17 Mehefin 2019

 

Dr Peter Wootton – Beard RNutr: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Mae rhywogaethau newydd clwy tatws yn anochel, sy’n golygu bod angen ailystyried mesurau rheoli yn rheolaidd.
  • Mae cadw at arferion gorau ynghylch rheoli clwy tatws yn hanfodol er mwyn atal mathau newydd ymosodol rhag ymledu.
  • Mae argaeledd mathau o datws sy’n llai tueddol o ddal clwy tatws yn bosibilrwydd gwirioneddol yn y dyfodol agos, diolch i ddulliau ymchwil newydd.

Efallai bod cynhyrchwyr tatws eisoes yn gyfarwydd iawn â’r lliwiau a’r rhifau yn yr erthygl hon. Mae hynny oherwydd mai dyma’r enwau sydd wedi’u dynodi i fathau newydd ymosodol o Phytophthora infestans (Mont.), organeb sy’n debyg i ffwng (microorganebau oomycota mewn gwirionedd), sydd wedi’u canfod yn y DU ers 2005. Mae P. infestans yn achosi clwy tatws (yn hwyr yn y tymor tyfu), a bu methiant i’w reoli yn gyfrifol am ‘golli cnydau cyfan a’r dioddefaint a ddeilliodd o hynny’, digwyddiad sy’n fyw iawn yn y cof hanesyddol cyfunol. Bwriad yr erthygl hon yw cynnig diweddariad am statws y clefyd ac ymwrthedd amrywogaethol i fathau newydd ohono, yn ogystal ag adolygiad o fesurau rheoli effeithiol, a chrynodeb o’r ymchwil gwyddonol diweddaraf sy’n brwydro’r broblem. Gwelir hefyd bod clwy tatws cynnar, a achosir gan Alternaria solani neu Alternaria alternata, yn destun pryder cynyddol yn y DU ac yn Ewrop, ond mae ei ledaeniad yn llai dramatig, mae ei effaith ar ddail yn fwy na'r na’i effaith ar gloron, ac (ar hyn o bryd) mae’n llai niweidiol o safbwynt masnachol. Mae’r erthygl hon yn canolbwyntio ar glwy tatws hwyr, ond mae ffactorau’r risgiau a’r mesurau rheoli yn debyg. Mae rhagor o wybodaeth am glwy tatws cynnar ar gael gan AHDB

Nodweddir clwy tatws hwyr gan ddarnau a niwed lliw brown ar ddail, a chaiff ei ledaenu yn fwyaf cyffredin o ddail sydd wedi’i heintio trwy gyfrwng sborau a gaiff eu chwythu gan y gwynt, a gallant deithio pellteroedd maith os ceir yr amgylchiadau meteorolegol priodol. Clwy tatws hwyr sy’n ‘cyrraedd yn gynnar’ yw’r mwyaf dinistriol, oherwydd gall ladd y planhigyn cyn i unrhyw gloron ffurfio, a bydd hynny yn golygu na fydd unrhyw gynnyrch ar gael i’w gynaeafu. Bydd heintiadau neilltuol o ddramatig yn digwydd o dan amgylchiadau llaith oherwydd gall sborau sy’n glanio ar ddeilen wlyb ‘nofio’ dros y dail, ac felly, lledaenir y clwy yn gyflym iawn. Mae’r sborau hyn yn deillio o atgynhyrchu anrhywiol sy’n creu clonau o’r organeb wreiddiol. Fodd bynnag, mae P. infestans hefyd yn gallu atgenhedlu’n rhywiol pan fydd mathau A1 ac A2 yn ail-gyfuno ac yn cyfnewid DNA. Mae hyn yn arwain at greu öosytau mathau hybrid newydd a all oroesi yn y pridd am sawl blwyddyn. Mae’r gallu i atgenhedlu’n rhywiol yn golygu y bydd presenoldeb mathau newydd o P. infestans yn anochel os bydd mathau A1 ac A2 yn bresennol.

                           

deilen

Y sbotiau/niwed brown nodweddiadol a achosir gan Phytophthora infestans (Mont.).

 

Diweddariad ynghylch mathau o glwy tatws

Cyn 2005, roedd y rhan fwyaf o fathau o glwy tatws hwyr yn fathau A1. Byddai’r rhain yn heintio cnwd ac yna byddai clonau o sborau wedi’u hatgynhyrchu’n afrywiol yn cael eu rhyddhau, a byddent yn lledaenu ac yn heintio cnydau eraill. Roedd hyn yn golygu bod yr un organeb (neu glôn ohono o leiaf) yn bresennol mewn sawl man ble byddai achos o heintiad. Roedd rhywfaint o ymwrthedd i gemegau penodol yn y boblogaeth, ond gellid ei reoli gan ddefnyddio strategaeth dda i atal ymwrthedd. Roedd y ffaith bod y gelyn cyfarwydd hwn yn ymddangos yn rheolaidd yn golygu bod angen ei drin yn rheolaidd, ac roedd dewis cyfyngedig o ffwngleiddiaid ar gael y gwyddid eu bod yn effeithiol yn erbyn y math penodol hwn. Ers 2005 fodd bynnag, mae newidiadau sylweddol wedi digwydd yn y boblogaeth P. infestans yn y Deyrnas Unedig, yn bennaf oherwydd ymddangosiad mathau A2 sy’n paru, ac mae hynny wedi golygu y gall atgenhedlu rhywiol rhwng y ddau fath ddigwydd. Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, mae dau fath newydd pwysig o’r pathogen wedi ymddangos yn y DU a bellach, heintiau yn deillio o’r rhain yw’r rhai mwyaf mynych. 12_A2 (Glas 13) oedd y cyntaf i’w nodi ar raddfa fawr, ac mae’n debygol y teithiodd i’r DU o gyfandir Ewrop ble’r oedd eisoes wedi’i sefydlu. Ychydig wedyn, canfuwyd 6_A1 (Pinc 6), ac mae ei fynychder wedi cynyddu’n raddol. Yn ystod blynyddoedd diweddar mae mathau newydd yn cynnwys 37_A2 (Gwyrdd Tywyll 37) wedi’u canfod. Mae’r holl fathau newydd hyn yn neilltuol o ymosodol, yn bennaf oherwydd y ffaith eu bod wedi datblygu ymwrthedd i ffwngleiddiaid a ddefnyddir yn rheolaidd, trwy fwtaniad genetig. Mae Gwyrdd Tywyll 37 yn destun pryder penodol oherwydd mae’n ymddangos ei fod yn ymosod i’r un graddau ar y dail a’r cloron; nid oedd mathau blaenorol yn ymosod i’r un graddau ar gloron. Mae ymddangosiad y mathau newydd hyn, datblygiad eu hymwrthedd i ffwngleiddiaid, a natur anochel ymddangosiad mathau ychwanegol trwy atgenhedlu rhywiol yn golygu bod ar gynhyrchwyr angen strategaethau rheoli mwy trylwyr, ac efallai bod angen iddynt ystyried tyfu mathau newydd, neu fabwysiadu arferion newydd.

 

Ymwrthedd amrywogaethol a bridio

Mae ymddangosiad mathau newydd o P. infestans (yn enwedig y Glas 13 sy’n fwyaf cyffredin) wedi arwain at ailystyried gallu llawer o fathau o datws i wrthsefyll clwy tatws; yn flaenorol, roedd lefel ymwrthedd y tatws hyn yn 5 neu ragor. Mae hyn wedi achosi cur pen i dyfwyr; a ddylent dyfu mathau sy’n gallu gwrthsefyll clwy tatws, neu barhau i dyfu’r mathau hynny y bydd cwsmeriaid yn gofyn amdanynt ac sy’n gyfarwydd iddynt, ond sydd bellach yn fwy tueddol i gael y clwy? Yn benodol, ystyrir bod mathau cynnar o datws yn fwy tueddol o lawer i gael y clwy, ac er eu bod yn cael eu codi yn gyffredin cyn y cyfnod pan fydd y perygl o glwy tatws ar ei waethaf, gallent weithredu fel fector arwyddocaol i’r clefyd pe bai’n cyrraedd yn gynnar neu pe bai dulliau rheoli yn llai trylwyr.

O ran bridio, yr hyn sy’n allweddol yw nifer yr hyn a elwir yn enynnau R (gennau gwrthsefyll) sydd gan fathau o datws. Cyn 2005, roedd pwyslais gwaith bridio wedi newid i ddatblygu ymwrthedd rhannol yn unig, ac ar y cyd â’r mesurau rheoli priodol, ystyrid bod hynny’n ddigonol. Fodd bynnag, yn yr oes newydd hon, â bygythiad gelyn annaroganadwy, mae ymdrech o’r newydd yn digwydd i gynnwys rhagor o enynnau R mewn mathau newydd, ac ar yr un pryd, sicrhau cydbwysedd rhwng hynny â’r nodweddion dymunol sy’n gwneud i datws ragori ar eraill wrth eu coginio.  Mae’r teulu y mae ein tatws cyffredin yn perthyn iddo (Solanum) yn cynnwys 150 o rywogaethau sy’n cynhyrchu cloron, ac mae llawer ohonynt yn gallu gwrthsefyll clwy tatws ac yn cynnwys hyd at 11 o enynnau R. Dyna sy’n darparu’r gronfa o enynnau ble gellir canfod genynnau ymwrthedd ar gyfer mathau modern newydd. Mae dulliau bridio presennol yn ceisio canfod pa enynnau R sy’n cynnig mantais ymarferol wrth gynhyrchu tatws yn fasnachol.  

Mae gwyddonwyr wedi darganfod bod angen clystyrau o enynnau R i sicrhau ymwrthedd effeithiol a chynaliadwy, a bydd cynnwys genynnau unigol mewn mathau yn aml yn llai buddiol o safbwynt ymarferol. Mae’r clwstwr hwn yn dynwared sut bydd genynnau R yn gweithredu yn naturiol, ac mae’n cynrychioli strategaeth i’r dyfodol ar gyfer bridio tatws. Hyderir y gallai’r dull hwn arwain at leihad yn y defnydd o ffwngleiddiaid, a cholli llai o gynnyrch yn dilyn heintiad, pe gellid cynnwys y genynnau mewn mathau o datws heb eu gwerth o safbwynt coginio. Mae mathau newydd ar gael yn fasnachol sydd â genynnau R unigol o leiaf, megis Carolus, Alouette a Twister gan Agrico neu Sarpo Mira gan Danespo, y math sydd â’r sgôr ymwrthedd uchaf, ac un o’r ychydig fathau sydd wedi cynyddu ei sgôr ymwrthedd yn rhestr ddiwygiedig AHDB.   

 

Adolygiad o fesurau rheoli effeithiol a diweddariad am hynny

Nid yw mesurau rheoli effeithiol wedi newid llawer yn ystod degawdau diweddar, ond mae’r wybodaeth a ddefnyddir i wneud penderfyniadau am reoli wedi newid. Mae argaeledd sensoriaid, delweddau a dadansoddiadau o ddata yn benodol wedi sicrhau gwell dealltwriaeth o’r ffactorau risgiau sy’n gwaethygu perygl clwy tatws, gan arwain at gyngor mwy effeithiol a systemau rhybuddio cynnar gwell. Gellir rhannu mesurau rheoli yn dri phrif gategori, sef arferion rheoli, dulliau o rybuddio am risgiau a thriniaethau gweithredol.

 

Arferion rheoli

Nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysol, ond mae’n cwmpasu’r prosesau sylfaenol mwyaf allweddol a all helpu i leihau’r perygl o ledaenu’r clefyd.

  • safe haven 2
    Dewis mathau o datws hadyd a werthir â logo ‘Safe Haven’.
  • Dewis mathau sy’n cynnig ymwrthedd naturiol.
  • Dinistrio safleoedd gaeafu megis pentyrrau o datws eilradd.
  • Gorchuddio pentyrrau o datws eilradd â haen o bolythen du trwchus o leiaf.
  • Datblygu mesurau bioddiogelwch da i atal halogi damweiniol gan bobl megis tirmoniaid, contractwyr a gwirfoddolwyr.
  • Peidio â chadw tatws fel tatws hadyd, a sicrhau y caiff yr holl datws eu codi o’r pridd.
  • Ystyried sefydlu bylchau cylchdro cnydau sydd mor hir ag y bo modd, oherwydd, heb organeb letyol, fe wnaiff unrhyw heintiad yn y pridd farw yn y pen draw.

Ceir tystiolaeth anecdotaidd hefyd am rywfaint o lwyddiant wrth ddefnyddio arferion megis aryneilio rhesi o wahanol fathau sydd â gwahanol lefelau o ymwrthedd, gorchuddio i atal cloron rhag cael eu heintio, lleihau cyfanswm y dŵr sy’n cyffwrdd y dail (trwy dargedu dyfrhau at waelod rhesi) a llosgi unrhyw ddeunydd sydd uwchlaw’r ddaear yn llwyr ar ôl canfod heintiad, er mwyn amddiffyn y cloron.  

                       

tatw

Mae pentyrrau o datws eilradd yn ffynhonnell bwysig o heintiadau, a dylid eu dinistrio.

 

Dulliau o rybuddio am risgiau

Roedd yr amgylchiadau meteorolegol mwyaf ffafriol yn cael eu hadnabod fel ‘cyfnod Smith’ tan yn ddiweddar. Mae’r meini prawf i ddiffinio’r cyfnodau hyn wedi cael eu hailddiffinio, a bellach, gelwir hwy yn ‘Feini Prawf Hutton’, ar ôl Sefydliad James Hutton, ble cawsant eu datblygu (Tabl 1). Mae’n disgrifio ysbeidiau o dywydd cynnes, llaith, sy’n debygol o ddigwydd yn amlach yn sgîloherwydd effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.

 

Tabl 1: y cyfnod Smith blaenorol o’i gymharu â meini prawf ‘newydd’ Hutton

Blaenorol: Cyfnod Smith

 

Newydd! Meini prawf Hutton

 

 

Dau ddiwrnod olynol:

Dau ddiwrnod olynol:

  • Mae isafswm tymheredd y ddau ddiwrnod yn 10°C
  • Mae isafswm tymheredd y ddau ddiwrnod yn 10°C
  • Mae’r ddau ddiwrnod yn cynnwys o leiaf 11 awr â lefel lleithder cymharol o ≥ 90%
  • Mae’r ddau ddiwrnod yn cynnwys o leiaf 6 awr â lefel lleithder cymharol o ≥ 90%

 

Er nad ydynt yn berffaith, mae mabwysiadu Meini Prawf Hutton wedi arwain at rywfaint o welliant o ran canfod clwy tatws a rhoi gwybod amdano, ac mae’r ymchwil wedi cael ei droi yn becyn cymorth addas i ddefnyddwyr gan AHDB o’r new ‘Fight against Blight’. Mae blaengareddau newydd hefyd wedi cael eu datblygu i gynorthwyo i roi gwybod am achosion o glwy tatws a gwella systemau rhybuddion cynnar, yn cynnwys recriwtio ‘sgowtiaid clwy tatws’ gan chwaer wasanaeth AHDB, Blightwatch.  

 

Triniaethau gweithredol

Mae ffwngleiddiaid yn cael eu defnyddio’n effeithiol i atal heintiad ers blynyddoedd lawer, ond mae datblygiad ymwrthedd gan fathau newydd ac ymosodol o glwy tatws yn golygu y gallai newid y mathau o gemegau a ddefnyddir fod yn ofynnol. Fluazinam yw un o’r ffwngleiddiaid a ddefnyddir yn fwyaf cyffredin, ond efallai fod ei oes ddefnyddiol hefyd yn dirwyn i ben oherwydd ymwrthedd mathau newydd megis Gwyrdd Tywyll 37. Mewn enghraifft ychwanegol, mae Glas 13 wedi datblygu ymwrthedd i ffenalimidau. Y cyngor mwyaf mynych  ynghylch triniaethau gweithredol yw defnyddio cynnyrch ffwngleiddiaid sy’n cynnwys cymysgedd o gyfryngau sydd â nodweddion cemegol gwahanol, a chadw at argymhellion y gwneuthurwyr ynghylch ysbeidiau rhwng chwistrellu (e.e. Tabl 2). O ganlyniad i hynny, mae rhai mathau newydd o ffwngleiddiaid megis rhai sy’n cynnwys dithiocarbamad yn dod yn fwy poblogaidd. Yn ychwanegol, cynghorir cynhyrchwyr i wneud y canlynol:

  • Cychwyn rhaglenni chwistrellu cyn gynted ag y ceir rhybudd, a gwneud hynny yn unol â chyd-destun penodol y fferm (lefel y bygythiad i’r cnwd, glawiad, dyddiad plannu ac ati).
  • Defnyddio'r ffroenellau a’r offer chwistrellu priodol i wneud y defnydd gorau o ffwngleiddiaid. 
  • Defnyddio ysbeidiau effeithiol rhwng chwistrellu; argymhellir 7 diwrnod.
  • Peidio ceisio cynyddu’r ysbeidiau rhwng chwistrellu.
  • Ystyried chwistrellu ffwngleiddiaid a dysychwyr ar wahân; dylid chwistrellu ffwngleiddiaid 2-3 diwrnod wedi’r dysychwr i ganiatáu i ddail is a choesynnau planhigion gael eu trin.     

Tabl 2 – Enghraifft o argymhelliad ynghylch defnyddio ffwngleiddiaid gan Shailes, (2018)

Cynnar yn y Tymor

Canol y Tymor

Hwyr yn y Tymor

cymoxanil

oxathiapiprolin

fluopicolide

mancozeb

 

cyazofamid

benthiavalicarb

 

zoxamide

fluopicolide+ propamocarb

 

 

 

 

 

 

Y datblygiadau gwyddonol diweddaraf

Mae technoleg ‘Omic’ yn flaenllaw fel rhan o chwyldro gwyddonol sy’n ein galluogi i ddeall yn llawer manylach beth yw’r ffactorau sy’n arwain at y clefyd. Gan ddefnyddio’r technegau hyn, mae gwyddonwyr bellach yn gallu deall beth yn union sy’n gwneud tatws yn dueddol i gael glwy tatws. Pa fyddir wedi deall y broses hon, hyderir y gellir dileu’r tueddiad hwn trwy ddulliau genetig, neu dargedu mecanweithiau heintiau yn fwy manwl gywir gan ddefnyddio mesurau rheoli newydd a mwy effeithiol sy’n defnyddio cemegau a rhai heb gemegau. Mae’r ymchwil microbaidd diweddaraf yn cael ei arloesi gan wyddonwyr yn Sefydliad James Hutton, sy’n canolbwyntio ar gamau datblygiad yr haint, ac yn benodol ar lecyn yn y celloedd ble bydd yr organeb letyol (tatws) a’r pathogen (clwy tatws) yn rhyngweithio fwyaf; gelwir y llecyn hwn yn hawstoriwm. Yno, cyfnewidir moleciwlau sy’n arwain at ‘gyfarwyddiadau’ yn cael eu trosglwyddo i’r planhigyn sy’n dweud wrtho sut i ymateb, a bydd hynny’n caniatáu i’r pathogen ymosod. Hyderir y gall astudio’r cyfnewid hwn arwain at fecanweithiau sy’n blocio neu’n drysu’r cyfarwyddiadau hyn, gan sicrhau bod y planhigyn yn gallu gwrthsefyll ymosodiad yn well. Mae nifer o ddulliau newydd eraill yn cael eu datblygu, yn cynnwys defnyddio ffwngleiddiaid biolegol naturiol megis saponinau, y gellir eu harunigo o blanhigion cynhenid cyffredin megis eiddew, ac mae hynny’n cynnig dewis cynaliadwy arall yn lle’r ffwngleiddiaid presennol at y dyfodol.

                     

llun 2 0

Mae datblygiadau ym maes gwyddoniaeth, yn ogystal â datblygiadau technolegol, yn gwella dulliau o reoli clwy tatws.

 

Crynodeb

Mae clwy tatws cynnar a hwyr yn destun pryder cynyddol i gynhyrchwyr, yn sgîl y newid yn yr hinsawdd a’r newidiadau ym mhoblogaethau pathogenau’r clwy yn y DU. Yn achos clwy tatws hwyr, mae ymddangosiad mathau A2 o P. infestans sy’n paru yn golygu ei bod hi’n anochel y gwnaiff mathau newydd ac ymosodol ohono ymddangos. Felly, mae’n gynyddol bwysig sicrhau bod arferion rheoli yn cael eu hailystyried, ac os bydd angen hynny, eu diwygio, gan ystyried y bygythiad newydd o haint. Mae ymdrechion i reoli effeithiau clwy tatws yn cael eu cefnogi trwy ddatblygu mathau newydd o datws sy’n cynnwys genynnau ymwrthedd (R), heb golli nodweddion dymunol sy’n eu gwneud yn addas i’w defnyddio i goginio, a gan yr ymchwil diweddaraf ynghylch microbioleg y rhyngweithiadau rhwng planhigion a phathogenau, a maes o law, gall hynny gynnig arfau newydd i gynhyrchwyr i’w defnyddio yn y frwydr yn erbyn clwy tatws.  

Cliciwch yma i weld fersiwn PDF o'r erthygl hon. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr