Dr Elizabeth Hart: IBERS, Prifysgol Aberystwyth

Prif negeseuon:

  • Mae defnyddio dulliau gwahanol i leihau dibyniaeth ar driniaeth anthelminitig i drin parasitiaid mewn da byw yn fater pwysig.
  • Mae cyfradd symudiad larfâu ar borfeydd yn dibynnu’n helaeth ar rywogaeth y parasitiaid sy’n bresennol.
  • Mae pori cylchdro yn cynnig strategaeth ochelgar er mwyn rheoli baich llyngyr o fewn da byw, ond mae angen rhoi ystyriaeth ofalus i hyd y cyfnodau pori a gorffwys.                                               

Mae nematodau gastroberfeddol (GIN) yn peri problemau enfawr i ffermwyr o ran cynhyrchiant a cholledion economaidd. Ceir dibyniaeth helaeth ar anthelminitigau i drin parasitiaid, ond mae ymwrthedd anthelminitig yn bryder cynyddol. Er enghraifft, mae ymwrthedd i Benzimidazole (grŵp o anthelminitigau gwyn) bellach yn gyffredin iawn ledled y DU, ac mae ymwrthedd i levamisole (grŵp mewlyn) a lactonau macro-gylchol (grŵp clir) hefyd ar gynnydd. Felly mae arferion trin a rheoli pori yn fater pwysig gan nad oes modd troi’n ôl unwaith y bydd ymwrthedd wedi sefydlu. Mae cylchred bywyd mwyafrif y nematodau gastroberfeddol mewn da byw sy’n pori yn arwain at wyau llyngyr yn cael eu rhyddhau i’r borfa mewn ysgarthion anifeiliaid, sydd wedyn yn datblygu i larfâu cam cyntaf (L1) ac yna larfâu ail gam (L2). Maen nhw wedyn yn datblygu yn larfâu trydydd cam (L3) neu’r cam heintus lle byddant yn mudo i lystyfiant cyfagos ac yn cael eu bwyta gan anifeiliaid sy’n pori. Mae datblygiad y larfâu yn parhau o fewn llwybr treuliad yr anifail lle mae’r parasitiaid yn aeddfedu yn oedolion (Ffig 1). Fodd bynnag mae amrywiaethau o fewn y gylchred bywyd yn ddibynnol ar rywogaeth y parasitiaid.

 

                                            

cycle cym
 
eggs 2

 

Mae datblygiad nematodau gastroberfeddol trwy gydol eu cylchred bywyd yn cael ei effeithio’n fawr gan yr hinsawdd. Er enghraifft, mae mudiad larfâu L3 trwy’r borfa’n cynyddu’n gyffredinol dan amodau gwlypach a chynhesach. Fodd bynnag, mae graddau mudiad larfâu yn dibynnu ar y rhywogaeth, er enghraifft, dangoswyd bod Teledorsagia circumcincta yn aros mewn deunydd ysgarthol am gyfnod hwy o’i gymharu â Haemonchus contortus ac mae’r amodau hinsoddol gorau posibl ar gyfer datblygiad larfâu yn amrywio rhwng rhywogaethau <https://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S0304401706004973?via…;. Ceir tystiolaeth bod H. contortus yn goroesi’n well mewn tywydd cynhesach, llaith, ac yn goroesi llai mewn tywydd sych ac oer neu gynnes a gaeafau dan y rhewbwynt; mae T. columbriformis yn goroesi orau mewn tywydd llaith claear neu gynnes, ac yn goroesi llai mewn gaeafau dan y rhewbwynt ac mae T. circumcinta yn goroesi orau mewn tywydd claear, llaith a gaeafau dan y rhewbwynt, ac yn goroesi llai mewn tywydd cynnes a sych.

Pori cylchdro                                                    

Mae pori cylchdro yn cynnig strategaeth ochelgar ar gyfer rheoli niferoedd llyngyr mewn da byw. Trwy rannu porfeydd yn ddarnau llai o dir, gall anifeiliaid bori ar ôl i’r larfâu heintus farw. Gwneir hyn trwy dorri cylchred bywyd y parasit (Ffig 1) a symud anifeiliaid i borfeydd newydd cyn i’r wyau ddatblygu i L3. Fodd bynnag, mae amodau hinsoddol fel y nodwyd uchod yn cael effaith sylweddol ar y gyfradd y bydd larfae yn marw, felly bydd adnabod pa rywogaeth parasitaidd sy’n bresennol ar y fferm yn galluogi ffermwyr i amcangyfrif y cyfnod gorffwys angenrheidiol yn well ar gyfer y cae. Mae gwaith ymchwil blaenorol wedi dangos bod dulliau pori cylchdro yn gallu bod o gymorth wrth reoli nematodau gastroberfeddol. Er enghraifft, roedd gwaith gan Eysker et al., (1998) yn dangos bod symud anifeiliaid bob mis i borfeydd glân yn gallu cynorthwyo datblygiad imiwnedd anifeiliaid yn ogystal â gweithredu fel ffordd i reoli parasitiaid. Mae gwaith ymchwil a wnaed gan Colvin et al., (2008) yn dangos bod systemau pori cylchdro gyda chyfnodau pori byrrach a chyfnodau gorffwys hir yn gallu helpu i reoli nematodau gastroberfeddol mewn hinsoddau tymherus claear, lle dangoswyd bod pori am 5 diwrnod a gorffwys y borfa am 103 diwrnod yn arwain at gyfrifon wyau ysgarthol is, yn enwedig o ran haint H. contortus. Bu astudiaeth a gynhaliwyd gan Burke et al., (2009) yn ymchwilio i effaith pori cylchdro o’i gymharu â phori parhaus ar ŵyn blwydd oed yng nghyd-destun rheoli nematodau gastroberfeddol. Dangosodd yr ymchwil bod cynnydd pwysau byw yn debyg ar gyfer pori cylchdro a phori parhaus, ond roedd angen rhoi mwy o driniaeth atal llyngyr i’r ŵyn a oedd yn pori’n barhaus. Fodd bynnag, daeth yr awduron i’r casgliad bod angen ymchwil pellach ar systemau pori cylchdro gyda phorthiant o ansawdd uwch. Gellir pori cylchdro hefyd trwy amrywio rhwng gwahanol fathau o dda byw. Er enghraifft, mae astudiaethau wedi adrodd lefelau llawer is o faich parasitiaid mewn da byw lle bo defaid a gwartheg wedi cael eu pori am yn ail. Fodd bynnag, nid yw pob astudiaeth wedi dangos llwyddiant hirdymor. 

Mae hefyd angen rhoi ystyriaeth ofalus i ofynion cynhyrchiant o fewn systemau pori cylchdro. Felly mae angen pennu amcangyfrif o’r cyfnodau pori a gorffwys mewn padogau. Gan fod yr holl borfa mewn systemau pori cylchdro’n gallu cael eu pori’n helaeth, mae hynny’n annog tyfiant y gwndwn ac yn gallu arwain at gynnydd yng nghynhyrchiant y borfa. Fodd bynnag, mae amseru yn hanfodol, gan fod angen sicrhau digon o amser i’r borfa aildyfu ac i’r wyau farw heb effeithio’n negyddol ar ansawdd y gwndwn. Felly, mae gwaith ymchwil yn awgrymu y gallai pori cylchdro fod yn fwy effeithiol mewn hinsoddau trofannol, gan y byddai angen cyfnodau  byrrach i orffwys y boefa o ganlyniad i ostyngiad yng nghyfradd goroesi’r larfâu mudol 3-7 wythnos) o’i gymharu â rhanbarthau tymherus (hyd at 3 i 9 mis gan ddibynnu ar y rhywogaeth a’r amodau).  Yn ogystal, gall cyfansoddiad y borfa hefyd effeithio ar symudiad larfâu heintiedig a gall defnyddio porthiant amgen gynnig gwahanol ddulliau o reoli parasitiaid. Er enghraifft, adroddwyd bod ysgall y meirch yn gallu lleihau cyfrifon wyau ysgarthol mewn ŵyn a gwella’r cynnydd pwysau byw a bod codlysiau megis meillion coch, yn gallu effeithio ar symudiad y larfâu, gan leihau’r cyfraddau heintio.

Crynodeb

Er bod potensial i bori cylchdro leihau baich llyngyr ar borfeydd, mae’n gofyn am lawer mwy o feddwl o ran rheoli’r borfa. Byddai angen i ffermwyr ystyried hyd cyfnodau pori a gorffwys, dwysedd stocio, math o stoc a math o borthiant er mwyn ystyried pori cylchdro fel ffordd ychwanegol o reoli Nematodau Gastroberfeddol (GIN). Ar hyn o bryd mewn rhanbarthau mwy tymherus, byddai’n fanteisiol canolbwyntio ar gyfuniad o’r strategaethau gorau ar gyfer rheoli pori, megis math o borthiant, amnewid stoc a monitro cyfrifon wyau ysgarthol ar y borfa, yn hytrach na dibynnu ar bori cylchdro yn unig i leihau’r perygl posibl o heintiad GIN.

Cliciwch yma i weld fersiwn PDF o'r erthygl hon.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Cnydau Porthiant ar gyfer Pesgi Ŵyn: Cnydau Bresych
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth