Nid yw pob fferm yn gwerthfawrogi'n llawn yr effaith all adeiladau fferm eu cael ar iechyd anifeiliaid a sut i sicrhau gwell perfformiad anifail o'r siediau presennol.

Mae tri ffactor ar wahân yn cyfrannu at ddiffyg cydbwysedd o fewn adeiladau da byw.

  • Lleithder
  • Aer ffres
  • Cyflymder yr aer

Mae mwy o leithder a diffyg awyru’n galluogi cynnydd mewn bacteria a firysau a all achosi afiechydon resbiradol ac afiechydon eraill megis mastitis ac E.coli. Mae lleithder yn cael ei greu gan dda byw a glaw, felly mae draenio o fewn, rhwng a thu allan i’r corlannau yn hanfodol. Mae rheolaeth dda o dail a gwellt yn ogystal â chafnau a phibellau dŵr digonol yn allweddol er mwyn helpu i reoli lleithder.

Byddai to 400m2 gyda glawiad cyfartalog o 200cm yn cyfateb i 800 metr ciwbig (800 tunnell) o ddŵr glan, felly mae cynnal cafnau a phibellau dŵr yn hanfodol i reoli  tamprwydd o fewn adeiladau.

Mae mewnlif ac all-lif effeithiol yn sicrhau bod digon o aer ffres yn dod i mewn i adeiladau. Mae llif aer ffres o 100% yn lleihau bacteria yn yr aer 10-20 gwaith ynghynt na 50% aer ffres. Gall diffyg aer ffres hefyd gynyddu tymheredd yr aer.

Mae cyflymder aer yn ffactor arall o fewn adeiladau da byw a all effeithio ar gydbwysedd; mae gormod yn gysylltiedig â cholli egni, a dim digon yn gysylltiedig â diffyg aer ffres, gan adael i leithder a firysau gronni. Gallai mwy o ddefnydd o gladin waliau tyllog i leihau drafft ar uchder yr anifail gynyddu perfformiad anifeiliaid gan y byddai colledion egni'n cael eu rheoli - yn bwysicach byth gyda lloi ifanc.

Meddai Jamie Robertson, arbenigwr da byw, “mae potensial eithriadol ar ein ffermydd i wella iechyd a pherfformiad trwy addasu adeiladau presennol i roi gwell rheolaeth o leithder, darparu mwy o lif aer ffres drwy adeilad a rheoli cyflymder yr aer. Mae arweiniad da ar gael i alluogi cynhyrchwyr i werthuso pa newidiadau a ellir eu gwneud. Mae llawer o’r gwelliannau yn dasgau ymarferol, syml, er y dylai pob gwaith ar y to gael ei gwblhau gan bobl cymwys”.

Wrth adeiladu cyfleuster da byw newydd, mae angen i chi ystyried y canlynol:

  • Mae llif aer uchel yn gostus felly dylai pob giât a wal fod yn solet hyd at neu uwchben daldra’r anifail.
  • Mae waliau solet uchder llawn yn lleihau faint o aer sydd ar gael, ac yn cynyddu lleithder o fewn adeilad. Mae byrddau Efrog yn effeithiol i warchod rhag y tywydd ond yn dal i sicrhau digon o lif aer.

Llif aer trwy fyrddau Efrog

llif aer 1
  • Mae angen allfeydd yn y to. Rheol gyffredinol yw twll 0.1mi bob anifail cynhyrchiol.

Gellir gweld mwy o fanylion ynglŷn â dylunio adeiladau ar ein daflen wybodaeth Adeiladau ac Iechyd Anifeiliaid

 

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r erthygl yma


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr