10 Mawrth 2022

 

Dr Emma Davies: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Diffyg ffrwythlondeb yw un o’r ffactorau mwyaf arwyddocaol sy’n cyfyngu ar gynhyrchiant y diwydiant llaeth yn y Deyrnas Unedig.
  • Mae angen i ffermwyr weithio gyda'u milfeddyg i ddatblygu cynllun iechyd buches i ymgorffori dulliau canfod beichiogrwydd a diagnosis anffrwythlondeb. Bydd hyn yn sicrhau y gellir cymryd camau prydlon a phriodol.
  • Gallai canfod oestrws a beichiogrwydd yn gywir wella perfformiad atgenhedlu buchesi llaeth trwy wella cyfraddau cyfloi a lleihau’r bylchau rhwng lloeau.

 

Cyflwyniad

Gall ffrwythlondeb buchod gael effaith sylweddol ar berfformiad buches laeth o ran cynhyrchiant. Gall amrywiaeth o ffactorau ddylanwadu ar ffrwythlondeb buchod, gan gynnwys defnyddio strategaethau rheoli atgenhedlu. Fel y cyfryw, mae amrywiaeth eang o ddangosyddion perfformiad allweddol gwahanol y gellir eu defnyddio i fonitro ffrwythlondeb y fuches laeth. Er y gall union baramedrau’r dangosyddion hyn wahaniaethu yn ôl y math o fuches (e.e. lloea mewn bloc, lloea yn y gwanwyn, lloea trwy’r flwyddyn, buchesi dan do, buchesi allan, a buchesi o fridiau gwahanol), gall y data gael ei gasglu i greu meincnodau a gosod targedau ar gyfer buchesi o fathau tebyg. Er enghraifft, defnyddir y data o un astudiaeth a gasglodd ddangosyddion perfformiad allweddol 500 o fuchesi llaeth Holstein/Friesian gwahanol yn y Deyrnas Unedig fel meincnod ar gyfer buchesi llaeth eraill tebyg. Cynhwysir rhai enghreifftiau o’r dangosyddion perfformiad allweddol atgenhedlu a gofnodwyd yn 2020 ar gyfer y buchesi hyn yn Nhabl 1.

Mae llawer o ddangosyddion perfformiad atgenhedlu yn arwydd o gyfradd gyfloi buches. Ar gyfer y 500 o fuchesi a gynhwyswyd yn yr astudiaeth uchod, roedd y gyfradd gyfloi i’r fuches erbyn 100 diwrnod ar ôl lloea yn llai na 40% ar gyfer y fuches arferol, a 42% i’r 25% o fuchesi oedd yn perfformio orau. Gall cyfraddau cyfloi isel fel hyn gyfyngu’n sylweddol ar ffrwythlondeb buches a’i chynhyrchiant cyffredinol. Gall amrywiaeth eang o ffactorau gwahanol fel gallu genynnol, diffyg creu wyau, heintiadau ar y groth, mastitis, cloffni, a rheolaeth faethol wael achosi cyfraddau cyfloi gwael mewn buchod llaeth. Ond, mae cyfraddau cyfloi isel hefyd yn cael eu hachosi gan beidio â chanfod pryd y bydd buwch yn gofyn tarw a phryd y bydd yn gyflo, y ddau yn gallu arwain at amseru anaddas wrth roi tarw potel. Felly, mae canfod oestrws a beichiogrwydd cynnar yn gywir yn eithriadol o bwysig i helpu buchesi llaeth i fonitro a gwella eu ffrwythlondeb.

Wrth gwrs, wrth anelu i wella ffrwythlondeb, mae’n bwysig i ffermwyr weithio ochr yn ochr â’u milfeddyg a chynnal unrhyw strategaethau rheoli atgenhedlu yn unol â chyngor milfeddygol.

Tabl 1: Sampl o ddangosyddion perfformiad allweddol o 500 o fuchesi Holstein/Friesian y Deyrnas Unedig a fesurwyd yn 2020.

Dangosydd perfformiad allweddol

Buches (ganolrif) gyfartalog

Y 25% uchaf o fuchesi

Bwlch rhwng lloea â chael tarw tro cyntaf

80 diwrnod

70 diwrnod

% o fuchod wedi cael tarw erbyn diwrnod 80 ar ôl geni llo

60%

70%

% o fuchod wedi cyfloi erbyn diwrnod 100 ar ôl geni llo

36%

42%

% o fylchau rhwng tarw potel >50 diwrnod

21%

14%

Cyfradd cyfloi

35%

41%

Bwlch rhwng lloeau

400 diwrnod

388 diwrnod

Cyfradd waredu

28%

23%

 

Mae cyflawni’r perfformiad atgenhedlu gorau posibl yn allweddol ar gyfer llwyddiant buches laeth o ran cynhyrchiant yn gyffredinol.

 

Dulliau canfod beichiogrwydd

Y dull hynaf o ganfod beichiogrwydd yw archwiliad corfforol o’r ofarïau a’r groth trwy eu teimlo. Gall teimlad cyffyrddol ganfod beichiogrwydd mor gynnar â 35-42 diwrnod yn dilyn cael tarw potel, ond, mae teimlad cyffyrddol yn draddodiadol yn cael ei gynnal ddim cynt na 40-60 diwrnod ar ôl cyfloi. Y dull mwyaf cyffredin o ganfod beichiogrwydd yw archwiliad uwchsain o’r ofarïau a’r groth. Gall y dull hwn ganfod beichiogrwydd o 25 diwrnod ar ôl tarw potel, ond, mae cywirdeb y diagnosis beichiogrwydd yn cynyddu pan gynhelir archwiliad uwchsain 30 diwrnod ar ôl tarw potel. Yn ymarferol, fel arfer cynhelir yr archwiliad uwchsain 30-50 diwrnod ar ôl tarw potel. Yn ychwanegol at ganfod beichiogrwydd, gall archwiliadau uwchsain ddynodi sawl embryo sy’n bresennol ac amcangyfrif y cyfnod yn y beichiogrwydd, a thrwy hynny gynorthwyo i reoli pan fydd efeilliaid a beichiogrwydd pan nad yw’r union ddyddiad cyfloi yn hysbys. Er bod y ddau ddull yn rhoi canlyniadau ar unwaith, mae cywirdeb y dulliau hyn yng nghyfnod cynnar y beichiogrwydd yn dibynnu’n sylweddol ar sgil a phrofiad yr unigolyn sy’n eu cynnal.

Gall beichiogrwydd hefyd gael ei ganfod trwy lefelau progesteron, a fesurwyd o naill ai sampl gwaed neu laeth. Cynhyrchir progesteron o strwythur a ffurfiwyd yn yr ofari yn dilyn gollwng wyau, a elwir yn corpus luteum. Os bydd buwch yn feichiog bydd lefel y progesteron yn parhau yn uchel 21-24 diwrnod ar ôl tarw potel, gan fod y corpus luteum yn parhau yn gyfan i gynnal beichiogrwydd. Os na fydd buwch yn gyflo yna bydd ei lefel progesteron yn lleihau 21-24 diwrnod yn dilyn tarw potel, wrth i’r corpus luteum gilio ac i’r fuwch fynd yn ôl i ofyn tarw. Ond, wrth i lefelau progesteron amrywio trwy gydol cylch oestrws arferol y fuwch, cyfyngedig yw’r defnydd y gellir ei wneud o brogesteron i ganfod beichiogrwydd. Er y gall lefel progesteron isel 21-24 diwrnod ar ôl tarw potel ganfod buwch sydd heb gyfloi yn gywir, ni all lefel progesteron uchel 21-24 diwrnod ar ôl tarw potel ganfod buwch gyflo. Mae hyn oherwydd y gall ffactorau heblaw beichiogrwydd achosi i lefelau progesteron fod yn uchel. Er enghraifft, buchod â chylch oestrws estynedig, buchod sydd wedi cael tarw potel pan nad oeddynt yn gofyn tarw, a bydd buchod sy’n hwyr yn dod yn ôl i ofyn tarw oherwydd eu bod wedi colli embryo yn dangos lefelau progesteron uwch 21-24 diwrnod ar ôl tarw potel, gan arwain at ganlyniad prawf positif ffug. Adroddodd astudiaethau bod cywirdeb progesteron i ganfod beichiogrwydd rhwng 65 a 77 %. Felly, yn hytrach nag ar gyfer canfod beichiogrwydd, defnyddir profi progesteron yn aml i gadarnhau bod buwch yn gofyn tarw neu nad yw’n gyflo. 

Fel arall, gall beichiogrwydd gael ei ganfod trwy fesur lefelau protein B penodol i feichiogrwydd (PSPB) o sampl gwaed. Glycoprotein yw PSPB a gynhyrchir gan gelloedd yn nhroffectoderm yr embryo. Mae’r haen embryonig hon yn cysylltu ag epitheliwm y groth gan ei gwneud yn haws i’r brych gysylltu. Bydd y crynhoad o PSPB yn cynyddu mewn gwartheg o ddiwrnod 15 eu beichiogrwydd a gellir ei ddefnyddio i ganfod beichiogrwydd mor gynnar â 24-35 diwrnod ar ôl y tarw potel. Mae gan y dull hwn gyfradd sensitifrwydd 98% (y gallu i ddynodi buchod cyflo, h.y. gwir bositif), a chyfradd benodol o 97% (y gallu i ganfod buchod nad oedd yn gyflo, h.y. canlyniadau gwir negyddol). Mae profion gwaed PSPB ar gael yn fasnachol, ond mae angen unigolyn sydd wedi’i hyfforddi i gasglu samplau, a gall canlyniadau gymryd 2-3 diwrnod.

 

Pwysigrwydd canfod beichiogrwydd yn gynnar

Un o’r dulliau mwyaf cyffredin o ganfod oestrws mewn buchod llaeth, yw gweld yr ymddygiad gofyn tarw. Felly, pan fydd buwch wedi cael tarw potel, un o’r dulliau y mae ffermwyr yn eu defnyddio yn aml i asesu a yw’r fuwch wedi cyfloi yw gwylio i weld nad yw’n gofyn tarw, neu ei bod yn dal i ofyn tarw. Os bydd buwch yn dal i ofyn tarw ar ôl tarw potel, tybir yn aml nad yw wedi cyfloi, a’i bod ar fin cynhyrchu wy eto. O ganlyniad, bydd llawer o fuchod sy’n ymddangos fel eu bod yn gofyn tarw yn cael tarw potel eto.

Ond, gall dibynnu ar wylio os yw’r fuwch yn gofyn tarw yn unig, heb gadarnhau hynny trwy ddulliau canfod oestrws neu feichiogrwydd eraill fod yn niweidiol i ffrwythlondeb y fuwch. Mae hyn yn wir oherwydd bod hyd at 10% o fuchod cyflo yn ymddwyn fel petaent yn gofyn tarw o fewn 21 diwrnod i gyfloi. Mae’r ymddygiad hwnnw yn union yr un fath â’r hyn a welir mewn buchod heb gyfloi a gall gynnwys anesmwythyd, buchod yn neidio ar eu cefnau, neidio ar gefnau buchod eraill, neidio ar ben buchod eraill, neu sefyll yn llonydd i ofyn tarw.

Yn ychwanegol at fod yn ddrud yn ariannol, mae rhoi tarw potel i fuchod cyflo yn cynyddu’r gyfradd o golli embryo yn hwyr yn sylweddol sy’n digwydd rhwng 21-42 diwrnod i’r cyfnod beichiog. Cofnododd un astudiaeth y gall colli embryonau yn hwyr oherwydd rhoi tarw potel i fuchod cyflo fod mor uchel â 24%, sy’n sylweddol uwch na’r gyfradd arferol o golli beichiogrwydd yn sydyn yn yr un cyfnod, sy’n amrywio o 7-12%. Yn yr astudiaeth benodol hon, roedd colli embryo ar ôl rhoi tarw potel i fuchod cyflo yn cynyddu cyfartaledd y dyddiau rhwng geni llo a chyfloi o 106 i 157. Felly mae canfod beichiogrwydd yn gynnar yn bwysig iawn i leihau’r nifer o weithiau y rhoddir tarw potel yn ddiangen i fuchod cyflo ac i leihau’r nifer o embryonau a gollir.

Pan gânt eu cyfuno â chofnodion magu a mynd at y tarw, gall canfod beichiogrwydd yn gywir gynnig amcangyfrif o ddyddiad lloea’r fuwch. Gall hyn fod yn sail i arferion rheoli pwysig, gan gynnwys cychwyn y cyfnod sych, rheoli hyd y cyfnod sych a rheoli’r geni llo.

Mewn cyferbyniad, gall cael cadarnhad cynnar nad yw buwch yn gyflo roi cadarnhad bod angen tarw potel dro ar ôl tro. Os yw’r fuwch angen cael tarw potel eto, gellir rhoi blaenoriaeth i’r fuwch i wylio am oestrws. Fel arall, gall canlyniad beichiogrwydd negyddol cynnar fod yn sail i benderfyniadau rheoli tarw potel, fel penderfynu a fydd tarw potel llaeth neu bîff yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y tro nesaf, neu a fydd tarw byw yn cael ei ddefnyddio ar y fuwch yn naturiol.

Gall cadarnhad cynnar o beidio bod yn gyflo hefyd gynorthwyo wrth reoli buchod nad ydynt yn dangos unrhyw arwyddion o oestrws. Bydd diffyg ymddygiad oestrws, a elwir hefyd yn ofyn tarw tawel, yn gyffredin mewn heffrod a buchod sy’n cael tarw am y tro cyntaf. Mae hyn yn golygu y gall buwch sydd heb gyfloi fynd heb ei chanfod a gall cyfleoedd i’w chyfloi gael eu colli. Felly, gall cael cadarnhad cynnar o fethu cyfloi hefyd gael ei ddefnyddio i leihau’r bwlch rhwng rhoi tarw potel i anifeiliaid sydd ddim yn ymddangos fel pe baent yn gofyn tarw.

Felly, mae defnyddio prawf beichiogrwydd cynnar cywir yn eich galluogi i wneud penderfyniadau rheoli atgenhedlu i gynyddu cynhyrchiant trwy gynyddu cyfraddau cyfloi, gan eich galluogi i waredu anifeiliaid yn brydlon, a chynorthwyo i gynllunio stoc cyfnewid.

Mae profion beichiogrwydd yn offer pwysig i gadarnhau llwyddiant y tarw potel, oherwydd, er bod dychwelyd i ofyn tarw yn gyffredinol yn cael ei ystyried yn gadarnhad nad yw’n feichiog, fe all rhai buchod cyflo hefyd ddangos yr ymddygiad hwn.

 

Er y gall dulliau canfod beichiogrwydd cynnar wella rheolaeth ar atgenhedlu trwy leihau’r nifer o weithiau y rhoddir tarw potel, ni all dulliau fel teimlad cyffyrddol, archwiliadau uwchsain a lefelau progesteron ddim ond gwarantu statws beichiogrwydd ar adeg y diagnosis. Mae hyn yn golygu y gall diagnosis o feichiogrwydd cynnar gael ei ddrysu gan golli beichiogrwydd yn nes ymlaen. Mae’r gyfradd o golli beichiogrwydd yn uwch yn gynnar yn y beichiogrwydd ac yn lleihau wrth i’r beichiogrwydd fynd yn ei flaen. Mewn crynodeb o 14 astudiaeth, roedd y colli embryo hwyr rhwng dyddiau 27-50 ar ôl tarw potel yn 13% ar gyfartaledd. Felly, os defnyddir dulliau canfod beichiogrwydd cynnar, fel archwilio corfforol a lefelau progesteron, mae angen profion beichiogrwydd ychwanegol i ail-gadarnhau beichiogrwydd yn hwyrach yn y beichiogrwydd i ganfod os yw’r buchod wedi colli’r llo. Os bydd yr anifeiliaid hyn yn mynd heb eu canfod bydd yr amser rhwng geni llo a chyfloi yn cynyddu, gan gynyddu’r bwlch rhwng lloeau, a lleihau’r perfformiad atgenhedlu.

Gall profi beichiogrwydd yn nes ymlaen gael ei gynnal trwy, yn syml, ailadrodd unrhyw un o’r camau canfod beichiogrwydd hyn. Ond, adroddodd un astudiaeth oedd yn mesur y newid canrannol mewn lefelau PSPB rhwng 17 - 24 diwrnod ar ôl tarw potel bod lefelau isel o PSPB ar ddiwrnod 24 ar ôl y tarw potel yn rhagfynegi colli embryo erbyn diwrnod 60 ar ôl y tarw potel. Daeth yr astudiaeth i’r casgliad bod lefelau isel o PSPB ar yr adeg hon yn rhoi rhybudd i ffermwyr a milfeddygon am fuchod sydd mewn perygl o golli beichiogrwydd.

Heddiw, y dull mwyaf cyffredin o ganfod beichiogrwydd ar ffermydd llaeth yw archwiliad uwchsain, ac yna teimlad cyffyrddol, peidio mynd yn ôl i ofyn tarw, ac yn olaf profion progesteron a PSPB. Ond, mae ymchwil cynyddol i ddefnyddio profion PSPB ar ffermydd gan ymchwilwyr a ffermwyr fel ei gilydd. Yng Nghymru, roedd un prosiect Partneriaeth Arloesedd Ewropeaidd, yn cynnwys pedair fferm laeth, yn bwriadu cymharu defnyddio profi PSPB gydag archwiliad uwchsain i ganfod beichiogrwydd. Canfu’r prosiect bod cywirdeb profi PSPB ac archwiliad uwchsain yn debyg i’w gilydd. Roedd gan brofi PSPB ac archwiliad uwchsain gyfraddau sensitifrwydd o 94% a 95% (y gallu i ddynodi buchod cyflo, h.y., gwir gyfradd bositif) yn eu tro. Roedd gan brofi PSPB ac archwiliad uwchsain gyfraddau penodolrwydd o 87% a 86% (y gallu i ddynodi buchod nad ydynt yn gyflo, h.y., gwir negyddol) yn eu tro. Daeth y prosiect i’r casgliad bod canfod anffrwythlondeb yn gynnar yn arwain at ymgynghori â milfeddyg y fferm, gan hwyluso’r defnydd o driniaethau ffrwythlondeb priodol.

 

Crynodeb

Gall dulliau canfod beichiogrwydd yn gynnar gan gynnwys archwiliad corfforol a phrofi PSPB roi diagnosis cywir o feichiogrwydd. Er y gall lefelau uchel o brogesteron fod yn arwydd o feichiogrwydd, mae angen i lefelau progesteron gael eu monitro dros gyfnod estynedig o amser neu eu defnyddio ar y cyd â dulliau profi eraill i ganfod beichiogrwydd. I’r gwrthwyneb, gall lefelau progesteron isel ganfod buwch nad yw’n gyflo yn gywir a dangos pan fydd yn gofyn tarw, gan roi gwybodaeth am yr amser gorau i roi tarw potel. Os cânt eu defnyddio yn briodol, gall dulliau canfod beichiogrwydd yn gynnar wella cynhyrchiant a phroffidioldeb ffermydd llaeth trwy eu helpu i gyflawni’r meincnodau o ran perfformiad da wrth atgenhedlu.

 

Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Cnydau Porthiant ar gyfer Pesgi Ŵyn: Cnydau Bresych
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth