16 Tachwedd 2022

 

Dr David Cutress: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Mae rhannu tir ac arbed tir yn ddau dull gwahanol o reoli tir er mwyn gwella bioamrywiaeth yn fyd-eang
  • Mae’n ymddangos bod cynnig Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn ffafrio rhannu tir er bod y rhan fwyaf o bolisïau, a grwpiau diwydiant a chynaliadwyedd wedi ffafrio arbed tir yn y gorffennol 
  • Mae gan y ddwy strategaeth eu manteision ac anfanteision ond mae’n ymddangos bod ymchwil mwy diweddar yn awgrymu mai ystyried cyfuniad o’r ddwy, fesul pob achos unigol, sydd orau ar gyfer bioamrywiaeth

 

Pam mae gweithio gyda natur ac annog ei adferiad yn bwysig?

Amaethyddiaeth yw’r sector sy’n gwneud y defnydd mwyaf o arwynebedd tir yn fyd-eang, ac felly mae ganddo rôl fawr i’w chwarae yn y ffordd mae pobl yn rhyngweithio â systemau naturiol. Gan fod y boblogaeth y mae angen ei bwydo yn cynyddu o hyd, byddai dilyn ein patrymau twf hanesyddol yn arwain at drosi hyd yn oed rhagor o dir ar gyfer cynhyrchu bwyd, a nodwyd bod hyn yn ffactor sy’n gyrru colledion o ran bioamrywiaeth. Rydym eisoes wedi trafod pwysigrwydd bioamrywiaeth sy’n amrywiol yn naturiol  er mwyn gwella gwydnwch a swyddogaetholdeb ein hecosystemau, yn ogystal ag amlygu rhai meysydd allweddol lle gall rhyngweithio rhwng bioamrywiaeth ac amaethyddiaeth fod yn ddefnyddiol (chwilod tail, dulliau biolegol o reoli plâu, adar ffermdir). Mae bioamrywiaeth ar draws y byd yn dirywio’n sylweddol, a nodwyd gostyngiadau o dros 65% yn niferoedd poblogaethau o rywogaethau a gafodd eu monitro rhwng 1970 a 2016. Mae lefelau bioamrywiaeth yn chwarae rolau pwysig yng ngallu’r blaned i addasu i newidiadau hinsawdd (sychder, llifogydd, trychinebau naturiol) a gellid dadlau bod dirywiad o’r fath yn gwneud hyn yn fater pwysicach na newid hinsawdd ei hun (er gwaethaf y diffyg sylw yn y cyfryngau). I grynhoi’r broblem, gall gweithio gyda natur yn hytrach nag yn ei erbyn arbed llawer o egni, amser a chostau (yn ariannol ac yn amgylcheddol), felly dylid canolbwyntio ar arferion rheoli tir mwy effeithlon a chynaliadwy. Os byddwn yn ceisio gweithredu systemau sy’n gweithio yn erbyn natur heb ystyriaeth ofalus, byddwn yn effeithio ar ecosystemau i fyny ac i lawr afonydd mewn ffyrdd na fydd yn aml i’w gweld am ddegau neu gannoedd o flynyddoedd. Er enghraifft, mae dulliau amaethyddol arloesol o gynaeafu cnydau un-gnwd â pheiriannau effeithlon wedi arwain at ostyngiad enfawr yn rhywogaethau’r cnydau bwyd rydym yn awr yn eu tyfu, ac mae 75% o’n holl fwyd yn cael ei ddarparu gan 12 rhywogaeth o blanhigion. Er bod y gostyngiad hwn mewn amrywiaeth rhywogaethau yn effeithlon o ran cynhyrchiant yn y tymor byr, gwelir erbyn hyn ei fod yn cael effaith ar wydnwch yn erbyn clefydau (gall un pathogen ddifetha cnydau yn llwyr), gwydnwch amgylcheddol (mae’r rhywogaeth bresennol nad yw wedi addasu i hafau sych, poethach yn marw neu ddim yn tyfu’n dda), iechyd y pridd (trwy leihau buddion amrywiaeth microbïomau cysylltiedig a buddion adeileddau gwreiddiau amrywiol ar briodweddau pridd) a cholli cynefin sy’n effeithio ar lefelau bioamrywiaeth.

Rydym yn awr yn symud tuag at gydnabod buddion natur/bioamrywiaeth fwyfwy, trwy’r effeithiau economaidd ar nwyddau cyhoeddus a ddarperir a buddion hinsawdd i enwi dim ond dau beth. Felly, sut gallwn ni geisio rheoli a lleihau rhyngweithiau negyddol posibl pellach â natur? Dwy o’r prif strategaethau eang a drafodwyd ar draws y byd ac yn y llenyddiaeth yw rhannu tir ac arbed tir, sydd weithiau’n cael eu hystyried mewn termau mwy syml fel anarddwysáu (extensification) a dwysáu (intensification). Er bod y ddwy strategaeth hon wedi bod yn destun dadl am ddeng mlynedd, mae’r dadlau yn parhau yn y diwydiant a’r gymuned wyddonol, er mai arbed tir sy’n cael ei ffafrio’n bennaf gan lywodraethau, polisïau, diwydiant a grwpiau sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd. Yn ddiddorol, fodd bynnag, rhannu tir sy’n cael ei drafod yng nghynnig ‘Cynllun Ffermio Cynaliadwy’ Llywodraeth Cymru.

Wedi’i gymryd o wefan yr RSPB

 

Beth yw rhannu tir ac arbed tir (buddion a phroblemau)?

Mae’r ddadl ynglŷn â chysyniadau rhannu tir ac arbed tir wedi bodoli am dros hanner canrif. Er bod y derminoleg yn eithaf hunan-esboniadol mae angen i ni sicrhau ein bod yn deall agweddau ar y ddau opsiwn cyn i ni eu trafod ymhellach. Mae arbed tir yn golygu cyfuno ein holl anghenion cynhyrchu i lai o ardaloedd dwys iawn /effeithlon, gan ‘arbed’ gweddill y tir (yn enwedig rhanbarthau cadwraeth/amddiffyn pwysig fel coedwigoedd glaw a gwarchodfeydd natur) i’w ddefnyddio ar gyfer ecosystemau naturiol sy’n gyfeillgar i fioamrywiaeth. Mae rhannu tir, ar y llaw arall, yn golygu rhoi mwy o bwyslais ar systemau ffermio a rheoli tir llai dwys a mwy cynaliadwy ar draws y tir presennol i geisio efelychu natur ac arwain at gynnydd mewn bioamrywiaeth ar draws yr holl diroedd ar yr un pryd.

Gallai arbed tir ddod â llawer o fuddion gan ei fod o bosibl yn golygu ystyriaethau llai cymhleth o ran adferiad a swyddogaetholdeb ecosystemau naturiol cymhleth iawn yn y tir sy’n cael eu ‘arbed’, oherwydd unwaith y byddant wedi sefydlu ni fydd angen llawer o waith i’w rheoli. Mae llywodraethau yn aml yn canolbwyntio ar hyn gan y gall wneud i wlad ymddangos yn fwy cynaliadwy, yn dibynnu ar yr hyn sy’n cael ei fesur. Mae arbed tir yn fuddiol iawn o ran cadw cynefinoedd sy’n gyfoethog mewn rhywogaethau sef y rhai y canolbwyntir arnynt yn aml i’w hamddiffyn mewn strategaethau arbed, sy’n aml yn cynnwys rhywogaethau ag amrediad byd-eang bach iawn. Fodd bynnag, os nad yw arbed tir yn cael ei ystyried yn fyd-eang ac yn holistaidd gall arwain at newid yr effeithiau ecosystem/natur mewn mannau eraill yn y byd ac felly, yn realistig, nid fyddant yn cael unrhyw effaith fuddiol wirioneddol. Er enghraifft, os yw cyfleusterau da byw yn cael eu dwysáu i ardaloedd llai gyda systemau cynhyrchu uchel, mae’n debygol y bydd angen mewnforio llawer o borthiant a gall hyn arwain at dramori problem cnydau un-gnwd sy’n cael effaith negyddol ar yr hinsawdd, fel olew palmwydd a soia. Yn yr un modd, os byddwn yn canolbwyntio ar ecosystemau yna mae’n bosibl na fydd digon o dir ar gyfer cynhyrchu bwyd, felly bydd y wlad yn dod yn fwy dibynnol ar fewnforio bwyd, a bydd cynnydd mewn costau ac allyriadau yn gysylltiedig â hyn. Gall crynhoi cynnyrch i ardaloedd llai, mwy dwys, gael effeithiau negyddol hefyd ar allu ffermwyr i ymestyn eu buddsoddiadau /risgiau ac ni ddylid anwybyddu hyn. Un syniad a gysylltir yn aml ag ‘arbed tir’, ac sy’n cael ei ystyried yn ddadleuol gan ffermwyr, yw ‘ailwylltio’. Mae llawer yn credu bod ailwylltio yn wastraff o dir cynhyrchiol a allai fod yn gwneud elw fel arall, ond mae’n bwysig nodi bod rhagor o gymorthdaliadau ar gael a all wneud strategaethau sy’n annog bioamrywiaeth yn naturiol yn fwy buddiol. Yn yr un modd, mae llawer o ecosystemau bellach mor wahanol i’w cyflwr naturiol ac wedi diraddio i’r fath raddau fel nad yw’n bosibl iddynt adfer eu hunain heb gymorth arferion rheoli tir, felly mae’n bosibl bydd gan ffermwyr a rheolwyr tir rolau i’w chwarae yn y dyfodol i gael eu had-dalu’n gywir gan gymorthdaliadau sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd er mwyn cynorthwyo adferiad ecolegol tiroedd sy’n cael eu harbed. Er y gallai hyn fod o fudd i unigolion blaengar, arloesol, mae hefyd yn golygu nad yw’r ffermwyr hynny sy’n dymuno ffermio yn ôl eu harfer a pheidio â dysgu sgiliau newydd i ddod yn ofalwyr ecosystemau, yn cael eu cynnwys.

Cafodd rhannu tir ei gynnig fel methodoleg lle mae nifer o unigolion yn gwneud ychydig bach er budd bioamrywiaeth yn gyffredinol, ac ar y cyfan mae llawer o’r technegau cysylltiedig eisoes yn cael eu defnyddio o fewn y cysyniad o systemau ffermio cynaliadwy sy’n annog bioamrywiaeth. Gall yr anarddwysáu hyn alluogi ffermwyr a rheolwyr tir i ehangu eu cynhyrchiant felly, gan ymestyn eu risgiau cynnyrch posibl i sicrhau rhai enillion os bydd cnydau neu borfa yn methu. Er mwyn i’r cysyniad hwn weithio, mae angen newid y pwyslais o swm y cynnyrch i’r enillion o ran bioamrywiaeth, ac o’r herwydd nid yw’n ateb anghenion y cwsmer yn ddigonol heb newid agwedd gan y defnyddwyr tuag at, er enghraifft, bwyta llai o gig a lleihau gwastraff bwyd yn gyffredinol. Er y byddai’r ddau newid hwn ar ran defnyddwyr yn dod â budd o ran arbed tir hefyd, mae’r buddion o ran rhannu tir yn fwy amlwg. At hyn, mae llawer o fodelau cynnar yn awgrymu y byddai rhannu tir ar ei ben ei hun yn lleihau biamrywiaeth yn y pen draw ar y tiroedd y byddai angen eu hennill (er mwyn bwydo’r boblogaeth sy’n tyfu) nag y byddai’n gwella bioamrywiaeth ar y tiroedd sydd eisoes yn cael eu defnyddio, gan arwain at ystumo’r effaith.

 

Technegau/strategaethau ar gyfer arbed tir

O fewn y ddau gysyniad hwn, mae potensial i ddefnyddio llawer o dechnolegau a thechnegau er mwyn helpu i gyflawni’r nodau. Er mwyn arbed tir, er enghraifft, mae popeth yn dibynnu ar ddwysáu effeithiol fel bod modd cynhyrchu mwy ar lai o dir. Yn yr achosion hyn, gall y technegau canlynol chwarae rôl;

Mae technolegau a allai roi hwb i arbed tir yn cynnwys;

 

Er y gall yr holl dechnolegau hyn arwain at gynyddu cynhyrchiant o ardal llai o faint, mae’n bosibl nad ydynt yn rhoi’r prif bwyslais ar fuddion o ran arbed egni/amgylcheddol a lles anifeiliaid.

 

Technegau/strategaethau ar gyfer rhannu tir

Mae technegau rhannu tir, ar y llaw arall, yn llawer mwy perthnasol i’n trafodaethau blaenorol ar ffermio cynaliadwy a ffermio adfywiol gan fod y ddau ddull ffermio hyn yn rhoi pwyslais ar wella bioamrywiaeth.

 

Mae rhai technolegau yn gorgyffwrdd â’r ddwy strategaeth, yn dibynnu ar y pwyslais a sut maent yn cael eu defnyddio. 

 

Pam ddim y ddau?

Yn y pen draw, ar draws yr holl lenyddiaeth, y ddealltwriaeth sy’n dod i’r amlwg yw mai cymysgedd o dechnolegau yw’r ateb tebygol ar gyfer gwella bioamrywiaeth yn fyd-eang, ac er y gall ystyriaethau rhannu tir ac arbed tir fod yn fuddiol i fframio’r ffordd rydym yn meddwl am yr hyn rydym yn ei wneud a sut mae bioamrywiaeth yn ymateb i ffermio, efallai na fydd yn gweithio fel fframwaith eang ar ei ben ei hun. Er enghraifft, dangosodd ymarfer modelu o’r elfennau sy’n greiddiol i’r prif strategaethau hyn (dwysáu, anarddwysáu a gadael  tiroedd) mai arferion sy’n gysylltiedig â rhannu tir sy’n perfformio orau mewn rhai rhanbarthau daearyddol a’r arferion hynny sy’n gysylltiedig ag arbed tir sy’n perfformio orau mewn eraill.

Wedi’i gymryd o Felix et al. (2022) ystyr ES yw Ecosystem service (Gwasanaeth Ecosystem)

Felly, bydd yn ddiddorol gweld sut bydd bil amaethyddiaeth Cymru yn datblygu wrth iddo ddod yn destun rhagor o ymgynghori, a pha lwybrau y bydd rheolwyr tir yn cael eu hannog i’w dilyn.

 

Crynodeb

Mae rhannu tir ac arbed tir yn gysyniadau diddorol yn y ddadl ynglŷn ag amaethyddiaeth ac arferion rheoli tir a’u heffaith ar fioamrywiaeth ar draws y byd. Er bod rhai o blaid ac eraill yn erbyn y ddau gysyniad, mae’n dod yn fwy amlwg nad defnyddio un o’r ddau yw’r ateb i bob sefyllfa. Yn hytrach, mae’n ymddangos yn fwy tebygol y bydd angen ystyriaethau cyfunol neu ddadansoddi fesul rhanbarth/achos unigol i ganfod y dull gorau o wella bioamrywiaeth yn holistaidd.

 

Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Cnydau Porthiant ar gyfer Pesgi Ŵyn: Cnydau Bresych
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth