae’n tyfu’r planhigion o hadau, yn werthwr blodau llwyddiannus, yn cynnal gweithdai ac yn cyflenwi ar gyfer priodasau a digwyddiadau.
Roedd ffocws Ellen ar ddatblygiad personol er iddi adael yr ysgol yn fuan wedi creu argraff ar y beirniaid.
“Mae Ellen yn enillydd teilwng iawn ar gyfer y wobr hon ac mae datblygu sgiliau yn rhan o’i llwyddiant anhygoel. Mae hi wedi ennill cynllun busnes Academi Amaeth – Rhaglen yr Ifanc, wedi ymuno â grŵp garddwriaeth Agrisgôp, wedi derbyn gwasanaeth mentora Cyswllt Ffermio ac wedi ymrwymo i dyfu ei busnes.”
Gwobr Dysgwr Ifanc y Flwyddyn – 20 oed ac iau
Cydradd ail: Harvey Houston, Llanfihangel-yn-Nhowyn, Ynys Môn
Mae’r cyn-gogydd crwst, Harvey, yn fyfyriwr Lefel 3 Coedwigaeth a Choedyddiaeth yng Ngholeg Glynllifon. Mae wrth ei fodd yn gweithio yn yr awyr agored ym myd natur yn hytrach nag o fewn ceginau masnachol. Ei uchelgais hirdymor yw sefydlu ei fusnes rheoli cefn gwlad ei hun.
Mae Harvey yn frwdfrydig, yn llawn ffocws a chymhelliant, ac mae’r beirniaid yn hyderus y bydd yn cyflawni ei nodau a llawer mwy. Mae’n cyfuno astudiaethau coleg, lle mae’n llwyddo i sgorio’n uchel yn gyson mewn arholiadau a phrofion synoptig, gyda gweithio i gwmni rheoli cefn gwlad lleol. Ar ôl creu argraff ar ei gyflogwr yn ystod lleoliad profiad gwaith, cafodd wahoddiad i ddychwelyd ar sail ran amser, ac mae bellach yn rhoi’r hyn mae wedi’i ddysgu ar waith gan hefyd fagu profiad ymarferol.
Mae Harvey hefyd wedi cwblhau cyrsiau PA1 a PA2, llif gadwyn Lefel 1, defnyddio peiriant torri coed yn fân, strimio, defnyddio peiriannau torri a thocio coed a hyfforddiant Iechyd a Diogelwch, yn ogystal â chwrs Canolfan Ragoriaeth Gymdeithasol.
“Mae Harvey eisoes wedi cyflawni cymaint, gan ddangos uchelgais ac agwedd iach tuag at waith. Edrychwn ymlaen at glywed am ei lwyddiant yn y dyfodol.”
Gwobr Dysgwr Ifanc y Flwyddyn – 20 oed ac iau
Cydradd ail: Cian Rhys, Bethesda, Gwynedd
Mae Cian Rhys yn ffermwr bîff a defaid ail genhedlaeth. Mae’n cyfuno ei astudiaethau yng Ngholeg Glynllifon gyda magu cymaint o brofiad ymarferol â phosibl, gan weithio ar y fferm gartref ac mewn ffermydd cyfagos i wella ei wybodaeth am wahanol sectorau.
Bellach yn ei ail flwyddyn yn astudio Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth, mae’n derbyn graddau ardderchog yn gyson yn ei waith ymarferol a’i arholiadau ysgrifenedig. Nod Cian yn y pen draw yw bod yn arwerthwr da byw cymwys. Mae manteisio ar bob cyfle i ddatblygu’n bersonol yn rhan o’i gynllun. Mae’n aelod gweithgar o CFfI Dyffryn Ogwen ac yn gyn ‘aelod y flwyddyn’, ac mae hefyd yn rhan o Academi Amaeth – Rhaglen yr Ifanc Cyswllt Ffermio.
Roedd agwedd iach Cian tuag at waith a’i ffocws wedi creu argraff ar y beirniaid.
“Mae Cian yn defnyddio’r wybodaeth y mae wedi’i dysgu am bynciau gan gynnwys iechyd anifeiliaid a thechnoleg gwybodaeth er budd ei yrfa ei hun yn ogystal â’r fferm deuluol a’r ffermwyr eraill y mae’n gweithio gyda nhw.”
Gwobr Dysgwr Ifanc y Flwyddyn – 20 oed ac iau
Clod Uchel: Hari Jones, Llangwm, Corwen
Mae Hari yn stocmon brwd sy’n benderfynol o leihau ôl troed carbon fferm bîff, defaid a thir âr y teulu, lle mae ef a’i dad yn lapio byrnau gyda deunydd clir, yn mynd ati’n rhagweithiol i leihau gwastraff ac yn defnyddio system bori cylchdro. Mae’n ymwneud yn helaeth â’r CffI lleol, yn enwedig mewn cystadlaethau barnu stoc, ac mae ganddo ei ddiadell ei hun o 50 o ddefaid Texel Glas pedigri y mae’n eu dangos yn genedlaethol ac yn lleol, ar ôl dechrau gyda dwy famog gyfeb yn unig. Yn ystod misoedd y gaeaf, mae’n mwynhau gweithio ar ystâd leol, gan helpu gyda’r sifft nos yn ŵyna 6,000 o famogiaid. Dros fisoedd yr haf, mae’n gweithio i gontractwr lleol.
Mae Hari yn gobeithio y bydd ei astudiaethau yng Ngholeg Glynllifon ar gyfer y Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth yn arwain ymlaen i’r brifysgol a gyrfa a fydd yn cyfuno ffermio gyda rôl fel rheolwr fferm neu arwerthwr.
Rhoddodd y beirniaid glod uchel i Hari am ei agwedd uchelgeisiol a phositif ac am ddysgu gwybodaeth a sgiliau newydd y mae’n eu defnyddio bob dydd.
Gwobr Dysgwr Ifanc y Flwyddyn – 20 oed ac iau
Clod Uchel: Menna Jones, Llangadfan, Y Trallwng
Canmolodd y beirniaid Menna am ei hagwedd ardderchog a chadarnhaol tuag at waith y maent yn credu fydd yn mynd â hi ymhell yn y dyfodol. Magwyd Menna ar fferm bîff a defaid y teulu, ac mae hi wedi derbyn cyfrifoldebau lefel uchel gartref o ganlyniad i amgylchiadau teuluol, gan ddatblygu sgiliau ymarferol a rheoli busnes. Mae’n cefnogi ei brodyr gyda’u mentrau arallgyfeirio – cneifio defaid, dipio defaid a chontractio gyda pheiriannau – ac mae ganddi swydd ran amser mewn uned ddofednod dodwy. Mae hefyd yn cyfrannu i bapur newydd lleol.
Mae’n gefnogol iawn o gyrsiau hyfforddiant Cyswllt Ffermio – llwyddodd i ennill Sêl Efydd Bwrdd Marchnata Gwlân Prydain – ac mae wedi elwa o hyblygrwydd e-ddysgu. Yn ddiweddar, derbyniodd wobr ‘Dysgwr y Flwyddyn Cymraeg’ gan NPTC Y Drenewydd.
Mae hi ar hyn o bryd yn cwblhau blwyddyn olaf ei hastudiaethau Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth, ac yn bwriadu mynd ymlaen i astudio amaethyddiaeth yn y brifysgol, gyda blwyddyn yn cneifio yn Seland Newydd neu Norwy.
Gwobr Dysgwr y Flwyddyn Lantra – 21 a hŷn
Enillydd: Luned Davies, Banwen, Castell-Nedd
Fe wnaeth Luned, sy’n raddedig o goleg Harper Adams, gryn argraff ar y beirniaid gyda’i gallu entepreneuraidd a’i ffocws ar ychwanegu gwerth at y fferm deuluol, yn bennaf o ganlyniad i gael ei hysbrydoli fel aelod o Academi Amaeth Cyswllt Ffermio. Roedd y beirniaid yn teimlo bod Luned, sydd wedi dangos dewrder wrth oresgyn nifer o rwystrau iechyd, yn ‘seren at y dyfodol’ ac yn enillydd teilwng y wobr hon. Yn ddiweddar, neidiodd allan o awyren i godi arian tuag at elusen iechyd flaenllaw.
Mae Luned yn y broses o ddechrau ei busnes ei hun, gan dynnu sylw at gynnyrch Cymreig o safon drwy werthu’r toriadau llai poblogaidd o gig oen, bîff a phorc nad yw cwsmeriaid fel arfer yn eu defnyddio. Mae hi’n bwriadu hyrwyddo ffagots, selsig a briwgig a gynhyrchir yn lleol gyda seigiau megis tatws stwnsh Cymreig a all nid yn unig ddarparu ar gyfer y rhai gydag anghenion dietegol arbennig, ond sydd hefyd yn cynnig dewisiadau iachach yn hytrach na bwydydd cyflym llawn ychwanegion a braster.
Mae Luned wedi cwblhau nifer o gyrsiau Cyswllt Ffermio, a’r nesaf ar y rhestr yw astudiaeth o alergenau bwyd. “Enillydd teilwng iawn!”
Gwobr Dysgwr y Flwyddyn Lantra – 21 a hŷn
Ail: Bethan Dalton, Casnewydd, Gwent
Graddiodd Bethan gyda gradd yn y celfyddydau, ond wedi iddi gael ei hysbrydoli gan ffrindiau yn y brifysgol a oedd yn astudio cadwraeth cefn gwlad, sylweddolodd fod ei diddordebau mewn meysydd eraill. Bu’n gwirfoddoli gyda Phartneriaeth Natur Leol Castell-Nedd Port Talbot a Coed Cadw a chwblhaodd hyfforddiant modrwyo adar a thrwyddedau monitro pathewod. Ar ôl graddio, treulio cyfnod yn teithio a rhoi cynnig ar nifer o swyddi nad oedd yn ei hysbrydoli, roedd yn bryd iddi ddilyn ei breuddwydion!
Pan gynigiodd Cyngor lleol Bethan brentisiaeth iddi mewn cadwraeth amgylcheddol, manteisiodd ar y cyfle. Bellach, mae Bethan yn cael ei chyflogi fel swyddog bioamrywiaeth, gan gyflawni prosiectau grant sy’n gwella ac yn gofalu am fioamrywiaeth ar draws y sir.
Mae Bethan wrth ei bodd yn ei gwaith ac mae’n magu profiad amgylcheddol gwerthfawr drwy barhau gyda’i hastudiaethau rhan amser yng Ngholeg Pen-y-bont. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio tuag at gwblhau HNC mewn Rheolaeth Cadwraeth Amgylcheddol, a chwblhau ei chymhwyster HND yw’r cam nesaf cyn cyflawni ei nod o gwblhau ail gwrs gradd ym maes ecoleg.
Dywedodd y beirniaid fod Bethan yn ail haeddiannol, a’i bod eisoes yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i adfer a gwarchod yr amgylchedd yng Nghymru.
Gwobr Dysgwr y Flwyddyn Lantra – 21 a hŷn
Clod Uchel: Chelsea Lawrence, Talysarn, Caernarfon
Gyda’r sgiliau coetir a ddysgodd gan ei thad, daeth Chelsea, sy’n fam ifanc o hyd i’r yrfa berffaith i gyd-fynd â’i rôl fel rhiant sengl. Daeth ynghyd â rhiant arall, a dechreuodd y ddau gyfuno’r gwaith o ofalu am y plant gyda rhedeg cymuned ysgol goedwig lwyddiannus i blant rhwng 2 a 14 mlwydd oed.
Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, a gyda mwy o amser rhydd, sefydlodd Chelsea fusnes fel saer coed a chrefftwr cyffredinol, gan wneud a gwerthu dodrefn wedi’i wneud o goed lleol, gweithio ar adfer eiddo a gwaith saer. Roedd y felin goed lle’r oedd yn prynu coed yn edmygu ei gallu, felly cafodd gynnig swydd ganddynt. Yn fuan iawn, roedd gallu cadarn a chymwys Chelsea yn disgleirio yn y sector hwn sy’n aml yn cael ei ddominyddu gan ddynion!
Mae Chelsea ar hyn o bryd yn astudio Diploma Estynedig City & Guilds Technegol mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth, ac mae ganddi eisoes nifer o gymwysterau gwaith coed ymarferol. Rhoddodd y beirniaid glod uchel i Chelsea am ei huchelgais a’i ffocws ar ddatblygiad proffesiynol parhaus y mae hi’n gobeithio bydd yn arwain at brentisiaeth ym maes ecoleg.
Gwobr Arloeswr Ffermio Cyswllt Ffermio
Enillwyr: Jess a John Goodwin, Walton, Presteigne
Mae Jess a John Goodwin a’u mab yn rhedeg fferm gymysg draddodiadol ar 500 erw. Diolch i brosiect arallgyfeirio llwyddiannus, mae’r teulu’n gwerthu cig eidion Angus, cig oen a phorc sydd wedi ennill gwobrau i’r cyhoedd drwy beiriannau gwerthu hunanwasanaeth yn eu siop fferm.
Arweiniodd cyfnod clo’r pandemig at gynnydd yn y galw am focsys cig, felly cynyddodd y teulu nifer y peiriannau gwerthu i gynnwys cynnyrch ffres, wedi’i oeri ac wedi’i rewi, gan eu galluogi i gynyddu’r ystod o eitemau a oeddent yn eu gwerthu.
Mae John yn gyn-aelod o Academi Amaeth Cyswllt Ffermio, yn aelod o nifer o grwpiau Agrisgôp ac mae hefyd yn ymwneud â’r byd academaidd drwy Brifysgol Aberystwyth. Mae gan y teulu hefyd fusnes llety hunanarlwyo llwyddiannus ar y fferm ac maent wedi gosod paneli solar 20kW i wrthbwyso costau trydan cynyddol.
Dywedodd y beirniaid fod y teulu’n enillwyr teilwng y wobr hon. “Mae llwyddiant siop fferm y teulu Goodwin a’r trosiant cynyddol yn brawf o agwedd arloesol y teulu tuag at ffermio cynaliadwy a phroffidiol.”
Gwobr Arloeswr Ffermio Cyswllt Ffermio
Ail: David Evershed, Clarach, Aberystwyth
Yn ystod cyfnod poeth 2022, roedd y bio-gemegydd David, sy’n ffermwr pumed genhedlaeth ac yn ymchwilydd yn IBERS Prifysgol Aberystwyth, yn wynebu heriau gyda chyflenwadau dŵr ar y fferm deuluol 400 erw lle mae’n cadw 800 o famogiaid magu. Er mwyn ymateb i’r her, dechreuodd brosiect i wella effeithlonrwydd dŵr drwy leihau’r trydan a ddefnyddir i bwmpio dŵr o ffynhonnau i gronfeydd dŵr.
Fel rhan o raglen ‘Ein Ffermydd’ Cyswllt Ffermio, fe wnaeth David ddylunio a gweithredu system LoRaWAN sy’n monitro lefelau dŵr yn llwyddiannus ac yn canfod gollyngiadau. Mae’n cynllunio ar gyfer datblygiadau pellach i awtomeiddio’r gwaith o bwmpio dŵr gan ddefnyddio ynni solar.
Mae’r system reoli dŵr yn fwy effeithiol yn ei alluogi i drosi i system bori cylchdro, sy’n cael ei gynllunio gan David ar hyn o bryd mewn cydweithrediad ag ymgynghorwyr glaswelltir. Dywedodd y beirniaid fod David, sydd hefyd yn un o fentoriaid Cyswllt Ffermio, yn ail haeddiannol yn y categori hwn, gan ddarparu model y gall ffermydd eraill weithio tuag ato.
“Mae agwedd arloesol David tuag at effeithlonrwydd dŵr yn amlygu potensial sylweddol defnyddio technolegau blaengar ym maes amaethyddiaeth.”
Gwobr Arloeswr Ffermio Cyswllt Ffermio
Clod Uchel: Llyr Griffiths, Llangoedmor, Aberteifi
Mae Llyr yn rhedeg uned laeth effeithlon lle mae’n gwneud pob ymdrech i wireddu potensial y fferm deuluol i dyfu glaswellt i gyfrannu at darged cynnyrch uchel y fuches o wartheg Holstein pedigri.
Mae silwair india-corn yn rhan bwysig o ddogn y gaeaf, gan wneud y gorau o gynnyrch cnydau ar y tir cyfyngedig sydd ar gael, gyda chynnwys starts uchel yn hybu cynhyrchiant llaeth. Mae Llyr yn bwriadu cynyddu cynnwys protein y cnwd india-corn, gan dyfu ail gnwd cyfatebol o flodau’r haul i osgoi gadael y tir yn foel dros y gaeaf. Ar ôl y cynhaeaf cyntaf, bydd y caeau india-corn yn cael eu hau gyda chymysgedd ‘Westerwold’ a rhygwellt a fydd yn cael ei dorri a’i gludo o fis Chwefror ymlaen, ac yn cael ei gynnwys yn nogn y gwartheg.
Rhoddodd y beirniaid glod uchel i Llyr am ei barodrwydd i roi cynnig ar systemau arloesol a fydd yn lleihau ei ddibyniaeth ar brotein a brynir i mewn, yn enwedig soia wedi’i fewnforio.
“Mae Llyr yn hybu proffidioldeb ochr yn ochr â chyflawni’r safonau cynaliadwyedd y mae proseswyr llaeth a’u cwsmeriaid yn gofyn amdanynt erbyn hyn.”
Gwobr Arloeswr Ffermio Cyswllt Ffermio
Clod Uchel: Rhys Davies, Treffynnon, Sir y Fflint
Mae Rhys yn rhan o rwydwaith ‘Ein Ffermydd’ Cyswllt Ffermio, lle mae ei wybodaeth dechnegol, ei ddiwydrwydd, ei angerdd a’i barodrwydd i gyflwyno technolegau newydd wedi ei alluogi i ennill gwobr ‘clod uchel’.
Dywedodd y beirniaid fod Rhys yn ysbrydoliaeth i eraill diolch i’w gyfoeth o wybodaeth dechnegol. “Mae ei ymdrechion yn cyfrannu’n sylweddol i gynnydd y diwydiant llaeth yng Nghymru.”
Mae’n cynnal profion genomig ar ei wartheg llaeth gan ddefnyddio’r dechnoleg arloesol Genocells i ganfod gwartheg gyda chyfrif celloedd somatig uchel yn y fuches, gan ddefnyddio sampl o’r tanc llaeth. Mae Rhys hefyd wedi treialu defnyddio technoleg IVF i wneud cynnydd cyflym ym mhotensial genynnol buchesi sy’n lloia mewn bloc. Mae’r fuches yn Moor Farm bellach o fewn yr 1% uchaf yn y wlad o ran ffrwythlondeb a’r 5% uchaf ar gyfer Mynegai Lloia’r Gwanwyn.
Mae Rhys eisoes yn edrych tua’r dyfodol, gan gynllunio i ganolbwyntio ar wella siediau gwartheg, cyflwyno peiriant crafu slyri robotig a sgorio cyflwr corff gwartheg gyda chamera.
Gwobr Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio
Enillydd: Jack Deal, Llanwenog, Llanybydder
Symudodd Jack a’i deulu i Lanwenog o Essex bedair blynedd yn ôl. Fel rheolwr fferm, mae Jack yn canolbwyntio ar gynnal safonau perfformiad uchel a chyson ar gyfer gwartheg, defaid, moch a dofednod. Mae gan y teulu siop fferm sy’n cynnig cynnyrch porc, cig oen, a chig dafad o’r anifeiliaid a fagwyd eu hunain. Maent hefyd yn prynu ŵyn stôr a’u gwerthu fel stoc wedi’u pesgi mewn marchnadoedd lleol.
Mae Jack yn rheoli’r holl dda byw; ei ddiddordebau pennaf yw ŵyna a pherchylla. Mae hefyd yn monitro 16,000 o ieir ar y fferm, sy’n cynhyrchu wyau o ansawdd uchel i’w gwerthu i Waitrose. Mae’n gredwr cryf bod ‘atal yn well na gwella’, a thrwy weithio’n agos gyda’i filfeddyg, mae Jack yn blaenoriaethu iechyd a lles yr holl stoc.
Dywedodd y beirniaid fod agwedd Jack tuag at ddysgu sgiliau newydd wedi creu cryn argraff arnynt.
“Mae Jack wedi elwa o amrywiaeth o gyrsiau a gweithdai Cyswllt Ffermio sydd wedi darparu sgiliau a gwybodaeth ymarferol y mae’n eu defnyddio bob dydd.”
Gwobr Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio
Ail: Lucy Allison, Rhoshill, Ceredigion
Magwyd Lucy ar fferm bîff a defaid yng Nghernyw ond mae bellach yn ffermio ar y cyd â’i gŵr, gan odro 300 o wartheg a 190 o loi ac yn magu 90 o heffrod bob blwyddyn yng Ngheredigion.
Mae’n eiriolwr brwd dros ddatblygiad personol, ac mae ganddi ddiddordeb mawr mewn iechyd a lles anifeiliaid. Mae Lucy hefyd yn gyfrifol am fagu lloi, cynllunio brechu a chofnodi ffrwythlondeb, ynghyd â gofalu am yr holl agweddau gweinyddol a cheisiadau grant.
Mae hi’n teimlo bod gweithdai ymarferol ac yn yr ystafell ddosbarth yn fuddiol ac mae’n mwynhau cymryd rhan weithredol ynddynt! Ynghyd â milfeddyg lleol, cynhaliodd Lucy weithdy magu lloi yn ddiweddar ar y fferm, ac mae’n gefnogwr brwd o dechnegau dysgu mewn amgylchedd ymarferol sy’n rhoi’r hyder iddi i roi’r damcaniaethau ar waith.
Dywedodd y beirniaid fod Lucy yn ail haeddiannol iawn ar gyfer y wobr hon. “Mae awydd Lucy i ddysgu yn glod iddi, ac mae ei hagwedd ragweithiol yn ei gwneud hi’n ased gwerthfawr i’r busnes fferm teuluol”.
Dysgwr y Flwyddyn Cyswllt Ffermio – 40 oed ac iau
Enillydd: Emma Matthews, Y Bont-faen, Bro Morgannwg
Mae Emma yn gweithio fel prynwr da byw ar ran cwmni prosesu cig blaenllaw. Mae ei rôl yn cynnwys prynu gwartheg ac ŵyn o’r safon gywir ar gyfer y ffatri a’i gwsmeriaid. Mae’r swydd reng flaen hon yn defnyddio ystod o sgiliau cyfathrebu, yn enwedig trafod. Mae hefyd yn gweithio’n rhan amser yn godro gyda’r nos ar fferm laeth leol.
Mae gweithio’n galed, cyfathrebu’n effeithiol, gallu defnyddio TG a gweithio’n dda mewn tîm o fewn ei set o sgiliau! Mae Emma hefyd yn rhoi help llaw ar y fferm deuluol ac wedi datblygu sgiliau hwsmonaeth gwartheg a defaid, yn ogystal â defnyddio hyfforddiant Cyswllt Ffermio i wella ei sgiliau busnes.
Roedd y beirniaid yn edmygu agwedd ragweithiol Emma tuag at ddatblygiad.
“Mae Emma yn enillydd teilwng y wobr hon.
“Mae hi’n ddysgwr parod ac ymroddgar, ac yn fodel rôl ardderchog i ferched yn ein diwydiant. Mae ei hagwedd benderfynol tuag at gyflawni ei nodau eisoes yn rhoi ei gyrfa ar drywydd cadarn iawn.”
Dysgwr y Flwyddyn Cyswllt Ffermio – 40 oed ac iau
Ail: George Wozencraft, Nantmel, Rhaeadr
Magwyd George ar fferm gymysg draddodiadol y teulu, a gwblhaodd gynllun arallgyfeirio sylweddol i sefydlu menter ddofednod fasnachol rai blynyddoedd yn ôl. Wedi iddynt oroesi’r cynnydd sylweddol yng nghostau bwyd anifeiliaid o drwch blewyn, cyflwynodd George system brisiau sefydlog fel nad yw’r fenter yn cael ei heffeithio gymaint gan ansefydlogrwydd y farchnad, ac mae bellach yn gallu amcangyfrif elw yn well.
Mae George wedi cymryd cyfrifoldeb cyffredinol dros reoli’r gwartheg, y defaid a’r ieir, gan baratoi’r holl dda byw ar gyfer y farchnad ynghyd â thrafod gwahanol agweddau o’r busnes dofednod. Mae’n dechrau ei ddiwrnod drwy fonitro’r ieir, bwydo a monitro’r gwartheg a’r defaid, ac yna yn goruchwylio 16,000 o ieir a phecynnu’r wyau o ansawdd uchel sy’n cael eu gwerthu ar gyfraddau premiwm ar gontract i Waitrose.
Roedd y beirniaid yn edmygu agwedd busnes a blaengar George tuag at gynaliadwyedd a gwytnwch.
“Mae newid i ddefnyddio goleuadau LED yn y siediau dofednod wedi helpu i wella lles adar yn ogystal â lleihau costau trydan, ac mae George eisoes yn edrych ymlaen at uwchraddio’r siediau a chynyddu niferoedd dofednod.”
Dysgwr y Flwyddyn Cyswllt Ffermio – 40 mlwydd oed a hŷn
Enillydd: Mair James, Penybont, Caerfyrddin
Dychwelodd Mair i weithio ar y fferm deuluol ar ôl gadael yr ysgol heb unrhyw gymwysterau ffurfiol. Bu’n cyfuno ffermio gyda swydd ran amser mewn lladd-dy, a bu hefyd yn gweithio i’r Comisiwn Cig a Da Byw. Yn 30 mlwydd oed ac yn fam ifanc, er nad oedd ganddi unrhyw brofiad blaenorol o ddefnyddio cyfrifiadur, penderfynodd Mair astudio cwrs busnes a Thechnoleg Gwybodaeth yng Ngholeg Ceredigion Aberteifi. Bu’r cwrs yn fan cychwyn gwerthfawr ar gyfer ei gyrfa ddilynol.
Mae Mair bellach yn ffermio 200 erw, gydag 87 o wartheg a 250 o famogiaid. Mae ganddi ddiadell o Ddefaid Mynydd Duon Cymreig a Defaid Torddu, ac mae hefyd yn gweithio ar faes sioe Sir Gâr.
Gyda chymorth Cyswllt Ffermio, mae Mair wedi cwblhau nifer o gyrsiau busnes, ariannol a marchnata gan ddefnyddio’r wybodaeth a ddysgwyd ganddi bob dydd, ar y fferm deuluol ac yn ei swydd.
“Mae uchelgais ac agwedd benderfynol Mair yn ei gwneud yn enillydd teilwng iawn, gan brofi nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddechrau dysgu sgiliau newydd.”
Dysgwr y Flwyddyn Cyswllt Ffermio – 40 mlwydd oed a hŷn
Ail: Maria Watts, Aberhonddu, Powys
Magwyd Maria ar fferm bîff a defaid 280 erw’r teulu, lle mae’n helpu gyda’r gwaith gweinyddol. Mae ganddi ddiddordeb brwd mewn ceffylau ac mae’n ymroddedig i anifeiliaid yn gyffredinol! Gwnaeth argraff ar y beirniaid gyda’i hagwedd at ddysgu.
“Mae Maria yn rheolwr swyddfa profiadol sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, ac mae wedi datblygu sgiliau gwych mewn busnes, cyfrifeg a marchnata y mae’n eu defnyddio yn y cartref ac yn ei gwaith.”
Mae Maria yn gweithio fel rheolwr practis i gwmni o ymgynghorwyr gwledig sy’n darparu gwasanaethau wedi’u teilwra i’w cleientiaid, ac mae’n rheolwr cyfrifon rhan amser ar gyfer clinig ceffylau. Mae ei gwaith yn cynnwys arferion cyfrifeg, y gyflogres, trin ymholiadau a gwaith hyrwyddo a marchnata cyffredinol. Mae hi wedi cyflawni ei chymhwyster Cyfrifeg AAT Lefel 2 ac mae hi bellach yn gweithio tuag at gyflawni’r cymhwyster Lefel 3.
“Mae Maria yn eiriolwr brwd dros ddatblygiad personol, ac mae wedi defnyddio rhaglen hyfforddiant cymorthdaledig Cyswllt Ffermio i astudio cyrsiau gan gynnwys cadw llyfrau, TAW a ‘gwneud treth yn ddigidol’, datblygu a chynllunio busnes – ail haeddiannol iawn!”
Dysgwr y Flwyddyn Cyswllt Ffermio – 40 mlwydd oed a hŷn
Clod Uchel: Geraint Lewis, Llanfair ym Muallt, Powys
Mae Geraint yn syrfëwr ecolegol siartredig ac yn rheoli’r fferm deuluol sydd wedi bod dan denantiaeth ers dros 100 mlynedd. Mae wedi gwneud defnydd helaeth o gymorth a hyfforddiant Cyswllt Ffermio, gan ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd arno eu hangen i gyflwyno gwelliannau busnes sylweddol a gwaith adfer amgylcheddol ei hun. Mae’r fferm wedi’i lleoli ger Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA).
Mae Geraint hefyd yn gweithio i Lywodraeth Cymru yn hyfforddi staff ym maes rheoli cynefinoedd. Mae’n amgylcheddwr gwybodus a phrofiadol, a’i nod ar gyfer y fferm yw parhau i fagu stoc o ansawdd y gellir eu holrhain gan hefyd gydbwyso amaethyddiaeth a chynhyrchiant bwyd gydag amcanion amaeth amgylcheddol.
Rhoddodd y beirniaid glod uchel i Geraint am ei ymroddiad tuag at warchod yr amgylchedd ac am rannu ei wybodaeth gyda ffermwyr drwy’r ymweliadau fferm a gynhelir ganddo bob blwyddyn.
“Mae Geraint yn helpu i godi ymwybyddiaeth o fanteision ffermio cynaliadwy ac mae wedi cyflwyno sgyrsiau ysbrydoledig ar bynciau gan gynnwys rheoli cynefinoedd a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.”
Gwobr Garddwriaeth Cyswllt Ffermio
Enillydd: Robb Merchant MBE, White Castle Vineyard, Y Fenni
Ym 1993, prynodd y dyn busnes, Robb, a’i wraig dyddyn yn Sir Fynwy gyda’r nod o blannu gwinwydd. Yna, cwblhaodd Robb gwrs dwys ar reoli gwynwydd ynghyd â nifer o gyrsiau sgiliau gwin ledled y DU. Erbyn 2007, roedd White Castle Vineyard wedi plannu ei 5,000 o winwydd cyntaf. Ers 2016, mae ei ystod gynyddol o winoedd yn llwyddo i ennill rhai o brif wobrau’r byd yn gyson.
Dywedodd y beirniaid fod White Castle Vineyard wedi chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o broffesiynoli ac ehangu’r sector yng Nghymru.
“Mae Robb yn ffigwr blaenllaw ym maes cynhyrchu gwin o ansawdd uchel yng Nghymru a thu hwnt. Mae wedi dangos buddion hyfforddiant a datblygu sgiliau wrth greu a datblygu menter newydd ac mae wedi dangos ymroddiad sylweddol i’w ddatblygiad proffesiynol ei hun.
“Mae Robb hefyd yn hael iawn wrth greu cyfleoedd dysgu i fusnesau gwin newydd, ac mae wedi cymryd rôl arweiniol ym maes hyfforddiant a datblygu sgiliau tyfu gwinwydd yng Nghymru.”
Gwobr Garddwriaeth Cyswllt Ffermio
Ail: Geraint Evans, Bonvilston Edge, Bro Morgannwg
Ar ôl gweithio ym maes technoleg a busnes yn y gorffennol, fe wnaeth cyfnod clo’r pandemig wneud i Geraint a’i wraig Emma sylweddoli bod potensial i’w diddordeb o dyfu llysiau ddatblygu i fod yn fusnes llawn amser. Pan ddaeth cae naw erw ar gael yn yr ardal leol, penderfynodd y ddau adael eu gyrfaoedd i ddechrau tyfu ffrwythau a llysiau organig, cynaliadwy ar sail fasnachol.
Maent yn gweithio’n galed ac yn angerddol dros dyfu cynnyrch sy’n cyfrannu at iechyd heb effeithio’n ormodol ar yr amgylchedd, ac roedd y beirniaid yn edmygu’r ffaith bod agwedd iach y pâr tuag at waith a’u hawydd i ddysgu wedi’u galluogi i greu busnes llwyddiannus a chynaliadwy er nad oedd ganddynt lawer o wybodaeth am y sector yn y lle cyntaf.
“Mae Bonvilston Edge yn fusnes newydd canmoladwy, ysbrydoledig sy’n canolbwyntio ar safonau garddwriaeth uchel, ac mae’n ail haeddiannol ar gyfer y wobr hon.
“Trwy fynd ati i ymgysylltu gydag ysgolion a bwrdd iechyd lleol, mae Geraint yn helpu’r genhedlaeth nesaf i ddeall o ble y daw eu bwyd gan hefyd hybu dulliau cynhyrchu iach a phwysigrwydd diogelu’r amgylchedd.”
Agristart
Enillydd: Melanie Palmer, Rhaeadr
Gadawodd Melanie fyd addysg ffurfiol yn ystod y chweched Dosbarth ac mae hi bellach yn gofalu am ei mam-gu yn llawn amser. Mae ei chynllun gyrfa bellach yn ôl ar y trywydd iawn ac mae hi’n cynllunio ar gyfer y dyfodol wedi iddi gael mynediad i gymorth dysgu drwy raglen Agristart Lantra, sy’n darparu hyfforddiant achrededig am ddim i unigolion cymwys sy’n dymuno gweithio ym maes amaethyddiaeth, coedwigaeth neu arddwriaeth.
Breuddwyd Melanie erioed oedd tyfu cynnyrch, ac mae hi eisoes yn dysgu sgiliau a gwybodaeth newydd a fydd yn ei helpu i gyflawni’r uchelgais hon. Ei nod yw prynu darn bach o dir er mwyn gallu tyfu ffrwythau a llysiau i’w gwerthu yn y gymuned leol. Mae Melanie hefyd yn edrych ar gynhyrchu siarcol ac mae’n bwriadu dysgu mwy am goed a thocio.
Mae hi wedi cwblhau cyrsiau achrededig mewn cymorth cyntaf, cynnal a chadw llif gadwyn, trawslifio a defnyddio peiriant torri pren yn fân, gan roi sgiliau achrededig gwerthfawr i roi hwb i’w gyrfa at y dyfodol, ac mae hi bellach yn meddu ar y sgiliau a’r hyder i ddefnyddio offer yn ddiogel ac yn effeithlon.
Agristart:
Ail: Cain Abraham, Y Drenewydd
Fel nifer o bobl ifanc eraill, fe wnaeth cyfnod clo’r pandemig effeithio’n andwyol ar astudiaethau TGAU Cain yn Y Drenewydd. Penderfynodd adael yr ysgol ond mae ei angerdd am yr awyr agored wedi arwain at ymdeimlad newydd o gyfeiriad a phwrpas.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Cain wedi gweithio i gwmni gofal tir a meddyg coed, ac mae’n mwynhau gwaith yn yr awyr agored. O ganlyniad i gael mynediad i gyrsiau drwy raglen Agristart Lantra, sy’n darparu hyfforddiant achrededig i unigolion cymwys, mae bellach yn cynllunio at y dyfodol, gan obeithio y bydd hyn yn arwain at sefydlu ei fusnes ei hun ym maes coedyddiaeth.
Mae Cain wedi cwblhau cyrsiau achrededig ar ddefnyddio offer torri a thocio, peiriannau torri coed yn fân a chynnal a chadw llif gadwyn, gan roi’r sgiliau angenrheidiol iddo ddefnyddio peiriannau’n ddiogel ac yn effeithlon.