Liz Bowes

Arberth, Sir Benfro

03 07 2019 ElizabethBowes003 0

Magwyd Liz Bowes ar fferm laeth yn Sir Benfro.  Heddiw mae’n ddarlithydd ar y tir yng Ngholeg Sir Gâr. Mae’n cyfuno’r gwaith hwn â gweithio yn y fenter laeth newydd y mae hi a’i phartner wedi ei sefydlu ger Arberth, lle mae ei phrif gyfrifoldebau yn cynnwys helpu gyda’r godro a’r lloeau yn ogystal ag ymdrin â’r materion ariannol a busnes.  

Astudiodd Liz Wyddor Anifeiliaid yn Sutton Bonnington, Prifysgol Nottingham, gan gael cymhwyster ymarfer dysgu wedyn.  Ar ôl cyfnod yn gweithio fel cyfrifydd amaethyddol dan hyfforddiant, symudodd hi a’i phartner i Ffrainc lle buont yn rhedeg menter bîff a defaid. Dywed bod y cyfuniad o weithio yn y byd academaidd, cyfrifyddiaeth a ffermio ymarferol wedi rhoi sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr iddi y mae’n eu defnyddio bob dydd.

“Rwyf wastad wedi bod â chariad at y tir ac amaethyddiaeth a’m dymuniad i rannu fy ngwybodaeth ac ysbrydoli pobl newydd i ennill eu bywoliaeth yn ffermio yw’r hyn a’m harweiniodd at fy newisiadau gyrfa. Rwy’n siŵr y bydd bod yn rhan o Raglen Arweinyddiaeth Wledig yr Academi Amaeth yn rhoi sgiliau newydd i mi a’r ysgogiad i annog hyd yn oed fwy o bobl ifanc i’r diwydiant a rhoi’r hyfforddiant a’r ysgogiad y mae arnynt eu hangen i lwyddo.

“Mae’r diwydiant amaeth yn wynebu newid na welwyd ei debyg – trwy Brecsit, trwy boblogaeth sy’n heneiddio o ffermwyr a thrwy dechnoleg newydd. Edrychaf ymlaen at fod yn rhan o agenda sy’n helpu i fanteisio ar yr holl gyfleoedd sydd o’n blaenau, i sicrhau ffordd fwy cynaliadwy o ffermio sy’n cynnig digon o fwyd i boblogaeth fyd-eang.”