Integreiddio tail dofednod i ffermio glaswelltir

Mae Cymru wedi gweld cynnydd sydyn mewn ffermio dofednod dros y 15 mlynedd diwethaf, yn fwyaf nodedig mewn adar dodwy. Ym mis Awst 2022, amlygwyd bod dros 300 o siediau yn cynnwys dros 10 miliwn o adar ym Mhowys yn unig, sy’n fwy na’r cyfanswm o 9.5 miliwn o ddefaid yng Nghymru. Ar ben hynny, mae’r unedau dofednod hyn bellach i’w gweld ledled ardaloedd ffermio glaswelltir, gyda llawer ohonyn nhw yn yr ucheldiroedd. Cyn hynny, roedden nhw’n tueddu i fod yn ardaloedd tir âr gororau Cymru.  

Mae tail dofednod yn adnodd gwerthfawr sy’n cynnwys rhwng 2 a 4 gwaith yn fwy o lefelau nitrogen, ffosffad, potash a sylffwr na thail gwartheg (Tabl 1).

A black screen with blue textDescription automatically generated

Felly, mae gan y defnydd o dail dofednod fel gwrtaith organig botensial mawr i ddisodli cynhyrchion gwrtaith a brynir, ond er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau, mae'n bwysig ei fod yn cael ei wasgaru pan fydd planhigion yn tyfu, ar gyfradd wasgaru briodol, a lle bo angen maetholion. Ond gall gorddefnydd o dail dofednod fel gwrtaith arwain at golli maetholion i’r amgylchedd trwy brosesau fel erydiad, dŵr ffo, trwytholchi ac anweddoli, a thrwy hynny gyfrannu at ddirywiad yn ansawdd yr aer, y pridd a’r dŵr.

Ceir cymhlethdodau pellach wrth integreiddio tail dofednod i leoliad glaswelltir lle defnyddir y tail gan gnwd sy’n tyfu fel porthiant a gaiff ei bori neu ei dorri ar gyfer bwyd anifeiliaid. Argymhellir y dylid caniatáu i dail dofednod ddadelfennu’n llawn cyn ei bori neu ei dorri er mwyn atal pathogenau rhag cael eu trosglwyddo. Awgrymir y dylai gymryd 4-6 wythnos. Nid yw'r amserlen hon bob amser ar gael ar blatfform pori cylchdro dwys neu system silwair amldoriad, ond gall fod yn fwy priodol lle mae cae'n cael ei drin ar gyfer cnwd âr.

Bydd y prosiect hwn yn archwilio sut i integreiddio tail dofednod o uned sy’n cynnwys 32,000 o adar dodwy ar ddwy fferm laswelltir yn y ffordd orau; mae gan un fuches laeth a defaid, a’r llall wartheg bîff a defaid.   

Mae’r prosiect hwn yn cyd-fynd â chanlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Aer glân
  • Dŵr glân
  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr fferm
  • Gwneud y mwyaf o storio carbon wrth leihau ôl troed carbon y fferm gyfan
  • Defnyddio adnoddau’n effeithlon