Mae gan Gymru botensial i ddatblygu diwydiant garddwriaeth sy’n ffynnu, ar yr amod ei fod yn gallu ymateb i’r her o ychwanegu gwerth at gynnyrch a dyfir yn lleol.

Er ei fod yn cynnwys nifer o nodweddion naturiol sy’n ffafriol i’r sector, dim ond 0.08% o holl dir amaethyddol Cymru sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer garddwriaeth.

Dywed Gareth Harrison, cydlynydd Âr a Garddwriaeth Cyswllt Ffermio “Rwy’n credu bod Cymru’n cynnig y rhan fwyaf o elfennau sylfaenol ar gyfer datblygu’r sector garddwriaeth - hinsawdd ffafriol, priddoedd ffrwythlon a’r galw gan ganolfannau poblog gerllaw. Yr her yw datblygu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer tyfu’n fasnachol, gwybod sut i addasu systemau cynhyrchu i dyfu cnydau’n broffidiol yng Nghymru a gallu ychwanegu gwerth er mwyn ymateb yn well i alw’r farchnad.”

Yn ôl Ystadegau Amaethyddol Cymru a gyhoeddir yn flynyddol, mae cyfanswm y tir a ddefnyddir ar gyfer gweithgareddau garddwriaeth (ac eithrio tyfu tatws) wedi cynyddu dros y pum mlynedd diwethaf, o 1301ha yn 2010 i 1599ha yn 2015. Mae cyfanswm y tir a ddefnyddir ar gyfer cynhyrchu llysiau yn gyfrifol am ran o’r twf hwn, gyda chynnydd o 394ha yn 2010 i 449ha yn 2015. Fodd bynnag, mae ffigyrau cynhyrchu’n dueddol o amrywio’n sylweddol o flwyddyn i flwyddyn.

Dros yr un cyfnod, mae cyfanswm y tir a ddefnyddir ar gyfer perllannau a ffrwythau bychain wedi cynyddu 16% i 734ha yng Nghymru. Mae perllannau a ffrwythau bychain yn gyfrifol am gyfran sylweddol uwch o ddefnydd tir garddwriaethol yng Nghymru o’i gymharu â gweddill y DU - 21% ar lefel DU o’i gymharu â 48% yng Nghymru.

Mae’n ddiddorol nodi bod yr arwynebedd dan orchudd gwydr neu blastig wedi lleihau’n gyson o 28ha i 29ha, er i 131ha ychwanegol o orchudd gwydr gael ei osod yn y DU rhwng 2013 a 2015. Mae cyfanswm y tir a ddefnyddir ar gyfer cynhyrchu tatws yng Nghymru wedi cynyddu’n raddol o 2056ha i 2775ha yn 2014, sy’n gynnydd wrth ystyried lleihad mewn ardal cnydau tatws ar lefel y DU dros yr un cyfnod.

Mae’r ffigyrau diweddaraf a gyhoeddwyd gan DEFRA yn dangos y cyfraniad pwysig a wneir gan ddiwydiant garddwriaeth y DU i’r economi. Yn 2014, llwyddodd llysiau a gynhyrchwyd yn y DU i sicrhau gwerth giât fferm o oddeutu £1.20biliwn, roedd ffrwythau’r DU werth £620miliwn ac roedd cnydau addurnol werth £1.17biliwn ychwanegol.

Fel y rhan fwyaf o gynnyrch fferm, gall gwerth cnydau garddwriaethol amrywio’n sylweddol o dymor i dymor oherwydd gofynion y farchnad. Yn 2014, gwelwyd lleihad o 8.5% mewn gwerth cnydau llysiau o’i gymharu â 2013, er gwaethaf cynnydd o 5.6% mewn cynhyrchiant. Fodd bynnag, gwelwyd cynnydd o 7.5% mewn cnydau ffrwythau rhwng 2013 a 2014 oherwydd galw cryf, cynnyrch da a thymor tyfu hirach. Gall rhannau gwahanol o’r sector garddwriaeth berfformio’n wahanol iawn ar yr un pryd, sy’n golygu bod angen i dyfwyr gadw llygad barcud ar y farchnad am unrhyw arwyddion cynnar o fygythiad neu gyfleoedd.

Gwelwyd cynnydd o 7.8% mewn gwerth llysiau a dyfir dan do yn y DU yn 2014, i £348miliwn, cynnydd o 40% ers 2005. Mae ffactorau megis tywydd cynnes a galw cynyddol am eitemau salad wed cael eu nodi fel prif resymau dros y cynnydd mewn gwerth.

Roedd 2014 yn flwyddyn arbennig ar gyfer cynhyrchu mefus (104,000t) a mafon (17,800t) yn y DU, ac fe arhosodd prisiau’n gymharol gryf ar gyfer y ddau gnwd.

Dywedodd Gareth y byddai’r galw am fwyd lleol yn hybu twf yn y sector garddwriaeth yng Nghymru.

“Dros y blynyddoedd, mae astudiaethau wedi dangos galw cynyddol am gynnyrch a dyfwyd yn lleol, a’r her felly yw ceisio canfod ffordd broffidiol i gyflenwi’r diwydiant bwyd - gwestai, siopau a llefydd bwyta gyda chynnyrch wedi’i dyfu yng Nghymru,” ychwanegodd. “Mae angen i dyfwyr y dyfodol ganolbwyntio ar gnydau sy’n uchel eu gwerth ac sy’n gymharol syml i’w tyfu, gyda chylchredau cynhyrchu byr a rhwydd. Mae salad deiliog a ffrwythau meddal yn enghreifftiau da os ellir cynaeafu cyfran tu allan i’r tymor er mwyn sicrhau gwell pris.”

Ledled Cymru, mae tyfwyr bychain arbenigol wedi ffurfio partneriaethau cyflenwi uniongyrchol gyda bwytai neu siopau, ac mae pob partner yn deall gofynion y llall. Gall rhai tyfwyr ddewis arbenigo gyda chynnyrch arbenigol megis tsili neu garlleg, a datblygu gwerthu ar-lein. Mae nifer o ddosbarthwyr llysiau ffres yng Nghymru hefyd yn edrych i wella eu dewisiadau lleol a gallant ddarparu ffordd effeithlon i’r farchnad ar gyfer rhai tyfwyr.

Mae enghreifftiau arloesol eraill o farchnata cynnyrch ffres yn cynnwys blychau arian ar giât y fferm a chynllun blychau llysiau. Yn ddiweddar, dechreuodd tyfwr llysiau o’r Alban ddefnyddio system arloesol ar gyfer gwerthu ei gynnyrch, sef cnydau gwraidd yn bennaf, mewn peiriant gwerthu wedi’i leoli mewn canolfan siopa brysur.

Mae garddwriaeth yn ddiwydiant arloesol a thechnolegol iawn ac er mwyn datblygu’r sector yng Nghymru, bydd angen buddsoddiad pellach a mwy o gydweithrediad.

“Mae rhannau o Gymru’n dangos tipyn o weithgaredd yn y sector, ond maent yn dal i fod yn fychan ac yn wasgaredig - mae angen i ni ddysgu mwy gan y bobl hynny sy’n llwyddiannus er mwyn gweld beth a ellir ei wneud,” meddai Mr Harrison. “Mae angen i ni hefyd ddysgu gwersi gan wledydd eraill sy’n ymddangos ymhell o’n blaenau ni.”

Mae’r Iseldiroedd yn arwain y byd o ran arloesedd garddwriaeth. Mae llawer o’r ymdrech bresennol yn yr Iseldiroedd yn canolbwyntio ar wella cynaliadwyedd y diwydiant, gyda datblygiadau sylweddol mewn diogelu cnydau, arbed ynni, defnyddio adnoddau adnewyddadwy megis solar a geothermol, a datblygu system dwˆr caeedig mewn tai gwydr.

Yma yng Nghymru, mae nifer o gyfleoedd ar gael ar gyfer tyfwyr newydd a phresennol. Yn seiliedig ar ymchwil i’r farchnad, mae cyfleoedd presennol ym maes garddwriaeth yn cynnwys cnydau mefus a mafon, cêl, asbaragws, salad deiliog, rhiwbob, perlysiau ffres a chnydau addurnol arbenigol.

Fel yn achos pob menter newydd, bydd angen ymchwil manwl i’r farchnad er mwyn canfod llwybr proffidiol i’r farchnad ac i ystyried beth ellir ei ychwanegu. Dylai’r amser sy’n cael ei dreulio’n datblygu brand cryf dalu ar ei ganfed trwy sicrhau bod y cwsmer yn deall yr hyn sy’n gwneud eich cynnyrch chi’n wahanol ac yn arbennig.

garddwriaeth yng nghymru

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r erthygl yma


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr