Maethiad y Winllan
Mae cydbwysedd y maetholion yn y pridd yn effeithio ar faint o rawnwin a gynhyrchir ac ar ansawdd y gwin.
Bydd Chris Cooper o Gymdeithas Gwinllannoedd y Deyrnas Unedig yn trafod:
- Beth rydych chi’n ceisio ei gyflawni gyda’ch gwinllan?
- Mathau o bridd a’r effaith ar y gwreiddgyffion a hyfforddiant y gwinwydd
- Y maetholion sy’n cael eu defnyddio gan y gwinwydd neu’r planhigion
- Symptomau nodweddiadol diffygion
- Adnabod y broblem a’i chywiro
- Technolegau newydd
Bydd pawb sy’n dod i’r digwyddiad yn dysgu sut gall priddoedd gwahanol effeithio ar dwf gwinwydd ac felly yn dysgu mor bwysig yw’r safle a’r gwinwydd a ddewisir. Byddwch hefyd yn codi gwybodaeth ymarferol am facrofaetholion a meicrofaetholion a sut mae’r rhain yn effeithio ar dwf a datblygiad y gwinwydd, problemau sy’n gysylltiedig â maetholion cyfyngedig neu ddiffyg maetholion, ynghyd ag arweiniad ar sut mae ffactorau eraill yn effeithio ar dwf y gwinwydd a datblygiad y grawnwin.
Y Negeseuon Allweddol
- Dylai pH y pridd i winwydd fod yn yr amrediad 6-7.5. Gall grawnwin ymdopi â pH 4.5-8.5 ond fe fydd hyn yn effeithio ar faint o rawnwin a gynhyrchir ac ansawdd y gwin gan fod y pH yn dylanwadu ar y maetholion sydd ar gael i’r planhigyn. Mewn hinsawdd wlyb ceir mwy o botensial ar gyfer pridd asidig felly rhaid i’r pH gael ei fonitro’n gyson. Mae gormod o law hefyd yn golchi catïonau’r pridd i ffwrdd.
- Mae potasiwm yn chwarae rhan fawr mewn prosesau o fewn y planhigion ac mae cymhareb Ca:Mg:K a K:Mg yn bwysig o ran rheoleiddio’r cydbwysedd catïonau sy’n dylanwadu ar sut mae’r planhigyn yn amsugno macrofaetholion. Mae gallu priddoedd cleiog i gyfnewid catïonau yn tueddu i fod yn uwch na gallu priddoedd tywodlyd.
- Mae maint y Mater Organig yn y Pridd yn deillio o weithrediadau Ffisegol, Cemegol a Biolegol ac mae’n amrywio fel arfer o 4-8%. Mae’r lefelau uchaf yn gysylltiedig â strwythur pridd gwell a mwy homogenaidd. Os oes llwybrau glaswellt rhwng y gwinwydd bydd hynny’n gwella faint o Fater Organig a geir yn y pridd.
- Ni ddylai nitrogen gael ei daenu ar winllannoedd gan ei fod yn creu gormod o dwf ar y brig gan gynyddu trwch y dail ac atal yr heulwen rhag cyrraedd y grawnwin. Mae hyn yn arwain at fwy o lwydni. Bydd hefyd yn lleihau faint o faetholion sy’n cael eu trosglwyddo i’r sypiau grawnwin.
- Gall faint o faetholion a daenir gael ei gyplysu â faint y cnwd. Er enghraifft, gallwch daenu 1.3-1.6 kg N am bob tunnell o ffrwythau sy’n cael ei chynaeafu.
- Gall dail gael eu dadansoddi ar gyfer NPK a hynny ar lafn y ddeilen neu ar y petiol (y coesyn canol) pan fydd y gwinwydd yn eu blodau.
- Yn achos meicrofaetholion neu elfennau hybrin, mae canllaw ar ddadansoddi dail ar gael, a gallwch ddefnyddio bwyd cyffredinol ar y dail. Gall halwynau Epsom gael eu chwistrellu os oes diffyg Mg.
- Mae’r dail yn rhoi arwyddion clir o ddiffyg maetholion a dylech wneud dadansoddiad ar ddeilen gyferbyn â’r blagur cyntaf pan fo’r gwinwydd yn eu blodau. Bydd arwyddion gweledol o ddiffygion yn ymddangos fel hyn:
N > dail ifanc a hen yn melynu
Mg > gwythiennau gwyrdd ond y dail yn melynu rhwng y gwythiennau a hyn yn weladwy ar y dail hynaf yn gyntaf
K > ymylon y dail yn grin
Fe > dail ifanc yn anemig, a all fod yn gyffredin ar bridd calch
Mn > dail melyn, anghyffredin yn y Deyrnas Unedig
Y prif negeseuon
- Bydd cydbwyso gwerthoedd y macrofaetholion a’r meicrofaetholion yn y pridd yn hybu’r cynnyrch mwyaf posibl o ran grawnwin ac yn gwella ansawdd y gwin.
- Dylech samplu’r pridd ar gyfer macrofaetholion bob 3-5 mlynedd.
- Bydd angen taenu calch i gadw’r pH yn yr amrediad delfrydol, sef 6-7.5.
Mae dadansoddi’r dail yn ganllaw da i statws y meicrofaetholion.