Mae ffermwyr sy’n chwilio am gyfle i wella perfformiad eu diadell yn cael eu hannog i fanteisio ar y dechnoleg sydd ar gael trwy Ddyfais Adnabod Electronig (EID).

ta eid

Mae nifer o ffermwyr erbyn hyn wedi buddsoddi mewn technoleg EID er mwyn cydymffurfio gyda gofynion deddfwriaethol, ond yn ansicr ynglŷn â sut i'w ddefnyddio mewn ffyrdd eraill a all fod o fantais i'w busnesau.​

Mae Cyswllt Ffermio yn cynnal cyfres o sioeau teithiol EID yn ystod mis Chwefror, i helpu ffermwyr ddysgu mwy am sut i fanteisio ar botensial eu hoffer EID. Bydd ffermwyr yn gallu dod â'u hoffer EID i’r digwyddiadau a thrafod sut i gael y gorau ohono, neu i'r rhai sydd heb fuddsoddi yn y dechnoleg hyd yma, bydd cyfle i ddarganfod mwy.

Mae Sion Ifans a fydd yn cynorthwyo gyda’r sesiynau galw heibio, yn dweud bod defnyddio technoleg EID i fonitro gwybodaeth am ddiadell tu hwnt i ofynion cyfreithiol yn ddefnyddiol iawn i ffermwyr.

“Un o swyddogaethau sylfaenol y dechnoleg yw’r gallu i fonitro perfformiad,” meddai. “Mae cofnodi cynnydd pwysau byw (DLWG) ŵyn yn arbennig o ddefnyddiol, yn enwedig gan eich bod yn gallu gweld manteision yr wybodaeth ar ôl pwyso ddwywaith.

“Gall ffermwyr fonitro sut mae'r ŵyn yn perfformio a gwneud sawl penderfyniad yn seiliedig ar wybodaeth gywir a fu'n gymharol rwydd i'w gasglu. Os oes gan rai ohonynt gynnydd pwysau byw uchel, gallant benderfynu p’un ai y dylent eu gwthio i gyrraedd y lefel gywir, neu os oes gan anifail gynnydd pwysau byw isel, gallant eu tynnu allan a cheisio gweld pam nad ydynt yn perfformio. Weithiau mae gweld yr enillion wrth iddynt ddatblygu yn ddigon i sbarduno diddordeb i wneud mwy gyda’r dechnoleg.”

Gall EID hefyd gael ei ddefnyddio i gysylltu perfformiad ŵyn yn ôl i’r famog, gan alluogi ffermwyr i nodi anifeiliaid sy’n fwy addas ar gyfer eu system bridio, neu ochr fasnachol eu busnes.

Dywed Sion Ifans ei bod hi’n bwysig canolbwyntio ar ddau faes penodol wrth ddechrau cofnodi gwybodaeth gydag EID.

Ychwanegodd: “Weithiau mae ffermwyr yn cofnodi cymaint o wybodaeth nes eu bod yn cael eu llethu a’u bod yn ansicr beth i’w wneud gyda’r holl wybodaeth, felly mae’n well canolbwyntio ar un neu ddau beth. Byddant yn gallu manteisio mwy ar yr offer wedyn.

“Weithiau, mae’n helpu os oes rhywun o du allan i’r fenter ddefaid yn gallu edrych ar y ffigyrau ffisegol gyda nhw a nodi sut mae’n bosib gwella perfformiad diadell o ddata a gesglir gydag offer a meddalwedd EID."

Mae croeso i ffermwyr ddod ag unrhyw ddata a gasglwyd ganddynt gydag EID i’r sioeau teithiol i nodi’r data fyddai’n gallu bod fwyaf defnyddiol i’w busnesau.


Astudiaeth Achos
Geraint Jones, Barhedyn, Machynlleth

Mae Geraint Jones, Barhedyn, Melin Byrhedyn, Machynlleth yn ffermio mewn partneriaeth â’i frawd, Wyn a'i fam, Audrey, ac ers buddsoddi mewn offer EID flwyddyn yn ôl, maent wedi dechrau gweld manteision y dechnoleg yn sydyn iawn.

Wedi iddo ddechrau drwy gofnodi symudiadau defaid gydag EID, aeth Geraint yn ei flaen i gasglu pwysau ŵyn a data am ei famogiaid, ac mae bellach yn cofnodi data o 480 o'i 2,000 o ddefaid gyda ffon ddarllenydd sy’n cysylltu ag argraffydd ac i ap ar ei ffôn symudol, gan roi mynediad at y data yn syth.

Meddai: “Yn y gorffennol, roeddem yn cadw pwysau’r ŵyn mewn dyddiadur, ond nid oedd mor fanwl. Mae’r wybodaeth electroneg yn bendant werth ei gael gan ein bod yn gallu monitro'u perfformiad a sylwi ar unrhyw broblemau'n syth. Yna, gallwn wneud penderfyniadau'n seiliedig ar yr hyn sy'n digwydd o ddifrif, ac mae wedi cael gwared ar yr elfen o ddyfalu wrth fonitro perfformiad ein diadell.

Mae Geraint yn dweud nad oes angen bod ofn croesawu technoleg EID.

“Y peth mwyaf gyda'r dechnoleg yw'r elfen o ofn, ond pan fydd pobl yn gallu ei weld yn gweithio a pha mor rhwydd yw casglu'r data, mae'n agoriad llygad. Unwaith fyddwch chi’n fwy cyfarwydd gyda’r offer, mae’n dod yn dod yn naturiol.”

Mae hefyd yn awyddus i dawelu unrhyw bryderon ynglŷn â methiant y dechnoleg: “Roeddwn i’n bryderus am golli tagiau, ond nid yw wedi peri problemau mawr. Mae’r ffon ddarllenydd yn sydyn iawn, ac nid yw wedi methu unwaith, nac ychwaith y dechnoleg Bluetooth ar gyfer yr argraffydd. Mae’r argraffydd wedi methu unwaith, ond oherwydd nad oedd papur ynddo oedd hynny!”

Mae Geraint wedi cael ei ysbrydoli i wneud y gorau o'r manteision sydd ar gael gydag EID ac mae bellach wedi buddsoddi mewn meddalwedd cyfrifiadurol i gadw data mwy manwl am ei ddiadell, ac mae’n ystyried prynu darllenydd data llaw a chart pwyso electroneg a system ddethol.

 

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r erthygl yma 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr