Lleihau Mastitis mewn Diadelloedd Masnachol - Adroddiad terfynol
Cyflwyniad
Mae mastitis yn gyffredin ar nifer o ffermydd defaid ac mae’n arwain at gynhyrchiant llaeth isel, cyfraddau twf isel mewn ŵyn, cyfraddau difa uwch a chyfraddau marwolaeth uwch ar gyfer mamogiaid ac ŵyn. Mae Page et al (2021) yn disgrifio’r cyflwr clinigol ac is-glinigol a’r effaith ar berfformiad y ddiadell. Dangosodd astudiaeth Grant et al (2016) fod 2.1 i 3% o famogiaid mewn 10 diadell yn dioddef o fastitis difrifol, ac roedd hyn yn amrywio o 0 i 37% o famogiaid. Mae mastitis clinigol yn rheswm pwysig dros ddifa mamogiaid yn y DU. Yn astudiaeth Smith et al (2015) cafodd 37 rhywogaeth o facteria eu hynysu o 14 pwrs/cadair a Staphylococcus aureus oedd y rhywogaeth fwyaf cyffredin. Bu Vasileoiu et al (2019) hefyd yn disgrifio rôl bacteria staphylococci mewn mastitis defaid. Bu Cooper et al (2016) yn edrych ar y ffactorau risg ar gyfer mastitis trwy arolwg o 329 diadell gan ddod i’r casgliad bod cyfansoddiad y pwrs/cadair, maint y torllwyth, maeth ac amgylchedd ŵyna yn ddangosyddion allweddol.
Nid oes dealltwriaeth dda o’r ffactorau sylfaenol sy’n achosi mastitis ond mae amodau’r siediau a hylendid yn ystod ŵyna yn debygol iawn o chwarae rhan sylweddol.
Gan fod maeth cyn ŵyna yn chwarae rôl allweddol o ran sicrhau llaetha llwyddiannus a bod elfennau hybrin megis seleniwm yn chwarae rôl bwysig o ran datblygu imiwnedd, mae’n bosibl iawn fod perthynas uniongyrchol rhwng maeth a thebygolrwydd o gael haint. Yn wir, daeth Grant et al (2016) i’r casgliad fod maeth yn ffactor pwysig sy’n achosi mastitis mewn mamogiaid magu. Daethant i’r casgliad bod mamogiaid nad ydynt yn derbyn digon o brotein yn ystod beichiogrwydd oddeutu pedair gwaith yn fwy tebygol o ddioddef mastitis difrifol. Mae ŵyn llwglyd 3 wythnos oed yn gallu gwneud niwed corfforol sylweddol i’r pwrs/cadair a allai fod yn un ffactor ategol pan fo cynnyrch llaeth yn annigonol i gynnal yr ŵyn ar y cyfraddau twf gorau. Gallai darparu digon o egni a phrotein i’r famog (ac felly sicrhau ei bod mewn cyflwr corfforol da) fod yn allweddol er mwyn sicrhau llwyddiant, ac o brofiad yn y maes, mae’n ymddangos bod llawer o famogiaid yn methu â chael y diet gorau posibl cyn ŵyna. Mae mamogiaid ifanc ac yn enwedig hesbinod yn debygol o gael cyfraddau mastitis uwch - gan eu bod yn dal i dyfu ac yn bwydo un oen neu fwy. Mae’n bosibl y byddai angen datblygu strategaethau rheoli penodol ar gyfer mamogiaid ifanc.
Prif nod y prosiect oedd datblygu gwell dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n effeithio ar yr achosion o fastitis mewn diadelloedd masnachol ac i leihau’r gyfradd ddifa. Y nod cyffredinol oedd gwella cynhyrchiant y ddiadell, iechyd a lles y defaid ac i leihau allyriadau carbon fesul kg o gig oen a gynhyrchir.
Y Prosiect
Dechreuwyd y prosiect yn dilyn trafodaethau gyda Grŵp Trafod Defaid Sir Drefaldwyn gydag aelodau’n awgrymu bod mastitis yn bryder. Cofrestrodd 11 o ffermwyr i gymryd rhan ac anfonwyd gwahoddiad ehangach ar draws y grwpiau trafod, ac fe ymrwymodd saith ffermwr arall i’r prosiect. Roedd y ffermydd wedi’u gwasgaru ledled Cymru, 11 yn ardal Sir Drefaldwyn (codau post SY10, 15, 16, 20,21,22), ac eraill yn Ynys Môn (LL60, LL65), Y Fenni (NP7), Dinbych (LL16), Aberystwyth (SY23) a Threffynnon (CH8).
Gofynnwyd i aelodau’r grŵp gofio manylion yr holl achosion o fastitis yn 2023 i osod sylfaen ar gyfer gwaith monitro mwy manwl ar gyfer blwyddyn gynhyrchu 2024. Fe wnaethant hefyd ateb cwestiynau’n ymwneud â rheolaeth gyffredinol o’r ddiadell, bwydo, hylendid wrth ŵyna, a thriniaethau mastitis.
Cymerodd pob un o’r ffermwyr ran mewn galwad Zoom ym mis Ionawr 2024 i drafod y prosiect ac i roi cyfle i’r rheolwr prosiect ddarparu manylion y taflenni cofnodi a’r weithdrefn samplu. Disgrifiodd Dr Liz Nabb o APHA sut i gasglu samplau hylan gan famogiaid sydd wedi’u heintio. Rhoddwyd 15 tiwb samplu 30ml cyffredinol, 15 set o fenig tafladwy, copïau papur (ac electronig) o’r ffurflenni cofnodi ac amlenni plastig er mwyn anfon samplau at APHA, naill ai yn ystod cyfarfod grŵp neu drwy’r post.
Yn 2024 bu cyfranogwyr yn cofnodi achosion o fastitis mewn mamogiaid yn ôl brid, oedran, sgôr cyflwr corff, maint y torllwyth, cyfradd fagu, diet a dyddiad yr achos o fastitis, ynghyd â’r driniaeth a roddwyd (taflen gofnodi yn Atodiad 1). Gofynnwyd iddynt hefyd gymryd samplau llaeth o gyfran o’r pyrsau/cadeiriau wedi’u heintio ar gyfer meithrin bacteria a sensitifrwydd i wrthfiotigau. Casglwyd y samplau mewn modd mor hylan â phosibl gan ddilyn canllawiau APHA (gweler Atodiad 2), ac yna eu rhewi nes bod digon o samplau wedi cael eu casglu i gyfiawnhau eu postio i APHA. Yna, bu pob ffermwr yn trafod cyflwyno’r samplau gyda’r rheolwr prosiect er mwyn gallu creu nodyn anfon a label postio wedi’i dalu ymlaen llaw drwy Wasanaeth Profi Clefydau Anifeiliaid APHA i bostio samplau i APHA ym Mhenrith. Cynghorwyd ffermwyr i bostio samplau’n gynnar yn yr wythnos er mwyn osgoi’r samplau’n aros yn y system bost dros y penwythnos. Yn ogystal, bu ffermwyr yn cofnodi cyfanswm yr achosion o fastitis a’r mamogiaid gyda chadeiriau talpiog ar ôl diddyfnu a chyn hyrdda.
Anfonwyd canlyniadau’r profion at bob un o’r ffermwyr dros e-bost a thrafodwyd y canfyddiadau dros y ffôn.
APHA
Yn ffodus, roedd y prosiect hwn yn cyd-daro â phrosiect tebyg a ddechreuwyd gan Grŵp Arbenigwyr Anifeiliaid Cnoi Cil Bychain ar fastitis mamogiaid magu ar gyfer samplau a gasglwyd rhwng mis Rhagfyr 2023 a mis Awst 2024. Roedd y gwasanaeth hwn yn cynnig profion ar dri sampl llaeth mastitis am ddim fesul carfan ŵyna o famogiaid neu ŵyn benyw fesul fferm. Nod y prosiect hwn oedd:
- Gwella gwyliadwriaeth o’r bacteria sy’n achos mastitis mewn mamogiaid magu
- Darparu data ar ymwrthedd i driniaethau gwrthficrobaidd
- Dynodi unrhyw organebau Mycoplasma a allai chwarae rôl mewn mastitis mamogiaid magu
- Darparu gwyliadwraeth bwysig ar gyfer Agalactiae Heintus (CA)
Fe wnaeth y 70 sampl o’r prosiect CFf hwn gyfrannu’n sylweddol at gyfanswm y samplau a anfonwyd at APHA (120).
Canlyniadau
Canlyniadau 2023
Cyflwynodd pob un o’r 18 ffermwr y daenlen gychwynnol, naill ai ar ffurf electronig neu ar bapur, gan roi manylion rheoli’r ddiadell ac amcangyfrif o nifer yr achosion o fastitis.
Tabl 1 – ŵyna 2023
| Cyfartaledd | Ystod |
Mamogiaid a drowyd at yr hwrdd yn 2022 | 563 | 100-1414 |
% sganio | 155 | 115-188 |
Nifer yr achosion o fastitis | 18.7 | 1-55 |
% o’r ddiadell yr effeithwyd arnynt | 3.8 | 0.4-9.3 |
Cyfanswm achosion | 352 |
|
Ffigur 1: Pryd yr oedd achosion mastitis yn digwydd yn 2023
Roedd achosion o fastitis yn digwydd yn ystod y cyfnod ŵyna ac ym mhob wythnos yn arwain at hyrdda gyda nifer uchaf yr achosion yn digwydd rhwng 0 i 3 wythnos. Nid oedd arferion hylendid ŵyna yn gyson ar draws y ffermydd, ond roedd mwyafrif y rhai a oedd yn ŵyna dan do yn defnyddio calch ac yn gwasgaru gwellt yn rheolaidd mewn llociau grŵp, yn glanhau ac yn diheintio llociau unigol rhwng mamogiaid, yn aml yn defnyddio calch cyn rhoi’r gwellt, yn defnyddio menig AI i gynorthwyo gyda genedigaethau anodd, gwirio’r holl dethi (9/18), gwirio rhai tethi (5/18), neu ddim yn gwirio unrhyw dethi yn ystod y cyfnod ŵyna (y rhai sy’n ŵyna yn yr awyr agored). Dim ond 2/18 o’r ffermwyr oedd yn defnyddio menig i lanhau llaeth wrth wirio’r tethi.
Canlyniadau 2024
Cyflwynodd 12 o’r 18 ffermwr samplau llaeth i’w dadansoddi, a darparodd 15 ohonynt niferoedd terfynol yr achosion mastitis (clinigol ac is-glinigol) ar gyfer 2024. Casglwyd cyfanswm o 70 o samplau llaeth a chofnodwyd manylion 117 o achosion o fastitis clinigol (oddeutu 10 fesul fferm ond gydag ystod o 2 i 20). Ni chafodd yr holl fanylion eu cofnodi ar gyfer pob achos, er enghraifft, ni chafodd pob sgôr cyflwr corff ei gofnodi.
Tabl 2: Achosion mastitis yn 2024
| Cyfartaledd | Ystod |
Mamogiaid a drowyd at yr hwrdd yn 2023 (15 fferm) | 578 | 144-1414 |
Nifer yr achosion o fastitis | 34 | 1-125 |
% o’r ddiadell yr effeithwyd arnynt | 5.9 | 1.5-21.5 |
Cyfanswm achosion | 512 |
|
Ar gyfer y 15 fferm, roedd mastitis i’w weld yn waeth yn 2024 nag yn 2023, gan gynyddu o 3.6% i 5.9% o’r mamogiaid a barwyd. Cafodd un o’r ffermydd wanwyn enwedig o anodd gyda 30 o famogiaid yn ŵyna gyda pyrsau/cadeiriau llawn ond heb ollwng unrhyw laeth o gwbl.
Datgelodd data rheoli ar gyfer 2024 y canlynol:
- Roedd 86% o’r mamogiaid a gofnodwyd wedi ŵyna dan do
- Roedd 62% ar ffermydd ucheldir a 26% ar lawr gwlad, gyda 12% ar gymysgedd o lawr gwlad ac ucheldir
- Cafodd y mamogiaid eu cadw dan do am 6.6 wythnos ar gyfartaledd (0 i 10 wythnos)
- Roedd yr holl famogiaid a gadwyd dan do yn gorwedd ar wellt a defnyddiwyd gwellt ym mhob un o’r llociau bychain
- Roedd 80% o’r mamogiaid a gofnodwyd yn cael eu bwydo ar silwair a dwysfwyd (gan gynnwys dogn cymysg cyflawn) ac roedd 20% o’r mamogiaid yn cael eu bwydo ar wair a dwysfwyd cyn ŵyna (rhai mamogiaid yn pori glaswellt)
- Roedd 78% o’r mamogiaid gyda mastitis wedi geni gefeilliaid
- Bu farw 10% o’r mamogiaid gyda mastitis a goroesodd 90% ohonynt, cyn cael eu difa wedyn
- Roedd oddeutu 50% o’r ŵyn yn cael dwysfwyd
- Roedd 81% o’r pyrsau/cadeiriau yn normal, ac roedd 71% o’r tethi heb eu niweidio
- Nid oedd unrhyw arwydd o orff ar 97% o’r pyrsau/cadeiriau
ts were undamaged 97% of udders had no sign of orf
Roedd achosion o fastitis yn digwydd o ŵyna hyd at 16 wythnos ar ôl ŵyna gydag achosion is-glinigol yn cael eu canfod ar ôl diddyfnu ar ffurf lympiau yn y pwrs/cadair. Gweler ffigur 2. Digwyddodd y rhan fwyaf o achosion rhwng ŵyna a 6 wythnos ar ôl ŵyna (61%) gyda gweddill yr achosion yn cael eu nodi rhwng 7 a 16 wythnos.
Nodwyd achosion o fastitis clinigol mewn mamogiaid o bob oedran o 1 i 8 mlwydd oed, gyda’r mwyafrif o fewn yr ystod oedran 2 i 5 mlwydd oed. Gweler ffigur 3.
Cofnodwyd y tywydd pan ganfuwyd pob achos o fastitis, gyda mwyafrif yr achosion yn digwydd yn ystod tywydd oer a gwlyb. Gweler ffigur 4.
Cofnodwyd sgôr cyflwr corff 60 o famogiaid, gan amrywio o sgôr 1 i 4. Roedd sgôr cyflwr corff 35% o’r mamogiaid yn is na 3 ac roedd sgôr 65% ohonynt yn 3 neu’n uwch. Nid oedd sgôr cyflwr corff i’w weld yn effeithio ar bresenoldeb mastitis yn yr astudiaeth hon.
Cofnodwyd mastitis clinigol mewn 16 brid a chroesfrid. Roedd y bridiau a nodwyd yn fwyaf cyffredin yn cynnwys geneteg Texel (Aberfield, Abertex, Texel a chroesfridiau Texel). Gallai hyn fod yn gysylltiedig â nifer yr hyrddod Texel a ddefnyddir o fewn y diwydiant a nifer y mamogiaid Texel croes cyntaf a gadwyd fel anifeiliaid cyfnewid ar ffermydd y prosiect, ond mae cymdeithas y brid wedi buddsoddi mewn gwaith ymchwil i edrych ar fridio ar gyfer ymwrthedd i fastitis (Connington et al (2008) a McLaren et al (2018).
Ffigur 2: Achosion mastitis – nifer o wythnosau ar ôl ŵyna 2024
Ffigur 3: Achosion mastitis yn ôl oedran y famog 2024
Ffigur 4: Achosion mastitis yn ôl y tywydd 2024
Trin achosion o fastitis
Defnyddiodd ffermwyr ystod o wrthfiotigau a chyffuriau gwrthlidiol i drin achosion clinigol. Gellir gweld y mathau o wrthfiotigau yn ffigur 5.
Ffigur 5: Gwrthfiotigau a ddefnyddiwyd i drin mastitis
- Cafodd 70% o’r achosion eu trin gyda macrolide (Draxin, Tullavis, Zactran, Tuloxxin)
- Cafodd 27% o’r achosion eu trin gyda phenisilin
- Rhoddwyd cyffuriau gwrthlidiol/poen laddwyr (meloxicam neu flunixin) i 83% o’r mamogiaid
- Cafodd 70% o’r achosion eu trin gyda gwrthfiotigau unwaith a chafodd 30% eu trin o leiaf unwaith eto.
Microbioleg
Cafodd 14 bacteria eu harunigo o’r 53 sampl. Methodd y labordy â meithrin unrhyw facteria o 17 o’r samplau. Roedd rhai o’r samplau’n cynnwys cymysgedd o heintiau gyda dau fath o facteria neu fwy. Gellir gweld y gwahanol facteria yn ffigur 5.
Ffigur 6: Bacteria a gafodd eu hunigo o
Roedd y canlyniadau’n cyd-fynd â gwaith ymchwil blaenorol gyda Staphylococcus aureus a Mannheimia haemolytica yn bennaf gyfrifol am yr haint. Canfuwyd Streptococcus dysgalactiae hefyd mewn 4 sampl, ac roedd hyn yn cyd-fynd â nifer fawr o achosion o glefyd y cymalau mewn ŵyn ar gyfer 3 o’r samplau.
Bu labordy APHA hefyd yn profi’r bacteria a gafodd eu hynysu ar gyfer sensitifrwydd i wrthfiotigau. Roedd y mwyafrif yn sensitif i wrthfiotigau rheng flaen (penisilin) gyda dim ond 7% o samplau Staph aureus yn dangos ymwrthedd i tetracyclin a tylosin a 25% o’r samplau Manheimia haemolytica yn dangos ymwrthedd i tetracyclin. Roedd pob un o’r Streptococcus dysgalactiae a gafodd eu hunigo yn dangos ymwrthedd i tetracyclin.
Cyfyngiadau’r astudiaeth hon
Er bod 18 o ffermwyr wedi cofrestru i gymryd rhan yn yr astudiaeth hon yn wreiddiol, dim ond 15 ohonynt a gyflwynodd fanylion rheoli’r ddiadell a chyfanswm yr achosion ar gyfer 2023 a 2024. Roedd data 2023 yn ‘atgof’ felly mae’n bosibl nad oedd yn gywir. Cafodd ffermwyr eu hatgoffa’n rheolaidd drwy grŵp WhatsApp penodol a dros y ffôn, neu gadawyd negeseuon i’w hatgoffa i gyflwyno data a samplau. Yn y pen draw, dim ond 12 ffermwr a lwyddodd i gyflwyno samplau gyda’r gweddill yn ymddiheuro am y diffyg samplau gan nodi mai prinder amser, tywydd gwael ac anawsterau i samplu mamogiaid yn y caeau oedd yn bennaf gyfrifol. Ar gyfartaledd, roedd y 12 a lwyddodd i gasglu llaeth gan famogiaid wedi’u heintio wedi llwyddo i gyflwyno 6 sampl i’w brofi - gan amrywio o 1 i 13. Ni roddwyd manylion llawn ar bob achos, gyda sgôr cyflwr corff, oedran neu wythnosau ar ôl geni wedi’u hepgor o bosibl. Er y gofynnwyd i ffermwyr nodi’r diet a roddwyd i’r ddiadell, ni roddwyd cyfrifiadau manwl i gymharu’r hyn a gynigiwyd gyda gofynion y famog (AFRC, 1993).
Trafodaeth
Mae canlyniadau’r prosiect hwn yn cyd-fynd i raddau helaeth gydag astudiaethau eraill gan ganfod mai’r prif ffactorau sy’n achosi mastitis mewn mamogiaid sy’n cynhyrchu cig yw’r bacteria Staphylococcus aureus a Mannheimia haemolytica. Mae’r canfyddiad ychwanegol bod y bacteria yma’n sensitif iawn i wrthfiotigau rheng flaen yn galonogol, ond mae rhywfaint o ymwrthedd i’w weld mewn Staph arureus (tetractyclin a tylosin), M. Haemolytica (tetracyclin) a Streptococcus dysalactiae (tetracyclin). Mae hyn wedi llwyddo i godi ymwybyddiaeth o ymwrthedd i wrthfiotigau ymysg ffermwyr ac i bwysleisio’r angen i ddefnyddio gwrthfiotigau’n ofalus ar ffermydd defaid.
Daeth y rhai a ddarparodd ddata ar gyfer achosion clinigol a driniwyd ac achosion is-glinigol a ganfuwyd ar ffurf lympiau yn y pyrsau/cadeiriau cyn troi at yr hwrdd i’r casgliad bod 3% o’r mamogiaid a barwyd ac a oedd yn dioddef o fastitis wedi cael eu canfod yn ystod ŵyna neu laetha, ac roedd 2.7% wedi cael eu canfod ar ôl diddyfnu neu cyn hyrdda. Mae hyn yn pwysleisio effaith heintiau is-glinigol a heintiau ar ôl llaetha ar gyfraddau difa a’r angen i gadw golwg ar famogiaid yn fwy rheolaidd ar ôl diddyfnu. Roedd Watkins et al (1991) yn adrodd presenoldeb mastitis is-glinigol o 5.5% i 7%. Mae diddyfnu’n garreg filltir yn y flwyddyn ffermio defaid lle gellir ymlacio rhywfaint o ran rheolaeth a gwneud gwaith pwysig arall yn ymwneud â chasglu porthiant a chynnal a chadw cyffredinol. Efallai bod angen gwiriadau ychwanegol i ganfod y mamogiaid hyn yn gynt a’u trin yn briodol. Gallai fod yn bosibl canfod achosion is-glinigol drwy bwyso’r ŵyn yn rheolaidd gyda’r ŵyn hynny’n tyfu’n araf, o bosibl yn sugno mamogiaid heintiedig na fyddai modd eu canfod drwy archwiliad gweledol. Fodd bynnag, dim ond mewn diadelloedd sy’n cofnodi perfformiad yn fanwl y byddai modd gwneud hyn. Mae Prawf Llaeth California (CMT) yn cael ei ddefnyddio fel dangosydd o gyfrif celloedd somatig (McLaren et al, 2018) a byddai hefyd modd ei ddefnyddio i wirio pyrsau/cadeiriau ŵyn sy’n perfformio’n llai llwyddiannus i ganfod mastitis is-glinigol.
Byddai’n ddiddorol archwilio’r berthynas rhwng clefyd y cymalau a mastitis mewn defaid a achosir gan Strep dysgalactiae o bosibl i gael gwell dealltwriaeth o’r cysylltiad rhwng y ddau haint.
Canfyddiadau
Mae prif ganfyddiadau’r prosiect hwn yn cynnwys:
- Staphylococcus aureus (43% o achosion) a Mannheimia haemolytica (17% o achosion) oedd prif achosion mastitis clinigol
- Roedd Staph. aureus a M. haemolytica yn dangos rhywfaint o ymwrthedd i wrthfiotigau, ond roedd y rhan fwyaf o achosion yn sensitif i wrthfiotigau rheng flaen
- Canfuwyd Strep dysgalactiae mewn pedwar sampl yn unig o’r rhai a gyflwynwyd, a gwelwyd fod ymwrthedd i tetracyclin ym mhob un o’r achosion hynny.
- Roedd mwy o achosion o fastitis yn 2024 nag yn 2023, a chymerir mai’r prif ffactor a oedd yn dylanwadu ar hynny oedd y gwanwyn oer a gwlyb iawn a’r haf gwlyb parhaus, gydag amodau gwael dan draed bron iawn drwy gydol y flwyddyn.
- Roedd mwyafrif y mamogiaid gyda mastitis clinigol rhwng 2 a 5 mlwydd oed ac wedi’u sganio ac yn cario gefeilliaid.
- Cafodd 83% o’r achosion eu trin gyda chyffuriau gwrthlidiol yn ogystal â gwrthfiotig
- Cafodd 70% o’r achosion eu trin gyda gwrthfiotig macrolide, a chafodd 27% eu trin gyda phenisilin.
- Mae’r canlyniadau wedi amlygu’r angen i ddefnyddio gwrthfiotigau’n bwyllog ac i ddefnyddio triniaeth wrthlidiol i liniaru poen a dioddefaint.
- Nid oedd yn ymddangos fod achosion o fastitis yn gysylltiedig â chyfansoddiad y pwrs/cadair gyda siâp pyrsau/cadeiriau mwyafrif y mamogiaid i’w gweld yn arferol heb niwed i’r tethi.
- Ni fu’n bosibl llunio strategaethau rheoli i helpu i osgoi mastitis o ganlyniad i’r astudiaeth hon, ond roedd y canlyniadau’n cyd-fynd â nifer o astudiaethau eraill lle’r oedd hylendid mewn siediau ŵyna, maeth y famog, sgôr cyflwr corff a’r tywydd yn debygol o gael effaith sylweddol.
- Bu farw 10% o’r mamogiaid gyda mastitis clinigol a chafodd 90% ohonynt eu difa, gan bwysleisio costau sylweddol mastitis i’r diwydiant, o safbwynt cyfradd gyfnewid yn ogystal â chyfradd twf is mewn ŵyn.
- Ar gyfer ffermwyr sy’n ystyried brechu, mae’n bwysig canfod y bacteria sy’n achosi’r haint cyn dechrau ar raglen frechu gan fod y prif facteria yn amrywio o un fferm i’r llall.
Cyfeiriadau
Connington, J. Cao, G., Stott, A. & Bunger, L. (2008). Breeding for resistance to mastitis in United Kingdom sheep, a review and economic appraisal. Vet Record 162 (12) 369-376. https:/doi.org/10.1136/vr.162.12.369.
Cooper, S., Huntley, S.J. and Green L.E. (2016) A cross-sectional study of 329 farms in England to identify risk factors to ovine clinical mastitis. Prev. Vet Med 2016;125; 89-98. https//doi.org/10.1016/j.prevvetmed. 2016.01.012.
Grant C., Smith E.M, Green L.E. (2016). A longitudinal study of factors associated with acute and chronic mastitis and their impact on lamb growth rate in 10 suckler sheep flocks in Great Britain. Prev Vet Med. 122:27–36.
Page, P., Evans, M., Phythian, C., Vasileiou, N., and Crilly, J.P. (2021). Mastitis in meat sheep. Livestock, Volume 26, No.5.
Ridler, A.L., Rout-Brown, G., Flay, K.J.,Velathanthiri, N. & Grinberg, A. (2021): Defects and bacterial pathogens in udders of non-dairy breed ewes from New Zealand, New Zealand Journal of Agricultural Research, DOI: 10.1080/00288233.2021.1905005 To link to this article: https://doi.org/10.1080/00288233.2021.190500
McLaren, A., Kaseja, K., Yates, J., Mucha, S., Lambe, N.R. and Conington, J. (2018). Animal (2018), 12:12, pp 2470–2479. New mastitis phenotypes suitable for genomic selection in meat sheep and their genetic relationships with udder conformation and lamb live weights. Accepted 8 February 2018; First published online 26 March 2018. https://doi.org/10.1017/S1751731118000393
Smith, E.M., Willis, Z.N., M Blakeley, M., Lovattt, F. Purdy, K.J. & Green, L.E. (2015). Bacterial species and their associations with acute and chronic mastitis in suckler ewes. Journal of Dairy Science, 98 (2015), pp. 7025-7033
Vasileiou N.G.C., Chatzopoulos D.C., Sarrou S., Fragkou I.A., Katsafadou A.I., Mavrogianni V.S., Petinaki E. and Fthenakis G.C. (2019). Role of staphylococci in mastitis in sheep. Journal of Dairy Research 86, 254–266. https://doi.org/10.1017/S0022029919000591 Received: 16 December 2018 Revised: 1 July 2019 Accepted: 5 July 2019 First published online: 19 August 2019