8 Tachwedd 2019

 

Louise Radley: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Er mwyn gwireddu addewid Llywodraeth Cymru i ostwng allyriadau ynni tŷ gwydr95% erbyn 2050, bydd angen amrywiaeth o ddulliau a thechnolegau, gan gynnwys dal a storio carbon neu ddefnyddio carbon ar raddfa ddiwydiannol.
  • Mae’r sylw sydd wedi cael ei roi i newid hinsawdd wedi canolbwyntio’n bennaf ar ddewisiadau amgen i danwyddau ffosil, ond mae hyn yn annhebygol o fod yn ddigonol i liniaru’r tueddiadau presennol o ran newid hinsawdd.  Gall dal a storio/defnyddio carbon gynnig atebion i leihau lefelau CO2 yn yr atmosffer a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
  • Mae sawl dull ar gyfer dal a storio carbon wedi’u rhestru isod, ac mae’r rhain yn cynnwys:
    • Plannu gwrychoedd a choed er mwyn helpu i atafaelu carbon naill ai ar gyfer ei storio yn y tymor hir, neu fel ffynhonnell amgen ar gyfer tanwyddau ffosil
    • Gwella dulliau o reoli pridd a da byw er mwyn dal a storio mwy o garbon, gan leihau ôl-troed carbon y fferm

Mae llywodraeth y DU wedi addo gostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr cenedlaethol  80% o lefelau 1990 erbyn 2050, ac mae Llywodraeth Cymru am sicrhau gostyngiad o 95% yn allyriadau nwyon tŷ gwydr yn ystod yr un cyfnod.  Bydd angen defnyddio gwahanol dechnolegau i gyrraedd targedau mor uchelgeisiol, gan gynnwys datblygu technolegau i leihau allbwn carbon a nwyon tŷ gwydr, yn ogystal â thechnolegau i gynyddu mewnlifiad y carbon ac allyriadau nwyon tŷ gwydr yn yr amgylchedd ar hyn o bryd.  Mae technolegau dal a storio carbon yr un mor bwysig i leihau ôl-troed carbon diwydiant ag ydyw lleihau allbwn carbon, a dylai datblygu technegau a syniadau ar gyfer gwella mewnlifiad carbon leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr net cyffredinol blynyddol unrhyw fusnes.
Ystyr ‘dal a storio carbon’ yw ‘dal a storio’ allyriadau CO2 yn ffynhonnell y diwydiannau sy’n allyrru nwyon tŷ gwydr, neu o grynodiadau CO2 yn yr atmosffer.  Gall hyn gynnwys prosesau technegol ar y safle (e.e. technegau sgrwbio systemau cyn-hylosgiad neu ôl-hylosgiad), y gellir eu cludo o’r safle ar ffurf fwy sefydlog o garbon neu eu defnyddio mewn prosesau eraill (e.e. fel gwrtaith), ynghyd â dulliau biolegol, fel cynnal mawndir naturiol neu amgylchoedd cefnforol, neu ar lefel amaethyddol, (e.e. rheoli pridd a da byw).

Buddion dal a storio/defnyddio carbon

Wrth i allyriadau nwyon tŷ gwydr gyrraedd pwynt critigol ac wrth i lywodraethau ar draws y byd osod targedau ‘gwyrdd’ newydd bob blwyddyn, mae datblygu technolegau i fynd i’r afael ag allyriadau nwyon tŷ gwydr ar unrhyw raddfa yn hanfodol bwysig.  Dylid rhoi ystyriaeth ddifrifol i unrhyw dechnoleg sydd â’r potensial i gael effaith gadarnhaol ar nwyon tŷ gwydr gan fod her enfawr yn ein hwynebu, ac mae angen ystyried cynifer o atebion amgen â phosibl cyn y gallwn ddechrau mynd i’r afael â’r mater ar raddfa fyd-eang.
Mae dal a storio carbon yn cynnig ateb sydd â’r potensial i leihau crynodiadau carbon yn yr amgylchedd o’n cwmpas.  Gan ddefnyddio technolegau dal a storio carbon sydd wedi’u profi, gellir atafaelu carbon i gnydau tymor hir, priddoedd, a chynefinoedd nad ydynt yn cael eu rheoli.  Mae llawer o gefnogaeth i ddulliau goddefol o ddal a storio carbon, fel galluogi atafaelu yn y pridd, a lleihau’r defnydd o ddulliau dwys o reoli pridd, fel aredig ac arferion hau/cynaeafu dwysedd uchel eraill.  Nid yw dulliau goddefol o ddal a storio carbon, fel y rhai a enwyd uchod, yn allyrru llawer o allyriadau nwyon tŷ gwydr, a gall yr arferion hyn hyd yn oed arwain at leihau defnydd cyffredinol y fferm o ynni.

Sut gall eich fferm chi ddal a storio mwy o garbon?

Plannu gwrychoedd a choed

Mae plannu mwy o wrychoedd a choed ar ffermydd yn dod â llawer o fanteisiongan gynnwys rhai economaidd, ecolegol ac amgylcheddol.  Mae plannu gwrychoedd a choed ar eich tir nid yn unig yn cynnig cysgod a lloches i dda byw a ffawna lleol, mae hefyd yn cynyddu faint o garbon sy’n cael ei ddal a storio mewn biomas coediog wrth i CO2 gael ei sefydlogi fel carbon organig sefydlog yn y biomas sy’n crynhoi.  Mae coed ar ochrau ffyrdd neu mewn ardaloedd trefol yn benodol yn cael effaith arwyddocaol ar leihau llygredd, gan eu bod yn dal a storio mater gronynnol mawr gan ddod â buddion sylweddol o ran ansawdd yr aer.  Bydd plannu ger ffynonellau uchel o lygredd carbon yn cael effaith debyg, gan gynnwys unedau llaeth a dofednod lle gall allyriadau nwyon tŷ gwydr fod yn uchel oherwydd allbwn methan y da byw a dulliau rheoli da byw.  Wrth i chi ystyried plannu coed a gwrychoedd ar eich eiddo, byddai’n werth ystyried dichonoldeb plannu o amgylch yr ardaloedd prysuraf, yn enwedig y mannau hynny lle gwneir defnydd helaeth o beiriannau fferm trwm, storfeydd slyri ac unedau llaeth a dofednod.

Er bod lleiniau nad ydynt yn cael eu rheoli yn gallu atafaelu symiau mwy o garbon, mae astudiaethau yn awgrymu bod prysgoedio yn cynnig mwy o arbedion carbon posibl drwy ddarparu tanwyddau ffosil eraill.  Bydd plannu coed ffrwythau hefyd yn cynnig cymhelliad economaidd fel cnwd masnachol ychwanegol y gellir manteisio arno.

 

Amaeth-goedwigaeth

Ystyr amaeth-goedwigaeth yw cynnwys mwy o goed mewn amaethyddiaeth draddodiadol, gan gynnwys amaeth-goedwigaeth coedstoc, lle mae anifeiliaid yn pori o dan goed, sydd yn eu tro yn cynnig cysgod a phorthiant i dda byw yn gyfnewid am briddoedd sy’n cael eu cyfoethogi gan anifeiliaid, ac amaeth-goedwigaeth coedâr, lle mae cnydau yn cael eu tyfu o dan goed, mewn rhesi sy’n ddigon llydan i ganiatáu i beiriannau trwm drin y caeau heb amharu ar y cnwd.  Mae hyn yn cynnig cysgod i gnydau sy’n sensitif i wres, yn ailgylchu ac yn gwneud gwell defnydd o faetholion yn y pridd ac yn cynnig coridorau i fywyd gwyllt.  Yn aml bydd gan goed systemau gwreiddiau mwy dwfn na chnydau âr, felly mae’n bosibl atafaelu carbon ac amsugno maetholion drwy haenau lluosog.  Gellir plannu coed ar hyd lleiniau clustogi hefyd ac ar dir ymylol nad yw’n cael ei ddefnyddio, fel ardaloedd o ddrain a mieri, lle gallant gynnig y manteision, heb effeithio ar ardal y tir âr.
Amaeth-goedwigaeth a dulliau tebyg o dyfu coed yw rhai o’r dulliau gorau ar gyfer dal a storio carbon ar lefel amaethyddol.  Gall newid o amaethyddiaeth i amaeth-goedwigaeth arwain at gynnydd sylweddol o tua 34% yn lefel carbon y pridd mewn ardal ddynodedig, ac mae newid o laswelltir i amaeth-goedwigaeth yn arwain at gynnydd o tua 10% yn lefel carbon y pridd.

 

Plannu cnydau lluosflwydd tymor hir

Bydd gwella dulliau o reoli pridd a hau ac aredig yn llai aml hefyd yn cynyddu cyfradd mewnlifiad carbon i briddoedd âr.  Dylai plannu cnydau lluosflwydd olygu nad oes angen aredig ac ailhau bob blwyddyn, gan alluogi meinweoedd tanddaearol i dyfu, ac o bosibl arwain at gynnydd yng nghronfeydd carbon tanddaearol a fydd yn galluogi cymunedau microbaidd i sefydlu.  Byddai plannu rhywogaethau biomas lluosflwydd hefyd yn arwain at arbedion carbon cyffredinol drwy leihau’r defnydd o danwyddau ffosil.  Er enghraifft, mae ‘Miscanthus x giganteus’ yn cynnig cyfraddau atafaelu carbon o tua 1.96 tunnell o garbon yr hectar y flwyddyn, a chyfanswm cynnyrch biomas o 15-25 tunnell yr hectar, y gellid eu defnyddio i gydbwyso’r defnydd o lo yng ngorsafoedd pŵer y DU.  Trwy gynnwys cnydau lluosflwydd yn ystod cylchdroeon cnydau, mae cyfle i briddoedd adfer y carbon a gollwyd yn sgil arferion cynaeafu ac ailblannu dwys.

 

Rhywogaethau glaswellt

Yn aml, mae gan laswelltiroedd sy’n gyfoethog o ran rhywogaethau gyfraddau cynhyrchedd uchel oherwydd eu systemau rhannu adnoddau gwell uwchben y ddaear ac o dan y ddaear a’r amrywiaeth o ddulliau dal/storio a’r galw am adnoddau.  Mae hyn yn osgoi gor-ddihysbyddu carbon a maetholion yn y pridd ar ddyfnderoedd penodol, ac mae’n helpu i leihau’r perygl y bydd priddoedd yn sychu.  Mae’r ffaith bod mwy o faetholion ar gael yn y pridd yn golygu gall y cnwd sy’n tyfu gael mynediad at ddewis llawn o faetholion a mwynau ar ffurfiau sydd ar gael i blanhigion, ac felly bydd mwy o botensial ffisiolegol.  Ar lefel uwch, mae glaswellt porthi o ansawdd gwell ar gael i’r da byw sy’n pori, a gall gwell porthiant arwain at ostyngiad o hyd at 20% yn allbwn methan gwartheg cnoi cil.  Dylai pridd iach gyda rhwydwaith gwreiddiau da wella gofynion dyfrhau hefyd ac amddiffyn rhag erydiad tir.

Yn yr un modd, mae cylchdro cnydau yn hanfodol ar gyfer priddoedd iach sy’n gyfoethog o ran carbon.  Mae amrywiaeth o gnydau o deuluoedd gwahanol, pob un ag oes wahanol, yn atal y pridd rhag dihysbyddu’r adnoddau mewn ffordd benodol iawn.  Efallai bydd angen maetholion ac adnoddau gwahanol ar bob cnwd, a byddant yn datblygu gwreiddiau o wahanol ddyfnder.  Mae cylchdro cnydau sy’n defnyddio planhigion ag oes wahanol, gan gynnwys gwrteithiau gwyrdd tymor hir, neu blanhigion lluosflwydd tymor canolig, yn golygu na fydd dulliau amaethu gor-ddwys yn cael eu defnyddio ar y pridd dros gyfnodau hir, gan roi cyfle i garbon a microbau adfer rhwng y cyfnodau tyfu cnydau blynyddol.  Mae pori cylchdro hefyd yn galluogi gwyndwn glaswelltir i gyflenwi siwgr i’r pridd, gan ddarparu ffynhonnell fwyd i ficrobau preswyl, a gall hyn arwain at botensial i gynyddu lefelau carbon y pridd 1% bob tair blynedd (20t/ha/yr).

 

Cnydau gorchudd gaeaf

Gall cnydau gorchudd gaeaf gynyddu lefel y carbon yn y pridd drwy wella deunydd organig y pridd a’i ffrwythlondeb ac atal erydiad tymhorol.  Mae cnydau gorchudd tymhorol yn golygu bod modd cynaeafu ynni solar ar hyd y flwyddyn, gan atafaelu carbon i’r pridd yn ystod misoedd o gwsg cyffredinol, darparu bwyd ar gyfer microbau yn y pridd a lleihau carbon ffo neu nitrogen sy’n trwytholchi drwy ffurfio haen amddiffynol uwchben lefel y pridd.  Mae cymysgedd o gnydau sy’n marw yn y gaeaf, fel porfa rygwellt unflwydd, a chnydau gwydn y gaeaf, fel peiswellt tal, yn cael ei argymell i ddarparu buddion dadelfeniad biomas uwchben y ddaear ac i wella systemau gwreiddiau a sefydlwyd dros y tymor cyfan.

 

Rheoli pridd

Mae priddoedd âr yn aml yn cael eu dihysbyddu o garbon yn sgil erydiad oherwydd dulliau ffermio sy’n rhy ddwys.  Amcangyfrifir bod 9.8 biliwn tunnell o garbon wedi’u storio ym mhriddoedd y DU, felly bydd gwella iechyd y pridd yn cael effeithiau arwyddocaol ar atafaelu carbon.  Mae lleihau’r defnydd o beiriannau trwm a dulliau dwys o drin y pridd yn amharu llai ar y pridd ac yn lleihau’r difrod i strwythur y pridd gan helpu i gynnal biomas a gweithgaredd microbaidd uchel yn y pridd (gweler isod), yn ogystal ag osgoi rhyddhau carbon drwy gorddi tir sefydlog.
Gall systemau lle na fydd y tir yn cael ei drin o gwbl arwain at ragor o broblemau yn ymwneud â chwyn, gan arwain at fwy o ddefnydd o chwynladdwyr, a gall hyn leihau effaith fuddiol y cynnydd yn y gyfradd atafaelu carbon.  Gwelwyd bod troi’r tir yn isel, neu dechnegau hau â dril, yn cynyddu poblogaethau pryfaid genwair ac yn rheoli chwyn yn well, heb gael effaith arwyddocaol ar y cnwd, o’i gymharu â throi’r pridd yn ddwfn.  Ar ffermydd organig, lle mae llai o ddefnydd o blaleiddiaid a chwynladdwyr, ac mae’r arfer o droi’r pridd yn fas yn ddull mwy cyffredin o droi’r pridd yn flynyddol, mae deunydd organig y pridd 21% yn uwch ar gyfartaledd na phriddoedd anorganig. 

 

Bioamrywiaeth pridd

Mae cynnal lefel bioamrywiaeth uchel y pridd yn golygu bod y broses o drosi deunydd organig yn ffurfiau sefydlog o garbon (e.e. hwmws) yn fwy effeithlon.  Gall micro-organebau fel pryfed genwair symud carbon a maetholion yn ddyfnach i broffil y pridd, ac mae microbau a micro-organebau yn darparu maetholion drwy brosesau gwastraff metabolaidd a dadelfeniad.  Mae lefelau uchel o ficrobau a micro-organebau yn golygu llai o erydiad tir a gwell strwythur pridd, gan fod modd amsugno mwy o ddeunydd organig.

Mae’n bosibl gwella bioamrywiaeth pridd drwy roi deunydd organig ar y 4” o bridd yn rheolaidd, a/neu gyflwyno bacteria a ffyngau yn uniongyrchol, fel ffwng mycorhisol a rhisofacteria.  Mae trin y tir yn llai dwys (gan gynnwys gwneud llai o ddefnydd o beiriannau trwm neu gynaeafu gormodol) yn helpu i gynnal bioamrywiaeth uchel y cae.

 

Defnyddio carbon i wella pridd

Mae bio-olosg yn cynnwys ateb tymor hir ar gyfer storio carbon, gan storio carbon mewn ffurf sefydlog.  Mae bio-olosg yn cyfoethogi’r pridd hefyd, gan arwain at gynhyrchedd gwell o ran glaswellt a chnydau, gan ei fod yn bondio gyda maetholion a mwynau, ac yn cynnal metabolaeth ficrobaidd drwy sicrhau bod mwy o faetholion ar gael a hefyd drwy gadw compost yn llaith.  Mae bio-olosg hefyd yn cynyddu’r gyfradd cadw nitrogen hyd at 65% mewn priddoedd, yn ogystal â lleihau allyriadau amonia a chynyddu llifadredd.

Gall technolegau dal a storio carbon gael eu defnyddio hefyd i gynhyrchu gwrtaith a chyflyrydd pridd o’r CO2 sy’n cael ei ddal a storio o generaduron pŵer diwydiannol neu wastraff ffosfforws ac amonia.  Trwy ddefnyddio gwrteithiau ‘gwyrdd’ yn hytrach na gwrteithiau traddodiadol, bydd ôl-troed carbon y cae yn llawer llai hefyd, hyd yn oed os na fydd y gwrtaith yn cael ei gynhyrchu’n uniongyrchol ar y safle.

 

Cadw mawn yn wlyb

Mae mawndir yn storfa garbon sylweddol ac mae sychu mawndir yn rhyddhau llawer iawn o CO2 i’r atmosffer.  Mae 12% o fawndiroedd y byd i’w cael yn y DU, ac amcangyfrifir bod 70,000 hectar o orgors ucheldirol yng Nghymru.  Amcangyfrifir bod mawndiroedd presennol y DU yn storio hyd at dri biliwn tunnell o garbon.  Mae ffermio âr a draenio yng nghorsydd East Anglia yn unig yn arwain at golli 380,000 tunnell o garbon yn y pridd bob blwyddyn (9% o gyfanswm y carbon yn y pridd sy’n cael ei golli bob blwyddyn ar draws y DU), ac mae mawndiroedd yng Nghymru sydd wedi’u difrodi yn rhyddhau 550,000 tunnell o garbon bob blwyddyn.  Trwy adael llonydd i fawndiroedd, gellir osgoi’r golled garbon en masse; yng Nghymru yn unig, mae amcangyfrifon yn awgrymu byddai adfer tri-chwarter o fawndiroedd y wlad yn lleihau allyriadau tua 168,000 tunnell y flwyddyn.

Cafwyd galwadau i ddiweddaru polisïau er mwyn adfer mawndiroedd naturiol ar draws y wlad, fel cynefin naturiol ac er mwyn lliniaru carbon.

 

Rheoli da byw

Mae rheoli da byw yn cynnig nifer o gyfleoedd i ddal a storio mwy o garbon yn y pridd yng nghaeau’r da byw a hefyd gwella dulliau o ddal a storio carbon o’r allbwn methan sylweddol sy’n cael ei gynhyrchu gan y da byw eu hunain.  Mae gorbori yn cael effaith fawr ar grynodiadau carbon y pridd, oherwydd erydiad a’r duedd i gywasgu pridd yn yr ardaloedd lle mae da byw mwy o faint yn sefyll.  Bydd sicrhau dwyseddau storio delfrydol, er mwyn cynhyrchu cnydau cynaliadwy ar gyfer maint y cae, yn helpu i atal gorbori a dinistrio pridd ar draws caeau’r fferm.

Gall gwella porthiant gwartheg hefyd leihau’r allbwn methan yn sylweddol.  Trwy wella gwyndonnydd glaswellt i gynnwys amrywiaeth o rywogaethau, gan gynnwys amryw o rywogaethau glaswellt a meillion, gellir gostwng lefelau methan hyd at 20% yn sgil gwell treuliad.

Gall defnyddio slyri gwartheg ar gyfer treuliad anaerobig neu chwalu tail hefyd gael effaith gadarnhaol ar eich ôl-troed carbon (gweler isod), wrth i’r bio-nwy a gynhyrchir gan y slyri ddisodli systemau gwresogi ac ynni a gynhyrchir gan danwyddau ffosil, ac wrth i’r gweddillion treuliad ffurfio gwrtaith cyfleus.

 

Glaswelltiroedd atgynhyrchiol

Mae glaswelltiroedd sy’n cael eu gorbori a’u gor-reoli yn aml yn sych ac yn ddi-faeth.  Trwy reoli glaswelltir atgynhyrchiol, mae gan briddoedd gyfle i ymgyfoethogi, gan arwain at wyndonnydd glaswellt mwy iach a gwella storio carbon yn ddyfnach yn y pridd.  Mae gwair yn dal lleithder ac yn atal dŵr ffo a chapio ar yr arwyneb, a all gael effeithiau arwyddocaol ar erydiad pridd, ffrwythlondeb a storio carbon.  Trwy reoli da byw a symud buchesi yn rheolaidd i borfeydd newydd, mae cyfle i’r glaswellt adnewyddu lefel carbon y pridd a maetholion ac adfer unrhyw dyfiant a gollwyd, gan arwain at wndwn fwy cynaliadwy heb ddefnyddio gwrtaith ychwanegol.

Mae’r ddamcaniaeth yn seiliedig ar fuchesi sy’n pori’n naturiol; mae’r buchesi hyn yn mudo rhwng porfeydd ac nid ydynt yn tueddu i ddychwelyd nes bod y glaswelltir wedi adfer.  Lle mae arferion pori wedi newid yn sgil dofi a ffensio gwartheg, mae glaswelltiroedd sydd wedi’u gorbori yn dod yn fwy a mwy anial oherwydd y cynnydd mewn erydiad a dŵr ffo o briddoedd sych, anffrwythlon, gan arwain at ostyngiadau difrifol yn y carbon sy’n cael ei gipio a’i storio o’i gymharu â’r hyn a welir mewn priddoedd mwy iach.

 

Ailgylchu treulio anaerobig a bio-nwy

Mae ailgylchu treulio anaerobig  ar y safle yn ffordd ddelfrydol o leihau ôl-troed carbon busnes drwy gynhyrchu eich tanwydd naturiol a’ch compost eich hun yn lleol, gan leihau’r defnydd o garbon i gludo gwastraff o’r fferm, ynghyd â’r angen i fewnforio gwrtaith a thanwydd.  Mae treulio anaerobig yn cynhyrchu dau brif gynnyrch gwastraff; bio-nwy, y gellir ei ddefnyddio fel tanwydd ar gyfer cynhyrchu ynni at ddefnydd y fferm a’r grid cenedlaethol; a chêc treulio anaerobig, a fydd o fudd i briddoedd os caiff ei ddefnyddio fel gwrtaith, neu y gellir ei brosesu ymhellach drwy hylosgiad neu nwyeiddio.  Gyda’i gilydd, gall treulio anaerobig gwastraff gwyrdd a slyri tail gyfrannu at ostyngiad sylweddol mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr, o’u cymharu â thanciau slyri yn yr awyr agored neu ddefnyddio tail yn uniongyrchol fel gwrtaith.  Hefyd, gall unrhyw fio-nwy neu dreuliad anaerobig sydd dros ben ac nad oes ei angen, gael ei werthu i drydydd parti fel ffynhonnell incwm ychwanegol.

 

Crynodeb

Mae dal a storio carbon yn un ffordd yn unig o leihau ôl-troed carbon fferm, drwy ddefnyddio dulliau o storio carbon, un ai ar ffurf sefydlog tymor hir, fel carbon organig, neu ar gyfer ei ddefnyddio ar draws sectorau’r fferm, fel bio-nwy neu wrtaith.  Gydag effeithiau uniongyrchol ar lefelau CO2 yn yr amgylchedd, dylid ystyried dal a storio carbon fel dull o ddarparu arferion amaethyddol di-garbon.

Mae potensial i sawl dull o ddal a storio carbon ym myd amaethyddiaeth, fel troi’r tir yn llai aml a defnyddio treuliad anaerobig fel gwrtaith, ddod â budd economaidd, yn ogystal â lleihau cyfanswm allbwn carbon y fferm.  Mae’n bosibl bydd angen buddsoddiad cychwynnol mwy ar gyfer dulliau eraill, fel cynhyrchu system anaerobig a sefydlu gwrychoedd a choed, ond mae ganddynt y potensial i leihau costau cyffredinol a gallant hyd yn oed gynnig cyfle fel ffynhonnell refeniw incwm ar ôl eu sefydlu.

Mae’r Pecyn Cymorth Ffermio Carbon (Farming Carbon Toolkit) yn llwyfan nid-er-elw sy’n cael ei arwain gan ffermwyr, a’i nod yw codi ymwybyddiaeth am newid hinsawdd, cysylltu gyda ffermwyr a rhoi cymorth iddynt os oes ganddynt ddiddordeb mewn lleihau eu hôl-troed carbon.  I’r rheini sydd â diddordeb mewn cyfrifo eu hôl-troed carbon neu ddatblygu arferion wedi’u teilwra ar gyfer eu fferm, gallai fod yn fuddiol cymryd golwg agosach ar y pecyn.

 

Cliciwch yma i weld fersiwn PDF o'r erthygl hon.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Cnydau Porthiant ar gyfer Pesgi Ŵyn: Cnydau Bresych
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth