Mae gan y planhigyn hwn sydd â gwreiddiau dwfn ac sy’n sefydlogi nitrogen ddail gyda chynnwys protein crai o 24% a gwerth egni metaboladwy o 12, gan ddarparu porfa o ansawdd uchel i ŵyn ar fferm Newton Farm, Aberhonddu, gan fod defaid yn pori’r dail yn bennaf yn hytrach na’r coesyn ffibrog o ansawdd is.
Yn ystod hafau poeth a sych yn ddiweddar, mae’r fferm wedi profi prinder porthiant.
Gyda thapwreiddiau o hyd at dri metr, sy’n gallu canfod lleithder a maetholion yn ddwfn yn y ddaear, mae maglys rhuddlas yn addas iawn ar gyfer yr amodau hyn, a gallai helpu i gau’r bwlch o ran porthiant.
Mae’r teulu Roderick hefyd yn y broses o newid eu system ddefaid, gyda chynlluniau i ŵyna mwy o ddefaid yn yr awyr agored ym mis Ebrill i leihau’r defnydd o ddwysfwyd a chostau porthiant.
Ym mis Mai a Mehefin 2024, fe wnaethant sefydlu ardal o 6.9 hectar (ha) ar draws dau gae heb fod yn bell o’r prif ddaliad.
Gwnaed hyn gyda chyllid gan ‘Gyllid Arbrofi’ Cyswllt Ffermio, menter sy’n darparu cyllid i unigolion a grwpiau o ffermwyr a thyfwyr yng Nghymru i arbrofi eu syniadau a’u gwireddu.
Er bod maglys rhuddlas yn cael ei ddefnyddio’n llwyddiannus gan ffermwyr defaid yn nwyrain Lloegr ac yn Seland Newydd, nid yw’n cael ei ddefnyddio mor gyffredin fel cnwd pori yng Nghymru, felly mae’r teulu Roderick eisiau gweld pa mor dda y byddai’n perfformio yn hinsawdd Cymru.
Mae maglys rhuddlas angen priddoedd dwfn sy’n draenio’n rhwydd, gyda pH o 6.0 o leiaf ar ddyfnder, felly ar ôl profi’r pridd, gwasgarwyd calch ar gyfradd o 5t/ha i godi’r lefelau cyn plannu.
Nid yw’n gallu goddef priddoedd trwm, dwrlawn nac asidedd.
Nid oes unrhyw chwynladdwyr dethol ar gael yn y DU ar hyn o bryd i’w defnyddio gyda maglys rhuddlas, felly gwasgarwyd chwynladdwr cyffredinol cyn sefydlu’r cnwd i ladd dail tafol.
Er mwyn cynyddu cynnyrch deunydd sych (DM) a darparu silwair cnwd llawn cyn pori, heuwyd rhywfaint o hadau haidd y gwanwyn a dyfwyd gartref o dan y cnwd.
Fe wnaeth yr arbenigwr glaswellt a phorthiant annibynnol, Francis Dunne, sy’n goruchwylio’r arbrawf, hefyd gynghori hau cnwd rhonwellt a meillion gwyn o dan y cnwd.
“Mae maglys rhuddlas yn gnwd agored iawn ac mewn ardaloedd o lawiad uchel, ceir risg sylweddol o botsio, sy’n gallu arwain at lawer o chwyn, yn enwedig glaswelltau chwyn, a dirywiad cynnar o ran cynnyrch.’’
Gan fod maglys rhuddlas yn sefydlu’n araf, mae dewis y glaswellt cywir i gyd-fynd â’r cnwd i’w atal rhag cael ei dagu’n bwysig; argymhellir rhywogaethau megis rhonwellt, peiswellt mawr a byswellt.
Heuwyd y maglys rhuddlas ar y gyfradd lawn a argymhellir sef 25kg/ha gyda 4 kg/ha o ronwellt a 2 kg/ha o feillion gwyn.
Dewisodd ddau fath o faglys rhuddlas - Luzelle sydd wedi cael ei fridio’n arbennig ar gyfer pori, ac Artemis, rhywogaeth ddyfalbarhaus a chynhyrchiol iawn.
Mae seilwaith planhigion Luzelle yn wahanol i fathau eraill, eglurodd Francis.
“Mae’n cynhyrchu llai o bosibl na’r mathau mwyaf cynhyrchiol, ond mae’n llawer mwy addas ar gyfer rheoli’r borfa.’’
Mae hyn oherwydd bod y goron yn eistedd yn fwy gwastad â’r tir ac mae’n cynhyrchu mwy o sbrigiau gyda llai o ffibr a mwy o brotein; mae ganddo hefyd lefel uchel o gysgadrwydd dros y gaeaf.
Gyda’r glaswelltau cyfatebol a chyfanswm cyfradd hadau o 31kg/ha, roedd y cae Luzelle yn costio £381.65/ha i sefydlu a’r cae Artemis yn costio £269.
Dywed Mr Dunne fod yr hadau’n anarferol o ddrud oherwydd heriau o ran argaeledd yn 2024.
Mewn blwyddyn arall, mae’n amcangyfrif y byddai gosod cyllideb o £250/ha ar gyfer y gymysgedd Luzelle, neu £219/ha ar gyfer maglys rhuddlas unigol yn agosach ati.
Cafodd yr hadau eu trin gyda rhisobiwm cyn hau gan fod maglys rhuddlas angen i’r bacteria hwn fod yn bresennol er mwyn sicrhau cnapiad llwyddiannus.
Roedd Mr Dunne hefyd yn cynghori y dylid rhoi triniaeth ffres i’r gymysgedd ar ddiwrnod hau’r hadau, gan ychwanegu £12/ha at y gost, gan fod rhai tyfwyr wedi profi methiannau yn y cnwd o ganlyniad i fethiant yn y driniaeth cyn hau.
Mae maglys rhuddlas yn sefydlu’n araf, gan gymryd 18 mis i gyrraedd ei botensial yn llawn, ac mae rheoli’r cnwd yn ystod y cyfnod sefydlu yn hanfodol.
Torrodd y teulu Roderick y ddau gae fel silwair cnwd cyflawn ar 11 Awst, gan roi ychwanegyn wrth gynaeafu i sicrhau eplesiad yn y byrnau silwair.
53 diwrnod ar ôl torri, ar 3 Hydref, cyflwynwyd 400 o ŵyn benyw gyda phwysau cyfartalog o 37kg i’r cnydau cyn y cyfnod hyrdda.
Mae’r maglys rhuddlas wedi’i sefydlu ochr yn ochr â chaeau pori parhaol er mwyn darparu ardal bori i gynorthwyo’r ŵyn i drosi i bori’r cnwd.
Cafodd y caeau eu rhannu’n badogau un hectar gyda phob padog yn cael ei bori am dri i bedwar diwrnod ar gyfartaledd.
Mae Mr Dunne yn disgrifio maglys rhuddlas fel cnwd o ddau hanner, gyda maeth o safon uchel yn y dail ond llai o faeth yn y coesynnau, felly mae ŵyn yn cnoi’r dail yn bennaf gan waredu’r coesynnau.
“Nid oes ots os nad yw’r coesynnau’n cael eu bwyta gan eu bod yn darparu ardal werdd i ganiatáu i’r planhigyn gyflawni’r broses ffotosynthesis a thyfu’’ meddai.
Dywed Tudor Roderick, sy’n ffermio gyda’i rieni, Richard a Helen, fod y maglys rhuddlas wedi perfformio’n dda.
Mae’n credu bod rhannu’r risg gyda gwahanol fathau o borthiant sy’n ymateb i wahanol amodau tywydd yn bwysig at y dyfodol.
“Os byddwn ni’n cael haf poeth a sych iawn, fel yn 2022 a 2023, bydd y maglys rhuddlas yn tyfu’n dda, ac yn ystod hafau lle nad yw’r amodau mor eithafol, bydd gweddill y fferm yn perfformio’n dda felly dylai hynny ganiatáu parhad o ran argaeledd bwyd.’’
Mae Tudor yn ddiolchgar am y cyfle a gynigiwyd gan y Cyllid Arbrofi i arbrofi gyda maglys rhuddlas dan amodau lleol.
Mae’n dweud bod potensial i’r arbrawf fod o fudd i ffermydd eraill yn y rhanbarth gan y bydd y canlyniadau’n cael eu rhannu’n eang gyda’r diwydiant.
Roedd yn rhaid i’r tywydd fod yn dda iawn ar y diwrnod pan gafodd y maglys rhuddlas ei silweirio.
“Mae’n hanfodol ei fod yn cael ei silweirio ar y diwrnod cywir, ac mae hynny’n gallu bod yn anodd mewn ardaloedd gyda glawiad uchel megis canolbarth Cymru,’’ meddai Mr Dunne.
Dyna un rheswm pam mae arbrofion fel yr un yma ar fferm Newton Farm yn bwysig, ychwanegodd.
“Mae angen i ni weld sut mae’r arbrawf hwn yn gweithio yn y lle cyntaf cyn i ffermydd eraill gydag amodau tebyg ddechrau ei dyfu.’’
Gall maglys rhuddlas bara am bum mlynedd.
“Os mae’r broses yn llwyddiannus, mae’n gallu cynnal lefelau cynhyrchiant, ond pan fydd ffermwyr yn methu, maen nhw’n dueddol o roi’r ffidil yn y to yn eithaf sydyn,” meddai Mr Dunne.
FFEITHIAU’R FFERM
344ha – hanner yn berchen iddynt, hanner ar denantiaeth busnes fferm
1,200 o famogiaid Miwl Suffolk a Romney croes ynghyd â 400 o ŵyn benyw wedi’u cadw
Ŵyn yn cael eu gwerthu i Kepak a Pilgrim’s UK
100 o wartheg Stabiliser a 20 o heffrod cyflo