Gan Sara Pedersen MRCVS, Farm Dynamics Ltd, y Bontfaen, Morgannwg


Mae cloffni yn gyflwr poenus i’r anifail ac yn un drud i’r cynhyrchwr. Er bod tipyn o ffocws wedi bod ar gloffni mewn gwartheg llaeth, nid yw gwartheg bîff wedi derbyn cymaint o sylw mewn cymhariaeth. Fodd bynnag, mae’n gallu effeithio’n helaeth ar y fuches bîff hefyd. Mae cloffni yn bryder difrifol o ran lles oherwydd y boen sy’n gysylltiedig â’r cyflwr, ond hefyd, mae cynnydd pwysau byw yn llai mewn gwartheg cloff, maent yn cymryd mwy amser i besgi, ac mae’n ychwanegu at gostau cynhyrchu oherwydd bod angen mwy o lafur, dwysfwyd a chiwbiclau.

 

Faint o broblem yw cloffni?

Oherwydd diffyg monitro a chofnodion, mae’n anodd iawn i roi nifer penodol ar gyfer cyfran y gwartheg bîff cloff, a’r effaith gwririoneddol y mae’n ei gael. Ar wahân i’r goblygiadau ariannol, gan fod cloffni’n gyflwr gweledol iawn, mae’n bosib iddo beryglu enw da’r diwydiant a hyder y cwsmer mewn cig eidion.

Mae astudiaeth lladd-dy diweddar a gynhaliwyd gan Brifysgol Lerpwl wedi darparu tystiolaeth ynglŷn â’r namau mwyaf cyffredin sy’n achosi cloffni, a pha mor gyffredin yr ydynt. Aseswyd iechyd traed dros 74 coes anifail bîff a laddwyd oddeutu 30 mis oed. Darganfyddwyd bod namau ar 1 o bob 5 buwch a oedd yn ddigon difrifol i achosi i’r anifail fod yn gloff wrth gael ei ladd.  

Roedd tystiolaeth o gleisio ar y rhan fwyaf o’r traed, yn amrywio o fod yn ysgafn hyd at fod yn ddifrifol, ac roedd 18% o’r traed yn dangos tystiolaeth o glefyd y llinell wen. Y nam mwyaf cyffredin a welwyd oedd erydiad y sawdl (slurry heel), a ganfyddwyd ar fwy na 75% o’r traed, ac yn ddifrifol ar 25% o’r traed a oedd wedi’u heffeithio.

Er mai bychan oedd yr astudiaeth hon, mae’n cynnig trosolwg o broblemau cloffni posib sy’n effeithio gwartheg bîff. Mae’r canlyniadau’n awgrymu bod abnormaledd traed yn gyffredin iawn ymysg gwartheg wedi’u pesgi, sydd â goblygiadau lles, ac yn effeithio’n ddi os ar gynhyrchiant a phroffidioldeb y fuches hyd at leihad mewn cyfradd twf.

 

Pam bod cloffni’n digwydd?

Mae nifer o ffactorau posib a all achosi cloffni mewn gwartheg bîff, ond mae’r achosion mwyaf cyffredin yn ymwneud â heintiau e.e. troed aflan (foul) neu ddermatitis digidol, neu anafiadau. Fel y dangosodd astudiaethau Prifysgol Lerpwl, briwiau heintus ar ffurf erydiad y sawdl a throed aflan oedd fwyaf cyffredin.

Gellir rhannu’r ffactorau risg ar gyfer cloffni yn dri chategori:

 

  1. Amgylchedd
  2. Cyfforddusrwydd y fuwch
  3. Maeth

 

Fel a welir yn y diagram isod, mae rhesymau penodol dros gloffni’n dueddol o fod o ganlyniad i ffactorau risg o fewn un neu fwy o’r categoriau yma. Mae’n rhan bwysig o gynllun iechyd y fuches i adnabod pa un o’r meysydd hyn sydd fwyaf arwyddocaol wrth ystyried cloffni ar y fferm, fel y gellir ymdrin â hwy gan ddefnyddio cynllun gweithredu cadarn a ddylai fod wedi cael ei greu yn dilyn ymgynghoriad gyda milfeddyg y fferm. Bydd monitro ac adolygu’r cynllun gweithredu yn achlysurol yn helpu sicrhau bod targedau’n cael eu cyrraedd a bod cynnydd yn digwydd.

cloffni tech article 1

1. Amgylchedd 

Mae’r amgylchedd lle mae’r gwartheg yn cael eu cadw yn bwysig o ran lleihau’r risg o ddermatitis digidol, troed aflan (foul) ac anafiadau cyhyrysgerbydol. Mae’n rhaid i’r amgylchedd fod yn sych ac yn lân, ac mae’n rhaid peidio â gadael i slyri gasglu mewn pwll gan fod slyri yn cynnwys bacteria sy’n gallu achosi cloffni, ac mae hefyd yn  achosi anesmwythdra i’r croen, gan gynyddu’r risg o heintiau bacterol.

Mae’n rhaid i’r llawr gynnig gafael er mwyn lleihau’r perygl i’r fuwch lithro ac anafu, ond ni ddylai fod yn rhy anesmwyth gan fod hynny’n gallu arwain at ormod o wisgo a chynyddu’r risg o gleisio’r carnau. Gellir hefyd achosi niwed i’r carnau trwy dyllau neu holltau yn y llawr, felly mae’n rhaid sicrhau ei fod yn cael ei gynnal a’i gadw.

Dwysedd stocio yw’r ffactor pwsysicaf wrth ystyried glendid y gwartheg ar lawr slatiau. Mae faint o le sydd ar gael yn seiliedig ar bwysau yn hytrach na brîd neu ryw. Gweler ganllawiau SRUC ar gyfer gwartheg ar lawr slatiau a gwellt yn y tabl isod.

 

cloffni tech article 2

 

2. Cyfforddusrwydd y fuwch  

Mae diffyg cyfforddusrwydd yn ffactor risg ar gyfer anaf cyhyrsgerbydol, casgliadau ar flaen y droed a chymalau septig. Mae’n rhaid i’r holl gyfleusterau trin, cludo a’r siediau fod wedi’u llunio’n iawn er mwyn lleihau’r risg o anaf a bwlio. Mae’n rhaid peidio â stocio’r siediau yn rhy ddwys, ac mae’n rhaid cael digon o le i’r anifeiliaid o fewn y grŵp i fwydo ar yr un pryd, gan fod gwthio a throeadau tynn yn cynyddu pwysedd ar y traed. Mae gosod rwber ar lawr slatiau mewn mannau lle mae llawer o gerdded yn gwella cyfforddusrwydd y fuwch ac yn lleihau’r risg o gloffni a chwydd yn y cymalau.  

Er mwyn osgoi gormod o bwysedd ar y traed oherwydd gwthio ac ati, mae’n rhaid sicrhau bod digon o le ar gael i bob anifail yn y grwp allu bwydo.

tech article lameness 2
 

3. Maeth

Mae maeth yn cael effaith ar bob un o’r achosion cyffredin o gloffni mewn gwartheg. Fodd bynnag, mae rhai o’r effeithiau yn fwy anuniongyrchol nag uniongyrchol. Gyda gwartheg pesgi, y prif risg yw asidosis gan ei fod yn cael sawl effaith ar iechyd y carnau. Yn y lle cyntaf, mae asidosis yn arwain at gynhyrchu carnau fwy meddal sy’n fwy agored i niwed megis cleisio. Yn ogystal, mae’r ysgarthion a gynhyrchir yn niweidiol i groen y traed, gan gynyddu’r risg o achosion heintus o gloffni megis dermatitis digidol a throed aflan (foul).  

Er mwyn lleihau’r perygl o asidosis, mae’n rhaid i’r diet fod yn gytbwys ac yn gyson, gan fod unrhyw newidiadau sydyn mewn diet yn gallu niweidio cydbwysedd y microbau yn y rwmen. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth gyflwyno’r gwartheg i ddiet uchel o ran egni – mae’n rhaid gwneud hynny’n araf er mwyn galluogi’r anifail i addasu, neu bydd asidosis yn digwydd. Pan nad yw hynny’n bosib, mae’n hanfodol bod byffer asid cryf yn y diet er mwyn gwrthweithio’r risg.

Mae cyfanrwydd y croen yn bwysig o ran lleihau risg dermatitis digidol a throed aflan, ac felly mae’n bwysig sicrhau bod y diet yn gytbwys ac yn darparu elfennau hybrin ar y lefelau gofynnol ar gyfer y cyflwr gorau posib i’r croen a’r carn. Mae Calsiwm a ffosfforws hefyd yn gydrannau allweddol o’r sgerbwd ac mae sicrhau lefelau digonol yn y diet ar y gyfradd gywir yn hanfodol, yn enwedig mewn anifeiliaid sy’n tyfu’n sydyn. 

 

Crynodeb

Mae pwysigrwydd iechyd y carnau mewn gwartheg bîff yn dod yn fwy a mwy amlwg, ac mae canlyniadau astudiaeth diweddar yn dangos ei fod yn broblem gyffredin gydag 1 o bob 5 yn debygol o fod yn gloff wrth gael eu lladd. Mae hyn yn achosi goblygiadau lles amlwg, yn ogystal ag effaith cysylltiedig ar gyfraddau twf, a chynhyrchiant. Mae deall y rhesymau dros gloffni ynghyd â’r ffactorau risg unigol yn rhan allweddol o anelu at leihad mewn cloffni. 

 

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r erthygl yma 

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr