Negeseuon i’w cofio:

  • Mae fermigompostio yn ffordd gyflymach o leihau gwastraff organig na chompostio traddodiadol.
  • Mae’n defnyddio pryfed genwair, neu fwydod, yn ogystal â bacteria i bydru gwastraff organig.
  • Gall y denyudd sy’n cael ei greu (fermigompost) fod yn wrtaith, neu gyflyrydd pridd, hynod effeithiol wrth ei ddefnyddio’n iawn.

Gall cynhyrchu gwastraff organig, neu wyrdd (sy'n cynnwys gwastraff bwyd, planhigion neu anifeiliaid, megis tail) fod yn broblem i fusnesau amaethyddol os nad yw'n cael ei reoli a'i ddefnyddio'n effeithiol.  Mae fermigompostio (a elwir weithiau’n abwydfa) yn gallu bod yn ffordd effeithiol a chyflym o drin gwastraff organig ac, yr un pryd, o ailgylchu adnoddau gwerthfawr megis maetholion.

Mae’r broses fermigompostio yn debyg i gompostio traddodiadol, mae gwastraff organig yn cael ei dorri i lawr drwy ei bydru'n fiolegol mewn awyrgylch aerobig i gynhyrchu gwrtaith organig sefydlog.  Ond, yn wahanol i gompositio, mae fermigompostio’n defnyddio pryfed genwair yn ogystal â micro-organebau i bydru gwastraff organig a hynny ynghynt.

Mae'r gwrtaith a’r cyflyrydd pridd a geir drwy fermigompostio yn ddeunydd llac, mae’n dal llawer o ddŵr ac yn llawn maetholion, ond mae’r gymhareb C:N yn isel.  Mae’n gallu bod yn wrtaith organig hynod o dda.  Dangososdd astudiaethau ei fod yr un mor effeithiol â gwrteithiau mwynau a’i fod, hefyd, yn gwella nodweddion ffisegol pridd.  Ar ben hynny, un o’i sgil effeithiau yw ei fod yn creu biomas mawr o bryfed genwair, sy’n gallu bod yn werth llawer o arian, ac felly o fudd i fusnes y fferm.

Mae’r pryfed genwair yn cael effaith ffisegol a biogemegol yn y broses fermigompostio.  Maen nhw’n malu deunydd organig drwy symudiadau eu cyrff.  Mae hynny, yn ei dro, yn troi ac yn awyru'r deunydd sy’n cynyddu gweithgaredd yr organebau microbig.  Mae’r pryfed genwair hefyd yn bwyta ac yn treulio’r deunydd organig gydag ensymau sy’n arwain at ailgylchu maetholion pwysig ar ffurf sy’n hawdd i blanhigion eu defnyddio. 

Effeithiau ar dyfiant planhigion:

Bydd faint o faetholion fydd mewn deunydd ar ôl ei fermigompostio’n dibynnu ar y deunydd crai gwreiddiol.  Ond, oherwydd gweithgaredd y pryfed genwair, mae yna, fel arfer, fwy o faetholion mewn fermigompost nag mewn compost traddodiadol.  Gall fermigompost hefyd wella strwythur ffisegol y pridd, mae’n ei lacio, mae dŵr yn treiddio drwyddo ynghynt, sy'n ei ddraenio'n well, ac mae’n ei awyru.  Gall hyn oll ei gwneud yn haws i wreiddiau dyfu ynddo.

 Mewn astudiaeth oedd yn ystyried y rhesymau pam fod gwreiddiau’n tyfu’n well mewn pridd oedd wedi derbyn fermigompost, gwelwyd fod y planhigion yn tyfu’n well ar ôl i’r pridd dderbyn fermigompost, waeth faint yn fwy o faetholion oedd ar gael.  Mewn geiriau eraill, mae’n debyg fod yna ffactorau neu nodweddion eraill sy’n gysylltiedig â fermigompost sy’n annog planhigion i dyfu, ar ben yr hyn y gellid ei ddisgwyl o ganlyniad i ragor o faetholion yn unig.  Mae hyn yn awgrymu y gallai gweithgaredd pryfed genwair gynyddu'r sylweddau sy'n gweithio'n fiolegol yn y fermicomposot, megis asidau humig.  Gall pryfed genwair hefyd reoli faint o elfennau hybrin neu fetelau trwm sy'n bresennol, wrth eu bwyta a'u cadw ym meinwe eu cyrff.  Gall  hyn fod yn niweidiol i’r pryfed genwair eu hunain, ond gallai fod yn llesol i blanhigion drwy leihau faint o’r rhain sy’n bresennol.

 Fodd bynnag, gallai defnyddio llawer iawn o fermigompost amharu ar dwf planhigion yn ogystal â'i gwneud yn anos i hadau egino.  Gallai hyn fod oherwydd, yn bennaf, bod llawer iawn o halen toddadwy ynddo, ond gallai hefyd fod yna sylweddau yn y fermigompost sy'n wenwynig i blanhigion.  Felly, mae'n bwysig ystyried faint o fermigompost ddylid ei daenu.

Ffeithiau i’w hystyried

Yn ogystal â bod yn ofalus ynghylch faint o halen toddadwy sydd ynddo a faint ddylid ei daenu, mae peth pryder ynghylch diogelwch fermigompost yn gyffredinol oherwydd nad yw, yn wahanol i gompost arferol, yn cynhyrchu gwres wrth bydru.  Gallai hyn olygu fod pathogenau’n goroesi, a allai fod yn hynod annerbyniol.  Mae ychydig o astudiaethau wedi dangos fod proses dreulio bwyd pryfed genwair yn gallu gostwng y pathogenau, ond gallai hyn fod yn ganlyniad dadleuol ac mae angen ei astudio ymhellach.  

Gall fermigompostio hefyd gynhyrchu llawer o nwyon tŷ gwydr a gallai hynny leihau ychydig ar fanteision amgylcheddol y broses.  Hefyd, gallai colli carbon a nitrogen yn ystod y broses gompostio ostwng gwerth amaethyddol y compost sy'n cael ei gynhyrchu.  Mae’n anodd iawn rhwystro nwyon rhag dianc i’r awyr (o leiaf heb fod ag adeilad a pheiriannau i'w dal), ond dangoswyd fod llai o garbon yn dianc wrth fermigompostio nag wrth gynhyrchu comopost arferol.  Mewn astudiaethau i geisio canfod sut y gellid lliniaru hyn (e.e. awyru, troi, ychwanegu tail da byw a phethau eraill), cynhennus ac aneglur oedd y canlyniadau a rheini’n aml yn gwrth ddweud ei gilydd.   

Sefydlu system fermigompostio

 Mae’n rhaid ystyried rhai ffactorau amgylcheddol i reoli system fermigompostio’n effeithiol.  Bydd yn rhaid i bryfed genwair gael digon o leithder i weithio, maen nhw'n anadlu drwy eu croen, a dylid cadw hyn ar tua 60-80%.  Mae tymheredd hefyd yn effeithio cryn dipyn ar weithgaredd pryfed genwair.  Os yw’n gostwng yn is na 10oC, bydd yna lai o atgynhyrchu a bydd y gyfradd fetabolaidd yn is.  Dylid hefyd awyru’r system, mae pryfed genwair angen ocsigen, a gwneir hynny fel arfer drwy droi â llaw.  Ond dylid gwneud hynny’n sensitif.  Nid yw pryfed genwair yn hoffi goleuni a gallai eu gadael yn y goleuni am yn hir beri niwed iddyn nhw.

Mae dewis y math iawn o bryfed genwair yn hynod o bwysig.  Mae’n rhaid i bryfed genwair sydd i'w defnyddio yn y broses fermigompostio fod â’r nodweddion canlynol: 1) gallu bwyta, treulio a chymhathu llawer iawn o fater organig, 2) gallu goddef llawer iawn o straen amgylcheddol, 3) gallu atgynhyrchu'n dda a 4) pryfed genwair yn tyfu ac yn aeddfeu'n gyflym.  O’r tri math o bryfed genwair, epigeig, endogeig ac aneceig, pryfed genwair epigeig, (rhai sy’n byw yn haen wyneb y pridd) yw’r rhai mwyaf addas ar gyfer fermigompostio; nhw sy'n byw yn haenau organig y pridd ac yn bwydo'n bennaf ar ddeunydd organig yn pydru.  

Mae’n rhaid hefyd ystyried natur y gwastraff organig a ddefnyddir.  Bydd cymhareb C:N y deunydd yn effeithio ar bryfed genwair pan fydd naill ai’n rhy uchel neu’n rhy isel, trwy ddylanwadu ar gyfraddau twf ac atgynhyrchu.  Mae pH y bwyd hefyd yn bwysig.  Er y gall pryfed genwair brosesu’r rhan fwyaf o ddenyddiau organig, efallai y bydd yn rhaid trin rhai mathau, megis rhai gyda pH o fwy na 5, gyda deunyddiau organig eraill.  Felly, mae’n rhaid ystyried pa ddeunyddiau sydd fwyaf addas.

Crynodeb

Mae’r system fermigompostio yn cynnig ffordd o ailgylchu maetholion sydd, yr un pryd, yn gallu ysgafnhau baich gwastraff amaethyddol a hefyd baratoi cynnyrch sy'n ychwanegu gwerth megis gwrtaith, cyflyfwr pridd a biomas pryfed genwair.

 Mae fermigompostio’n pydru gwastraff organig ynghynt na chompostio traddodiadol ac mae’n gallu trin llawer iawn o wastraff organig yn effeithiol.  Ond, mae rhai amheuon yn parhau ynghylch pa mor ddiogel yw ferigomposito.  Mae’n bosibl fod pathogenau’n gallu goroesi ac mae amheuaeth hefyd pa mor effeithiol ydyw fel gwrtaith neu gyflyrydd pridd gan ei fod yn cynnwys llawer iawn o halen toddadwy os yw'n cael ei daenu'n drwchus.  Mae angen rhagor o ymchwil i ystyried yr effeithiau hyn yn llawn. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr