Dr Ruth Wonfor: IBERS, Prifysgol Aberystwyth


Y negeseuon i’w cofio:

  • Mae 50% o farwolaethau perchyll yn digwydd cyn eu diddyfnu yn y 3 diwrnod cyntaf ar ôl eu geni oherwydd diffyg bywiogrwydd a hyfywedd.
  • Gallwn wella’r gyfradd sy’n goroesi trwy wella arferion rheoli mewn systemau sy’n defnyddio cewyll geni a systemau rhydd.
  • Mae gwella pwysau’r perchyll wrth eu geni, a darparu gwres a maeth ar ôl eu geni yn hanfodol.
  • Ni all dim o hyn gael ei gyflawni heb wybodaeth a sgiliau stoc da.

Cyn diddyfnu yn tua chwe wythnos oed, gall cyfradd marwolaethau’r perchyll ar unedau bychain yng Nghymru fod mor uchel â 20%. Ystyrir bod hyn yn annerbyniol, pan fydd unedau moch effeithlon yn cyfyngu’r gyfradd farwolaeth i 12%. Bydd gan y 25% uchaf o unedau gamau yn eu lle i gyflawni cyfraddau colledion dan ddeg y cant. O’r holl farwolaethau yma, bydd 50% yn digwydd o fewn y 3 diwrnod cyntaf. Mae llawer o ffactorau sy’n cael effaith ar gyfraddau marwolaeth perchyll, ac ar y rhan fwyaf o unedau moch efallai mai’r ffactor fwyaf cyffredin yw perchyll yn cael eu gwasgu gan yr hwch. Wrth archwilio’r darlun yn gyffredinol, mae’n amlwg bod ffactorau mamol yn holl bwysig o ran y nifer o berchyll sy’n goroesi trwy gyfrannu at leihad ym mywiogrwydd a hyfywedd y perchyll, a fydd yn ei dro yn gwneud y mochyn bach yn fwy tebygol o gael ei wasgu.

Er mwyn deall sut y gallwn wella’r nifer o berchyll sy’n goroesi, rhaid cael dealltwriaeth o ymddygiad naturiol yr hwch o gwmpas yr amser geni perchyll ac o seicoleg y perchyll newydd eu geni. Yn oriau cyntaf eu bywydau, ni all perchyll reoli gwres eu cyrff eu hunain yn llwyddiannus trwy’r broses thermoreolaeth, oherwydd eu diffyg blew ac mai ychydig o ynni symud neu feinwe braster hanfodol sydd ganddynt i gynhyrchu gwres. Felly, mae perchyll sydd wedi eu gorchuddio mewn hylif wrth eu geni yn oeri yn gyflym ac yn agored iawn i hypothermia. Mewn system naturiol, byddai’r hwch yn gwneud nyth cyn geni, sy’n rhoi gwres ac yn atal y perchyll rhag colli gwres. Yn ein systemau cynhyrchu dwys, nid oes digon o ddeunydd ar gael i hychod greu nythod ac mae oerni’r lloriau yn oeri’r perchyll yn waeth. Hyd yn oed yn yr unedau sy’n gwneud y defnydd gorau o wellt wedi ei dorri, llwch lli neu fatiau rwber mae’r oeri yn cyfrannu at fwy o risg o ragor o broblemau fel llwgu neu afiechyd, gan arwain at ostyngiad yn eu nerth wrth symud ac felly yn eu gwneud yn fwy tebygol o gael eu gwasgu. Oherwydd eu bod yn oeri, mae perchyll yn dueddol o ddefnyddio eu mam fel ffynhonnell gwres ac yn gorwedd yn agos at ei phwrs/cadair, gan eu gwneud yn arbennig o agored i niwed wrth i’r hwch godi a hyd yn oed fwy felly pan fydd yn gorwedd. Gall perchyll fod yn cysgu heb ddeall bod yr hwch 250kg ar fin gorwedd. Mae sawl agwedd o’r rheolaeth gyffredinol a’r system eni moch y dylid eu rheoli yn briodol i leihau’r nifer o berchyll sy’n marw.

 

Bridio

Gellir anelu at fridio i weld y perchyll yn goroesi trwy naill ai ddewis ar gyfer gallu’r perchyll i oroesi neu o ran potensial mamol yr hwch. Mewn systemau dan do mae’n ymddangos yn haws dangos cynnydd trwy ddewis o ran yr hwch. Ond, rhaid nodi y bydd y systemau bridio ar gyfer systemau dan do neu yn yr awyr agored yn wahanol o ran y mochyn bach a’r hwch. Bydd systemau allan yn dewis bridio am y nodweddion mamol mewn hychod fel bod angen cyn lleied o fewnbwn â phosibl wrth eni perchyll.

 

Dan do – Cewyll geni moch neu eni moch yn rhydd

Yn y Deyrnas Unedig, mae 60% o hychod yn cael eu rheoli i eni perchyll dan do, gyda 96% o’r rheiny yn y cewyll geni moch. Bwriad y systemau cewyll yw lleihau’r nifer o berchyll sy’n cael eu gwasgu, ond fe ellir gweld oblygiadau o ran lles yr hwch. Yn ddiweddar dangoswyd cryn ddiddordeb mewn datblygu system eni moch rydd, sy’n bodloni anghenion yr hwch ac yn lleihau straen, diffyg cyfforddusrwydd a blinder, gan hefyd leihau’r nifer o berchyll sy’n marw. Mae corlannau wedi eu dylunio yn ddewis gwahanol i gewyll sy’n foddhaol, a bychan yw’r gwahaniaeth o ran cyfradd marwolaeth y perchyll. Un enghraifft o gorlan wedi ei dylunio yw PigSAFE, sydd wedi ei chynllunio yn benodol trwy ymchwil i ymddygiad a lles. Yn gyffredinol, y strategaethau rheoli gorau i wella cyfraddau marwolaeth perchyll mewn systemau dan do yw cynyddu pwysau’r moch wrth eu geni trwy fridio yn ofalus a gwella’r gwresogi, sy’n rhoi mwy o ynni i’r porchell symud o ffordd yr hwch. Gellir cael rhagor o wybodaeth am eni perchyll yn rhydd a manteision hynny i systemau cynhyrchu moch dan do yn www.freefarrowing.org/.

Er mwyn defnyddio system rydd i hychod, rhaid gwneud ymdrech i reoli eu hymddygiad mamol a sicrhau bod yr hychod mwyaf addas i’r system yn cael eu defnyddio. Dangosodd ymchwil cynnar ei bod yn bosibl dewis hesbinychod yn fwriadol i ddangos llai o duedd i wasgu mewn systemau yn yr awyr agored. Rhaid nodi y bydd gwahanol systemau cadw moch yn gofyn am fridio nodweddion gwahanol a dylid ystyried hyn yn y cynllun bridio ar gyfer cenfaint. Ar hyn o bryd mae Sainsburys yn ariannu prosiect gydag academyddion lles moch amlwg i bennu pa rai yw’r hychod gorau i’w cadw mewn corlan rydd sydd wedi ei dylunio yn ofalus i eni moch mewn modd sy’n addas i les y perchyll a’r hwch, a’u hanghenion o ran iechyd ac ymddygiad.

 

Maint y dorred a’u pwysau wrth eu geni

Mae dethol genynnol i gael mwy o berchyll i bob torred wedi cael oblygiadau o ran y nifer o foch sy’n goroesi a’u lles. Mae’r effaith cyntaf yn digwydd tra bydd y perchyll yn dal yn y groth, yn cystadlu am faeth a lle, sydd yn y pen draw yn lleihau eu pwysau wrth eu geni. Bydd torred fwy yn cymryd mwy o amser i’w geni sy’n cynyddu’r risg o hypothermia yn y perchyll. Bydd perchyll sy’n pwyso llai wrth eu geni yn cael problemau ar ôl eu geni, gan eu bod yn dueddol o oeri, cael eu gwasgu a llwgu. Felly, rhaid i strategaethau magu yn y dyfodol weithio gyda llinellau cynhyrchiol iawn i wella pwysau’r moch wrth eu geni. Nid yw trafodaeth ar effeithiau torred fawr ar iechyd a lles yr hwch o fewn cwmpas yr erthygl dechnegol hon, ond dylai hynny hefyd gael ei ystyried wrth fridio i gael y dorred fwyaf.

Mae nifer o atebion rheoli i ymdopi â thorllwythi mwy o faint. Yn gyntaf mae traws-faethu yn gweithio er mwyn cysoni nifer y perchyll ar draws nifer o hychod, boed hynny o ran y nifer i bob hwch, i sicrhau bod gan bob porchell deth, neu gysoni perchyll o ran rhyw neu gryfder, ymhlith nodweddion eraill. Fodd bynnag, rhaid sicrhau na fydd y perchyll yn cael eu symud yn rhy gynnar a cholli’r colostrwm, neu’n rhy hwyr a all gael effaith niweidiol ar les a lleihau cyfraddau tyfu. Dewis gwahanol i faethu yw defnyddio hwch fagu, a ddefnyddir yn aml mewn unedau moch dwys yn y Deyrnas Unedig a’r Iseldiroedd. Ond mae oblygiadau o ran lles i hychod sy’n maethu a hychod magu oherwydd y gwahanu a thuedd i ymosod yn y perchyll. Er mwyn atal symud perchyll rhwng hychod trwy ddefnyddio maethu, dewis arall yw rhannu’r sugno ar y diwrnod cyntaf.  Dylai’r dull hwn sicrhau bod yr holl berchyll yn cael colostrwm, er bod effeithiau negyddol posibl yn amlwg ar rai unedau. Yn olaf, gellir magu perchyll yn artiffisial o tua 3-7 diwrnod ar ôl eu geni a gall perchyll gwan neu dros ben gael eu magu gyda llaeth powdwr. Ond, mae’r canlyniadau yn gymysg o ran llwyddiant y strategaeth reoli hon mewn cymhariaeth â defnyddio system fwy naturiol.

 

Tymheredd y perchyll

Mae awr i ddwy awr ar ôl eu geni yn amser tyngedfennol i gynnal tymheredd cyrff y perchyll i wella cyfraddau goroesi. Mae gan berchyll sy’n cael eu geni yn pwyso llai dymheredd rhefrol is wrth eu geni a hefyd maent yn cynyddu eu pwysau yn arafach ac felly mae arnynt angen gwres ychwanegol yn y cyfnod hwn. Pan fyddant yn cael eu geni mewn ardaloedd gyda thymheredd dros 20oC mae cyfartaledd cynnydd pwysau dyddiol y perchyll ysgafn yn cynyddu, sydd mae’n debyg oherwydd eu bod yn gallu ailgyfeirio ynni oddi wrth gynhesu eu cyrff at dyfu. Ond, gall hychod brofi straen gwres os yw tymheredd yr ystafell yn rhy uchel, er ei bod yn ymddangos eu bod yn gallu dioddef yn well o gwmpas amser geni’r perchyll. Felly, awgrymir mai’r ateb gorau yw defnyddio tymheredd o 25oC wrth ddechrau geni perchyll, ond gostwng y tymheredd i 20oC ar ôl i’r porchell olaf gael ei eni.

Ymchwiliwyd i sawl dull o reoli tymheredd perchyll, fel: gwres pelydrol, gwresogi dan y llawr, sychu’r perchyll a defnyddio lamp wresogi a gwellt yn yr ardal lle bydd y perchyll yn cael eu geni. Dangosodd y cyfan effeithiau addawol trwy leihau’r gostyngiad cychwynnol mewn tymheredd rhefrol ar ôl geni a gwella’r amser cyn sugno am y tro cyntaf. Y 12 awr cyntaf yn dilyn geni’r perchyll yw’r cyfnod pwysicaf i ddefnyddio gwres a dylai gael ei ganolbwyntio o gwmpas yr hwch. Ar ôl 24 awr, mae’r moch bach yn mynd yn fwy annibynnol oddi ar y tethi ac yn defnyddio’r ardaloedd ymgripio. Wrth gymharu nifer o bethau i gynorthwyo gwres, gwelwyd mai defnyddio gwellt yw’r ateb gorau, cyn belled â’i fod yn cadw’n sych. Nid yn unig mae gwellt yn yr ardal eni yn helpu i atal hypothermia, ond mae hefyd yn helpu i gynyddu pwysau’r moch bach a lles yr hwch trwy ysgogi’r ymddygiad naturiol o greu nyth. Ond, bydd systemau sy’n defnyddio lloriau delltog yn ei chael yn anodd rhoi gwellt dan yr anifeiliaid, ac yna, gwres pelydrol yw’r dewis gorau. Dull sy’n gofyn am fwy o waith mewn systemau rhydd yw sychu pob porchell yn unigol a’u rhoi dan lamp wres ar ôl eu geni. Ond, amcangyfrifir bod hyn yn costio cyfartaledd o 2-3 awr o waith ychwanegol i bob torred. Byddai’n rhaid pennu mantais economaidd yr oriau ychwanegol yma yng nghyswllt graddfa’r fferm a phris y porchell, ond amcangyfrifir y byddai 19.5 o berchyll ychwanegol yn cael eu hachub rhwng criw o 30 o hychod. Trwy dreulio’r amser ychwanegol yma wrth eni, mae hefyd yn bosibl cynorthwyo mewn ffyrdd eraill fel rhoi perchyll yn nes at y pwrs/gadair i sugno colostrwm cyn gynted ag sy’n bosibl ar ôl eu geni. Mantais arall lamp wres liw yn hytrach na chornel wedi ei chau allan yw’r ffaith bod y perchyll yn cael eu tynnu at y golau yn ogystal â’r gwres. Yn wir, hyd yn oed pan fydd tymheredd yr ardal ymgripio yn cael ei ostwng dan 29oC ar ôl y dyddiau cyntaf, bydd perchyll yn dychwelyd at y golau.

 

Llwgu

Mae sugno colostrwm yn ystod 12 awr cyntaf oes y perchyll yn hanfodol. Mae rhagor o wybodaeth ar y pwnc hwn ar gael mewn erthygl dechnegol yn trafod defnyddio maeth da i berchyll oroesi [insert hyperlink to article over this].

Bydd perchyll yn cystadlu am deth yn oriau cyntaf eu hoes, a byddant yn dychwelyd yn gyson ati trwy gydol y cyfnod sugno. Ond, efallai na fydd nifer y tethi wedi cynyddu gyda maint y torllwythi, gan adael perchyll heb deth neu yn cystadlu am deth i’w rhannu. Ni ddylai moch benyw sy’n dod i mewn i’r genfaint gael eu dewis os oes ganddynt lai na 12-14 teth. Yn ystod y dyddiau cynnar, er bod llaeth ar gael yn y deth drwy’r amser, dim ond am ryw 30 eiliad bob awr y bydd llaeth yn cael ei ollwng, ac me’r perchyll yn dysgu sut i adnabod “gwahoddiad” yr hwch i sugno wrth eu teth eu hunain. Fodd bynnag, gan nad nad yw’r llaeth ar gael am gyfnodau hir ar y tro, bydd perchyll nad ydynt yn gallu cystadlu am le wrth y pwrs/cadair yn cael eu gadael i lwgu yn ystod y tri diwrnod cyntaf. Yn ddiweddarach, bydd y perchyll yn mwytho’r deth i annog y llaeth i gael ei ollwng sy’n cael ei reoli gan hormonau sy’n cael eu cynhyrchu gan yr hwch, sy’n cael eu hysgogi gan sugno.

 

Hwsmonaeth

Er bod llawer o’r camau a ddisgrifir yn offer rheoli hanfodol na all wella’r nifer o berchyll sy’n goroesi, mae eu defnyddio yn dibynnu ar ddefnyddio gwybodaeth wirioneddol a sgiliau stoc yn ardal eni’r uned. Gall gweithwyr profiadol wedi eu hyfforddi’n dda wella lles a chyfradd farwolaeth hychod a pherchyll yn ystod y cyfnod geni. Mae rhyngweithio priodol rhwng pobl â’r moch yn hanfodol. Gall gorymyrryd achosi straen i’r perchyll a’r hwch, ond os bydd y geni yn cael ei oruchwylio yn iawn a’r staff yn ymyrryd pan fydd angen yn unig yn y system, gellir gwella’r gyfradd oroesi i berchyll.

Mae maethiad yr hwch cyn geni ac wedyn a maethiad y perchyll newydd-anedig hyd at eu diddyfnu yn allweddol i wella cyfradd oroesi’r perchyll. Mae rhagor o wybodaeth ar y pwnc hwn ar gael mewn erthygl dechnegol - Gwella’r nifer o berchyll sy’n goroesi: dull maethol i’r hwch a’r perchyll.

Am wybodaeth fwy ymarferol am oroesiad perchyll, cyngor ar sut mae cyfraddau marwolaeth yn effeithio ar eich cenfaint a busnes a sut i wella eich system trwy Brotocol Blaenoriaeth Perchyll, dilynwch ein modwl e-ddysgu sy’n trafod goroesiad perchyll. 

 

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r erthygl yma 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr