Dr Saba Amir: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

  • Mae effeithlonrwydd defnyddio nitrogen ymysg anifeiliaid cnoi cil yn isel
  • Bwydo manwl, ansawdd porthiant, prosesu bwyd, newid o ryddhau nitrogen mewn wrin i ryddhau ar ffurf carthion a lleihau cyfanswm y deunydd organig y gellir ei eplesu sy’n cynnig y rhagolygon gorau ar gyfer lleihau ysgarthiad N
  • Gellir rheoli allyriadau methan o dail yn effeithiol drwy ei storio am gyfnod byrrach, sicrhau amodau aerobig a chasglu bionwy mewn amodau anaerobig
  • Mae allyriadau ocsid nitrus uniongyrchol neu anuniongyrchol yn anoddach i’w hatal unwaith y caiff nitrogen ei ysgarthu
  • Mae lliniaru colledion nitrogen ar un ffurf (e.e. amonia) yn aml yn cael ei wrthbwyso gan golledion nitrogen mewn ffurfiau eraill (e.e. ocsid nitrus neu nitradau). Mae angen deall yr effeithiau cyflyredig hyn wrth fabwysiadu arferion lliniaru.

Cyflwyniad

Trafodwyd pwysigrwydd lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o systemau amaeth da byw a strategaethau maeth i liniaru allyriadau methan enterig mewn anifeiliaid cnoi cil yn rhan 1 o’r erthygl dechnegol hon. Bydd y rhan hon yn canolbwyntio ar leihau allyriadau ocsid nitrus (N2O) trwy strategaethau maeth sy’n lleihau ysgarthiad nitrogen (N) a rheoli tail i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Fel y nodwyd yn rhan 1, mae potensial cynhesu byd eang N2O oddeutu 265 gwaith potensial carbon deuocsid, ond yn wahanol i fethan sy’n deillio’n bennaf o eplesu enterig, mae ffynonellau N2O yn gallu bod yn naturiol ac yn anthropogenig. Er bod amaethyddiaeth yn cyfrannu tua 68% o allyriadau ocsid nitrus y DU, nid yw’r cyfan yn deillio’n uniongyrchol o ffermio da byw.  Mae gwasgaru gwrteithiau N i wella cynnyrch a thwf cnydau yn ffynhonnell sylweddol o N ychwanegol. Mae N o ffynonellau da byw ar laswelltir yn cynnwys rhyddhau wrin a thail ar borfeydd a gwasgaru gwrtaith anifeiliaid (slyri a thail). O ystyried yr amrywiadau o ran rheoli gwrtaith, mewnbynnau tail, yn ogystal â gwahaniaethau mewn priddoedd, nid yw’n annisgwyl gweld llawer o ansicrwydd ynghylch union lefelau allyriadau N2O o systemau ffermio anifeiliaid cnoi cil, ac mae amcangyfrifon yn amrywio’n sylweddol. Fodd bynnag, mae potensial i N a ryddheir i’r amgylchedd ar ffurf amonia, deunitrogen, N2O, ocsid nitrus a nitradau neu sy’n cael ei drosi’n un o’r ffurfiau hyn gan facteria yn y pridd  effeithio’n negyddol ar ansawdd aer, pridd a dŵr. Am y rheswm hwn, mae’r ffocws ar anifeiliaid cnoi cil wedi cynyddu gan fod eu heffeithlonrwydd o ran defnyddio N (y gymhareb rhwng N yn y cynnyrch a chymeriant N) oddeutu 25% sy’n is nag anifeiliaid fferm unstumogaidd, ac mae gweddill yr N yn cael ei golli’n bennaf drwy wrin ac ysgarthion.

Strategaethau maeth i leihau ysgarthiad N

Gall diet effeithio’n sylweddol ar golledion N yn enwedig llwybr ysgarthu N mewn anifeiliaid cnoi cil (ysgarthion v wrin). Mae colledion N drwy wrin yn ffynhonnell bwysig o allyriadau N2O. Gall N a ryddheir mewn wrin gynrychioli mwy na hanner y colledion N mewn gwartheg godro. Mae N mewn wrin yn fwy agored i golledion N nag N mewn carthion. Mae oddeutu 60 – 90% o’r N sy’n cael ei ryddhau mewn wrin ar ffurf wrea. Mae wrea yn hydroleiddio’n gyflym i amonia wrth ddod i gysylltiad gyda phridd neu garthion. Amonia yw’r swbstrad i ficro-organebau aerobig gynhyrchu nitraid, nitrad a rhywfaint o N2O (proses a elwir yn ddad-nitreiddio). Nitradau yw’r swbstrad i ficro-organebau anaerobig gynhyrchu N a rhywfaint o N2O (proses a elwir yn ddad-nitreiddio). Yn ail, fel y nodwyd eisoes, mae effeithlonrwydd N ymysg anifeiliaid cnoi cil yn isel. Er bod  dwysau systemau ffermio llaeth wedi mynd law yn llaw â chynnydd mewn gwarged N drwy brotein crai (CP) i sicrhau’r cynhyrchiant llaeth a phrotein gorau, mae effeithlonrwydd N yn lleihau gyda chynnydd mewn cymeriant N yn y diet. Gyda chynnydd mewn cymeriant N, mae N mewn carthion yn cynyddu'n gyflym ac mae effeithlonrwydd N llaeth yn gostwng. Wrth leihau cymeriant N, mae cyfran yr N mewn carthion yn cynyddu a’r gyfran N mewn wrin yn gostwng. I’r gwrthwyneb, gyda chynnydd mewn protein dietegol, mae cyfraniad N mewn carthion yn lleihau ac mae rhyddhad N wrinol yn cynyddu’n gyflym i hyd at 60% o gymeriant N yn y diet. Mae’r gwahaniaethau mewn ymateb i ryddhau N mewn wrin i gynnydd mewn cymeriant N yn y diet o’i gymharu ag allbwn N mewn carthion yn cynnig cyfle i addasu’r diet i leihau ysgarthiad N.

 

Strategaethau maeth i leihau ysgarthiad N

Bwydo manwl

Yn gyffredinol, mae’n bosibl gostwng lefelau protein dietegol mewn diet anifeiliaid cnoi cil heb effeithio ar gynhyrchiant os maent yn cyfateb â gofynion yr anifail. Er enghraifft, roedd un astudiaeth yn adrodd bod bwydo diet uchel mewn protein i wartheg ar ddechrau’r cyfnod llaetha yn gwella perfformiad, ond nad oedd lleihau’r lefelau protein (o 173 g protein crai (CP) fesul kg o ddeunydd sych (DM) i 144 g CP/kg DM) yn effeithio ar berfformiad yn ystod ail hanner y cyfnod llaetha.

Mae anifeiliaid cnoi cil yn gallu ailgylchu N o’r gwaed, sef wrea-N yn bennaf, i’r rwmen ar gyfer synthesis protein microbaidd. Mae protein microbaidd hefyd yn ffynhonnell sylweddol o asidau amino a amsugnir i’r coluddyn bach. Gall anifeiliaid cnoi cil hefyd drosi N dietegol neu fewnraddol nad yw’n brotein i greu protein-N. Felly nid yw diet isel mewn protein yn effeithio’n andwyol ar y broses eplesu yn y rwmen os mae N wedi’i ailgylchu yn cymryd lle N o brotein yn y diet. Yn wir, pan fo lefelau protein yn y diet yn gostwng, mae wrea yn y gwaed yn cael ei ailgylchu i’r rwmen yn hytrach na chael ei ryddhau mewn wrin. Dylid sicrhau bod diet protein isel ar gyfer anifeiliaid cnoi cil yn gytbwys o ran protein sy’n cael ei ddiraddio yn y rwmen i atal effaith negyddol ar synthesis protein microbaidd a’r gallu i ddiraddio ffibr yn y rwmen. Caiff y strategaethau ar gyfer gwneud y gorau o brotein dietegol eu harchwilio’n fanwl mewn erthygl dechnegol a gyhoeddwyd yn flaenorol Pa mor isel allwch chi fynd? Pwysigrwydd protein i’r fuwch odro | Farming Connect (gov.wales)

Porthiant

Porthiant fel arfer yw’r brif ffynhonnell fwyd ar gyfer gwartheg. Mae’n bosibl lleihau faint o N sy’n cael ei ysgarthu drwy leihau cyfran y protein yn y porthiant a chynyddu’r carbohydradau. Mae cyfradd uwch o garbohydradau sy'n toddi mewn dŵr yn y porthiant yn achosi lleihad mewn cymeriant N ac N yn yr wrin, o ganlyniad i berthynas groes rhwng y siwgr a’r protein crai (CP) yn y porthiant. Felly, mae’n ymddangos bod effeithiau buddiol porthiant sy’n cynnwys mwy o garbohydradau sy’n toddi mewn dŵr yn digwydd o ganlyniad i fwy o gyflenwad egni yn y rwmen a llai o gymeriant N. Mae’n bosibl gwella’r gymhareb

carbohydradau sy’n toddi mewn dŵr a phrotein crai drwy leihau’r defnydd o wrtaith nitrogen, cynyddu bylchau rhwng pori, defnyddio cyltifarau dethol gyda lefel uchel o siwgr neu addasu cymeriant y borfa yn ôl patrymau dyddiol y carbohydradau sy’n toddi mewn dŵr a phrotein crai yn y planhigion. Er enghraifft, mae crynodiad carbohydradau sy’n toddi mewn dŵr o fewn glaswellt yn uwch pan fo'r haul yn machlud nag yn ystod y bore o ganlyniad i siwgr yn casglu yn ystod y broses photosynthesis. Yn ddamcaniaethol, byddai sicrhau bod cymeriant deunydd sych yr anifail ar ei uchaf pan fo’r haul yn machlud yn ei alluogi i wneud gwell defnydd o nitrogen.

Taninau

Ceir tystiolaeth fod ychwanegion tanin a phorthiant sy’n cynnwys tanin (a drafodwyd hefyd yn rhan 1 fel strategaeth i leihau allyriadau methan) yn gallu ailgyfeirio N a ryddheir o wrin i ysgarthion. Roedd un astudiaeth yn adrodd lleihad o 9.3% mewn nitrogen wrinol o ganlyniad i ychwanegu taninau Acacia mearnsii i ddiet defaid, ac roedd astudiaeth arall yn nodi lleihad o 25%. Gall newid y ffordd y caiff nitrogen ei ysgarthu o wrin i garthion drwy ychwanegu taninau neu borthiant sy’n cynnwys tanin i’r diet effeithio ar argaeledd N ar gyfer twf planhigion, a allai fod yn broblem sylweddol mewn systemau amaethyddol sy’n dibynnu ar dail yn unig fel ffynhonnell N ar gyfer twf planhigion. Mae hyn oherwydd bod cymhlygau tanin-N a ryddheir mewn carthion yn llai tebygol o ddiraddio yn y pridd.

Opsiynau rheoli tail er mwyn lleihau allyriadau methan a N2O

Mae’r tail sy’n casglu mewn siediau anifeiliaid, y broses o’i gasglu, storio, prosesu a’i wasgaru, yn ogystal â gollwng tail yn uniongyrchol ar y borfa, yn arwain at allyriadau methan, N2O ac amonia. Er nad yw amonia yn nwy tŷ gwydr, mae’n gallu arwain at allyriadau N2O anuniongyrchol. Mae methan yn cael ei gynhyrchu’n bennaf dan amodau anaerobig yn ystod y cyfnod storio, ac ychydig iawn ohono sy’n deillio o’i wasgaru ar y tir. Mae ocsid nitrus yn cael ei gynhyrchu’n uniongyrchol drwy weithgarwch microbaidd dan amodau aerobig neu anaerobig ac yn uniongyrchol pan fo N o dail yn cael ei golli trwy anweddiad ar ffurf amonia, ocsid nitraidd a nitrogen deuocsid.

Mae’r opsiynau canlynol ar gyfer lliniaru allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi cael eu hargymell mewn astudiaethau a gyhoeddwyd, ond dylid ystyried eu hymarferoldeb a chost eu gweithredu ar ffermydd.

Biohidlo

Mae’r dull hwn yn trin aer sy'n cael ei ryddhau drwy awyrdyllau mewn siediau anifeiliaid neu storfeydd tail drwy ddefnyddio sgwriwr biolegol i droi amonia yn nitradau neu’n welyau biolegol i amsugno amonia. Mae hefyd wedi cael ei ddefnyddio i leihau arogl. Gall casglu amonia yn y modd hwn leihau allyriadau N2O yn anuniongyrchol drwy leihau gwaddodiad amoniwm a’r trosiant i N2O. Roedd un astudiaeth yn adrodd bod lleithder rhwng 48 a 52% yn y cyfrwng biohidlo yn ffactor pwysig er mwyn sicrhau lleihad sylweddol mewn amonia a lleihau faint o N2O a gynhyrchir. Mae rhai astudiaethau wedi nodi bod biohidlyddion a ddefnyddir i sgwrio amonia o’r ffrydiau gwacau yn cynhyrchu N2O o ganlyniad i’r broses nitreiddio a dadnitreiddio yn y cyfrwng biohidlo. Felly dylid ystyried cynhyrchiant N2O mewn sgwrwyr biohidlo wrth gyflwyno systemau biohidlo ar gyfer lliniaru nwyon tŷ gwydr ac amonia.

Mae rhai astudiaethau wedi edrych ar ddefnyddio biohidlyddion fel strategaeth i liniaru methan, ond mae’r rhain yn bennaf ar systemau anifeiliaid unstumogaidd. Roedd astudiaeth gan Gyngor Porc Canada yn adrodd lleihad o 50 i 60%, gydag astudiaeth arall yn adrodd gostyngiad o hyd at 40% pan oedd aer halogedig uwchben storfa foch neu o siediau moch yn cael ei basio drwy system fiohidlo. Mae angen storio’r aer am gyfnod hir yn y systemau hyn gan fod lefel isel o hydoddedd a bio-ddiriadwyedd methan yn rhwystro effeithiolrwydd yr hidlyddion hyn.  

Storio tail

Gall allyriadau nwyon tŷ gwydr, methan a N2O yn ogystal ag amonia fod yn sylweddol wrth ei storio. Mae lleihau hyd y cyfnod storio tail yn un ffordd syml o osgoi allyriadau nwyon tŷ gwydr cronnus. Opsiwn arall yw gorchuddio’r storfeydd tail.

 

Mae nifer o wahanol fathau o orchuddion tail wedi cael eu trafod mewn llenyddiaeth, gydag enghreifftiau’n cynnwys gwellt, sglodion pren, clai wedi’i ymestyn, pren, a gorchuddion plastig lled-hydraidd a chaeedig. Mae effeithiolrwydd gorchudd storfa slyri yn ddibynnol ar sawl ffactor gan gynnwys trwch athreiddedd, pa mor ddiraddiadwy ydyw, mandylledd, a dulliau rheoli. Mae gorchuddion lled-hydraidd yn werthfawr ar gyfer lleihau amonia, methan ac arogl, ond mae’n bosibl na fyddent yn effeithiol o ran lleihau’r allyriadau nwyon tŷ gwydr net gan y gallant ddarparu amodau ar gyfer adweithiau sy’n arwain at ryddhau N2O. I’r gwrthwyneb, mae gorchuddion anathraidd yn arfer effeithiol os mae’r methan sy’n cael ei ddal o dan y gorchudd yn cael ei losgi i gynhyrchu trydan; fel arall, byddai’r methan yn adeiladu pwysau oddi mewn i’r storfa a chreu perygl o ffrwydro. Gall storio’r tail yn yr awyr agored dros y gaeaf i leihau’r tymheredd i <10 oC liniaru rhywfaint ar allyriadau methan.

Asideiddio tail

Un ffactor pwysig sy’n effeithio ar allyriadau nwyon tŷ gwydr o dail sy’n cael ei storio yw pH. Mewn un astudiaeth llwyddodd y broses o asideiddio tail gwartheg ffres a hen dail i  pH 5.5 gydag asid sylffwrig a’i storio am 3 mis i leihau allyriadau methan yn ddramatig gan 67-87% ynghyd â gwaredu allyriadau amonia bron yn gyfan gwbl. Gallai asideiddio fod yn arfer effeithiol ar gyfer lliniaru allyriadau nwyon tŷ gwydr, ac ni ddisgwylir iddo effeithio’n sylweddol ar gynhyrchiant cnydau. Mae lleihad mewn allyriadau ammonia yn awgrymu bod y tail bellach yn cynnwys mwy o nitrogen sydd ar gael i’r planhigion, gan olygu bod angen llai o dail wedi’i asideiddio fesul hectar er mwyn bodloni gofynion N y cnwd. Mae ystod pH tail wedi’i asideiddio o fewn yr ystod ddelfrydol ar gyfer india corn a nifer o gnydau grawn. Fodd bynnag, ni argymhellir ychwanegu tail wedi’i asideiddio i briddoedd wedi’u hasideiddio. Fel yn achos unrhyw gemegyn a ddefnyddir ar y fferm, mae’n bwysig dilyn y cyfarwyddiadau ar daflen ddata diogelwch y cynnyrch i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio’n gywir ac yn ddiogel.

Compostio

Mae compostio yn cynnig nifer o fuddion sy’n gysylltiedig â thrin a thrafod pwysau, rheoli arogl, lleithder tail a rheoli pathogenau, sefydlogi deunydd organig a phroffidioldeb y fferm. Prif fantais compostio yw ei fod yn lleihau allyriadau methan o’i gymharu â storio tail dan amodau anaerobig. Fodd bynnag, gan ddibynnu ar ddwysedd compostio, gall colledion amonia fod yn  uchel iawn gan gyrraedd hyd at 50% o gyfanswm nitrogen mewn tail.  

 

Yn yr un modd, mae awyru compost yn lleihau allyriadau methan, ond yn gallu cynyddu colledion amonia a N2O. Fodd bynnag, hyd yn oed yn y sefyllfa waethaf, mae’r cynnydd mewn allyriadau nitrogen yn fach iawn o’i gymharu â’r manteision sy’n gysylltiedig â lleilhau methan.

Treulio anaerobig

Mae treulio anaerobig yn broses lle mae deunydd organig yn cael ei ddiraddio gan facteria heb ocsigen gan gynhyrchu methan, CO2 a nwyon eraill fel sgil-gynhyrchion. Mae’n strategaeth addawol ar gyfer lleihau allyriadau methan o dail sy’n cael ei gasglu gan fod modd defnyddio methan fel ynni adnewyddadwy ar ffurf bionwy. Mae hefyd yn lleihau pathogenau ac arogl y tail.

Yn ystod y broses o dreulio anaerobig, mae cyfansoddion sy’n cynnwys N a geir mewn swbstradau megis protein, asidau amino ac wrea yn troi yn ammonia. Caiff yr amonia sy’n weddill yn yr hydoddiant dyfrllyd ei ddefnyddio fel gwrtaith ar gyfer cnydau pan gaiff y gweddillion treuliad anaerobig eu gwasgaru ar y tir.  Mae treulio anaerobig yn sefydlogi’r C organig yn y bwyd (gan leihau cyfran y C sy’n gallu diraddio’n hawdd mewn gwrteithiau), yn cynyddu argaeledd N yn y planhigion ac yn cynnig llai o egni i gefnogi twf micro-organebau sy’n ffurfio N2O, gan leihau’r potensial ar gyfer allyriadau N2O wrth ei wasgaru ar y tir. Mae mwneiddiad N organig ac asidau brasterog anweddol yn ystod y broses o dreulio anaerobig yn cynyddu pH y tail a’r N sydd ar gael, a allai hybu anweddiad amonia. Yn gyffredinol, mae defnyddio treulwyr anaerobig yn strategaeth a argymhellir yn gryf ar gyfer lliniaru methan, ond mae angen rheoli’n ofalus fel nad ydynt yn datblygu i fod yn allyrwyr methan net. Mae’n bosibl na fyddai mabwysiadu’r math hon o dechnoleg ar ffermydd o bob maint yn ymarferol ar raddfa eang, a bydd yn dibynnu’n helaeth ar gapasiti ariannol a thechnegol, amodau hinsaoddol ac argaeledd ffynonellau ynni amgen.

Gwasgaru tail

Mae allyriadau methan a N2O yn dilyn gwasgaru tail ar dir yn amrywiol iawn, ac yn dibynnu ar gyfansoddiad y tail, dull o wasgaru, math o bridd a rheolaeth, lleithder y pridd a’r hinsawdd. Mae gwanhau’r tail neu leihau’r C diraddiadwy drwy wahanu solidau a threulio anaerobig cyn gwasgaru yn opsiynau posibl ar gyfer lleihau allyriadau methan o dail sy’n cael ei wasgaru. Gan fod y cyfuniad hwn o driniaethau’n lleihau argaeledd C diraddiadwy, mae hefyd yn dueddol o leihau allyriadau N2O. Fodd bynnag, mae allyriadau methan a N2O sy’n deillio o chwistrellu tail i’r pridd yn isel ar y cyfan, ac felly dylid gwrthbwyso hynny gyda’r buddion yn gysylltiedig â lleihau anweddiad amonia wrth wasgaru tail.

 

Yn wahanol i CH4, mae mwyafrif y N2O yn cael ei gynhyrchu ar ôl i’r tail gael ei wasgaru ar y tir. Mae opsiynau lliniaru N2O ar gyfer gwasgaru tail yn cynnwys rheoli faint o N sydd ar gael ar gyfer nitreiddiad a dadnitreiddiad (lleihau faint o N sy’n cael ei ryddhau) ac argaeledd C diraddiadwy. Mae priddoedd gwlyb yn dueddol o hybu allyriadau N2O, felly mae amseru gwasgariad, e.e. osgoi gwasgaru yn ystod cyfnodau gwlyb neu ar briddoedd dwrlawn, yn hanfodol.

Atalwyr wreas a nitreiddiad

Gelwir ychwanegion cemegol sy’n atal prosesau microbaidd sy’na rwain at gynhyrchu N2O yn atalwyr nitreiddiad (NI), ac mae’r rhai sy’n atal wrea rhag torri i lawr i amoniwm yn cael eu galw’n atalwyr wreas (UI).

Gwelwyd fod atalwyr nitreiddiad (NI) yn lleihau faint o N2O a oedd yn cael ei allyru mewn systemau porfa dwys. Adroddwyd lleihad o hyd at 45% mewn astudiaeth yn Seland Newydd pan ychwanegwyd atalydd nitreiddiad (atalydd dicyandiamide) ar wahanol briddoedd. Mae effeithlonrwydd atalwyr nitreiddiad yn dibynnu’n bennaf ar dymheredd, lleithder a math o bridd. Dylid nodi bod atalwyr nitreiddiad yn gallu cynyddu amoniwm yn y pridd, ac felly mae’n bosibl y gallai gynyddu colledion ammonia. Mae’r rhain wedi profi’n effeithiol o ran lleihau allyriadau N2O mewn systemau dwys sy’n seiliedig ar y borfa.

Dim ond pan maent yn cael eu hychwanegu at wrin cyn iddo gael ei gymysgu â phridd neu garthion y mae atalwyr wreas (UI) yn effeithiol ac felly mae ei ddefnydd yn gyfyngedig iawn mewn systemau lle nad yw wrin a charthion yn cael eu gwahanu neu pan maent yn cael eu gwahanu ar ôl eu cymysgu. Mae atalwyr wreas y natal hydrolysis wrea i amoniwm, ac felly mae’n effeithio’n uniongyrchol ar argaeledd swbstradau ar gyfer anweddu amonia. Gan fod amoniwm yn ffynhonnell ar gyfer trwytholchi nitradau ac allyriadau N2O, disgwylir y bydd atal hydrolysis wrea yn effeithio ar bob un o’r tri llwybr tuag at golledion nitrogen mewn priddoedd, er nad yw hynny wedi cael ei weld yn gyson. Mae canlyniadau cyfuniad o ddefnyddio NI ac UI yn amhendant. Mae defnyddio atalwyr yn strategaeth addawol gyda buddion amgylcheddol amlwg, ond gallai arwain at gost ychwanegol i gynhyrchwyr.

Crynodeb

Danogswyd fod bwydo manwl a phorthiant sy’n cynnwys lefel uchel o garbohydradau sy’n toddi mewn dŵr yn cynnig potensial da o ran lleihau gollyngiadau N. Mae taninau neu borthiant sy’n cynnwys taninau ar y llaw arall yn symud colledion N o wrin i garthion. Mae lleihau faint o N sy’n cael ei ysgarthu a symud colledion N o wrin i garthion yn strategaethau effeithiol ar gyfer lliniaru allyriadau N2O o dail. Ymysg y nifer o fesurau sydd ar gael i reoli tail ar ddiwedd y broses, mae dulliau sy’n casglu methan megis biohidlo, neu ddulliau sy’n lleihau allyriadau methan yn ystod y cyfnod storio, er enghraifft treulio anaerobig, compostio a defnyddio atalwyr wreas neu nitreiddiad, yn opsiynau posibl. Mae lliniaru colledion nitrogen ar un ffurf (e.e. amonia) yn aml yn cael ei wrthbwyso gan golledion nitrogen mewn ffurfiau eraill (e.e. ocsid nitrus neu nitradau). Mae angen deall yr effeithiau cyflyredig hyn wrth fabwysiadu arferion lliniaru. Mae angen mwy o waith ymchwil i ddatblygu technegau ymarferol ac economaidd ymarferol y gellir eu rhoi ar waith.

Am ragor o fanylion, cysylltwch â Dr Saba Amir on 01970 823 213 neu e-bostiwch: saa143@aber.ac.uk. Neu, ewch i www.llyw.cymru/cyswlltffermio.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr