Mae diffinio Cynaliadwyedd yn fwy na chwestiwn rhethregol. Mae’n cynrychioli perthynas ysbrydol bron rhwng pobl, anifeiliaid a’r tir, sy’n unigryw i bob ardal, yn ddibynnol ar yr hinsawdd, y ffactorau daearyddol a’r diwylliant. Lle’r oedd traddodiad a chrefydd yn gosod ffiniau ar gyfer y perthnasau hyn yn y gorffennol, mae sefydliadau byd-eang bellach yn ceisio mynd i’r afael â graddfa’r materion hyn.

Miles Middleton: Ysgolhaig Nuffield 2022.

Ymddangosodd ôl troed carbon fel dangosydd o gynaliadwyedd amgylcheddol yn ystod y nawdegau, ac mae wedi cael ei gydnabod yn eang gan y cyhoedd, ac mewn nifer o achosion, wedi’i fabwysiadu gan y cyfryngau, endidau masnachol a’r llywodraeth, fel y prif fesur ar gyfer cynaliadwyedd amgylcheddol (Laurent & Owsianiak, 2017).

Yn y bôn, mae ôl troed carbon yn cynrychioli mesur o effeithlonrwydd, gan ddisgrifio’r ‘mewnbwn carbon’ sy’n angenrheidiol i gynhyrchu uned safonol o allbwn.

Mae cymhlethdod biolegol systemau cynhyrchu anifeiliaid cnoi cil sy’n cynnwys nifer o allbynnau yn ogystal â mewnbynnau cydgynnyrch, yn creu cyfle ar gyfer gwahanol ddewisiadau a methodoleg rhwng awduron wrth gyfrifo ôl troed carbon, gan arwain at ffigurau tra gwahanol er bod y ffynhonnell yn gymharol debyg. (Dalgaard et al., 2014)

Mewn perthynas â’r sector llaeth, y prif ffactor uwchlaw popeth arall sy’n arwain ôl troed carbon llaeth yw methan enterig, sy’n aml yn gyfrifol am fwy na hanner yr ôl troed carbon (Mc Geough et al., 2012)[Ffig 1]. Caiff hwn ei gyfrifo gan amlaf gan ddefnyddio methodoleg Haen 2 a amlinellir gan yr IPCC (2006) ac mae’n cyfrifo’r ffigwr ar sail cynnyrch uniongyrchol o’r egni gros a ddefnyddir. Felly, gellir gweld yn glir pam fod effeithlonrwydd porthiant yn un o’r ffactorau pennaf sy’n pennu ôl troed carbon llaeth. Nid yw’n syndod felly bod cydberthynas cryf rhwng ôl troed carbon a phroffidioldeb (O’Brien et al., 2015).

I ffermwyr sy’n ceisio lleihau ôl troed carbon llaeth, dylid canolbwyntio’n benodol ar wella effeithlonrwydd porthiant yn gyffredinol.

Fodd bynnag, er efallai bod effeithlonrwydd a chynaliadwyedd yn gysyniadau tebyg, ni ddylid eu cyfuno; mae cynaliadwyedd yn gysyniad llawer ehangach.

 

Ffigur 1. Cyfran gymharol yr allyriadau nwyon tŷ gwydr o’r anifeiliaid llaeth dros y cylchred chwe blynedd.(Mc Geough et al., 2012)

Pan ofynnwyd iddynt ddiffinio cynaliadwyedd o fewn y sector llaeth, fe wnaeth rhanddeiliaid arbenigol gytuno’n gyffredinol ar gyfres o themâu trosfwaol a ddylai nodweddu sector llaeth gwydn a chynaliadwy.

Mae’r themâu hyn yn disgrifio diwydiant hunan-barhaol, a allai barhau am byth, heb erydu’r cyfalaf naturiol neu gymdeithasol y mae’r diwydiant, a chymunedau ehangach, yn dibynnu arno i weithredu.

Mae cyfalaf naturiol wedi cael ei ddisgrifio a’i ddiffinio i gynnwys iechyd y pridd, dŵr glân a bioamrywiaeth (Goodland, 1997).

Mae diogelu cyfalaf naturiol yn allweddol er mwyn sicrhau gwytnwch ein systemau cynhyrchu bwyd wrth wynebu hinsawdd sy’n newid, gan ddiogelu’r gallu i ddarparu bwyd gan hefyd gadw cyfanrwydd y tir ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol (Rockström et al., 2009).

Er bod systemau da byw yn gallu chwarae rhan hanfodol yn y broses o adfer a chynnal cyfalaf naturiol (Mcclellan Maaz et al., 2023),  mae’r canfyddiad cyffredin bod ffermio llaeth yn ddwys iawn ei natur yn gallu rhwystro hyn, ac mae’n gallu peri risg o ddifrod amgylcheddol.

Mae’r ymdrech barhaus i gyflymu effeithlonrwydd canfyddedig wedi effeithio’n sylweddol ar ffurf y sector llaeth, gan gyfuno’r diwydiant ar lai o ffermydd, a defnyddio llai o dir, ond gan ddibynnu mwy a mwy ar borthiant a brynir i mewn, mewnbynnau amaeth-gemegol a dyled.

Mae strwythur costau sefydlog uchel ar nifer o ffermydd llaeth yn arwain yr ymdrechion i sicrhau allbynnau ymylol. Yn gyffredinol, mae systemau mewnbwn isel, allbwn isel yn cynrychioli defnydd mwy o effeithlon o fewnbynnau maethynnau allanol, gan arwain at lai o risg o golli maethynnau i’r amgylchedd, a lleihau pwysau ar yr amgylchedd (Dentler et al., 2020).

Mae colli llawer o faethynnau i’r amgylchedd yn gysylltiedig yn uniongyrchol ag ewtroffigedd dŵr croyw a cholli bioamrywiaeth.(Pamel Arbenigwyr Nitrogen yr UE, 2015)

Mae defnyddio ôl troed carbon fel dangosydd perfformiad allweddol cynradd yn atgyfnerthu’r sbardun ar gyfer effeithlonrwydd, gan arwain at lefelau uchel o gyfalafiad a dwysau. Fel mesur o gynaliadwyedd, mae ganddo gyfyngiadau dwys.

Er mwyn cynnal amaethyddiaeth a chymdeithas trwy gyfnod o hinsawdd sy’n newid a dyfodol ansefydlog, bydd angen gofalu am gyfalaf naturiol, yn hytrach na dibynnu ar fewnbynnau a brynir i mewn.

Dalgaard, R., Schmidt, J., & Flysjö, A. (2014). Generic model for calculating carbon footprint of milk using four different life cycle assessment modelling approaches. Journal of Cleaner Production, 73, 146–153. Cliciwch yma am fwy o wyboadeth

Dentler, J., Kiefer, L., Hummler, T., Bahrs, E., & Elsaesser, M. (2020). The Impact of Low-input grass-based and high-input confinement-based dairy systemson food production, environmental protection and reasource use. Agroecology and Sustainable Food Systems, 10.

EU Nitrogen Expert Panel. (2015). (PDF) Nitrogen Use Efficiency (NUE) - an indicator for the utilization of nitrogen in agriculture and food systems Prepared by the EU Nitrogen Expert Panel. Cliciwch yma am fwy o wyboadeth

Goodland, R. (1997). Environmental sustainability in agriculture: diet matters. Ecological Economics, 23, 189–200.

IPCC. (2006). Chapter 10 Emissions From Livestock and Manure Management. In Forestry and Agriculture (Vol 4).

Laurent, A., & Owsianiak, M. (2017). Potentials and limitations of footprints for gauging environmental sustainability. Current Opinion in Environmental Sustainability, 25, 20–27. Cliciwch yma am fwy o wyboadeth

Mc Geough, E., Little, S., Janzen, H., McAllister, T., McGinn, S., & Beauchemin, K. (2012). Life-cycle assessment of greenhouse gas emissions from dairy production in Eastern Canada: A case study. Journal of Dairy Science, 95, 5164–5175. Cliciwch yma am fwy o wyboadeth

Mcclellan Maaz, T., Heck, R. H., Glazer, C. T., Loo, M. K., Rivera Zayas, J., Krenz, A., Beckstrom, T., Crow, S. E., & Deenik, J. L. (2023). Measuring the immeasurable: A structural equation modeling approach to assessing soil health. Cliciwch yma am fwy o wyboadeth

O’Brien, D., Hennessy, T., Moran, B., & Shalloo, L. (2015). Relating the carbon footprint of milk from Irish dairy farms to economic performance. Journal of Dairy Science, 98(10), 7394–7407. Cliciwch yma am fwy o wyboadeth

Rockström, J., Steffen, W., Noone, K., Persson, Å., Chapin, F. S., Lambin, E., Lenton, T. M., Scheffer, M., Folke, C., Schellnhuber, H. J., Nykvist, B., de Wit, C. A., Hughes, T., van der Leeuw, S., Rodhe, H., Sörlin, S., Snyder, P. K., Costanza, R., Svedin, U., … Foley, J. (2009). Planetary Boundaries:Exploring the Safe Operating Space for Humainty [Article]. Ecology and Society, 14(2), 32. Cliciwch yma am fwy o wyboadeth


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr