Gan Sara Pedersen BSc (Anrhydedd) BVetMed CertCHP DBR MRCVS Arbenigwr RCVS mewn Iechyd Gwartheg a Chynhyrchiant Farm Dynamics Ltd, Y Bontfaen, Bro Morgannwg  

Hyd yn oed os nad dermatitis digidol (llosg carn) yw prif achos problem cloffni ar fferm, mae wastad bron bob amser yn bodoli yn rhywle yn y cefndir. Mae’n hynod o heintus ac yn gyflwr poenus. Yn aml cyfeirir ato fel ‘mastitis y droed’ oherwydd pwysigrwydd yr amgylchedd yn ei reolaeth.  

 

Beth yw dermatitis digidol?

Mae dermatitis digidol (DD) yn cael ei achosi gan grŵp o facteria o’r enw treponemes. Maen nhw’n actif a symudol iawn, sy’n eu galluogi i symud yn gyflym mewn amgylchedd gwlyb a’u gwneud yn heintus dros ben o dan yr amodau iawn. Yn hytrach nag aros ar yr wyneb, maen nhw’n gallu mynd o dan y croen a chreu haint cronig. Mae sawl straen benodol o treponeme sy’n achosi DD, ac mae pob un ohonynt yn amrywio o ran pa mor ddifrifol ydyn nhw. Os oes sawl straen yn bresennol yna mae’r briw’n debygol o fod yn fwy difrifol na phe bai un straen yn unig.

 

Cadw’r fuches rhag cael dermatitis digidol (DD)

Os ydych yn ddigon ffodus i beidio â chael DD ar eich fferm mae'n bwysig sicrhau nad yw’n cael ei gyflwyno i’r fuches, felly mae bioddiogelwch da yn hollbwysig. Mae’r perygl mwyaf yn codi pan ydych yn prynu gwartheg at y fuches. Gan fod un anifail yn gallu cario DD heb ddangos unrhyw arwyddion ohono, mae'n bwysig eich bod yn prynu gwartheg o fuchesi sy’n rhydd o DD er mwyn diogelu statws eich buches. Nid yw dewis gwartheg heb arwyddion o  DD o fewn buches heintiedig yn rhoi sicrwydd na fyddan nhw’n ei gario.

Pan mae gwartheg ‘glân’ yn cael eu cludo, mae'n bwysig sicrhau nad ydyn nhw’n cymysgu â gwartheg o fuchesi sydd naill ai wedi eu heintio â dermatitis digidol neu â statws anhysbys o ran DD, a dylid glanhau bob trelar yn drylwyr a’u diheintio cyn eu defnyddio.

Hyd yn oed os oes gennych DD ar eich fferm, mae'n bwysig cofio bod gwartheg yr ydych yn eu prynu’n gallu cario straen newydd sy’n gallu achosi heintiau mwy difrifol ac achosion newydd ohono.

 

Gwahanol Gamau DD:

Mae nifer o wahanol gamau i heintiau DD a hyd yn oed o fewn y gwahanol gamau mae’r briwiau’n gallu amrywio yn y ffordd y maen nhw’n edrych. Gan amlaf mae’r briwiau ar wadn y droed naill ai ar y croen wrth ymyl yr hollt rhyngddigidol neu lle mae’r croen a’r carn yn dod at ei gilydd ar y sawdl.  Y traed ôl sydd fel arfer yn cael eu heintio ac mae’n arferol gweld briwiau ar y ddwy droed yr un pryd. Weithiau mae DD i’w weld o gwmpas yr ewinau ffêr neu ar flaen y droed rhwng y crafangau. Mae hefyd yn gallu heintio briwiau ar y carn grafanc, yn cynnwys clefyd y llinell wen neu wlserau gwadn.

Wrth i DD ddatblygu, mae nifer o ffactorau risg, fodd bynnag mae hylendid da yn allweddol. Mae slyri nid yn unig yn helpu’r haint i drosglwyddo o’r naill fuwch i’r llall ond mae hefyd yn achosi anesmwythdra mawr i groen meddal y sawdl, gan ei niweidio ac arwain at fwy o risg o gael haint. Os yw’r traed wedi eu heintio'n arw maen nhw hefyd yn creu'r amodau perffaith heb lawer o ocsigen lle y gall DD ffynnu.  

O dan yr amodau priodol bydd briwiau’n dechrau datblygu. Yn ystod y cam cynnar (isglinigol) yma mae’r briwiau tua <2cm mewn diamedr, yn lliw llwyd ac yn weddol ddiboen. O fewn ychydig o ddiwrnodau, os na chaiff y rhain eu trin, maen nhw’n datblygu i’r cam ‘actif’ wlseraidd clasurol (Ffotograff Un) sydd fel arfer yn siâp cylch neu hirgrwn ac yn edrych fel mefus, gydag ymylon clir ac arogl penodol. Tra bod y briwiau’n boenus i’w cyffwrdd, nid yw buchod bob amser yn dangos arwyddion o gloffni, sy’n ei gwneud yn anodd  sylwi ar yr haint heb eu gwylio’n ofalus – gellir gwneud hynny wrth iddynt gael eu godro. Oni bai bod y briwiau yma’n cael eu trin yn gynnar gyda gwrthfiotigau lleol gan arwain at y cam gwella (Ffotograff Dau) mae’r bacteria’n gallu mynd yn ddwfn o dan haenau’r croen lle maen nhw’n ffurfio briwiau anactif cronig (Ffotograff Tri), sy’n gallu ymddangos yn ddiweddarach. Mae’r briwiau yma’n edrych fel pe bai’r croen yn tewhau o gwmpas y carn rhyngddigidol ac maen nhw’n ddi-boen ar yn cyfan. Ond mae’r DD yn dal yn ddwfn y tu mewn i’r briw a bydd yn ail-ymddangos o dan yr amodau priodol. Y briwiau yma (Ffotograff Pedwar) yw’r prif ffactorau sy’n arwain at yr achosion, ac un o brif nodau bathio traed yw lleihau’r achosion yma.

 

Cylch DD:

Gellir ystyried dynameg gwahanol gamau DD fel cylch (Ffigwr Un). Ond nid yw un cam o reidrwydd yn arwain yn rhesymegol at y cam nesaf nes bod y cylch yn gyflawn. Gallai briwiau symud yn ôl a blaen rhwng y gwahanol gamau yn dibynnu pa brotocolau atal a thrin sy’n cael eu gweithredu

Mae tair rhan i dorri’r cylch:

  1. Gwella hylendid er mwyn lleihau’r risg o gael achosion newydd.
  2. Triniaeth leol effeithiol cynnar ar gyfer briwiau newydd actif.
  3. Bathio traed i atal achosion mynych o friwiau anactif cronig sy’n brif ffactorau mewn achosion o’r clefyd.

Er gwaetha natur heintus DD a’r ffactorau risg niferus sy’n cyfrannu at heintio’r gwartheg, mae'n bosibl lleihau achosion drwy weithredu cynllun rheoli cadarn. Mae bathio traed yn rhan allweddol o reoli haint a bydd yn cael ei drafod yn fanwl yn rhan nesaf y gyfres yma ar DD.

 

Ffigwr Un: Cylch DD

dd cycle

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Ffotograff Un: Cam actif

photo two

 

 

 

 

 

 

 


Ffotograff Dau: Cam gwella gyda chrachen yn gorchuddio’r briw

photo three

 

 

 

 

 

 

 


Ffotograff Tri: Briw anactif cronig

photo four

 

 

 

 

 

 

 


Ffotograff Pedwar: Briwiau cronig mynych

photo five

 

 

 

 

 

 

 

 

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r erthygl yma 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr