Colostrwm – faint sy’n ddigonol?

Mae cynhyrchu lloeau cyfnewid cynhyrchiol yn hanfodol ar gyfer menter unrhyw ffermwr llaeth at y dyfodol. Dyma ambell awgrym cost effeithiol i’ch cynorthwyo gyda rheoli magu lloeau.

Colostrwm yw’r cyfraniad cyntaf a’r pwysicaf i iechyd y llo. Os nad yw llo yn derbyn digon o gyfaint ac ansawdd yn ystod cyfnodau cyntaf ei fywyd, gallai hynny achosi; cyfraddau twf arafach, perygl cynyddol o ddatblygu afiechyd felly costau uwch o ran trin a llafur, ac mae’n gysylltiedig â chynhyrchu llai o laeth yn y llaethiad cyntaf a’r ail laethiad.

Mae ymchwil llaeth AHDB wedi creu datrysiad sydyn ar gyfer rheolaeth colostrwm gan flaenoriaethu’r tri phwynt canlynol:

  • Cyfanswm – wrth fwydo am y tro cyntaf, dylai’r llo sugno 10% o bwysau ei gorff, ac yna mwy o golostrwm wrth fwydo am yr ail waith o fewn 12 awr o’i eni
  • Ansawdd - mae colostrwm yn cynnwys gwrthgyrff a elwir yn imwnoglobin (neu Ig). Mae llo newydd anedig angen colostrwm sy’n cynnwys o leiaf 50g/litr o IgG - gellir profi hynny gyda cholostromedcolor - ni ddylid defnyddio unrhyw beth dan 50g/litr
  • Amser - dylid rhoi colostrwm un ai o’r deth neu trwy diwb o fewn dwy awr ar ôl geni. Mae hefyd yn bwysig i gofio bod yr Ig o bwrs/cadair y fam yn gwanhau ac yn lleihau dros amser, felly sicrhewch fod y fam yn cael ei godro cyn gynted â phosib ar ôl dod â llo

Mae cysondeb o ran amseroedd bwydo, cyfanswm a chrynodiad y llaeth powdwr yn hollbwysig. Mae ymchwil newydd wedi dangos nad yw dau litr ddwywaith y dydd bellach yn cael ei ystyried yn ddigonol ac y dylai’r rhan fwyaf o loeau gael o leiaf chwe litr o laeth powdwr bob dydd. Dylai’r crynodiad fod yn 125g o laeth powdwr i bob litr o ddwˆ r, sy’n gyfwerth â 650g y dydd.

Ailedrychwch ac adolygwch eich systemau magu lloeau i sicrhau’r lles gorau posib ar gyfer y llo, yn ogystal â gwella effeithlonrwydd llafur a lles. Wrth feincnodi a chynhyrchu costau magu lloeau, mae’n bwysig i gyfrifo’r oriau gwaith sy’n cael eu treulio gyda’r lloeau a sicrhau bod y system yn effeithlon o ran cost a llafur. Mae nifer o systemau ar gael ac mae’n bwysig i ganfod yr un sydd fwyaf addas i’ch busnes. 

Gellir ariannu cyngor pellach trwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio.
 

Rhywbeth i’w ystyried?

Gall bwydo 40 llo gyda bwced o’u geni i’w diddyfnu gymryd hyd at 77 awr o waith – 115 munud i bob llo ar gost o £13.68 o lafur i bob llo. Gall bwydo lloeau mewn grwˆ p gynnig lleihad o 80% yn y gost yma.

Gall magu lloeau fod yn dasg lafurus sy’n cymryd amser maith ar unrhyw fferm, Fodd bynnag, dangosodd treialon a gynhaliwyd gan Moorepark, y ganolfan ymchwil llaeth Gwyddelig, nad oedd gwahaniaeth o ran cynnydd pwysau rhwng lloeau dros bedair wythnos oed a oedd yn cael eu bwydo unwaith y dydd o’u cymharu â grwˆ p a oedd yn cael eu bwydo ddwywaith y dydd, ond roedd arbedion i’w gweld mewn costau llafur


Ffeithiau colostrwm

rheoli magu lloi

 

Syniadau slic

  • Cariwch thermomedr gyda chi yn y sied lloeau bob amser. Dylid profi unrhyw arwyddion o ddiffyg awydd bwyd gan y gall tymheredd uchel nodi’r arwyddion cyntaf o glefyd resbiradol. Gellir ei adnabod dau neu dri diwrnod cyn unrhyw arwyddion clinigol - mae atal yn allweddol!
  • Prawf penlinio - gwnewch brawf penlinio dyddiol, gostyngwch eich pen-lin i’r gwellt dan y llo, os yw eich pen-lin yn damp wedi i chi godi, nid yw’r gwellt yn ddigon sych a bydd y lloeau yn mynd yn damp ac yn colli gwres, sy’n hanfodol ar gyfer cynnydd pwysau.
  • Dylai siediau lloeau fod wedi’u hawyru’n dda, ond heb ddrafft ar lefel y llo.
  • Diddyfnwch y lloeau’n raddol dros gyfnod o wythnos i leihau lefelau straen.
  • Neilltuwch unrhyw loeau sy’n ysgothi cyn gynted â phosib. Sicrhewch eu bod yn cael electrolytes a pheidiwch â rhoi’r gorau i fwydo llaeth powdwr gan eu bod angen yr egni i wella.
  • Sicrhewch fod pob aelod o staff yn dilyn yr un broses wrth baratoi a chymysgu llaeth powdwr i sicrhau cysondeb o ran cyfaint, ansawdd a thymheredd wrth fwydo.

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r erthygl yma 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr