23 Gorffennaf 2020
Dr Cate Williams: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.
- Mae nifer o fanteision i wlân defaid pan gaiff ei gymysgu mewn compost neu domwellt: fel ffynhonnell nitrogen sy’n cael ei ryddhau’n araf ac elfennau hybrin eraill, i reoli chwyn a phlâu, i gadw lleithder a rheoli tymheredd.
- Gellir defnyddio gwlân fel dewis cynaliadwy, adnewyddadwy a chyfeillgar i’r amgylchedd yn lle mawn.
- Gellir hefyd ei ddefnyddio i inswleiddio gwres a sŵn, yn enwedig wrth adeiladu “eco-gartrefi” newydd.
- Mae angen gwneud ymchwil pellach i ganfod y strategaethau a’r cymysgeddau compostio gorau un yn ogystal â sut i dyfu a datblygu’r broses.
Wrth i’r farchnad wlân ddirywio, mae’n bosibl bod cynhyrchwyr yn chwilio am ffyrdd amgen o ddefnyddio’u cnuoedd, yn enwedig gwlân tocio a gwlân budr neu isel ei ansawdd. Mae ychydig o gwmnïau eisoes yn cynhyrchu llawer o gompostau ‘gwlân a rhedyn’, sy’n ddewis amgen cynaliadwy, cyfeillgar i’r amgylchedd, nad yw’n cynnwys mawn. Mae gwlân defaid yn cymryd lle’r mawn sydd i’w gael mewn compostau eraill drwy gynyddu’r gallu i ddal dŵr a gweithredu fel ffynhonnell nitrogen sy’n cael ei ryddhau’n araf. Mae codi a defnyddio mawn yn peri nifer o broblemau, mae mawn yn storfa garbon (C) naturiol, bwysig ac felly, drwy ei godi, rydym yn lleihau gallu’r tir i storio C, ac yn cynyddu’r risg o lifogydd, gan effeithio ar ansawdd dŵr a difrodi cynefinoedd bywyd gwyllt. Mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu bod gan gompost gwlân a rhedyn ansawdd meddal a brau tebyg i gompostau mawn; mae ynddo hefyd broffiliau maeth da a gallu da i ddal dŵr. Mae’n bosibl hefyd cynnwys gwlân mewn tomwellt neu fatiau, lle gwelwyd ei fod yn lleihau difrod gan wlithod a malwod, yn helpu i atal chwyn rhag tyfu a hefyd yn cadw tymheredd y pridd yn fwy gwastad. Yn hanesyddol, defnyddiwyd gwlân fel deunydd insiwleiddio gwres a sŵn a byddai’n addas iawn mewn eco-gartrefi a adeiladir â deunyddiau gwyrdd. Fel deunydd pydradwy, cynaliadwy a chyfeillgar i’r amgylchedd, gellir defnyddio gwlân mewn amrywiol ffyrdd y tu allan i’r diwydiant tecstilau, yn enwedig yn ngoleuni’r pryder cynyddol ynglŷn â hinsawdd y byd.
Y broblem â mawn
Crynhoad o ddeunydd organig naturiol sy’n pydru yw mawn – ac mae’n cynnwys planhigion a llystyfiant yn bennaf. Caiff ei labelu fel y storfa garbon fwyaf effeithlon ar y blaned wrth i’r planhigion cyfagos gipio’r carbon diocsid (CO2) atmosfferig sy’n tarddu o’r deunydd sy’n pydru yn y mawn. Mae mawndiroedd neu fawnogydd yn cymryd miloedd o flynyddoedd i ddatblygu a gall cloddio a chynaeafu eu dinistrio mewn rhan fechan iawn o’r amser hwnnw, sy’n golygu ei fod yn adnodd an-adnewyddadwy. Mae codi mawn yn rhyddhau llawer iawn o CO2, methan ac ocsid nitraidd, ac mae’r rhain oll yn nwyon tŷ gwydr nerthol; maent hefyd yn difrodi cynefinoedd bywyd gwyllt ac yn cynyddu’r perygl o lifogydd. Fodd bynnag, mae mawn yn dal i fod yn un o’r cynhwysion allweddol yn y rhan fwyaf o gompostau a gynhyrchir yn fasnachol oherwydd ei allu i ddal dŵr a’i allu i gynnal maethynnau’r pridd yn effeithiol. Mae nifer o ddewisiadau yn lle mawn wedi cael eu hystyried, gan gynnwys bio-olosg, pren, ffibr cnau coco ac yn wir, gwlân defaid.
Gwlân mewn compost
Tra bod gwlân yn gwbl bydradwy, mae’r broses hon yn cymryd cryn amser – yn ddibynnol ar y gwlân ei hun a’r amgylchedd allanol mae hwn yn amrywio o 3 mis i 2 flynedd. Mae hon yn fantais fawr wrth gompostio, gan fod hyn yn sicrhau bod nitrogen (N) yn cael ei ryddhau’n araf ac yn gyson i’r pridd o’i amgylch – yn enwedig ac ystyried bod gwlân yn cynnwys 10-11% o nitrogen, ar gyfartaledd, sy’n fwy na rhai compostau sydd ar gael yn fasnachol. Mae gwlân tocio yn ddelfrydol gan fod ynddo ddeunydd ysgarthol a baw, sy’n ddeunydd gwych ar gyfer compost oherwydd y cynnwys deunydd organig. Mae gan wlân hefyd sbectrwm o elfennau hybrin, a chanfu astudiaethau lefelau cymharol uchel o botasiwm (K), sodiwm (Na), haearn (Fe) a ffosfforws (P).. Math penodol o saim gwlân – swint – sydd i gyfrif am y crynodiadau uchel iawn o K sydd i’w gael mewn gwlân defaid. Er nad yw’r lefelau mor uchel â lefelau N a K, mae P hefyd i’w gael mewn gwlân defaid, sy’n rhoi ichi’r cyflenwad llawn o’r maethynnau hanfodol, allweddol sydd i’w cael mewn gwrteithiau (N, P a K). Canfu rhai astudiaethau na fydd yn rhaid i wlân gael ei gompostio o bosibl – mae’r canlyniadau o dreialon gan ddefnyddio planhigion wedi’u tyfu mewn potiau yn awgrymu y gellid defnyddio gwlân crai fel ffynhonnell faeth a chyfrwng tyfu, gyda’r gwreiddiau’n tyfu’n uniongyrchol ac yn ffafriol ar ffibrau gwlân.
Gwlân mewn tomwellt a matiau
Gellid defnyddio gwlân o dan blanhigion i atal dŵr a maethynnau rhag llifo i ffwrdd; mae hwn yn ddull sy’n dyddio’n ôl i’r 1900au. Mae presenoldeb lanolin a sylweddau cwyraidd eraill ar arwyneb allanol y gwlân yn gwneud iddo allu gwrthsefyll dŵr. Fodd bynnag, mae’r cortecs mewnol yn fwy bregus ac mae’n cynnwys matrics o broteinau sy'n gyfoethog mewn sylffwr sy’n atynnu dŵr ac yn gwneud gwlân yn amsugnydd da iawn – nodwedd sy’n bwysig dros ben ar gyfer lliwio.
Fel tomwellt, a ddefnyddir o amgylch planhigion uwchlaw’r ddaear, mae gwlân yn darparu amddiffyniad mandyllog sy’n helpu i leihau twf chwyn gan reoleiddio tymheredd y pridd – a’i gadw’n oer yn yr haf ac yn gynnes yn y gaeaf. Mae nifer o astudiaethau wedi dangos effeithlonrwydd matiau gwlân a ddefnyddir i fygu chwyn gydag un yn datgan bod ffabrig gwlân bron yn dileu'r holl dyfiant chwyn, yn annog epil-blanhigion i wreiddio a chnydau ffrwythau mefus gwell o’u cymharu â phlanhigion a gafodd eu chwynu â llaw ac a driniwyd â chwynladdwyr safonol (chlorthal-dimethyl, DPCA). Canfu astudiaeth debyg a oedd yn gwerthuso defnyddio triniaeth tomwellt gwlân mewn mefus fod y tymheredd uchaf yn gyson is a’r tymheredd isaf yn gyson uwch na’r rheini a oedd heb y gwlân. Roedd yr amrywiad yn y tymheredd, drwyddo draw, yn llawer is gyda phridd o dan y tomwellt gwlân. Cytunai’r astudiaeth hon hefyd fod tomwellt gwlân (un haen a haen dwbl) yn rhwystr effeithiol rhag chwyn. Er nas cofnodwyd hyn mewn llenyddiaeth wyddonol, ceir tystiolaeth anecdotaidd i awgrymu y gallai pelenni gwlân hefyd atal gwlithod a malwod, gan fod gan rai ffibrau gwlân wrthfachau microsgopig a allai weithredu fel rhwystr ffisegol.
Gellir compostio gwlân gyda llu o wahanol ddeunyddiau, neu at rai defnyddiau, mae’n bosibl nad oes angen ei gompostio o gwbl. Neu, gellir prosesu’r gwlân yn belenni – gallai’r siâp pelenni ei wneud yn fwy mandyllog ac awyru mwy ar y pridd. Mae astudiaethau sy’n ymchwilio i strategaethau compostio yn awgrymu, ar raddfa fawr, mai 25% gwlân, 25% tail ceffylau a 50% toriadau glaswellt sy’n rhoi’r canlyniadau gorau o bosibl. O’u cymharu â chyfuniadau o dail neu sglodion pren a gwastraff bwyd a sglodion pren, y compost â’r tail a’r toriadau glaswellt oedd â’r cynnwys lleithder, y pH, y tymheredd a’r amser compostio mwyaf priodol. Mae’r rhan fwyaf o astudiaethau yn argymell gwahanu'r gwlân cyn compostio gan ei fod yn agored i glystyru a gall gywasgu pan gaiff ei adael mewn bwndeli a gall hynny arwain at ganran uchel o solidau. Gall ymchwil i’r dyfodol edrych o bosibl ar wahanu bwndeli gwlân gwastraff cywasgedig cyn ei gompostio ar raddfa fawr. Yn gyffredinol, ychydig o ymchwil sydd i’w gael sy’n rhoi manylion y strategaethau compostio gorau un ar gyfer gwlân, gyda’r rhan fwyaf o’r canllawiau anecdotaidd yn deillio o’r cyfryngau cymdeithasol a gerddi bach, preifat. Mae’n debygol y ceir amrywiadau, yn dibynnu ar frîd y defaid o lle daw’r gwlân gan fod ffibrau gwlân yn amrywio llawer iawn o ran diamedr a hyd. Gallai hyn effeithio ar gyfansoddiad y gwlân (e.e. lefelau elfennau hybrin) a byddai hynny yn ei dro yn cael effaith ar ei ymddygiad wrth gompostio a’i werth fel compost. Mae compostau sy'n cynnwys gwlân ac sydd ar gael yn fasnachol yn defnyddio gwlân o fridiau defaid mynydd, megis defaid Herdwick. Nid yw’r gwlân bras o’r bridiau hyn yn diraddio mor gyflym â gwlân teneuach ac mae hynny’n rhoi gwell strwythur a gwead i’r cynnyrch gorffenedig; mae hefyd yn sicrhau bod y maethynnau’n cael eu rhyddhau’n araf ac yn cynnal y lleithder. Mae gwlân yr ucheldir yn aml yn rhy fras i’w ddefnyddio mewn tecstilau, felly mae hyn hefyd yn helpu i gefnogi ffermwyr lleol. Mae compostau gwlân o’r fath sydd ar gael yn fasnachol hefyd yn defnyddio rhedyn fel sylfaen, gan ddarparu ffynhonnell potash dda, mae’n helpu i gynnal lleithder ac mae ar gael am ddim o’r wlad sydd o’n hamgylch. At hynny, mae’n hysbys iawn bod rhedyn yn achosi problemau, gan lethu ac atal twf planhigion cyfagos gan ddefnyddio cemegion gwenwynig. Caiff cemegion o’r fath eu dadelfennu yn ystod y broses gompostio gan ei wneud yn ddiogel ac effeithiol i’w ddefnyddio mewn compost. Gan fod rhedyn yn ymledol ac yn peri problemau ac eto’n ddeunydd adnewyddadwy (mae’n adfer mewn oddeutu 4 wythnos) mae hyn yn ei wneud yn gynhwysyn atyniadol.
Gwlân i inswleiddio gwres a sŵn
Cafodd gwlân ei ddefnyddio ers tro fel deunydd inswleiddio effeithiol ar gyfer sŵn a gwres ond mae diddordeb o’r newydd yn cael ei ddangos ynddo oherwydd ei natur naturiol, gynaliadwy ac adnewyddadwy. Ac ystyried y sylw cynyddol a roddir ar newid hinsawdd a’r amgylchedd, mae’r priodweddau hyn yn dod yn fwy a mwy pwysig i ddefnyddwyr. Ceir hefyd diddordeb cynyddol mewn "eco-gartrefi", sy’n golygu dylunio ac adeiladu cartrefi ag ôl-troed carbon bychan. I wneud hynny, rhaid i dai gael eu hinswleiddio’n dda i sicrhau effeithlonrwydd ynni da, felly i’r perwyl hwn, cafodd deunyddiau adnewyddadwy a chynaliadwy fel gwlân ac yn wir cywarch a gwellt eu hystyried. Oherwydd yr amrywiad naturiol mewn gwlân, gall y dwysedd fod yn anghyson, sy’n golygu bod mwy o wlân yn angenrheidiol i inswleiddio gwres cystal â gwydr ffibr, fodd bynnag, mae gwlân yn cynnig llawer mwy o fanteision o’i gymharu â gwydr ffibr (e.e. cynaliadwyedd ac effaith amgylcheddol, diogelwch a gwenwyndra, ei allu i wrthsefyll tân ac i inswleiddio’n well yn erbyn sŵn). Canfu astudiaethau fod gwlân yn ynysu dirgryniadau yn effeithiol a’i fod yn gallu lleihau sŵn hyd at 6 desibel, gan berfformio'n well na gwlân mwynau. Canfu astudiaeth ddiweddar bod gwlân bras, ansawdd isel yn perfformio cystal fel deunydd inswleiddio, gan gynnig y potensial ar gyfer arallgyfeirio’r llif gwastraff hwn o wlân llai marchnadwy a llai gwerthfawr yn ddeunydd adeiladu gwyrdd a allai gynnig rhyw gymaint o fantais i gynhyrchwyr defaid. Wrth gymharu gwlân â ffibrau polyester, canfu astudiaeth mai cymysgedd 50:50 o’r ddau oedd yn perfformio orau, gan amsugno dros 70% o sŵn, gan arddangos ymwrthedd da i leithder dan amodau llaith iawn a phydredd o 65-70%. Roedd y cymysgedd 50:50 yn perfformio’n well na’r ffibr polyester 100% a’r gwlân 100%, er ei bod yn werth cadw mewn cof nad yw polyester yn bydradwy, felly byddai gwlân 100% yn debygol o fod yn ddewis mwy cyfeillgar i’r amgylchedd er nad hwn fyddai’r un mwyaf effeithiol.
Crynodeb
Wrth i’r farchnad wlân barhau i ddirywio, yn enwedig i fridiau ucheldir sydd â gwlân bras, mae angen ymchwilio i ddefnyddiau amgen. Mae defnyddio gwlân mewn compost neu domwellt yn gysyniad cymharol newydd, gydag ond cwpl o gwmnïau’n cynhyrchu compost gwlân a rhedyn yn fasnachol. Er hynny, mae gwlân (gwlân budr yn enwedig) yn ffynhonnell ardderchog o nitrogen sy’n cael ei ryddhau’n araf yn ogystal ag amrywiaeth o elfennau hybrin eraill wrth iddo bydru. Mae manteision pellach i wlân hefyd, o ran ei allu i reoli tymheredd y pridd, dal dŵr, strwythuro’r pridd ac mae’n gallu rheoli chwyn a phlâu yn effeithiol iawn. Mae gwlân yn ddewis cynaliadwy, adnewyddadwy a chwbl gyfeillgar i’r amgylchedd yn lle mawn, sy’n cael ei ddefnyddio mor aml mewn compostau. Gellir defnyddio gwlân hefyd i inswleiddio gwres a sŵn, ac mae hynny’n berthnasol dros ben yng ngoleuni’r diddordeb cynyddol mewn eco-gartrefi cynaliadwy a chyfeillgar i’r amgylchedd, sy’n cael eu hadeiladu’n bennaf o ddeunyddiau adnewyddadwy a gwyrdd.