Gan Dr Ruth Wonfor, IBERS


Mae defaid yn atgenhedlu'n dymhorol mewn rhanbarthau tymherus, sy’n golygu eu bod yn profi cyfnodau penodol o weithgaredd neu ddiffyg gweithgaredd rhywiol yn flynyddol. Yn benodol, mae defaid yn cenhedlu ar gyfnodau o’r flwyddyn pan fo’r dydd yn fyrrach a’r nos yn hirach. Felly, mae mamogiaid fel arfer yn profi cyfnod o weithgaredd rhywiol (yn dangos Oestrws  17 diwrnod) rhwng canol yr Hydref hyd ddechrau’r Gaeaf, ac yn anweithredol (Anoestrws) o ddiwedd y gaeaf hyd yr hydref. Mae’r natur dymhorol yn sicrhau bod yr ŵyn yn cael eu geni ar yr adeg iawn, sef yn y gwanwyn, pan fo ansawdd y borfa yn cynyddu i gefnogi cynhyrchiant llaeth. Fodd bynnag, mae’r natur dymhorol yn cyflwyno rhai problemau mewn arferion ffermio modern wrth anelu at gyrraedd y farchnad ar yr adeg iawn i sicrhau’r prisiau gorau am yr ŵyn, gan reoli costau cynhyrchu ar yr un pryd. Felly, mae’n hanfodol i ddeall cefndir biolegol cenhedlu tymhorol a sut i’w lywio er budd rheolaeth y fferm.

Bridio tymhorol - sut mae’n cael ei reoli?

Mae hormon melatonin yn cael ei gynhyrchu gan y chwarren bineal yn yr ymennydd yn ystod y nos. Melatonin yw’r prif ffactor sy’n arwain bridio tymhorol mewn nifer o anifeiliaid, gan gynhyrchu rhythm blynyddol. Yn dilyn triniaeth lawfeddygol i waredu’r chwarren bineal, mae rhyddhad melatonin yn lleihau’n sylweddol ac mae mamogiaid yn mynd yn anymatebol i hyd y dydd. Fodd bynnag, ceir awgrym bod ffactorau allanol hefyd yn cynorthwyo’r natur dymhorol, megis newidiadau mewn tymheredd a maeth.

Mae’r cynnydd mewn rhyddhad melatonin yn ysgogi’r gromlin hypothalamo-pitẅidol-gonadaidd. Mae’r hormon sy’n rhyddhau Gonadotropin (GnRH) yn cael ei ryddhau gan yr hypothalmws mewn ymateb i grynhoad uwch o felatonin. Mae’r GnRH wedyn yn dechrau chwarenlif o hormon sy’n symbylu datblygiad ffoligl (FSH, sy’n gyfrifol am ddatblygiad y ffoligl a chynhyrchiant oestrogen) a hormon lwteineiddiol (LH, sy’n gyfrifol am ofyliad) o’r chwarren  bitẅidol. Mae’r hormonau hyn yn gweithio ar yr ofari, gan sbarduno twf y ffoligl, cynhyrchiant oestrogen ac ofyliad, ac felly’n cychwyn y gylchred atgenhedlu. 

Tuag at ddiwedd y gaeaf, mae mamogiaid yn gallu gwrthsefyll y dyddiau byrrach a’r rhyddhad melatonin mwy hirfaith, ac felly maent yn dod yn Anoestrws. Trwy gydol yr haf, nid oes digon o felatonin yn cael ei ryddhau er mwyn ail gychwyn ar y gylchred oestrws, felly nid yw’r mamogiaid yn dychwelyd i’r gylchred naturiol nes yr hydref pan fo dyddiau’n byrhau a phan fo cynnydd yn y melatonin sy’n cael ei ryddhau.

Llywio’r tymor magu

Gellir ymestyn y tymor magu naturiol, e.e.  annog mamogiaid i fagu ynghynt (yn ystod yr haf) neu annog mamogiaid i fagu am gyfnod hirach (diwedd y gaeaf), trwy sawl dull sy’n dod o dan ddau gysyniad: llywio hormonol neu lywio naturiol.

Llywio hormonol:

Gellir defnyddio gwybodaeth ynglŷn â’r hormonau sy’n ymwneud â rheolaeth naturiol o’r gylchred oestrws er mwyn gallu llywio hyd y tymor magu. Mae ymchwil wedi cael ei wneud ar ddefnyddio sawl methodoleg hormonol gwahanol, gyda chymysgedd gonadotropin (cymysgedd o weithgaredd tebyg i LH a FSH; mewn cyfuniad â thriniaeth progesteron) a melatonin yn symbylwyr llwyddiannus. Os bydd yn cael ei ddefnyddio yn ystod cyfnod anoestrws, bydd brechiadau o driniaeth gonadotropin yn enwedig wedi 5-9 diwrnod o driniaeth progesteron, yn dod â’r tymor magu yn ei flaen ac yn cynyddu’r gyfradd ŵyna o’i gymharu â mamogiaid heb eu trin sy’n dal i fod yn anoestrws. Mae triniaethau mewnblannu melatonin a ddefnyddir yn hwyr tu alan i’r cyfnod bridio ar ddiwedd y tymor heb fagu a diwedd y tymor bridio/cyfnod anoestrws cynnar, yn cynyddu nifer y mamogiaid sy’n ŵyna o’i gymharu â mamogiaid sydd heb gael ymyrraeth i lywio’r cyfnod oestrws. Er, mae effeithiau mewnblaniad melatonin yn cael eu defnyddio orau er mwyn dod â’r cyfnod bridio yn ei flaen.

Llywio naturiol:

Mae tri dull o lywio naturiol wedi cael eu hadnabod, sef golau, effaith yr hwrdd, a maeth, gydag effaith yr hwrdd wedi derbyn ymchwil a chydnabyddiaeth ehangach.

Yr ymateb mwyaf amlwg i altro’r tymor magu yw defnyddio golau artiffisial.  Wrth i famogiaid ddatblygu ymwrthedd i chwarenlif melatonin tua diwedd y gaeaf, mae angen ‘ail-osod’ eu rhythm tymhorol o dro i dro, gan ddefnyddio cyfnod o ddyddiau hir artiffisial cyn byrhau hyd y dyddiau un ai’n artiffisial neu’n naturiol. Mae’r driniaeth hon (ynghyd â chyflwyno’r hyrddod) yn cychwyn yr ymateb oestrws yn ystod y cyfnod anoestrws cynnar. Dylid hefyd ystyried pryd i roi triniaeth golau. Mae ymchwil yn dangos y dylid ymestyn y dydd yn artiffisial o gwmpas y cyfnos a’r gwawrio naturiol er mwyn sicrhau’r canlyniadau mwyaf addawol. Fodd bynnag, mae’r triniaethau yma’n ddrud o ran costau llafur a’r angen i gadw anifeiliaid mewn adeiladau nad ydynt yn gadael goleuni i mewn.

Mae effaith yr hwrdd yn dechneg fwy ymarferol i’w ddefnyddio a’r dechneg â’r ddealltwriaeth ehangaf. Fodd bynnag, mewn defaid tymhorol iawn, bydd y dull hwn yn ymestyn y tymor bridio oddeutu mis bob ochr i’r cyfnod naturiol yn unig. Er mwyn i effaith yr hwrdd fod yn effeithiol, mae’n rhaid arwahanu’r mamogiaid oddi wrth yr hyrddod am gyfnod cyn eu hail gyflwyno. Mae hyd y cyfnod arwahanu’n amrywio o frîd i frîd, o bythefnos hyd at fis. Mae cyflwyno hwrdd gweithredol i famogiaid anoestrws un ai fis cyn dechrau’r tymor neu fis cyn diwedd y tymor yn cychwyn chwarenlif gyflym o FSH a LH trwy don o chwarenlif GnRH. Mae’r ymateb hwn yn arwain at ddatblygu ac aeddfedu ffoliglau, ac yn cychwyn ar y broses ofylu. Gwelir yr ofyliad cyntaf fel arfer 50-65 awr yn dilyn cyflwyno’r hwrdd, ond ceir hefyd oestrws tawel (diffyg ymddygiad derbyn yr hwrdd). Yn nodweddiadol, gwelir ymddygiad oestrws a chenhedlu llwyddiannus rhwng 18 a 24 diwrnod yn dilyn cyflwyno’r hwrdd am y tro cyntaf, gan ddibynnu ar ymateb y famog i effaith yr hwrdd. Mae’n rhaid i’r hyrddod aros gyda’r mamogiaid nes i’r ddiadell gyfan ofylu ac ar ôl yr ofyliad cyntaf er mwyn cadw’r gylchred i fynd.

Felly beth ynglŷn â’r hwrdd sy’n symbylu mamogiaid i ofylu? Mae ymchwil sylweddol wedi’i wneud ynglŷn ag elfen niwronaidd effaith yr hwrdd ac mae wedi dangos bod angen symbyliad arogleuol yn ogystal ag eraill. Mae symbyliad arogleuol yn ymwneud ag arogl (fferomonau hyrddod), gyda gwlân a chwyr o’r ardal o gwmpas llygaid a’r fflanc yn gallu symbylu ofyliad. Mae ffactorau eraill, megis ymddygiad yr hwrdd hefyd yn bwysig. Mae hyrddod sydd wedi cael eu ysbaddu sy’n dal i ddangos ymddygiad rhywiol (yn dilyn triniaeth testosteron) yn well am gychwyn ar y broses ofylu na’r rhai sy’n gymharol anweithredol. Fodd bynnag, cyswllt uniongyrchol rhwng y mamogiaid a’r hyrddod sy’n rhoi’r canlyniadau gorau, lle mae’r ddau symbyliad yn cael eu defnyddio. Yn ogystal, mae profiad y famog yn chwarae rhan bwysig. Mae mamogiaid ifanc yn dangos llai o ymateb i effaith yr hwrdd na mamogiaid hŷn sy’n fwy profiadol, ffactor sy’n ymwneud â dysgu arogleuol mewn perthynas ag ymatebion o fewn yr ymennydd.

Mae maethiad yn cael ei gydnabod fel ffactor sy’n rhyngweithio â natur dymhorol a chylchred atgenhedlu mewn defaid, a hynny’n debygol o fod trwy’r llwybr hypothalamic canolog. Gall cynnydd tymor byr mewn maetholion gynyddu datblygiad ffoliglau a dod ag ofyliad yn ei flaen.  Fodd bynnag, gall diffyg maeth digonol effeithio’n negyddol ar ffactorau megis effaith yr hwrdd, gan fod mamogiaid sydd â sgôr cyflwr corff isel yn dangos llai o ymateb hormonol i effaith yr hwrdd. Felly, er mwyn sicrhau effeithlonrwydd atgynhyrchiol, dylid rheoli maeth yr anifail yn ofalus.

Mae gwaith rhwng Cyswllt Ffermio a’r Safle Arloesedd, Innovis yn ymchwilio defnydd a manteision ŵyna’n hwyrach. Bydd diweddariadau ynglŷn â’r prosiect hwn ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio’n fuan. 

 

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r erthygl yma


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr