19 November 2019
Dr Richard Kipling: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.
Mae darparu nwyddau cyhoeddus drwy amaethyddiaeth yn bwnc trafod o bwys ar hyn o bryd o safbwynt taliadau fferm yn y dyfodol yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig yn gyffredinol. Mae'n bwysig felly fod gan ffermwyr ac eraill yn y sector gwledig syniad clir o beth yw nwyddau cyhoeddus a sut y gallent gael eu darparu drwy arferion amaethyddol. Gellir deall a defnyddio'r term 'nwyddau cyhoeddus' mewn gwahanol ffyrdd, yn aml ynghyd ag ymadroddion eraill megis 'gwasanaethau ecosystemau' neu 'gyfalaf naturiol'. Nodau’r erthygl hon yw:
- Diffinio beth yw nwyddau cyhoeddus
- Ystyried yr ymagweddau at brisio nwyddau cyhoeddus
- Disgrifio’r nwyddau cyhoeddus sy’n cael eu darparu neu a allai gael eu darparu gan amaethyddiaeth yng Nghymru
Beth yw nwydd cyhoeddus?
Mewn termau economaidd yn unig, diffinnir nwydd cyhoeddus yn ôl dwy elfen sy’n eu gwahaniaethu oddi wrth nwyddau preifat:
- Mae nwydd cyhoeddus yn 'anghystadleuol' – os bydd un person yn ei ddefnyddio, nid yw hynny'n atal pobl eraill rhag ei ddefnyddio. Ar y llaw arall, bydd ‘nwydd’ yn 'gystadleuol’ os yw’r ffaith bod un person yn ei ddefnyddio yn effeithio ar allu person arall i’w ddefnyddio (e.e. os bydd ar ddau unigolyn eisiau bwyta afal, maen nhw'n cystadlu amdano – all y ddau mo’i fwyta. Ond, gall dau o bobl edrych ar olygfa braf – nid yw’r ffaith bod y naill yn ei defnyddio yn rhwystro’r llall).
- Mae nwydd cyhoeddus yn ‘aneithriadwy’ – unwaith y mae'n bodoli, mae hi (i bob pwrpas) yn amhosibl atal pobl eraill rhag ei ddefnyddio. Ar y llaw arall, bydd nwydd yn 'eithriadwy’ os gellir atal pobl rhag ei ddefnyddio (e.e., gallai cynhyrchydd afalau atal pobl rhag bwyta’i afalau ond os bydd rhywun yn glanhau dŵr yr afon sy’n llifo drwy ei eiddo, nid yw’n gallu atal pobl i lawr y afon rhag manteisio ar y dŵr glanach).
Yn y cyfnod diweddar, mae hyd yn oed ystyr y geiriau yn y term Saesneg 'public goods’ wedi mynd yn ddryslyd (Blwch 1). Mae'r diffiniad hefyd wedi dechrau cael ei ddefnyddio gan wahanol bobl i gyfeirio at wahanol setiau o bethau. Felly mae'r rhaniad rhwng nwyddau cyhoeddus (anghystadleuol, aneithriadwy) a nwyddau preifat (cystadleuol, eithriadwy) yn niwlog.
Mae yna lawer o drafod a yw bwyd neu ynni adnewyddadwy yn nwyddau cyhoeddus ai peidio (ac felly a ddylen nhw gael cymorth gan y llywodraeth tuag at eu cynhyrchu). Gan ehangu'r diffiniad economaidd o nwyddau cyhoeddus uchod, diffiniodd Kaul a Mendoza nwyddau cyhoeddus fel nwyddau nad ydynt yn eithriadwy ac sydd ar gael i bawb eu defnyddio o dan yr amgylchiadau presennol. Ar ben hynny, fe all nwyddau fod yn nwyddau cyhoeddus os oes ganddynt rai nodweddion anghystadleuol neu aneithriadwy. Ychydig iawn o nwyddau sy'n gwbl anghystadleuol ac aneithriadwy – yn hytrach, mae yna lefelau amrywiol. Mewn llawer o achosion, mae nwyddau a allai ymddangos yn anghystadleuol yn dod yn gystadleuol wrth i fwy a mwy o bobl eu cyrchu, er enghraifft mae tagfeydd yn creu cystadleuaeth hyd yn oed wrth fwynhau golygfa neu daith gerdded yng nghefn gwlad. Yn ôl Kaul a Mendoza, mewn llawer (os nad y mwyafrif) o achosion, y gymdeithas sy’n penderfynu ar yr hyn y mae’n dderbyniol (neu’n annerbyniol) atal pobl rhag ei ddefnyddio, er enghraifft, drwy roi hawliau dynol iddynt a gorfodi ffiniau cyfreithiol. Er enghraifft, fe allen ni wahardd pobl rhag yfed dŵr glân drwy rym, ond ni fyddai hyn yn foesol dderbyniol. Mae dŵr glân yn dod yn aneithriadwy mewn gwirionedd. Pan fydd y gymdeithas yn penderfynu a allwn ni atal pobl rhag defnyddio nwydd ai peidio, gall pethau newydd ddechrau cael eu trin (neu beidio â chael trin) fel nwyddau cyhoeddus, sy’n esbonio'r dadleuon ar y pwnc hwn.
Yn yr ymgynghoriad 'Brexit a'n tir' yn 2018, defnyddiodd Llywodraeth Cymru ddiffiniad eang o nwyddau cyhoeddus, a allai gynnwys nwyddau preifat nad oes marchnad ar eu cyfer ar hyn o bryd, neu nad yw’r marchnadoedd cyfredol ar eu cyfer yn ddigonol. Un enghraifft yw gwerth tir cynhyrchiol i genedlaethau'r dyfodol. Nid yw'r gwerth i'r cenedlaethau hynny'n debygol o gael ei gynrychioli'n wirioneddol gan brisiau heddiw. Mae'r diffiniad eang hwn o nwyddau cyhoeddus hefyd yn derbyn diffiniad Kaul a Mendoza, sy'n cynnwys nwyddau y mae’r gymdeithas yn penderfynu eu trin fel nwyddau aneithriadwy ac adnoddau cyffredin fel porfeydd tir comin neu ddŵr ffres. Is-set o'r pethau a ddisgrifir gan Kaul a Mendoza fel nwyddau cyhoeddus yw'r set gulach o nwyddau y byddai economegwyr yn eu hystyried yn nwyddau cyhoeddus – pethau sy'n anghystadleuol ac yn aneithriadwy fel yr atmosffer a'i gyflwr (glân neu lygredig). Mae'r gwahanol ffyrdd y caiff nwyddau cyhoeddus eu diffinio, a sut maen nhw’n ffitio gyda thermau eraill y gallech fod wedi'u clywed gan academyddion a gwneuthurwyr polisïau, wedi’u crynhoi yn Ffigur 1.
Ffigur 1: Y berthynas rhwng nwyddau cyhoeddus a thermau tebyg eraill
Sut mae prisio nwyddau cyhoeddus?
Gall nwyddau cyhoeddus fod â gwerth cynhenid – h.y. fel nhw eu hunain yn hytrach nag o ran y manteision y maen nhw’n eu darparu i ni – ac mae gwerth o'r fath yn oddrychol. Er enghraifft, efallai y byddwn yn teimlo bod gan fodau dynol gyfrifoldeb i ddiogelu rhywogaethau eraill (bioamrywiaeth), pa un a oes ganddynt unrhyw werth uniongyrchol i ni ai peidio. Does dim modd cyfrifo'r math hwn o werth mewn termau ariannol ac mae'n gysylltiedig â'n systemau cred. Mae i ba raddau y caiff gwerth cynhenid ei ystyried wrth benderfynu faint o nwydd cyhoeddus a ddylai gael ei greu yn fater i gytuno arno gan y gymdeithas yn hytrach na rhywbeth a benderfynir yn wrthrychol ar sail tystiolaeth ffisegol.
Ar ben eu gwerth cynhenid, mae i nwyddau cyhoeddus werth o ran eu manteision i bobl (y rhai sy'n fyw heddiw a chenedlaethau'r dyfodol). Ond, o gofio’r ystod amrywiol o nwyddau cyhoeddus a'r gwahanol ffyrdd y mae pobl yn eu prisio, peth dadleuol yw diffinio'r gwerth hwnnw mewn termau economaidd yn unig. Er enghraifft, os oes ar bobl angen dŵr glân, croyw i fyw, a ddylai ei werth gael ei gyfrif yn ôl gwerth economaidd y bobl sy'n cael eu cadw'n fyw ganddo? Os na chaiff ei brisio fel hyn, sut dylai gael ei brisio? Mae llawer o waith wedi’i wneud i asesu gwerth nwyddau cyhoeddus, er enghraifft o ran yr hyn y mae pobl yn fodlon ei dalu amdanynt. Mae eraill wedi datblygu ffyrdd i wneud asesiadau sy’n cymryd gwahanol fathau o fudd a gwerth i ystyriaeth.
Ffordd arall o benderfynu ar lefelau’r nwyddau cyhoeddus yr hoffem eu sicrhau yw i) datblygu dealltwriaeth o'r cyflwr y mae angen i systemau eu cyflawni er mwyn rhoi mathau neu symiau penodol o nwyddau cyhoeddus, a ii) gwneud gwaith monitro i asesu cyflwr gwirioneddol y nwyddau cyhoeddus a'r gwerth y maen nhw’n eu cyflawni. Gall gwneuthurwyr polisi wneud dewisiadau wedyn ynghylch faint o adnoddau a ddylai gael eu darparu at gyflenwi nwyddau cyhoeddus, gan ystyried y mathau hyn o dystiolaeth. Un enghraifft o asesiadau fel hyn yw’r adroddiad SoNaRR ar gyflwr adnoddau naturiol Cymru.
I grynhoi, mae llywodraethau, asiantaethau cyhoeddus fel Cyfoeth Naturiol Cymru a chyrff rhyngwladol fel y Cenhedloedd Unedig wrthi’n datblygu dealltwriaeth o nwyddau cyhoeddus, eu gwerth a sut i’w darparu, er mwyn sbarduno camau ar lawr gwlad. Ategir yr ymdrechion hyn gan ymchwil wyddonol ac maent wedi’u seilio ar i) gwell dealltwriaeth o'r gwerth y mae pobl yn ei roi ar nwyddau cyhoeddus, a ii) gwell dealltwriaeth o nwyddau cyhoeddus, eu rhyngweithiadau a'u statws. Mae data o'r fath yn hwyluso'r broses o ddatblygu systemau ategu penderfyniadau sy'n helpu gwneuthurwyr polisi, ffermwyr ac eraill i ddewis cyfeiriad sy'n sicrhau'r manteision gorau ac yn lleihau effeithiau negyddol yn y ffordd fwyaf effeithlon.
Ar yr un pryd, gall cymunedau neu grwpiau o randdeiliaid benderfynu drostynt eu hunain, o'r gwaelod i fyny, eu bod am fwynhau nwyddau cyhoeddus penodol megis gwytnwch rhag llifogydd neu fioamrywiaeth, a chasglu a dadansoddi data i'w helpu i gyflawni eu nodau. Gweler er enghraifft, y gwaith a wnaed gan grŵp o ffermwyr yn y prosiect Pont Bren.
Sbardun arall ar gyfer cyflenwi nwyddau cyhoeddus o'r gwaelod i fyny yw y gallai ffermwyr sicrhau manteision preifat ychwanegol drwy ddarparu nwyddau cyhoeddus. Mewn geiriau eraill, mae rhai o fanteision nwyddau cyhoeddus yn gallu cael eu ‘preifateiddio’: gall eu gwerth gael ei gynnwys mewn marchnad fel nwydd preifat. Er enghraifft, efallai fod yna botensial i ffermwr godi prisiau premiwm am gynhyrchion sy’n cael eu cynhyrchu’n gynaliadwy neu botensial i wneud arian o dirwedd brydferth drwy dwristiaeth (e.e. gwersylla, gwely a brecwast, gwerthu'n uniongyrchol etc). Gall polisïau sy'n helpu ffermwyr i adnabod a chyrchu'r ffynonellau gwerth hyn yn sgil nwyddau cyhoeddus gynnal lefel ddarparu uwch.
Mae ymwybyddiaeth o'r nwyddau cyhoeddus ar y fferm, y rhai y gallai'r fferm eu darparu neu'r rhai a allai fod mewn perygl yn sgil y gweithgareddau presennol neu weithgareddau arfaethedig yn bwysig o ran 1) deall a all y ffermwr sicrhau gwerth o'r nwyddau cyhoeddus y mae'n gyfrifol amdanynt, 2) sicrhau cydnabyddiaeth yng nghefnogaeth y Llywodraeth i’r nwyddau cyhoeddus y mae ffermwyr yn eu cyflenwi a 3) osgoi niweidio neu leihau'r cyflenwad nwyddau cyhoeddus, a allai niweidio pobl yn y gymuned leol a/neu'r gymdeithas yn gyffredinol (ac a allai olygu bod y ffermwr mewn perygl o dorri rheoliadau a deddfau). Mewn amaethyddiaeth, felly, gall galw o'r brig i lawr a galw o'r gwaelod i fyny am nwyddau cyhoeddus fod yn sbardun i ffermwyr (ac eraill) weithredu.
Pa nwyddau cyhoeddus sy'n berthnasol i amaethyddiaeth, a beth all gael ei wneud i'w diogelu neu eu darparu?
Mae llawer o ryngweithio rhwng nwyddau cyhoeddus a'r manteision y maen nhw’n eu rhoi, sy'n golygu bod llawer o ffyrdd gwahanol o'u categoreiddio. Er enghraifft, yn gyffredinol, gellid barnu bod iechyd dynol da yn nwydd cyhoeddus. Ond, gellid barnu hefyd fod iechyd dynol da yn rhan o'r gwerth a ddarperir gan nwydd cyhoeddus mynediad i gefn gwlad. Dangosir detholiad o nwyddau cyhoeddus sy'n ymwneud ag amaethyddiaeth yn Ffigur 2. Mae'r modd y caiff pob un ei ddarparu (neu sut y gallai gael ei ddarparu) gan amaethyddiaeth a'r anawsterau, yr heriau a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â hyn, yn bynciau rhy fawr i'w trafod yn fanwl yma. Mae delwedd o'r rhyngweithiadau rhwng nwyddau cyhoeddus (Ffig. 2) yn helpu i ddangos sut mae’n bosibl i nwyddau cyhoeddus gael eu categoreiddio mewn ffyrdd gwahanol, a hefyd pam nad oes modd canolbwyntio ar ddarparu un nwydd cyhoeddus ar wahân i rai eraill. Gallai mynd ar ôl gwahanol is-setiau o nwyddau cyhoeddus mewn meysydd gwahanol olygu y gallai gwelliannau mewn un nwydd cyhoeddus mewn un maes gael eu gwrthbwyso gan y ffaith bod y darpariaeth yn gwaethygu mewn maes arall. Yn hytrach, mae angen i benderfyniadau ystyried pa gamau sy'n sicrhau’r effeithiau mwyaf cadarnhaol ar draws gwahanol nwyddau cyhoeddus mewn maes penodol, yn hytrach na dewis nwyddau cyhoeddus unigol i ganolbwyntio arnynt ac yna dewis pa gamau i'w cymryd.
Ffigur 2: Rhyngweithiadau rhwng nwyddau cyhoeddus. Dangosir effeithiau uniongyrchol pob nwydd cyhoeddus ar nwyddau eraill gan saethau sy'n dod o waelod y blychau; dangosir effeithiau uniongyrchol nwyddau cyhoeddus eraill gan saethau yn cyrraedd brig y blychau.
Mae ymchwilwyr wrthi’n datblygu gwell dealltwriaeth o sut mae gwasanaethau ecosystemau (gan gynnwys y rhai a gyflenwir gan nwyddau cyhoeddus) yn rhyngweithio, er mwyn dangos sut y gall camau penodol ysgogi gwelliannau mewn bwndeli cyfan o wasanaethau cysylltiedig, a hefyd lle y gall fod cyfaddawdau rhwng y camau a gymerir ar gyfer gwahanol nodau.
Mae nwyddau cyhoeddus a chynhyrchu nwyddau preifat yn aml yn rhyngweithio, gan greu cyfleoedd a heriau o ran ymyrryd. Er enghraifft, hyd yn oed pan nad yw rhywbeth (fel cynhyrchu bwyd) ynddo'i hun yn cael ei ystyried yn nwydd cyhoeddus, fe allai gael ei gefnogi am ei fod yn creu effaith gadarnhaol ar bethau sy'n cael eu diffinio fel nwyddau cyhoeddus – e.e., bernir bod ffermio sy'n hyfyw yn economaidd yn chwarae rôl gymdeithasol wrth gefnogi cymunedau gwledig (mewn termau economaidd, mae cymunedau gwledig ffyniannus, sydd wedi’u diffinio fel nwydd cyhoeddus, yn allanoldeb sy'n ymwneud â chynhyrchu bwyd). Gan ddefnyddio diffiniad eang o nwyddau cyhoeddus, gallai diogelu gallu’r tir i ddarparu bwyd i genedlaethau'r dyfodol (cynhyrchu cynaliadwy) gael ei gynnwys hefyd fel nwydd cyhoeddus, gan fod pris tir amaethyddol ar y farchnad yn adlewyrchu'r cyflenwad a'r galw heddiw, ac nad yw’n adlewyrchu'n llawn ei werth i genedlaethau'r dyfodol.
Yn olaf, mae'n glir bod nwyddau cyhoeddus yn cael eu darparu ar raddfa tirwedd a’r tu hwnt, sy'n golygu bod eu sicrhau a'u gwella yn gofyn am gamau cydgysylltiedig: gall ymdrechion gan ffermwyr unigol fod yn fuddiol iawn ond nid ydynt yn debygol o sicrhau gwerth llawn unrhyw nwydd cyhoeddus os na fydd pobl eraill yn cymryd rhan. Mae hyn yn golygu bod cydweithio i ddod â grwpiau o ffermwyr a rhanddeiliaid eraill at ei gilydd ar draws tirweddau yn bwysig, a hynny o ran rhoi perchnogaeth i gymunedau dros gyflenwi nwyddau cyhoeddus ac o ran sicrhau bod gwaith i gynnal a gwella nwyddau cyhoeddus yn cael ei wneud yn effeithlon ac yn effeithiol.
Pam mae llywodraethau'n ymyrryd er mwyn darparu nwyddau cyhoeddus?
Mae yna achos o blaid ymyrraeth gan lywodraethau i ddarparu neu ddiogelu nwyddau cyhoeddus oherwydd yr hyn y mae economegwyr yn ei alw'n broblem y 'teithiwr di-dâl'. Gan nad oes modd atal pobl rhag defnyddio nwydd cyhoeddus, gallant ei ddefnyddio heb dalu, sy’n golygu nad yw’n werth ei gyflenwi. Mae rhai awduron yn dadlau nad yw'r dadleuon hyn ar eu pen eu hunain yn ddigon i gyfiawnhau ymyrryd, yn enwedig pan fo cyllid cyhoeddus yn gyfyngedig. Efallai y bydd cyflenwad da o nwydd cyhoeddus yn dal ar gael heb ymyrraeth, i) os bydd yn cael ei sgil-gynhyrchu gan unigolion sy'n cyflawni gweithredoedd eraill neu'n cael eu sbarduno gan gymhellion eraill (e.e., gall ffermwr ddefnyddio llai o wrtaith nitrogen er mwyn lleihau costau ac, o ganlyniad, gallai’r nitrogen ffo yn yr afon leol leihau, gan wella ansawdd y dŵr heb i'r ffermwr gynllunio hynny) neu, ii) os nad oes dim cost neu fawr ddim cost yn sgil bodolaeth y nwydd, a'i fod yn cael ei gynnal felly heb gymhellion (e.e., clwt o dir anghynhyrchiol sy’n isel o ran ei werth ond sydd â bioamrywiaeth uchel). Er hynny, mae risgiau'n gysylltiedig â dibynnu ar yr amodau hyn i gyflawni anghenion y gymdeithas o ran nwyddau cyhoeddus. Mae dibynnu ar arferion sy'n cael eu hysgogi gan gymhellion gwahanol yn creu risg y caiff nwyddau cyhoeddus eu difrodi neu eu colli os bydd y cymhellion yn newid (e.e., gallai ffermwyr newid i ffermio'n organig er mwyn cael premiwm ar eu cynnyrch, gan leihau'r gwrtaith sy'n llifo i gyrsiau dŵr – ond os yw'r premiwm ar gyfer cnydau organig yn gostwng, fe allen nhw newid yn ôl). Yn yr un modd, os oes nwyddau cyhoeddus yn cael eu cyflenwi dim ond am nad oes yna gost (neu fawr ddim cost) i'r ffermwr heddiw, maen nhw mewn perygl os bydd amgylchiadau'n newid (e.e., gallai hen bwll tywod ar fferm sy'n cynnig cynefin i wenoliaid y tywod ac ymlusgiaid fod mewn perygl os bydd prisiau tywod adeiladu yn codi, gan beri ei bod yn broffidiol dechrau defnyddio’r pwll eto).
Gallai tan-ddarpariaeth nwydd cyhoeddus godi hefyd er gwaethaf ymyrraeth polisi os nad yw'n cael ei brisio’n ddigon uchel. Er enghraifft, gallai bioamrywiaeth ardal gael ei diogelu i lefel sy'n adlewyrchu ei gwerth o safbwynt darparu gwasanaethau peillio ond, os nad yw'r gwerth esthetig y mae'n ei ddarparu yn cael ei ystyried, yna gallai llai o fioamrywiaeth gael ei ddiogelu a'i greu nag a ddymunir. Hefyd, os ystyriwn y buddiannau y mae pobl yn eu cael o nwyddau cyhoeddus yn unig, gan anwybyddu eu gwerth cynhenid, fe allen ni weld bod modd cyflawni manteision o'r fath heb ddiogelu'r gwerth hwnnw. Er enghraifft, efallai bod modd atafaelu’r un maint o garbon o blanhigfa o un rhywogaeth o goeden ag o glwt o goetir lled-naturiol, ond ni fyddai gan y blanhigfa lawer o gymeriad y cynefin gwreiddiol. Yn yr holl achosion hyn, mae yna rôl i lywodraethau, ffermwyr neu gymunedau lleol, i gymryd camau y tu allan i'r farchnad economaidd i gynnal a gwella nwyddau cyhoeddus.
Mewn rhai achosion, gallai mwy o nwydd cyhoeddus gael ei ddarparu gan gyflenwyr nag a ddisgwylid pe bai cymhellion economaidd yn unig yn cael eu hystyried. Mae gan ffermwyr (fel pawb arall) amrediad o gredoau a gwerthoedd y maen nhw’n ceisio glynu atynt. Maent yn aml yn darparu nwyddau cyhoeddus (fel bioamrywiaeth neu aer diarogl) am eu bod yn awyddus i chwarae eu rhan yn eu cymuned ac osgoi creu niwed i bobl eraill. Pan fydd ffermwyr yn dioddef o unigedd cynyddol neu galedi economaidd, gall eu gallu a'u cymhelliant i ddarparu nwyddau cyhoeddus ar sail y gwerthoedd personol hyn leihau, er enghraifft os na chydnabyddir eu gweithredoedd neu os na pherchir eu hymdrechion, os cânt eu cosbi mewn meysydd eraill er gwaethaf camau o'r fath, neu os nad oes ganddynt mwyach yr amser na'r adnoddau i ymrwymo i gynnal a gwella nwyddau cyhoeddus. Ymhellach, gallai darpariaeth nwyddau cyhoeddus gael ei lleihau, hyd yn oed lle gallent wella cynaliadwyedd hirdymor tir fel adnodd cynhyrchu, os nad oes gan y ffermwr gynllun etifeddu ar gyfer ei fferm neu os yw’n denant ac na fydd yn elwa o welliant mwy hirdymor ar y tir neu'r amgylchedd cyfagos. O dan yr amgylchiadau hyn, daw'r ddarpariaeth nwyddau cyhoeddus yn fwyfwy dibynnol ar reoleiddio neu gymhellion ariannol o'r brig i lawr. Heb gydnabyddiaeth a pharch tuag at waith ffermwyr yn cyflenwi nwyddau cyhoeddus a sbardunir gan werth, efallai na fydd y dulliau o'r-brig-i-lawr hyn yn ymarferol effeithiol ac fe allent greu gwrthdaro rhwng ffermwyr a gwneuthurwyr polisïau, gan arwain at fethu cyrraedd targedau – gweler er enghraifft, ymchwil ar weithredu rheoliadau nitrogen yn yr Eidal.
Crynodeb
Mae cysyniad nwyddau cyhoeddus wedi cael, ac mae’n dal i gael, ei ddefnyddio mewn gwahanol ffyrdd gan wahanol bobl. Mewn amaethyddiaeth, fe'i defnyddir yn aml i gynnwys nwyddau 'adnodd cyffredin' fel dŵr a bioamrywiaeth. Mae hyn yn golygu ei fod yn cael ei ddefnyddio i gynnwys nwyddau a gwasanaethau y mae'n anodd eithrio pobl rhag eu defnyddio ac sydd felly'n aml yn cael eu dibrisio (neu ddim yn cael eu prisio) yn y farchnad economaidd. Am mai cyfreithiau a hawliau sy’n pennu'r hyn yr ydym yn caniatáu i ni'n hunain eithrio pobl rhag eu defnyddio, gall yr hyn sy'n cyfrif fel nwydd cyhoeddus newid dros amser, gan arwain at lawer o drafod ar yr hyn a ddylai gael ei ystyried yn nwydd cyhoeddus – hyd yn oed pan fydd pobl yn cytuno ar ystyr y term.
Mae penderfynu pa nwyddau cyhoeddus i'w diogelu a faint ohonynt a ddylai gael ei gyflenwi yn her, gan fod hyn yn dibynnu ar sut rydym yn eu prisio – fel rhywbeth sydd â gwerth cynhenid y dylid ei ddiogelu bob amser ynteu o ran yr effeithiau a gânt arnon ni (neu ar genedlaethau'r dyfodol). Os ystyriwn werth nwyddau cyhoeddus i ni, sut dylen ni benderfynu faint mae arnon ni ei eisiau, neu faint y dylem ei wario i’w cefnogi? Pwy ddylai wneud y penderfyniadau hyn? Dadleuon sydd ar eu hanner yw’r rhain.
Gellir crynhoi pwysigrwydd nwyddau cyhoeddus i ffermwyr yn syml: mae agenda nwyddau cyhoeddus yn golygu bod rhaid i ffermwyr feddwl am yr effeithiau y mae eu gweithredoedd yn eu cael ar bobl eraill, sicrhau cydnabyddiaeth a chefnogaeth i greu effeithiau cadarnhaol, archwilio cyfleoedd busnes newydd y gallent fanteisio arnynt (fel cyfathrebu â chwsmeriaid am fioamrywiaeth ar y fferm wrth farchnata’u cynnyrch), a sicrhau delwedd leol a chenedlaethol gadarnhaol i ffermwyr ar sail y nwyddau cyhoeddus y maen nhw’n eu cyflenwi.