Gall elw fferm ddirywio o ganlyniad i brisiau ynni, costau mewnbynnu a biliau tanwydd cynyddol, felly mae'r rhan fwyaf o ffermwyr erbyn hyn yn chwilio am ffyrdd i arbed arian yn y meysydd hyn. Mae llawer mwy yn symud tuag at ffermio carbon isel, a fydd nid yn unig yn gwella elw eu busnes, ond hefyd yn cynnig manteision amgylcheddol sylweddol.
Mae ffermio carbon isel yn anelu at leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a chynyddu effeithlonrwydd ynni. Yn ogystal â helpu i oresgyn newid hinsawdd, gall lleihau ôl-troed carbon fferm helpu i arbed arian ar filiau tanwydd a chyfyngu ar gynnydd mewn costau ynni, ac yn aml, gellir cyflawni hyn ar gost isel os nad yn rhad ac am ddim, gan barhau i gael effaith sylweddol ar berfformiad y busnes.
Meddai Jon Swain, uwch beiriannydd yn y Farm Energy Centre: “Mae gwella effeithlonrwydd ynni yn lawer mwy na modd i arbed arian yn unig. Mae effeithlonrwydd ynni da yn aml yn adlewyrchu arfer dda mewn ffermio hefyd."
“Ynni yw pŵer wedi'i luosi gydag amser, sy’n rhoi dau gyfle i arbed ynni - lleihau’r pŵer sydd ei angen i wneud tasg a/neu leihau’r amser sydd ei angen ar y pŵer hwnnw. Bydd diffodd pethau yn lleihau'r ynni a ddefnyddir yn syth.”
Mae goleuadau, pympiau a cherbydau yn cael eu gadael yn rhedeg yn ddiangen. Gall tractor gyda’i injan yn troi ddefnyddio hyd at ddau litr o ddisel mewn awr, felly gallai ei ddiffodd yn hytrach na’i adael mewn modd segur arbed arian heb effeithio ar berfformiad. Mae offer rheoli awtomatig hefyd yn ddefnyddiol, megis defnyddio swîts gydag amserydd a synhwyrydd goleuni i reoli goleuadau, sy’n costio cyn lleied â £50 yn ogystal â chostau gosod. Mae amrywiaeth eang o synwyryddion a systemau rheoli ar gael, a gellir rheoli rhai ohonynt gyda ffonau clyfar.
Ychwanegodd Jon: “Gallwch hefyd ddefnyddio eich ffôn i fesur ac i fonitro eich defnydd ynni gyda synwyryddion tanc neu fesuryddion trydan awtomatig. Dywedir yn aml, os na allwch ei fesur, ni allwch ei reoli, nac ychwaith gweld a oes pwrpas i’w wneud. Gall cymharu eich defnydd ynni presennol yn erbyn neithiwr, wythnos diwethaf, fis neu flwyddyn ddiwethaf ddangos yn syth p'un ai ydych chi'n gwella effeithlonrwydd ai peidio."
Mae ffermwyr hefyd yn cael eu hannog i chwilio am y fargen orau o ran ynni, gan fod prynu ynni'n rhatach yn ffordd dda o arbed arian heb newid unrhyw beth.
“Defnyddiwch frocer sydd â mynediad at amrywiaeth o gyflenwyr ynni a fydd yn gallu dod o hyd i un sy’n ymateb i’ch anghenion. Weithiau, nid y pris isaf yw'r fargen orau os yw'r gwasanaeth yn wael."
Gall lleihau teithio’n ddiangen rhwng caeau a ffermydd a defnyddio'r offer cywir hefyd helpu i arbed ynni. Mae defnyddio tractor o faint addas ar gyfer y dasg dan sylw yn ystyriaeth bwysig, yn ogystal â gweithio’r tractor ar lefel pŵer a chyflymder injan addas ar gyfer y gwaith. Bydd talu sylw at bwysedd aer yn y teiars, gwrthbwysau’r tractor a materion cynnal a chadw yn helpu i gadw’r biliau disel i lawr. Gall gor-bwmpio neu ddiffyg aer o 20% mewn teiars arwain at golledion o oddeutu 25% mewn effeithlonrwydd.
“Os oes gennych dasgau rheolaidd, byddai hyfforddi’r gyrrwr mewn technegau gyrru effeithlon werth y buddsoddiad. Gallech hyd yn oed gosod targedau iddynt gyda chymhelliant posib i’w anelu ato.”
Gall ffermwyr hefyd ystyried cynhyrchu eu hynni eu hunain trwy osod tyrbinau gwynt, paneli solar a threulwyr anaerobig. Yn ogystal â chyflenwi anghenion ynni’r fferm, gallant hefyd gynnig incwm ychwanegol os yw trydan dros ben yn cael ei werthu'n ôl i'r grid cenedlaethol.
Adolygiad Ynni Gelli Aur
Mae’n ofynnol i safleoedd arloesedd newydd Cyswllt Ffermio ymgymryd ag astudiaethau sylfaenol i amlinellu perfformiad mewn meysydd allweddol. Gwelodd adolygiad ynni a gwblhawyd ym mis Medi 2015 ar fferm Coleg Sir Gâr, sef Gelli Aur, Llandeilo, bod modd i’r uned 520 o wartheg ddod yn fwy effeithlon, er ei fod eisoes yn perfformio’n uwch na chyfartaledd ffermydd llaeth Cymreig eraill.
Byddai gosod uned adennill gwres bychan i gynhesu dŵr golchi’r tanc yn arbed £703 y flwyddyn mewn costau trydan, a byddai uwchraddio’r plât trawsnewidydd gwres i oeri’r llaeth ymhellach cyn cyrraedd y tanc yn arbed £941 y flwyddyn ac yn ad- dalu ymhen ychydig llai na blwyddyn. Hefyd, ni fyddai glanhau’r cywasgydd cyddwyso ar y tanciau llaeth o dro i dro yn costio dim, ac yn arbed £106 y flwyddyn ar bob tanc. Byddai gweithredu’r holl newidiadau hyn, gan gynnwys newid i’r tariff Ecnomy 7 isaf sydd ar gael yn arbed £7,063 y flwyddyn, neu 0.25 ceiniog am bob litr o laeth a gynhyrchir.
Roedd meysydd eraill dan sylw yn cynnwys ffyrdd o leihau defnydd disel a chasglu dŵr glaw oddi ar do sied i arbed £3,215 ar gostau prif gyflenwad dŵr presennol.