Hafod Diweddariad Prosiect - Terfynol

Prif ganlyniadau:

  • Yr hinsawdd a newidiadau amgylcheddol yn ei gwneud yn anodd i gyflwyno arferion newydd
  • Cynllunio at y dyfodol er mwyn mynd i’r afael â heriau

Cefndir:

Prif nod y prosiect hwn yw archwilio ffyrdd o leihau dibyniaeth ar brotein a brynir i mewn a ddefnyddir fel dwysfwyd ar gyfer gwartheg llaeth. Mae prynwyr llaeth yn galw’n gynyddol am laeth mwy cynaliadwy heb ddefnyddio soia a deunyddiau crai eraill sy’n cael eu mewnforio. Gan anelu at gynhyrchu silwair o ansawdd uchel, byddai cynyddu lefelau protein ymhellach yn y porthiant yn golygu bod angen ychwanegu llai o brotein er mwyn cynnal lefelau allbynnau llaeth yn y gaeaf. Y nod yw tyfu cnwd o ffa a’i gynaeafu fel cnwd cyflawn, gan ei silweirio ar yr un pryd â’r ail doriad silwair glaswellt.

Diben y gwaith:

  1. Tyfu a silweirio cnwd o ffa’r gwanwyn i gynyddu cynnwys protein porthiant y gaeaf i wartheg llaeth
  2. Bydd sefydlu ffa’r gwanwyn fel cnwd toriad mewn cylchdro ail-hadu hefyd yn cynnig buddion o ran lleihau’r baich chwyn a’r angen am chwynladdwyr cemegol.
  3. Gan fod y cnwd codlysiau hefyd yn gallu sefydlogi nitrogen at ei ddefnydd ei hun a’r cnwd dilynol, bydd hyn yn arwain at ostyngiad posibl yn y nitrogen artiffisial sy’n dod i mewn i’r system.

Yr hyn a wnaed:

  • Dyddiad plannu: 24 Mai
  • Cyfradd hadau: 250kg/ha
  • Paratoi’r tir: Disg
  • Dull hau: Dril Aer Vicon
  • Amrywiaeth hadau: Ffa Capri
  • Anelu at ei gynaeafu fel cnwd cyflawn

Ffigur 1 a 2: Plannu’r gymysgedd hadau pys a ffa gan ddefnyddio Dril Aer Vicon.

Canlyniadau:

  • O ganlyniad i hau’n hwyr, heriau’n ymwneud â’r tywydd a phroblemau gwiddon gyda’r hadau, nid yw’r cae wedi bod yn llwyddiannus iawn, gydag ychydig iawn o blanhigion wedi’u sefydlu fesul metr. Felly, nid oedd modd cyflawni’r syniad gwreiddiol o werthuso a yw rheolaeth biocemegol yn ffordd effeithiol o waredu smotiau brown mewn ffa gwanwyn.
  • Er mwyn cywiro hyn ac i beidio â cholli porthiant ar gyfer y gaeaf, penderfynodd y teulu James i blannu meillion, gan ddilyn cyngor eu hagronomegydd, Tim Parton. Mae meillion yn dal i fod yn ffynhonnell protein pwysig a hyfyw felly roedd yr heffrod yn pori’r cae’n ysgafn dros fisoedd y Gaeaf.
  • Cafodd y cae ei drin gan ddefnyddio disgiau yn y lle cyntaf i ddinistrio’r nifer fach o ffa a chwyn a oedd yn bresennol, cyn rholio ac yna hau cymysgedd Westerwold a meillion gwyn gyda dail mawr, gan barhau i gynhyrchu cnwd porthiant er gwaethaf methiant y ffa eleni.
  • Mae’r meillion wedi sefydlu’n dda, a gan ddilyn cyngor y Maethegydd, Luppo Diepenbroek, llwyddodd i gynnal 30 o heffrod 10 mis oed am bythefnos ym mis Ionawr fel rhan o system bori cylchdro cyn i’r amodau ddirywio. Cafodd y glaswellt ei ddadansoddi cyn cael ei bori fel y gwelir yn ffigur 3. Mae Liam ac Annie yn gobeithio dod â’r gwartheg yn ôl i bori yn y Gwanwyn, neu gymryd toriad cynnar fel porthiant. 
     

Ffigur 3: Canlyniadau dadansoddiad o sampl glaswellt ffres

 

Liam ac Annie James - ‘Mae ein harbrawf yn dangos yr anawsterau a geir wrth dreialu gwahanol arferion ffermio. Roeddem ni wedi gobeithio tyfu mwy o brotein ar ein fferm i leihau costau ac effaith amgylcheddol ein system ffermio. Fodd bynnag, mewn tymor tyfu gwael, nid oedd modd i ni sefydlu cnwd digonol. Mae’n bosibl y byddwn yn gallu parhau i dyfu’r cnydau hyn mewn ardaloedd mwy ymylol, ond mae angen i ni wneud penderfyniadau’n seiliedig ar gyflwr y tir a’r tymor tyfu i osgoi colledion economaidd. Rydym yn teimlo ein bod yn delio gyda systemau tywydd heriol ac effeithiau gwael y newid yn yr hinsawdd. Rydym yn teimlo ein bod ni fel ffermwyr yn rhan o’r ateb, ond mae angen i gynaliadwyedd economaidd y busnes fferm barhau i fod yn ganolog i’r drafodaeth hon.’