Trwy wneud newidiadau syml o ran pori a rheoli pridd yr hydref hwn gall ffermwyr defaid ddyblu canran y glaswelltau cynhyrchiol yn eu porfeydd.
Dywed yr arbenigwr glaswelltir, Chris Duller, sydd wedi bod yn cynghori ffermwyr yng Nghymru mewn cyfres o glinigau glaswelltir a phridd gan Cyswllt Ffermio, y gall ffermwyr defaid fod angen osgoi rhoi gormod o bwyslais ar dyfu glaswellt i besgi ŵyn a pharatoi mamogiaid at yr hwrdd, gan arwain at wastraffu glaswellt a gwndwn gwael o ran ansawdd a chyflwr.
Bydd rhoi sylw manwl i daldra’r glaswellt yr hydref hwn yn gwella perfformiad yr anifeiliaid ac ansawdd y borfa. Ar ôl i laswellt dyfu yn dalach na 12cm, yn arbennig mewn porfa cymysg gyda glaswelltau llawn chwyn ynddo yn ogystal â rhygwellt, gall ansawdd a dwyster y borfa ddirywio.
“Paratowch y mamogiaid ar y caeau sydd angen sylw, yna, rywbryd yn ystod y gaeaf, rhowch seibiant i’r caeau gwaelach hynny. Mae ar rygwellt a meillion angen cyfle i wreiddio a thyfu felly mae angen i ffermwyr sicrhau na fydd y caeau hynny lle mae rhygwellt a meillion ychydig yn brin yn cael eu pori’n galed trwy’r gaeaf. Trwy orffwys rhai caeau, wrth gwrs, mae’n rhoi mwy o bwysau mewn mannau eraill ac efallai y bydd raid i ffermwyr gynnig porthiant ychwanegol – ond y canlyniad fydd gwndwn sy’n parhau yn hwy, llai o gostau ail-hadu a glaswellt o well ansawdd yn y gwanwyn.”
“Mae rhygwellt yn fwy cystadleuol ac ymosodol na chwyn, rhowch yr amodau iawn iddo a bydd yn adfywio, cadeirio a llenwi bylchau.”
Os gall haul yr hydref gyrraedd gwaelod y planhigyn rhygwellt yna mae’n fwy tebygol o flaguro – felly yn ddelfrydol ni ddylai fod yn dalach na 12cm, mae Mr Duller yn argymell. “Os gallwch gynnal dail yn dda trwy’r hydref a’r gaeaf cynnar bydd y rhygwellt yn gallu llunio a storio peth siwgr i’w gynnal tan y gwanwyn, felly, o ddewis dim byd llai na 4cm.
“Dwi ddim yn disgwyl i bob cae gael ei reoli i gyrraedd y taldra ‘delfrydol’, ond os wnewch chi geisio cyrraedd y targedau hyn gyda rhai caeau sydd efallai braidd yn agored a phrin o rygwellt a meillion bydd yn talu ar ei ganfed y flwyddyn nesaf.”
Mae Mr Duller yn argymell y dylai pob cae gael MOT blynyddol. “Cerddwch y caeau ac edrych pa ganran o chwyn sydd yno, profwch y pridd, edrychwch ar gyflwr y pridd. Rydym yn clywed am MOT i hyrddod a bydd ffermwyr yn rhoi prawf MOT i’w cerbydau ond nid ydynt yn rhoi MOT i’w caeau. Pan fyddwch yn cerdded y caeau, ewch â rhaw gyda chi a thyllwch dwll, mae hon yn ffordd ddelfrydol o asesu strwythur y pridd ac unrhyw broblemau sylfaenol fel cywasgu. Bydd bioleg dda yn y pridd yn rhyddhau mwy o faetholion a bydd meillion yn sefydlogi mwy o nitrogen.”
Dywed Mr Duller bod arwyddion y gall ffermwyr eu gweld i’w helpu i ganfod yr arwyddion cyntaf bod y cae yn dirywio a rhoi cefnogaeth i’r cae hwnnw ar yr adeg iawn.
“Mewn caeau salach ar yr adeg hon o’r flwyddyn byddwch yn dechrau gweld llawer o laswellt caeau blynyddol a maeswellt gwyn yn cael ei godi gan y defaid, gan adael gwndwn agored ac anghyson,” dywedodd.
“Pan na fydd cyflwr y pridd yn iawn, o ran maetholion neu strwythur y pridd, yna mae chwyn fel crafanc brân ymlusgol, llygad y dydd a suran yr ŷd yn debygol o fod yn amlwg. Hefyd rydych yn debygol o weld deunydd marw yn cynyddu ac yn plethu yn isel yn y gwndwn ynghyd â mwsog.
“Wrth i briddoedd fynd yn wlypach ac i’r tymheredd ostwng byddwch yn gweld arwyddion o straen ar rygwellt pan na fydd cyflwr y pridd yn iawn – bydd gwawr goch ar y dail a mwy o afiechydon ddaw yn amlwg trwy i flaen y dail felynu ac i ddail farw. Profwch y pridd a gwiriwch ei strwythur i weld pam nad yw’r rhygwellt yn hapus.”
Ar fferm 148 erw Tydu ger Nelson, Caerffili, mae Lyn ac Adam Bowen mewn sefyllfa i gynyddu niferoedd eu diadell wedi iddynt gywiro lefelau pH y pridd a phori glaswellt yn effeithiol.
Mynychodd y tad a’r mab glinig pridd a glaswelltir Cyswllt Ffermio ac maent yn rhoi’r cyngor a gwasant ar waith er mwyn adfywio caeau a oedd wedi cael eu cymryd drosodd gan laswelltau llawn chwyn, gan gynnwys maeswellt penwyn a maeswellt rhedegog, gan fod y fferm wedi cael ei dan-bori am dair blynedd. Roedd y lefelau pH yn isel yn y rhan fwyaf o’r caeau.
“Roedd y caeau’n ymddangos fel eu bod yn gynhyrchiol ond doedd dim gwerth ynddynt o ran pori. Roeddem ni’n symud ymlaen i’r hydref gyda haen drwchus o ddeunydd garw ar yr haen isaf a grëwyd o ganlyniad i dan-bori, felly nid oedd goleuni’r haul yn cyrraedd gwaelod y planhigyn”, meddai Lyn.
“Roeddem wedi defnyddio awyrydd pridd ar rai o’r caeau ond y broblem sylfaenol oedd bod y tir yn brin o galch ac roedd y gwndwn yn wan” eglurodd Adam. Roedd y profion a wnaed ar y pridd yn cadarnhau bod nifer o’r caeau yn brin o galch, gyda lefelau pH yn amrywio o 5.2 i 5.7.
Er mwyn cywiro hyn, mae’r teulu Bowen wedi gwasgaru calch dros 40 erw dros y 12 mis diwethaf, ar gyfradd o ddwy dunnell i bob erw, sy’n fuddsoddiad o £2,000. Byddant yn gwario £4,000 yn calchu 80 erw dros y 12 mis nesaf.
Mae cywiro pH y pridd ynghyd â phori’r porfeydd yn fwy dwys yn yr haf yn golygu gall y teulu Bowen gynnal mwy o ddefaid ac ehangu cynhyrchiant gwair i’w werthu. Maent wedi cadw anifeiliaid cyfnewid blwydd oed ac ar hyn o bryd maent yn cynnal 200 mamog Defaid Mynydd Nelson a 100 o ŵyn benyw. Maent yn bwriadu cynyddu niferoedd ymhellach i 400 flwyddyn nesaf.
“Roedd y cyngor a gawsom drwy Cyswllt Ffermio yn help mawr i ni ganolbwyntio ar yr hyn oedd angen i ni ei wneud i sicrhau bod y fferm yn gweithio i ni unwaith eto”, meddai Lyn.
Awgrymiadau da ar gyfer rheoli gwndwn i ddefaid bori'r hydref hwn:
- Dynodwch y caeau gwaelaf, y rhai lle mae’r ganran o rygwellt yn isel – ceisiwch osgoi rhoi mamogiaid mewn cyflwr gwael yno.
- Peidiwch â gwastraffu glaswellt ac ansawdd trwy bori glaswellt tal.
- Cadwch i symud yr anifeiliaid – rhowch gyfle i laswellt adfer a chronni cronfeydd o siwgr.
- Peidiwch â rhoi pwysau ar gaeau sy’n dioddef yn hwyr yn yr hydref – rhowch gyfle i rygwellt a meillion gynyddu.