Llyngyr, neu nematodau (yn arbennig nematodau stumog-berfeddol - GIN), yw rhai o’r parasitiaid mwyaf cyffredin mewn defaid. Mae symptomau GIN mewn defaid yn amrywio gan ddibynnu ar y parasit sy’n bresennol, ond yn gyffredinol maent yn cynnwys ysgôth, colli pwysau yn ddifrifol ac anaemia. Mae achosion is glinigol yn dangos effaith niweidiol ar gynhyrchiant yn gyffredinol trwy ostyngiad yn y cynnydd pwysau byw dyddiol ac yn y pen draw mwy o ddyddiau i’w pesgi. Er mwyn rheoli heintiadau parasitig ar dda byw, defnyddiwyd ffisigau anthelmintig ers yr 1960au. Ond arweiniodd y defnydd eang o’r cyffuriau hyn at ddatblygu ymwrthedd eang a chyffredinol ac mewn rhai ardaloedd rydym yn gwybod bod y parasitiaid yn gallu gwrthsefyll nifer o gyffuriau. Dengys adroddiad o 2015 gan HCC bod ymwrthedd yng Nghymru wedi cynyddu mewn cymhariaeth ag astudiaethau a wnaed yn 2005. Yn ychwanegol, tanlinellodd modelu gwyddonol oedd yn ystyried newid hinsawdd ac ymddygiad y llyngyr, mewn hinsawdd dymherus, fel yr un yng Nghymru, y bydd y patrymau heintio tymhorol yn newid a bydd yr heintiadau blynyddol o lyngyr penodol yn cynyddu. Oherwydd hyn rhaid monitro GIN yn gyson ar ffermydd, yn ogystal ag effeithlonrwydd anthelmintig, i ddatblygu rhaglenni rheoli penodol i ffermydd. Yn ychwanegol, rhaid i strategaethau rheoli ar y fferm newid i ymestyn oes y ddau ddosbarth newydd o anthelmintig. Bydd y gwelliannau yma yn symud tuag at ddull mwy cynaliadwy o reoli llyngyr.

 

Beth yw ymwrthedd, sut y mae’n datblygu a sut y byddwn yn ei ganfod?

Pan fydd parasitiaid yn gallu goroesi triniaeth anthelmintig effeithiol fe’u gelwir yn rhai ag ymwrthedd. Yn anffodus, mae’r duedd yn un etifeddol ac felly mae’n trosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf o lyngyr. Mae llawer o arferion trin da byw presennol yn ffafrio meithrin ymwrthedd, sydd wedi cynyddu cyfradd ei ddatblygiad. Mae’r arferion hynny yn cynnwys trin y ddiadell gyfan dro ar ôl tro, yn arbennig pan nad oes unrhyw wybodaeth am effeithiolrwydd y cyffur a thrin mamogiaid o gwmpas amser ŵyna gydag anthelmintig sy’n gweithredu am gyfnod maith. Dangosodd astudiaethau diweddar  ffactor risg newydd trwy roi anthelmintig sy’n gweithredu am gyfnod maith i famogiaid 10 diwrnod cyn ŵyna, sy’n trosglwyddo i’r ŵyn trwy’r llaeth ar lefel therapiwtig is. Gellir canfod y cyffur yn serwm yr ŵyn gyda chrynhoad uwch nag un y fam hyd at ddau fis ar ôl y driniaeth. Mae hyn yn enghraifft berffaith o ffafrio meithrin gwrthedd, gan y bydd effaith y cyffur yn gallu lleihau’r baich o barasitiaid sy’n agored i’r cyffur, ond ddim y rhai sydd ag ymwrthedd, gan adael yr ŵyn â llyngyr sydd ag ymwrthedd. 

Mae’n hanfodol profi am ymwrthedd ar ffermydd fel bod arferion rheoli a thriniaethau yn cael eu seilio ar wybodaeth. Y dull mwyaf cyffredin yw’r prawf gostwng cyfrif wyau ysgarthol (FECRT) gan ddefnyddio dull McMaster. Os na fydd y cyfrif o wyau yn gostwng o fwy na 95% ar ôl y driniaeth, cymerir bod ymwrthedd yno. Ond mae cyfyngiadau ar y prawf, gan gynnwys llai o sensitifrwydd os yw’r baich o lyngyr yn isel. Mae dulliau newydd fel profion datblygiad larfae a’u symudiadau yn llai llafurus na FECRT ac yn caniatáu i fwy nag un cyffur gael ei brofi ar yr un pryd, ond nid ydynt ar gael ar gyfer yr holl ddosbarthiadau anthelmintig. Diagnosis ar foleciwlau yw’r prawf mwyaf cywir efallai i brofi am ymwrthedd trwy ddadansoddi genynnau neu fwtadiadau penodol sy’n dangos ymwrthedd. Ond, mae angen rhagor o waith i ddatblygu’r technegau newydd yma cyn iddynt gael eu defnyddio mewn rhaglenni monitro rheolaeth cynaliadwy ar ffermydd.

 

Newidiadau wrth reoli

 Er ei bod yn annhebygol y bydd rheoli nematodau yn digwydd heb ddefnyddio anthelmintig, mae nifer o arferion rheoli ar y fferm a all leihau’r angen amdanynt, heb unrhyw niwed i gynhyrchiant. Mae nifer o agweddau o safbwynt maeth yn cael eu cynnwys yn yr arferion hyn; bydd y rhain yn cael eu trafod mewn erthygl dechnegol gan Cyswllt Ffermio yn y dyfodol.

Yr arferiad cyffredin yw trin y ddiadell gyfan gydag anthelmintig, ond, mae’n fuddiol gadael cyfran heb eu trin i greu poblogaeth fach o barasitiaid syn gallu goroesi, neu refugia o barasitiaid sy’n agored i’r driniaeth ac nid dethol ar sail ymwrthedd yn unig. Er nad yw hyn yn atal ymwrthedd rhag datblygu, mae yn ei arafu trwy sicrhau na fydd y llyngyr gydag ymwrthedd yn dominyddu yn y boblogaeth. Defnyddir dau ddull i greu refugia: triniaeth wedi ei thargedu, sy’n trin y ddiadell gyfan ar amseroedd penodol, fel diddyfnu neu pan fydd nifer yr wyau yn codi’n uwch na’r waelodlin. Ond, bydd datblygu’r system hon yn gofyn am wybodaeth fanwl am y fferm ei hun a lefelau addas i’r gwaelodlinau ar gyfer paramedrau fel y cyfrif wyau ysgarthol yn y ddiadell. Mae triniaeth ddewisol wedi’i thargedu yn trin anifeiliaid unigol ar sail paramedr gosodedig, a fydd yn golygu na fydd rhai anifeiliaid yn cael eu trin. Fel arfer mae’r paramedrau yn gysylltiedig â chynhyrchiant, e.e. cynnydd mewn pwysau; neu newidiadau yn gysylltiedig â’r heintiad, e.e. Cyfrif Wyau Ysgarthol. Mae’r ddau ddull yn lleihau’r defnydd o anthelmintigau, heb niweidio’r cynnydd pwysau dyddiol a’r dyddiau i’w pesgi. Trwy system triniaeth wedi ei thargedu, roedd yr arbedion yn gysylltiedig â’r gostyngiad mewn anthelmintigau tua £660 y flwyddyn. Bydd triniaeth ddewisol wedi’i thargedu yn tynnu rhagor o gostau gan y bydd mwy o waith wrth bwyso’r ŵyn yn gyson. Ond, trwy’r broses hon mae’r ŵyn sydd wedi cyrraedd y pwysau gofynnol yn cael eu dynodi ynghynt a’u gwerthu. Bydd y systemau yma yn cael budd o systemau pwyso awtomatig neu ddatblygu profion diagnostig o ochr y gorlan. 

Gall rheolaeth ar bori gael ei wella i reoli parasitiaid trwy arferion fel gostwng dwyster y stocio, neu gyd-bori gwartheg a defaid. Gan fod parasitiaid nematod yn aml yn benodol i un cynhaliwr, gall gwartheg bori ar borfa gyda heintiad isel i leihau’r llwyth o barasitiaid cyn i ddefaid sy’n agored i heintiad gael eu rhoi yno.

Yn olaf, mae dewis ŵyn ar sail enetig am oddefiad i heintiadau nematod neu ymwrthedd yn allweddol o ran cynaliadwyedd wrth reoli nematodau. Ond, er gwaethaf canlyniadau llwyddiannus, araf fu’r ffermwyr i gymryd at y drefn. Bu cryn drafodaeth rhwng gwyddonwyr a ddylid magu ar gyfer gwrthedd neu oddefiad. Yn y pen draw, mae goddefiad yn fwy cynaliadwy, gan fod parasitiaid yn llai tebygol o ddatblygu ymwrthedd eu hunain. Ond, yn ymarferol mae’n llawer haws dewis am ymwrthedd trwy ddulliau ffenotypig fel gostyngiad yn y nifer o wyau ysgarthol. Dros sawl cenhedlaeth mae rhaglenni dewis genetig yn lleihau’r nifer o wyau ysgarthol a thrwy hynny yn lleihau’r llygriad ar y borfa. Mae gan ddefaid gydag ymwrthedd genetig well ymateb imiwnedd i’r parasitiaid ac maent yn pori ymhellach o’r tail, ffynhonnell y parasitiaid. I ddatblygu’r system hon ymhellach, bydd darganfod biofarcwyr imiwn etifeddol iawn yn ddefnyddiol mewn rhaglenni dewis yn y dyfodol.

Mae SCOPS yn adnodd hanfodol i bob ffermwr defaid i wella dealltwriaeth ac arferion rheoli yn ymwneud ag ymwrthedd i anthelmintigau. Mae ffermwyr syn cadw at ganllawiau SCOPS yn gallu lleihau eu defnydd o anthelmintigau gan gynnal eu cynhyrchiant.

 

Datblygiadau gwyddonol yn y dyfodol

Mae’r wybodaeth am holl weithredoedd ffarmacolegol anthelmintigau yn ddiffygiol, felly, mae gwyddonwyr yn datblygu gwell dealltwriaeth o’r cyffuriau cyfredol sydd ar gael.  Felly, gall gweithredoedd y cyffuriau gael eu gwella a gall rheolaeth gael ei datblygu yn gynaliadwy, a fydd yn holl bwysig ar gyfer y dosbarthiadau newydd o anthelmintigau. 

Mae datblygu dosbarthiadau newydd o anthelmintigau yn waith drud a maith, felly ni ddylid dibynnu ar argaeledd dosbarth newydd yn fasnachol yn y dyfodol agos. Ond mae astudiaethau mewn labordai wedi edrych ar olewau hanfodol, fel olew coed te, lle gwelwyd nodweddion gwrth-barasitig yn erbyn nematodau. Dim ond un agwedd ar yr ymchwil i therapïau gwahanol mewn parasitoleg yw’r rhain. Ond, er yn addawol, mae’r ymchwiliadau hyn yn dal yn y cyfnod datblygu i raddau helaeth, ac mae angen rhagor o waith i ymchwilio i’w heffeithiolrwydd mewn anifail byw.

Mae datblygu brechiad parasit yn rhywbeth y mae gan lawer o ffermwyr ddiddordeb ynddo. Barbervax oedd y brechiad cyntaf a ddatblygwyd ar gyfer parasit llyngyr mewn defaid (llyngyr Barber) ond dim ond yn Awstralia y mae ar gael, lle mae’r llyngyr yn broblem ddifrifol. Ond mae hyn yn dangos bod datblygu brechiad yn bosibl ac y gall fod yn llwyddiannus. Mae datblygiadau yn y dyfodol yn debygol o ymchwilio i antigenau naturiol neu gudd sy’n benodol i nematodau, i gynhyrchu brechiadau wedi ei hail ffurfio.

Er mwyn annog ffermwyr i fabwysiadu’r egwyddorion a drafodir yn yr erthygl hon, mae angen gwell addysg am wrthedd anthelmintig a sut i frwydro yn ei erbyn. Dylai hyn gynnwys y manteision sy’n deillio o newid rheolaeth, effeithiau ar gynhyrchiant a’r elw ariannol. Mae’n holl bwysig i ffermwyr, milfeddygon, cynghorwyr a pharasitolegwyr weithio gyda’i gilydd i ddatblygu’r pwnc.

 

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r erthygl yma


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr