Gall croesawu arloesedd helpu’r diwydiant ffermio a choedwigaeth yng Nghymru i aros gam o flaen eu cystadleuwyr a gweithredu’n broffidiol. Bydd y rhaglen Cyswllt Ffermio ar ei newydd wedd yn canolbwyntio ar arloesedd a thechnoleg newydd ar gyfer ffermwyr a choedwigwyr, gan ei gwneud hi'n haws i fod yn ymwybodol o ddatblygiadau cyfredol.

Gall y rhan fwyaf o fusnesau ffermio a choedwigaeth ei gweld hi’n anodd ac yn dasg sy’n cymryd amser maith i fod yn ymwybodol o dechnolegau newydd, a byddant yn chwilio am sicrwydd o fanteision posib cyn penderfynu buddsoddi arian ac amser. Mae Cyswllt Ffermio yn cydnabod hynny, a byddant yn ymdrechu i ddenu sylw at dechnolegau newydd sy’n agos iawn at fod â manteision masnachol yng Nghymru, gan ei gwneud hi’n haws ac yn gynt i berchnogion busnes ddod i benderfyniad.

cows in new shed tom allison
Mae technoleg ffermio arloesol yn galluogi un fferm laeth Cymreig i gynyddu perfformiad y fuches, gan gynyddu cynnyrch llaeth i gyfartaledd o 9,000 litr y fuwch i bob llaethiad.

Mae John a Mair Allison yn cadw buches 246 o wartheg Holstein Friesian ar Fferm Sychpant, ger Aberteifi, gyda’u mab, Marc, a’i ddarpar wraig, Lucy. Mae eu mab hynaf, Tom, yn beiriannydd llaeth ac yn ymgynghorydd sy’n arbenigo mewn arloesedd ar gyfer ffermydd a busnesau gwledig.

Mae Tom, sy’n gyn-aelod o Academi Amaeth Cyswllt Ffermio, wedi bod yn rhan allweddol o yrru’r defnydd o dechnoleg newydd ar Fferm Sychpant.

Mae sied ciwbicl fodern newydd yn enghraifft o hyn. Mae’n cynnwys golau anwythol, cladin polycarbonad ac awyru dan reolaeth a ddarperir gan wyntyllau lwfr mawr sy’n atal straen yn ymwneud â gwres yn ogystal â lleihau lleithder a gwella ansawdd yr aer.

Yn wreiddiol, roedd y teulu wedi bwriadu adeiladu beudy gydag awyriad naturiol, ond gan fod y fferm ar safle agored, byddai glaw wedi treiddio drwy’r ochrau’n wynebu’r de a’r gorllewin yn ystod cyfnodau gwlyb a gwyntog.

“Bum yn ystyried gosod llen neu lwfrau i amddiffyn yr ochrau hyn, ond fe ddaeth yn amlwg y byddai hynny’n effeithio ar yr awyru naturiol gan na fyddai unman i allu tynnu aer glan i mewn pe byddai’r ochrau ar gau,’’ eglurodd Tom. “Trwy amgau’r adeilad yn llwyr, roeddem yn gallu sicrhau bod yr awyru’n iawn bob dydd.”

Mae’r adeilad hefyd yn cynnig bio-ddiogelwch cynhenid, gan gynnwys atal drudwyod, gan fod drysau’n cael eu cadw ar gau ac mae’r aer yn cael ei dynnu i mewn drwy rwyll.

“Os bydd Marc yn dewis cadw’r fuches dan do yn yr haf, bydd y system yn creu llif gwynt ar gyflymder sy’n anaddas ar gyfer pryfed a gwybed gan gyfrannu at well lles a chysur,” meddai Tom.

“Roeddem ni’n barod i ystyried cysyniad awyru mecanyddol, ac yn dilyn ymweliad ag Unol Daleithiau America, fe wnaethom y penderfyniad i fynd amdani.”

Costiodd y dechnoleg yn yr adeilad newydd oddeutu £65,000 ac mae’n cynnwys 10 gwyntyll, system oleuo diwrnod hir a golau’r lleuad, system llen mewnlif aer, cladin polycarbonad ar yr ochr a system wedi’i reoli â chyfrifiadur sy’n cynnwys tymheredd, lleithder a synwyryddion pwysedd llonydd.Mae yno hefyd adnodd i gofnodi defnydd dŵr a phŵer a’r lefel tail yn y lagŵn.

Mae Tom yn hyderus y bydd y dechnoleg yn talu amdano’i hun o fewn dwy flynedd trwy allbynnau llaeth uwch, cynnydd mewn ffrwythlondeb a buches sy’n fwy iach. “Rydym wedi gweld cynnydd mewn cynnyrch ers i’r gwartheg fod yn yr adeilad newydd gan ei fod yn amgylchedd da ar eu cyfer,” meddai.

Mae technoleg hefyd yn gyrru meysydd eraill o’r busnes. Mae synwyryddion yn y parlwr yn monitro lefelau sugno, ac mae gan wartheg goleri sy’n monitro cilgnoad a gweithgaredd sy’n dynodi’r amser gorau i’w troi at y tarw.

Mae bolysau yn monitro tymheredd y fuwch, gan hysbysu fel arfer 60 awr cyn i fuwch ddechrau dangos symptomau clinigol o salwch. “Trwy ymyrryd cyn i fuwch ddangos arwyddion ffisegol  o salwch, gallwn gymryd camau fydd yn lleihau’r angen ar gyfer triniaeth antibiotig ac felly dal llaeth yn ôl, ac atal mastitis a fyddai’n gallu effeithio cynhyrchiant drwy gydol oes y fuwch” eglurodd Tom.

Mae hyd yn oed y deunyddiau a ddefnyddir ar y fferm yn cael eu dewis yn seiliedig ar werth eu perfformiad. Mae’r cafnau dŵr yn y sied newydd wedi’u gwneud o ddur gwrthstaen yn hytrach na’r dur galfanedig arferol. “Pe byddem yn bwyta iogwrt gyda llwy o fetel galfanedig, ni fyddai’n blasu’n dda, ac rwy’n credu ei fod yr un fath ar gyfer buwch sy’n yfed o gafn dŵr galfanedig ar fferm lle mae’r ansawdd dŵr yn fwy tebygol o fod yn asidig,” meddai Tom. “Mae dur gwrthstaen yn sicrhau fod y dŵr yn fwy derbyniol o ran blas ac yn sicrhau fod y gwartheg yn yfed mwy.’’

Er bod Sychpant yn cynrychioli fferm laeth deuluol yng Nghymru, mae’r lefel o dechnoleg a ddefnyddir ymhell o fod yn nodweddiadol.

Dywedodd Dewi Hughes, Menter a Busnes, sy’n darparu rhaglen Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru, fod nifer o dechnolegau newydd ar gael i ffermwyr a choedwigwyr, ond mai’r nod yw dynodi’r rhai sy’n cynorthwyo busnesau i ddod yn fwy effeithlon, i wella safonau ansawdd ac i dargedu mewnbynnau’n well.

 

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r erthygl yma 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr