Dr Ruth Wonfor: Therapi Buchod Sych Dethol - beth yw hyn ac a ddylwn ei ddefnyddio ar fy fferm?


Negeseuon i’w cofio:

  • Dylid ystyried bod therapi i bob buwch sych yn arfer annerbyniol. Mae hyn yn unol ag argymhelliad Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru o ‘hyrwyddo lleihau’r defnydd o wrthfiotig o ddydd i ddydd’.
  • Mae therapi buchod sych dethol yn syml i’w weithredu ar y fferm a bydd yn lleihau eich defnydd o wrthfiotig. Os bydd mastitis yn digwydd yn aml yn eich buches, dylech ofyn am gyngor milfeddygol. 
  • Mae selwyr tethi yn ffordd ddefnyddiol o leihau’r tebygolrwydd y bydd tethi sy’n iach wrth eu sychu yn cael eu heintio yn y cyfnod sych ac yna dylai leihau eich cyfradd mastitis yn y cyfnod llaetha nesaf heb orfod defnyddio gwrthfiotig.

Mae’r cyfnod sych yn allweddol yn y broses laetha. Dyma’r cyfnod ar ôl llaetha sy’n rhoi cyfle i leinin y gadair/ pwrs drwsio fel ei fod yn gallu cynhyrchu llaeth ar ei orau yn y llaethiad nesaf. Yn y broses drwsio, mae’r llaeth yn sychu, mae leinin y gadair/pwrs yn mynd yn llai ac yn lleihau gweithgaredd ac mae plwg o geratin yn ffurfio ym mhibell y deth.

Nid i drwsio’r gadair/pwrs yn unig y mae’r cyfnod sych yn cael ei ddefnyddio ond hefyd i glirio unrhyw heintiadau tethol. Gall achosion blaenorol o fastitis clinigol neu is-glinigol gael eu trin a gellir atal heintiadau newydd. Mae atal heintiadau newydd o facteria amgylcheddol yn y cyfnod sych yn holl bwysig gan y gall y rhain droi yn achosion clinigol ar ôl lloea. Efallai ei bod yn ymddangos yn rhyfedd fod risg o gael bacteria yn mynd i’r deth er bod plwg ceratin yno. Ond, gall peth amser fynd heibio cyn i’r plwg ffurfio, ac mae buchod yn fwy agored i heintiad yn y cyfnod cyntaf ar ôl sychu. Yn ychwanegol, mewn gwartheg llaeth cynhyrchiol iawn, gall y fuwch ollwng llaeth sy’n golygu nad yw’r deth wedi ei selio yn effeithiol, adroddir bod yr anifeiliaid yma bedair gwaith yn fwy tebygol o gael heintiad.

Bu therapi buchod sych cyffredinol (BDCT) yn ddull safonol i drin ac atal yn ystod y cyfnod sych. Mae’r dull hwn yn defnyddio gwrthfiotig ym mhob chwarter i bob buwch yn y fuches wrth eu sychu. Yn ystod y cyfnod sych, gall dos uwch gael ei ddefnyddio na phan oedd y fuwch yn llaetha ac ni fydd llif y llaeth wrth odro yn golchi’r gwrthfiotig allan. Ond, trwy drin pob buwch yn y fuches â therapi buchod sych gwrthfiotig bydd llawer o fuchod yn y fuches yn cael eu trin â gwrthfiotig pan nad oes arnynt ei angen. Ystyrir bod hyn yn ddefnydd proffylactig o wrthfiotig a dylid annog pobl i beidio â’i arfer. Mae gwrthedd gwrthficrobaidd yn broblem wirioneddol i feddygaeth ddynol a milfeddygol ac rydym yn mynd yn brin o ddewisiadau. Felly, rhaid i’r sector amaethyddol yn ei gyfanrwydd wneud ei orau i leihau’r defnydd o wrthfiotig gymaint â phosibl, heb effeithio ar iechyd a lles anifeiliaid. Yn ychwanegol, mae lleihau’r defnydd o wrthfiotig yn rhan allweddol o Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru. Rhaid i’r diwydiant ddechrau cynllunio beth fydd yn cael ei wneud yn lle BDCT ac ar hyn o bryd ystyrir bod therapi buchod sych dethol a defnyddio selwyr tethi yn ddewis arall synhwyrol. Fe ddylid hefyd cael cymhelliant ariannol oherwydd y bydd llai o wariant ar driniaethau gwrthfiotig diangen.

 

Beth yw therapi buchod sych dethol?

Dull o drin buchod gyda gwrthfiotig ar sail asesiad o bresenoldeb heintiad yn y deth cyn eu sychu yw therapi buchod sych dethol – a bennir fel arfer trwy gyfrif celloedd somatig. Gall y dull hwn gael ei weithredu naill ai ar lefel y fuwch neu’r chwarter, er ei fod yn haws ei ddefnyddio ar lefel buchod yn ymarferol.

 

Beth ddylid ei wneud i’r buchod nad ydynt yn cael gwrthfiotig a sut fyddwn ni’n atal unrhyw heintiadau newydd yn ystod y cyfnod sych?

Mae selwyr tethi gyda neu heb wrthfiotig yn dod yn fwy cyffredin wrth reoli buchod sych, gyda selwyr mewnol yn cael eu ffafrio yn hytrach na selwyr allanol. Mae selwyr mewnol yn cael eu trwytho i bibell y deth ac yn gweithredu fel rhwystr rhag unrhyw facteria amgylcheddol ymosodol. Past yw’r seliwr a fydd yn parhau yn gyfan yn y deth pan fydd llaeth yno a bydd yn cael ei dynnu allan pan fydd y fuwch yn cael ei sugno gyntaf neu ei gwagu o laeth ar ôl lloea. Pan fydd y cyfrif o gelloedd somatig yn isel cyn sychu ac nad oes hanes o fastitis yn y llaethiad blaenorol dangoswyd nad oes unrhyw fantais o ddefnyddio triniaeth wrthfiotig yn hytrach na selwyr tethi yn unig. Yn ychwanegol at hyn, dangosodd nifer o astudiaethau ymchwil bod defnyddio selwyr tethi yn y cyfnod sych yn lleihau amlygrwydd mastitis yn y llaethiad canlynol. Adroddodd un astudiaeth bod gostyngiad o hyd at 48%, mewn cymhariaeth â buchod nad ydynt yn cael triniaeth. Ar sail y dystiolaeth hon, mae’n ymddangos yn debygol y bydd defnyddio selwyr tethi mewn rhaglen therapi buchod sych dethol yn hawdd ei weithredu ac y daw yn arfer cyffredin ar ffermydd llaeth yn y dyfodol, ac ni ragwelir unrhyw effeithiau negyddol o ran iechyd na lles yr anifeiliaid.

Wrth roi selwyr tethi neu wrthfiotig yn y tethi, rhaid bod yn ofalus eich bod yn dilyn canllawiau’r cynhyrchwr a lleihau’r risg o gyflwyno bacteria amgylcheddol i’r deth. Dylid gwisgo menig glân bob amser, dylai’r deth gael ei glanhau yn iawn a dylid cadw at y safonau glanweithdra uchaf. Mae hyn hyd yn oed yn bwysicach wrth ddefnyddio selwyr tethi heb driniaeth wrthfiotig i gyd fynd â hynny. Os na fydd yn cael ei weithredu yn briodol, mae’r risg o heintiad yn y tethi yn cynyddu. Dim ond yn rhannol y dylai’r pigyn sy’n cynnwys naill ai’r gwrthfiotig neu’r seliwr teth gael ei roi yn y deth fel y dangosir ym Mlwch 1.

dry cow therapy 1 cym

 

Sut gallaf ddefnyddio therapi buchod sych dethol ar fy fferm?

Cyn gweithredu bydd raid i chi a’ch milfeddyg benderfynu ar feini prawf dethol caeth. Fel y nodwyd o’r blaen, y dull dethol a ddefnyddir amlaf yw cyfrif celloedd somatig. Y trothwy allweddol a gynghorir ar hyn o bryd yw 200,000 cell/ml. Dylid trafod hyn gyda’ch milfeddyg a all argymell dewis arall ar sail paramedrau a hanes eich buches benodol chi. Dylai unrhyw fuchod sydd â chyfrif celloedd somatig sy’n cyfateb i’r lefel hon neu’n uwch Tu mewn y gadair/pwrs Tu mewn y deth Organebau sy’n achosi mastitis Pibell y deth Pigyn Chwistrell i’r deth Rhoi i mewn yn rhannol Rhoi ei hanner i mewn Rhoi’r pigyn i gyd i mewn gael triniaeth wrthfiotig a seliwr teth a dim ond seliwr teth y dylai’r rhai sy’n is neu heb unrhyw hanes o fastitis clinigol ei gael. Defnyddio cyfrif celloedd somatig fel dull o ddethol ac ystyried mastitis clinigol yn y llaethiad blaenorol yn rhoi sail eithaf da i ddethol buchod heb eu heintio i gael selwyr tethi yn unig, er y gellid gwella ar hyn trwy ddulliau eraill.

Mewn ymchwil diweddar yn Canada a’r UDA gwerthuswyd system feithrin ar y fferm i ganfod presenoldeb bacteria yn y llaeth. Er y byddai’r systemau yma yn gofyn am ofod ‘lab’ glân ar y fferm neu i’ch milfeddyg feithrin samplau, maent yn rhoi canlyniadau yn gyflym a hefyd maent yn fwy cywir wrth ganfod buchod sydd angen therapi dethol na’r offer dethol cyfrif celloedd somatig. Mae’n debygol y bydd dulliau fel hyn yn cael eu datblygu ymhellach yn y dyfodol ac yn dod yn fwy cyffredin ar ffermydd.

Mae Blwch 2 yn amlinellu enghraifft a awgrymir o raglen therapi buchod sych dethol y gellid ei sefydlu ar y fferm. Byddai’r meini prawf dethol ar gyfer y rhaglen yn dibynnu ar y dull a ddewisir i ganfod presenoldeb heintiad wrth sychu. Bydd angen i bob rhaglen fod yn benodol i’r fferm i fodloni eich anghenion unigol a gellid ei weithredu ar lefel buchod cyfan neu bob yn deth, ond mae lefel buwch gyfan wedi ei argymell eisoes. Dylid gofyn am gyngor gan eich milfeddyg neu unigolyn arall cymwys o ran sut i sefydlu a gweithredu’r rhaglen hon. 

dry cow therapy cym

 

Beth ddylwn i’w wneud os oes gennyf ganran uchel o fuchod gyda chyfrif celloedd somatig>200,000 cell/ml?

Ar ffermydd lle mae mastitis yn gyffredin a lle mae llawer o wartheg â chyfrif celloedd somatig uwch na 200,000 cell/ml wrth eu sychu, efallai y bydd y mwyafrif angen gwrthfiotig, ac felly ychydig o gyfle fydd i leihau’r defnydd o wrthfiotig. Ar y ffermydd yma dylid edrych yn gyntaf ar y dulliau rheoli ar y fuches a dylid targedu unrhyw feysydd i’w gwella i leihau amlder y mastitis. Gall arferion fel gwella’r siediau a glanweithdra’r cadeiriau/pyrsiau, glanweithdra wrth odro ac offer godro mewn cyflwr da fod yn fannau defnyddiol i ddechrau arni. Dylai rheoli afiechyd gynnwys trafodaeth gyda’ch milfeddyg bob amser. Ar ôl i’r achosion o fastitis yn y fuches gael eu lleihau, dylai’r defnydd o wrthfiotig yn y cyfnod sych leihau hefyd a gellid defnyddio trefn therapi buchod sych dethol.

 

Therapi Buchod Sych Dethol ar waith: Gwaith Cyswllt Ffermio ar Fferm Arddangos Tyreglwys

Mae gwaith ar fferm Tyreglwys, un o’n Ffermydd Arddangos, wedi bod yn edrych ar ddefnyddio Therapi Buchod Sych Dethol a selwyr tethi gyda milfeddyg y fferm. Roedd y dull dethol ar gyfer defnyddio selwyr tethi’n unig yn ddibynnol ar gyfrif celloedd dan 120,000 yn y 3 chofnod llaeth misol cyn sychu, a sicrwydd nad oedd hanes o glefyd mastitis yn ystod y cyfnod hwnnw. Dangosodd y meini prawf dethol hyn bod 80% o’r fuches yn addas ar gyfer defnyddio selwyr tethi’n unig. Cafwyd lleihad yn y gwrthfiotigau a ddefnyddiwyd ar gyfer y cyfnod sych a gwelwyd arbediad o £7.40 y fuwch. 

 

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r erthygl yma


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr