14 Gorffennaf 2021

 

Dr Cate Williams: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Gall lloia yn y nos achosi dipyn o straen i’r ffermwr a gall fod yn beryglus os yw’r fuwch yn cael anawsterau a bod gofyn ei chynorthwyo.
  • Mewn ymgais i leihau genedigaethau yn y nos, mae rhywfaint o ymchwil wedi cael llwyddiant gyda porthi gyda’r nos (oddeutu 16:00-20:00) a chyfyngu ar y mynediad i’r porthiant fore drannoeth.
  • Mae rhai astudiaethau yn adrodd bod hyd at 91% o anifeiliaid yn lloia yn ystod y dydd gan ddefnyddio’r dull hwn, tra bo eraill heb weld dim effaith o gwbl.
  • Ceir nifer o ddangosyddion ffisiolegol ac ymddygiadol pan fo lloia ar droed, er nad yw rhoi’r gorau i fwyta yn ddangosydd dibynadwy, gall gostyngiad yn y lefelau bwyta ddarogan yn ddibynadwy y bydd y fuwch yn lloia mewn 2 -24 awr.
  • Gallai camerâu a synwyryddion fod o help mawr i ragweld lloia, gyda mesuryddion cyflymu ar y gynffon yn ddibynadwy dros ben hyd at 3 awr cyn rhoi genedigaeth.

 

Gall adeg lloia roi llawer iawn o straen ar ffermwyr – oriau hir, nosweithiau di-gwsg, tywydd drwg a phroblemau lloia ymysg pethau eraill. Gall fod yn ddrud iawn defnyddio llafur a chontractwyr ychwanegol a gall hynny gael effaith sylweddol ar elw’r fferm. Mae lloia yn ystod y nos hefyd yn dod yn broblem pan fo’r buchod angen help – yr anhawster mwyaf yw pan fo’r llo yn rhy fawr, yn mynd yn sownd ac mae’n berygl iddo fygu. Ym muches laeth y Deyrnas Unedig mae oddeutu 16% o fuchod angen help i loia (oherwydd amrywiol broblemau posibl) a gall ffermwr medrus a phrofiadol roi’r cymorth hwn yn aml, ar y safle. Wrth gwrs, i gymhlethu pethau, mae’r ffermwyr hynny angen cwsg! Mewn ymgais i leihau’r anawsterau lloia nas gwelwyd a rhoi ychydig mwy o orffwys i ffermwyr, mae gwaith ymchwil wedi edrych ar ddulliau o leihau genedigaethau sy’n digwydd dros nos. Mae llawer yn tybio bod yn well gan anifeiliaid prae roi genedigaeth mewn tywyllwch er mwyn lleihau’r risg bod y fam a’i hepil yn cael eu hysglyfaethu. Fodd bynnag, nid oes dim tystiolaeth i gefnogi hyn, gydag astudiaethau yn awgrymu bod y rhan fwyaf o anifeiliaid, gan gynnwys gwartheg, yn dangos bod genedigaethau'n cael eu dosbarthu'n wastad gydol y dydd a'r nos. Yn hytrach, un o’r ffactorau pwysicaf sy’n effeithio ar amseriad genedigaeth yw trefn borthi y gellir ei newid i leihau nifer y buchod sy’n lloia dros nos

 

Allwn ni gael llai o fuchod i loia dros nos?

Mae’n bosibl mai’r dull y gwnaed y mwyaf o ymchwil iddo i ddylanwadu ar amser lloia yw amrywio’r amseroedd porthi, mae tystiolaeth anecdotaidd yn cefnogi’r ddamcaniaeth y bydd porthi gyda’r nos yn achosi i’r buchod loia yn ystod y dydd, ond mae arbrofion cyhoeddedig braidd yn brin. Mae’r un peth yn wir am astudiaethau sy’n edrych ar batrymau lloia, oherwydd bod llawer yn tybio bod anifeiliaid, yn enwedig rhywogaethau prae, yn rhoi genedigaeth yn y nos, dan orchudd y tywyllwch. Y ddamcaniaeth yw mai’r rheswm am hyn yw er mwyn lleihau’r risg bod y fam a’i hepil yn cael eu hysglyfaethu, neu mewn anifeiliaid domestig a dof, dyma’r amser lle ceir y lleiaf o weithgareddau dynol sy’n gallu cael eu hystyried fel bygythiad.  Fodd bynnag, nid ydym eto wedi cofnodi unrhyw batrwm amser cyson ar gyfer rhoi genedigaeth mewn unrhyw rywogaethau anifeiliaid cnoi cil ac mae’r rhan fwyaf o astudiaethau yn awgrymu bod genedigaethau fwy neu lai yn digwydd yn wastad ar draws y dydd a'r nos.

 

Y strategaeth a weithredwyd ac yr ymchwiliwyd yn fwyaf helaeth iddi i leihau genedigaethau lloi dros nos yw porthi’n hwyrach, fel arfer rhwng 18:00 a 20:00 ac yna cyfyngu ar eu mynediad i’r porthiant 12 awr yn ddiweddarach (06:00 – 08:00) bore drannoeth. Nid yw’r rheswm y tu ôl i’r peirianwaith hwn yn hysbys, ond ymysg y damcaniaethau y mae effaith cyfangiadau’r rwmen ar gyfangiadau’r groth a newidiadau mewn hormonau y mae bwyta yn eu hysgogi. Fe wnaeth un astudiaeth o’r 80au ymchwilio i’r effaith hon mewn 129 o fuchod a heffrod Holstein. Cynigiwyd dogn cymysg cyflawn (TMR) yn rhydd i’r grŵp rheoli a rhwystrwyd mynediad y grŵp arbrofol rhwng 08:00 and 20:00. Dangosodd y canlyniadau bod 62.5% o’r anifeiliaid rheoli a 67.6% o’r anifeiliaid a borthwyd gyda’r nos yn lloia yn ystod y dydd (06:00 i 18:00). Os yw diwrnod arferol ffermwr yn para o 05:00 i 21:00, roedd 82.8% o’r anifeiliaid rheoli ac 84.6% o’r anifeiliaid a borthwyd gyda’r nos yn lloia yn ystod y dydd. Drwyddo draw, ni chanfu'r astudiaeth effaith sylweddol y porthi ar yr amser lloia nac ar unrhyw baramedrau cysylltiedig ag iechyd a aseswyd, fodd bynnag, fe wnaeth y canlyniadau ddangos newid yn ymddygiad y fuwch ac addasiad yn y rhythm circadaidd yn ôl yr amser porthi.

Fodd bynnag, cymysg oedd y canlyniadau wrth brofi’r ddamcaniaeth hon. Mewn un papur, rhannwyd y gwartheg biff yn ddau grŵp, porthwyd un yn y bore (rhwng 06:00 ac 08:00) a’r llall gyda’r nos (16:00-18:00). Roedd y rhai a borthwyd yn y bore yn lloia gydol y dydd a’r nos, tra bod porthi gyda'r nos wedi arwain at fod 85% o'r fuches yn lloia yn ystod y dydd. Canfu’r astudiaeth hefyd fod buchod yn tueddu i loia ar adeg debyg o’r dydd o un flwyddyn i’r llall, fel arfer mewn ffenestr 4 awr, a hefyd mae’n ymddangos bod amser lloia heffer yn debyg i amser ei mam. Ar y llaw arall, ni welwyd effaith mor amlwg mewn arbrawf tebyg a ddefnyddiodd fuchod llaeth. Mewn un grŵp, porthwyd silwair gyda’r nos (17:00 - 20:00) ar ôl cyfnod o fod heb ddim, tra câi’r grŵp rheoli fwyta’n ad lib. Fe wnaeth cyfyngu ar fynediad i silwair arwain at fod ychydig yn llai o enedigaethau i’w cael dros nos o’i gymharu â’r rhai a oedd â mynediad ad-lib (18 a 22%, yn y drefn honno). Ond roedd gan y buchod a gâi fynediad cyfyngedig at fwyd ganran uwch o anawsterau lloia (11 o’i gymharu â 7%) a marw-enedigaethau (7 o’i gymharu â 5%) o’u cymharu â buchod yn y grŵp rheoli. Awgryma’r astudiaethau hyn y gallai porthi gyda’r nos arwain at fwy o enedigaethau yn ystod y dydd, ond nid yw’n glir eto pa mor fawr yw’r effaith hon.

 

Mae tystiolaeth anecdotaidd na chafodd ei hadolygu gan gymheiriaid na’i chyhoeddi yn cynnwys ymchwil gan ranshwr o America, Gus Konefal, a ddywedodd fod 80% o’i fuchod ef yn lloia rhwng 07:00 a 19:00 pan gaent eu porthi yn hwyrach yn y dydd. Sefydlwyd y dull hwn yn 1980, ac mae’n golygu porthi ddwywaith y dydd, y tro cyntaf rhwng 11:00 a 12:00 a’r ail waith 21:30-22:00. Fe wnaeth Prifysgol Talaith Iowa weithredu’r strategaeth hon gan ei haddasu i borthi unwaith y dydd am 16:00. Honnir bod y drefn hon yn arwain at fod 82% o'r buchod yn lloia yn ystod y dydd (rhwng 06:00 a 20:00). Fe wnaeth 91% loia pan gafodd y ‘dydd’ ei ymestyn i 05:00 - 23:00. Dywedir bod ymchwilwyr yn Adran Amaethyddiaeth America wedi cynnal astudiaeth tair blynedd yn gwerthuso effaith amser porthi ar loia, ond nid oedd y niferoedd mor ddramatig ag yn yr astudiaethau uchod. Gwelwyd gostyngiad cyson o 10-20% yn nifer y buchod a oedd yn lloia rhwng 22:00 a 06:00 ymysg y buchod a borthwyd yn hwyr o’u cymharu â rai a borthwyd yn gynharach. Er bod y dystiolaeth yn ymddangos ar-lein, nis cyhoeddwyd mewn fformat sydd wedi’i adolygu gan gymheiriaid, felly dylid ei thrin â gofal.

Byddai’n dda gwneud gwaith ymchwil pellach i ddulliau porthi i leihau amlder genedigaethau dros nos gan ddefnyddio samplau mwy, bridiau llaeth a biff a gwahanol ddietau er mwyn rhoi tystiolaeth fwy cadarn o’i effeithiolrwydd. Byddai hefyd yn ddefnyddiol cynnal treialon ar ffermydd i sicrhau bod yr effaith hon yn cario drosodd ac i asesu’r arbedion o ran amser (straen) a chostau i’r ffermwr.

 

Dangosyddion lloia cyffredinol

Cyn ac yn ystod lloia bydd buchod yn rhoi’r gorau i fwyta ac yfed, o bosibl fel ymateb i’r boen a/neu wrth i’r llo symud i’w leoliad a chywasgu’r rwmen. Gan eu bod yn bwyta llai, bydd llawer o fuchod yn dechrau llaetha mewn cyflwr o gydbwysedd egni negyddol (NEB) – gan ddefnyddio mwy o egni nag y maent yn ei gael. Mewn sefyllfa arferol, bydd y fuwch yn cywiro ei hun ac yn ailddechrau bwyta ac yfed drachefn ychydig ar ôl lloia, er bod NEB mewn rhai achosion yn gallu arwain at ddefnyddio braster wrth gefn y corff gan arwain at cetosis neu’r twymyn llaeth.  A siarad yn gyffredinol, gall peidio â bwyta gael ei ddefnyddio fel dangosydd lloia ar y cyd ag ymddygiadau eraill (e.e. crafu’r llawr, symud eu pwysau, codi a gorwedd neu godi ac ysgwyd eu cynffon) ac arwyddion ffisiolegol (magu pwrs, ymlacio gewynnau’r gynffon a’r pelfis a’r fylfa yn chwyddo).

Mae astudiaethau’n awgrymu bod gwartheg yn bwyta ac yn yfed llai oddeutu 2 awr cyn lloia a bod eu chwant bwyd yn dychwelyd oddeutu 6-12 awr ar ôl lloia. Arsylwyd bod gwartheg yn bwyta am 52% yn llai o amser 2 awr cyn lloia ac yn yfed 91% yn llai yn ystod yr un cyfnod. Gwelwyd gostyngiad llinol, gwastad yn yr amser y maent yn ei dreulio’n bwyta dros y 24 awr cyn lloia. Fodd bynnag, er eu bod yn bwyta am lawer llai o amser, nid yw buchod yn peidio â bwyta'n gyfan gwbl, sy’n awgrymu nad yw peidio â bwyta, ar ei ben ei hun, yn ddangosydd dibynadwy eu bod ar fin lloia, tra bod yr amser a dreuliant yn bwyta yn fwy cywir. Canfu rhai bod amser bwyta, amser cnoi cil a lefelau bwyta yn gallu dechrau lleihau mor gynnar â 3 wythnos cyn lloia, tra bod eraill yn dweud bod y gostyngiadau mwyaf arwyddocaol ac amlwg yn yr amser a dreuliant yn bwyta (66 mun ar gyfartaledd) yn digwydd 24 awr cyn lloia. Tra bod astudiaethau yn cefnogi’r honiad bod gostyngiad yn yr amser y mae’r fuwch yn ei dreulio’n bwyta yn arwydd o loia, pwysleisiant hefyd y ceir amrywiaeth mawr rhwng anifeiliaid unigol ac y dylid paru hyn ag ymddygiadau eraill er mwyn bod yn ddibynadwy. Nid yw’r rhesymau’n glir pam bod rhai gwartheg ddim ond yn rhoi’r gorau i fwyta’n rhannol ac yn anghyson cyn lloia, ond ar ôl i’r cwd amniotig dorri mae’n bosibl bod mwy o le yng ngheudod abdomenol y fuwch, gan wneud lle i'r rwmen ymestyn ac annog y fuwch i fwyta.

Mae perthynas waith dda ac adnabod anifeiliaid unigol yn y fuches yn hanfodol er mwyn adnabod ymddygiad annormal a allai fod yn arwydd eu bod yn lloia neu’n sâl. Dewis arall, wrth gwrs, yw defnyddio technolegau newydd – synwyryddion a chamerâu yn bennaf – i ganfod lloia’n awtomatig. Mae’r mesurydd cyflymu a osodir ar y gynffon, Moocall, wedi’i ddilysu drwy ddefnyddio profion annibynnol sy’n dangos nad oedd y ddyfais yn adrodd am ddim canlyniadau negyddol ffug a’i bod yn gallu darogan amser lloia yn gywir o fewn 24 awr, a dim ond ychydig bach yn llai penodol a sensitif y mae o fewn 3 awr. Gall dulliau eraill, er enghraifft, monitro tymheredd yn y wain hefyd ganfod lloia ond fod amrywiaeth eithaf sylweddol i'w gael gydol y dydd sy’n golygu bod angen monitro hyn yn barhaus i osgoi rhybuddion diachos. Er gallai’r buddsoddiad cychwynnol sydd ei angen i brynu’r cyfryw ddyfeisiau fod yn fawr, mae’n debygol y byddai’r arbedion mewn llafur a’r gallu i ymyrryd yn gynnar mewn genedigaethau anodd yn talu ar eu canfed yn y tymor hir.

 

Crynodeb

Mae’n bosibl nad yw’r dybiaeth gyffredin bod yn well gan anifeiliaid prae roi genedigaeth dros nos yn gywir, yn hytrach, mae’r llenyddiaeth wyddonol yn awgrymu y ceir, mewn anifeiliaid cnoi cil, ddosbarthiad gwastad o enedigaethau drwy’r dydd a’r nos. Er hynny, gall lloia yn y nos roi llawer o straen ar ffermwyr a risg i heffrod a buchod. Mae’n bosibl mai’r dull yr ymchwiliwyd iddo orau i leihau nifer y genedigaethau dros nos yw porthi buchod gyda’r nos, fel arfer tua 18:00-20:00 ac yna 12 awr yn ddiweddarach, gan gyfyngu ar eu mynediad i fwyd. Mae defnydd anecdotaidd o’r strategaeth hon wedi esgor ar ganlyniadau dramatig, gydag adroddiadau o 80-91% o fuchesi yn lloia yn ystod y dydd pan gânt eu bwydo yn ddiweddarach. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi nad yw’r data hwn wedi cael ei gyhoeddi na’i adolygu gan gymheiriaid, a bod y llenyddiaeth wyddonol yn cyflwyno stori dra gwahanol.  Canfu astudiaethau dueddiad llai dramatig ac amrywiol mewn ymateb i borthi gyda’r nos gyda rhai yn adrodd bod 85% o’r fuches yn lloia yn ystod y dydd tra bo eraill yn gweld dim effaith. Mae rhoi’r gorau i fwyta hefyd yn cael ei ddefnyddio fel dangosydd lloia ar y cyd â chiwiau ymddygiadol a chorfforol eraill. Mae’r llenyddiaeth yn cefnogi’r arsylwad hwn, gan gytuno bod yr amser bwyta a’r DMI yn lleihau yn yr amser cyn lloia, fodd bynnag, anaml iawn y gwelir gwartheg yn rhoi’r gorau i fwyta’n gyfan gwbl, ac mae hynny’n cymhlethu pethau. Ceir dadl hefyd ynglŷn â llinell amser y DMI gostyngol, dywed rhai bod y gwartheg yn bwyta llai dros 3 wythnos cyn geni’r lloi, tra bo eraill yn awgrymu bod y newidiadau’n digwydd yn y 2 awr olaf cyn lloia. Felly, mae’n bwysig adnabod y fuches a’u hymddygiadau arferol, yn ogystal â defnyddio amrywiaeth eang o ddangosyddion ymddygiadol a ffisiolegol i ragweld lloia. Gallai camerâu a dyfeisiau monitro lloia helpu i ganfod dechrau lloia, ysgafnu’r pwysau ar y ffermwr a gwneud y broses yn fwy dibynadwy, un esiampl boblogaidd o’r ddyfais ar y gynffon yw Moocall.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cynllun gwrthsefyll newid hinsawdd ar gyfer Busnesau Garddwriaeth yng Nghymru
Opsiynau amgen ar gyfer deunydd gorwedd i wartheg llaeth: Tail sych wedi’i ailgylchu
Dr Natalie Meades: IBERS, Aberystwyth University. Mawrth 2024 Mae
Cyfleoedd ar gyfer sefydlu gwerth tail a slyri a’u defnydd mewn economi gylchol
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Ebrill 2024