25 Hydref 2022
Dr David Cutress: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.
- Mae amaethgoedwigaeth yn cael llawer o sylw o ran ei gyfraniad at gyflawni sero net trwy’r byd
- Mae amaethgoedwigaeth yn cynnig llu o ddewisiadau ond mae’n bwysig ystyried pa goed i’w tyfu ble pan fyddant ar y cyd ag anifeiliaid neu gnwd
- Mae’n ymddangos bod clystyrau o goed o rywogaethau cymysg ac ymgorffori coed sy’n sefydlogi nitrogen yn ychwanegu buddion ychwanegol at gynaliadwyedd cyffredinol y system a’i gwytnwch i risg
Amaethgoedwigaeth
Ar y dechrau, gadewch i ni wneud yn siŵr ein bod ni i gyd yn ystyried yr un cysyniad wrth drafod amaethgoedwigaeth gan y gall y diffiniad fod yn benodol iawn (fel sy’n wir mewn llenyddiaeth wyddonol) neu gall fod yn eang dros ben (yn y cyfryngau a chyfathrebiadau gwleidyddol yn aml). Amlygodd adolygiad diweddar y gall y term amaethgoedwigaeth gael ei ddefnyddio mewn nifer o ffyrdd gwahanol y cyfeiriodd atynt fel ‘y da’ (gwir amaethgoedwigaeth), y ‘drwg’ (amaethgoedwigaethbusnes,) sy’n canolbwyntio ar elw yn hytrach na manteision amgylcheddol a’r ‘hyll’ (amaethddatgoedwigo), pan ddefnyddir y term amaethgoedwigaeth fel arf i ganiatáu datgoedwigo, diraddio a newid fforestydd hynafol neu rannol naturiol. Yn greiddiol mae amaethgoedwigaeth yn ymwneud â chyfuno llystyfiant prennaidd (e.e. coed a gwrychoedd) ar yr un pryd â chnydau a/neu anifeiliaid yn yr un dirwedd. Felly mae amaethgoedwigaeth yn disgyn yn y categori ffermio cymysg. Mae’r derminoleg mewn amaethgoedwigaeth yn cynnwys;
Amaethgoedwigaeth draddodiadol – Cnydau prennaidd wedi hen sefydlu ochr yn ochr ag anifeiliaid neu gnydau i gynhyrchu bwyd.
Amaethgoedwigaeth arloesol – Systemau aml-swyddogaeth yn cyfuno biomas bwyd a heb fod yn fwyd (bioynni er enghraifft) a thafoli adnoddau ochr yn ochr â chadwraeth amgylcheddol.
Coed-borfeydd – Cymysgu coed gyda phori anifeiliaid.
Coed-tir âr – Cymysgu coed gyda thyfu cnydau tir âr.
Coed borfeydd amaethyddol – Cyfuno cnydau amaethyddol cymysg a/neu anifeiliaid gyda choed.
Lleiniau clustogi torlannol – Defnydd penodol o lystyfiant (prennaidd fel arfer) yn agos at gyrsiau dŵr.
Gwrychoedd – Rhwystrau wedi eu creu o goed neu lwyni agos at ei gilydd fel arfer i wahanu yn ffisegol neu i nodi terfynau perchenogaeth.
Lleiniau cysgodi – Rhwystrau wedi eu creu o goed a llwyni i ddiogelu cnydau neu dda byw rhag ffactorau amgylcheddol fel gwyntoedd mawr ac i leihau erydiad.
Trafodwyd llawer o fanteision amaethgoedwigaeth mewn erthygl flaenorol ond, yn fyr, mae’r rhain yn cynnwys yr effaith ar gynaliadwyedd, bioamrywiaeth, newid hinsawdd ac iechyd y pridd. Er enghraifft, awgrymir bod amaethgoedwigaeth yn lleihau erydiad pridd ac yn helpu i gael cydbwysedd yn y nitrogen a ffosfforws mewn priddoedd a hynny’n werth £4 - £15 yr ha y flwyddyn yn y Deyrnas Unedig wrth gymharu coed-tir âr a thir âr yn unig. Petai dim ond hanner yr ardal gnydio bresennol yn cael ei throsi yn goed-tir âr byddai hynny’n arwain at arbedion yn y Deyrnas Unedig o tua £24 - £91 miliwn y flwyddyn. Mae amaethgoedwigaeth yn cael lle amlwg yn y trafodaethau am arferion rheoli tir risg isel, buddsoddiad isel, sy’n neilltuo llawer o garbon ac mae’n cynnig nifer o fanteision eraill o ran yr ecosystem fel y nodir yn y diagram.
Cymerwyd o Lawson, Dupraz and Watte, (2019) The ecosystem services of agroforestry – NTFPs = Non-timber forest products, LER = Land equivalent ratio GHG = Greenhouse gas
Nod yr erthygl hon yw archwilio rhai o’r dewisiadau sydd ar gael ar draws systemau amaethgoedwigaeth a’r ymchwil ar sut y mae’r rhain yn perfformio. Mae llawlyfr amaethgoedwigaeth cymdeithas y pridd yn cynnig llawer mwy o gyngor i unigolion sy’n ystyried amaethgoedwigaeth gan gynnwys y byrfodd defnyddiol yma (yn Saesneg) o ran sut i ystyried y systemau hyn - PAMSAL
- Purpose: (Diben) Ble ydych chi am ei gyrraedd?
- Advice: (Cyngor) O ble gewch chi gyngor a chefnogaeth?
- Measures of success: (Mesur llwyddiant) Sut fyddwch chi yn mesur effeithlonrwydd, effeithiolrwydd ac effaith?
- Agroecology: (Amaeth-ecoleg) Sut fyddwch chi’n manteisio ar amaeth-ecoleg a gadael i natur wneud rhywfaint o’r gwaith?
- Starting points: (Mannau cychwyn) O ble ydych chi am gychwyn? (e.e. porfa, tir âr neu berllan)
- Adaptive management: (Rheolaeth addasol) Wrth i bethau ddatblygu, pa offer fydd yn eich helpu i addasu?
- Layout: (Gosodiad) Pa fathau neu rywogaethau, trefniant o ran gofod a dilyniant fyddwch chi’n eu defnyddio?
Ystyriaethau o ran y coed
Mae gan wahanol rywogaethau o goed swyddogaethau ac ystyriaethau gwahanol o ran yr amodau gorau i’w tyfu mewn amaethgoedwigaeth, gyda rhai’n tyfu’n gyflym, rhai’n tyfu’n araf, rhai’n cynhyrchu porthiant neu ffynhonnell bwyd sy’n cynnig incwm gwahanol ac eraill yn fwy addas ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy. Y rheol syml gyffredinol yw plannu 100 coesyn i bob hectar gan y gall niferoedd uwch leihau’r manteision. Er y gall rhywogaethau gwahanol mewn amgylcheddau gwahanol weithredu orau ar niferoedd uwch neu is. Mae’r tabl isod yn nodi rhai rhywogaethau llydanddail yr ymchwiliwyd iddynt yn Ewrop a’u swyddogaeth gyffredinol.
Yn gyffredinol, defnydd rhywogaethau coniffer mewn amaethgoedwigaeth yw y cysgod y maent yn eu gynnig i aeafu anifeiliaid allan, diogelu unrhyw dyfiant oddi tanynt rhag rhew a chynhyrchu pren yn y tymor hir (cylchdro 40-60 mlynedd yn gyffredinol yn dibynnu ar y rhywogaethau). Gellir gweld gwybodaeth benodol am ba rywogaethau coniffer a llydanddail all weithio ym mha amgylcheddau hefyd ar-lein gan Wasanaeth Cynghori Ffermydd yr Alban (FAS).
Cofnodir bod clystyrau rhywogaethau cymysg yn cynnig manteision i ecoleg gan eu bod yn gysylltiedig â chasgliad ehangach o rywogaethau sy’n rhyngweithio, maent hefyd yn gweithredu i lenwi a chreu corneli gwahanol mewn ecosystem gan ddosbarthu adnoddau’n fwy effeithlon. Mae gan systemau rhywogaethau cymysg hefyd fanteision o ran gwytnwch gan eu bod yn sicrhau na fydd digwyddiadau fel plâu a phathogenau yn dileu’r system gyfan gyda’i gilydd, ond mae’r dewis o rywogaethau yn bwysig yma i osgoi creu amodau sy’n cynyddu’r risg y bydd afiechyd yn torri allan. Yn ychwanegol at y manteision yma, awgrymir bod anfanteision wrth ddefnyddio clystyrau ungnwd fel llai o gynhyrchiant a ffrwythlondeb pridd, effaith ar sut y defnyddir dŵr mewn systemau a mwy o risg o golledion i ddigwyddiadau fel stormydd a thanau. Er bod potensial y systemau hyn wedi eu cofnodi’n dda, mae’r cyfarwyddiadau a’r canllawiau dylunio sydd ar gael o ran pa rywogaethau i’w cyfuno’n llwyddiannus yn gyfyngedig braidd ac mae angen rhagor o ymchwil.
Gwelwyd diddordeb cynyddol mewn rhywogaethau coed sydd â’r gallu i sefydlogi nitrogen i wella maetholion pridd a thrwy hynny wella tyfiant a biomas. Mewn rhai astudiaethau, mae’r cynnydd yng nghynhyrchiant y coed yma, wedi eu cymysgu mewn clystyrau o rywogaethau eraill, wedi bod mor uchel â 27%. Mae’r rhain yn cynnwys rhywogaethau fel gwern, tresi aur Alpaidd ac acasiâu, ac awgrymir bod y strategaethau sefydlogi nitrogen yn gweithio orau ar dir llai cynhyrchiol ac mewn amodau tymherus. Yr hyn y dylid ei osgoi ar draws amaethgoedwigaeth yn gyfan gwbl yw cyflwyno rhywogaethau egsotig nad ydynt yn gynhenid, gan yr awgrymir yn gryf, er eu bod ar bapur yn dechnegol yn gwella bioamrywiaeth, eu bod yn gwneud hynny ar draul symud ecosystemau oddi wrth yr hyn sy’n gweithio i’r amgylchedd cynhenid.
Ystyriaethau coed-tir âr
Gall cnydio ale o goed ffrwythau mewn caeau tir âr arwain at gynnydd yn incwm y fferm yn dilyn llif arian negyddol y blynyddoedd cyntaf (>7 mlynedd), gyda’r neilltuo carbon a gyflawnir yn lliniaru rhwng 47-88% o’r costau llif arian yma a dynnwyd. Mae hyn yn awgrymu y gall coed ffrwythau fod yn fuddiol oherwydd y manteision o gyd-gynhyrchu yn neilltuol os bydd systemau yn ystyried yn ofalus pa goed sy’n cynhyrchu’n dda ar y tir penodol dan sylw a chael prisiau gwerthiant da. Yn ychwanegol, mae cnydio ale coed yn ffordd hawdd o sicrhau y gall peiriannau ddal i weithredu yn yr aleau hyn a gall leihau cymhlethdod yr angen am lafur a pheiriannau i’r diben. Mae’r dulliau eraill integredig o blannu yn cynnwys ymgorffori llwyni is fel cyrens duon a mafon cochion o amgylch ymylon y cae lle gallant gael budd o’r golau a darparu cysgod gwahanol.
Awgryma rhai astudiaethau bod systemau coed tir âr o fud i gnydau pan fydd deilen y cnwd yn “rhan economaidd gan y bydd y planhigion yma, mewn ardal gysgodol o goed, yn naturiol yn dyrannu mwy o fiomas i’r dail na’r gwreiddiau i gasglu cymaint o’r golau ag sy’n bosibl.
Gall dewis cnydau tir âr a choed sydd ag amseroedd cynaeafu sy’n cyd-fynd â’i gilydd ledaenu’r llafur a’r risg o ffenestri cynaeafu anodd, er enghraifft, mae mathau o afalau sy’n aeddfedu’n hwyrach yn gweithio’n dda gyda chnydau grawn gan y gellir cynaeafu’r grawn yn gyntaf. Mae gan rai planhigion sy’n cael eu plannu rhwng cnydau hyd yn oed y potensial o gael eu defnyddio i reoli plâu ac ychwanegu at gynhyrchiant. Er enghraifft, dangoswyd bod planhigion aromatig gan gynnwys basil yn lleihau’r boblogaeth o bry glas a hefyd gwella’r rhyddhau ar N yn y priddoedd sydd ar gael pan fydd yn cael ei blannu gyda choed afalau.
Ystyriaethau coed borfeydd
Er y gall gorchudd y canopi mewn systemau coed borfeydd leihau’r cyfraddau tyfu uchaf mewn cyfnodau cynhyrchu allweddol, dangoswyd ei fod yn gwneud iawn am hyn trwy warchod tyfiant yn ystod cyfnodau oer sydd yn llai ffafriol fel arfer. Dangoswyd hefyd bod systemau coed borfeydd yn chwarae rhan ddiddorol o ran cyfnodau sych iawn, lle mae rhywogaethau coed yn perfformio’n fwy ffafriol o ran straen lleithder na fforestydd cyfatebol a gallant leihau y dŵr a gollir o’r systemau pridd a gwndwn oherwydd anwedd-drydarthiad. Mae’r manteision yma o ran straen dŵr mewn sychder yn cael eu cryfhau mewn systemau amaethgoedwigaeth hefyd gan y gwyddys bod y rhain yn gwella treiddiad dŵr i briddoedd ac mae gwreiddiau planhigion yn dueddol o gasglu maetholion a dŵr yn is i lawr na glaswellt gan leihau’r gystadleuaeth uniongyrchol. Mae’r nodweddion yma’n gwneud systemau tu allan trwy’r flwyddyn gyda gwerthoedd stocio is yn fwy dichonol. Byddai gan y rhain fanteision ecosystem ychwanegol, i chwilod y dom, er enghraifft, sy’n allweddol bwysig, ac mae ganddynt y potensial i arbed y costau a’r allyriadau sy’n gysylltiedig â chadw anifeiliaid dan do a rhoi porthiant ategol.
Ffigwr 2 Cymerwyd o Jose, Walter and Kumar (2019)
Mae defnyddio moch i bori mewn coetir wedi bod yn arfer traddodiadol gan y gallant ddefnyddio’r ffynonellau maeth amrywiol gan gynnwys mes (coed derw), a mes coed ffawydd, y cyfan yn gallu lleihau anghenion porthiant a rhoi hwb i les yr anifeiliaid. Mae moch hefyd yn gweithio’n dda gyda chnydau bio-ynni sy’n tyfu’n gyflym (fel miscanthus, helyg a phoplys) y gwyddys eu bod yn effeithlon wrth ddefnyddio nitrogen, mae hyn yn bwysig achos bod moch, oherwydd eu hymddygiad ysgarthol, yn gysylltiedig â chynhyrchu mannau gyda llawer o N wrth bori. Ond dangoswyd bod ystyried a rheoli dwyster y stocio yn bwysig iawn i gael systemau effeithlon.
Felly roedd canlyniadau o adran o’r prosiect AGFORWARD yn awgrymu, wrth ddefnyddio systemau amaeth-bori y gallai trefn bori benodol i’r safle gynyddu’r gronfa hadau yn y pridd a’r cyfoeth o rywogaethau yn y borfa dan y coed mewn cymhariaeth â strategaethau nad oeddent yn cynnwys pori. Yn benodol, gallai roi hwb i’r gyfran o godau sy’n sefydlogi nitrogen mewn gwndwn. Nodwyd hefyd bod rhai coed yn cynnig dewisiadau porthiant mwy treuliadwy gyda dail ynn yn fwy treuliadwy na glaswellt. Wrth ystyried dail fel porthiant mae’n bwysig ystyried arferion rheoli er mwyn caniatáu naill ai pori uniongyrchol (canghennau isel) neu adael i’r anifeiliaid gael mynediad i bori canghennau ar ôl tocio. Ar y llaw arall mae cadw deunyddiau o goed porthiant yn ddewis arall trwy sychu, silwair a chreu pelenni, gyda gwahanol rywogaethau ag ystyriaethau prosesu gwahanol a rhannau bwytadwy. Gall strategaethau o’r fath fod yn bwysig i gynnal da byw mewn cyfnodau o brinder glaswellt difrifol fel cyfnod o sychder. Ond nodir yn gryf iawn bod ymchwil ar dreuliadwyedd penodol a dulliau cadw o ran cynnyrch coed yn ddiffygiol a byddai angen rhagor o ymchwil a’u mireinio.
Cynhaliwyd llawer o astudiaethau ar fanteision y systemau rhydd ac yn benodol systemau dan goed ar gyfer cynhyrchu dofednod. Un o’r manteision a ganfuwyd trwy gynyddu’r gorchudd o ardaloedd coediog mewn systemau rhydd oedd ei fod yn lleihau presenoldeb/rhyngweithio dofednod â rhywogaethau adar sydd â risg uchel o gario ffliw adar. Mae hyn yn rhoi ystyriaeth rheoli afiechyd biolegol diddorol ochr yn ochr â’r manteision lles a ffrwythloni naturiol a nodwyd gyda systemau o’r fath. Er, yn ymarferol, mewn systemau o’r fath, mae’n bwysig tocio canghennau is a gadael digon o olau i annog yr ieir i ddodwy gyda digon o gysgod i fod o fudd i ymddygiad naturiol o ran lles anifeiliaid. Ond, yn bwysig, gall y dewis o anifeiliaid newid eich ystyriaeth o blannu coed gan y bydd llawer o anifeiliaid yn bagio, pori neu ddifrodi coed ifanc mewn ffordd arall. Mewn nifer o systemau, gall hyn gynnwys yr angen i blannu rhywogaethau meithrin sy’n gwella goroesiad y rhywogaeth o goed a dargedir yn ystod y cyfnod tyfu cyntaf. Er gwaethaf yr anfanteision hyn, mae ymgorffori coed yn gwella strwythurau’r pridd ac felly gall liniaru problemau cywasgu a all ddigwydd fel arall oherwydd anifeiliaid. Mae llwch amonia a llygrwyr aer eraill yn ffactorau pwysig sydd o ddiddordeb wrth gynhyrchu anifeiliaid. Yma eto, dangoswyd bod ymgorffori coed o fudd gan fod coed yn effeithiol wrth amsugno llygrwyr aer ac mae cyfrifiannell yn bodoli i helpu ffermwyr i greu model o ba goed sy’n gweithio’n fwyaf effeithiol mewn amodau gwahanol a phellterau gwahanol o siediau anifeiliaid.
Yn gyffredinol, mae ymgorffori rhyw ffurf ar gynhyrchu porthiant o goed mewn systemau coed-borfeydd yn rhoi dewis gwahanol o borthiant ar fferm, ac os bydd yn cael ei wneud ar ei orau gall leihau costau porthiant a gall fod o bwysigrwydd cynyddol mewn tymhorau pan fydd tyfiant porfa yn anodd neu pan fydd prisiau porthiant a brynir i mewn yn cynyddu.
Ond beth mae’n ei olygu?
Gall systemau amaethgoedwigaeth gynnig llawer o enillion o ran gwasanaethau ecosystem ac yn y pen draw dros gyfnodau hwy awgrymir yn gyson eu bod yn darparu cynnydd mewn incwm mewn cymhariaeth â systemau cyfatebol heb goed. Mae hyn yn golygu y gall ffermwyr fod angen bod yn barod i chwarae’r gêm hir a meddwl yn ofalus am ba rywogaethau o goed fydd yn tyfu orau a neilltuo carbon orau mewn cymhariaeth â manteision cynhaeaf economaidd cynhyrchiol. Mae strategaethau cymysg yn dangos addewid, er enghraifft, cychwyn systemau fel coed-tir âr pan fydd coed iau yn cau llai o olau allan gan gael effaith fechan iawn ar y cnwd. Gall y systemau tyfu coed dilynol drosi i rai coed borfeydd ar ôl i gynnyrch y cnwd leihau oherwydd maint y coed a’r cysgod a gall y golled yn refeniw’r cnwd gael ei lliniaru yn rhannol o leiaf gan yr enillion o ran cynhyrchu anifeiliaid.
Awgrymwyd y gall y strategaethau canlynol ffynnu yn y Deyrnas Unedig gyda’r ddeddfwriaeth a’r gefnogaeth gywir. Gellid hefyd cyfuno dewisiadau o’r fath mewn systemau hyd yn oed yn fwy cymhleth;
- Coed-tir âr gyda grawn cymysg (i liniaru risg plâu ac afiechydon i un-grawn) ynghyd â choed sefydlogi nitrogen i leihau gofynion N synthetig a maeth arall o rywogaethau coed fel cnau (ar gyfer marchnadoedd nad ydynt yn bwyta cnau)
- Coed-borfeydd i wella lles anifeiliaid gyda choed yn cynhyrchu ategion at borthiant i ostwng costau cynhyrchu
- Systemau tyfu cnydau mewn perllannau (dim chwistrell) i gynhyrchu bwyd ochr yn ochr â deunydd maethol-fferyllol.
- ‘Coedwigaeth-amaeth-ynni’ a fyddai’n cynhyrchu ynni bio-adnewyddol ochr yn ochr â bwyd ar dir i atal y gwrthdaro rhwng yr adnoddau hyn – gall hefyd ymgorffori bwyd sy’n wastraff i gynhyrchu ynni adnewyddol ochr yn ochr â’r biomas pren
Nodyn – mae llawer o astudiaethau’n awgrymu bod angen cymhorthdal penodol i liniaru’r colledion economaidd sy’n gysylltiedig â phrosesu coed ar gyfer ynni mewn systemau Coedwigaeth-amaeth-ynni.
Ond mae ystyriaethau problematig yn ymwneud â throsglwyddo i amaethgoedwigaeth. Yn gyntaf mae’r meddylfryd o ran amaethyddiaeth a choedwigaeth fodern wedi bod yn un ungnwd i raddau helaeth, gan ei bod yn haws rhagweld tueddiadau tyfu yn hytrach na modelu systemau cymhleth rhywogaethau cymysg, rhwng-gnydau a systemau yn cyfuno coed a chnydau/anifeiliaid. Wrth gyfuno hyn â’r ffaith bod diffyg tystiolaeth am y costau ariannol, y risgiau a’r manteision sy’n gysylltiedig â throsglwyddo a daw lefel isel y trosglwyddo’n amlwg. Amlygodd rhai astudiaethau y gall amaethgoedwigaeth leihau cynnyrch cnwd a chynyddu effaith chwyn ac mae llawer yn defnyddio’r canfyddiadau hyn fel pwyslais negyddol allweddol wrth drosglwyddo a rheoli. Codwyd yr agwedd negyddol hon hefyd yn yr asesiad amaethgoedwigaeth gan UK ELM yn ddiweddar oedd yn awgrymu ystyriaeth waelodol gan ffermwyr bod amaethgoedwigaeth bob amser yn fwy niweidiol na llesol i weithrediadau fferm.
Mae daliadaeth tir tymor hir yn fater arall sy’n gallu effeithio ar y nifer sy’n troi at amaethgoedwigaeth gan fod ar y systemau angen amser i ddatblygu yn aml. O ystyried bod mwy na 35% o dir amaethyddol y Deyrnas Unedig yn gweithredu ar sail tenantiaeth gall hyn fod yn ffactor mawr i’w oresgyn a gall wthio mwy o ffermwyr i systemau lle mae’r trosiant yn gyflymach. Petai ffermwyr mewn systemau o’r fath yn ystyried amaethgoedwigaeth o gwbl byddant yn fwy tebygol o ffafrio dewisiadau biomas a phren sy’n tyfu’n gyflym, ac efallai na fydd hynny mor llesol o ran neilltuo C yn y tymor hir.
Crynodeb
Yn y Deyrnas Unedig mae’n ymddangos bod dealltwriaeth bod amaethgoedwigaeth yn offeryn rheoli tir pwysig at y dyfodol o ran rhannu tir a’r manteision amgylcheddol a bioamrywiaeth ymhlith eraill. Er bod y ddealltwriaeth yma’n glir mae’n glir hefyd y bydd angen i’r cynlluniau arfaethedig newydd fel y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yng Nghymru a’r ELM yn Lloegr, ystyried grantiau i gymell integreiddio cywir ar amaethgoedwigaeth ac yn bwysig, rhoi adnoddau i arwain a hyfforddi tirfeddianwyr a ffermwyr mewn maes lle na fydd ganddynt fawr o brofiad neu ychydig iawn ohono. Er y bydd bron bob system amaethgoedwigaeth yn cael budd o ffactorau bioamrywiaeth ac amgylcheddol, bydd dod o hyd i’r rhai sy’n gweithio’n dda yn economaidd o achos i achos yn allweddol i ddyfodol llwyddiannus y strategaeth hon. Mae ymchwil yn awgrymu bod hyn yn bosibl ond efallai y bydd angen ail-archwilio strategaethau a blaenoriaethau systemau tir.
Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk