Rhaglen Geneteg Defaid Cymru

Welsh Sheep Genetics Programme

Beth yw Rhaglen Geneteg Defaid Cymru?

Mae Rhaglen Geneteg Defaid Cymru (WSGP) Cyswllt Ffermio yn cynnig cymorth technegol ac ariannol, arweiniad a chyngor i ffermwyr defaid yng Nghymru i gryfhau perfformiad eu diadell, gwella cynhyrchiant a chynyddu proffidioldeb trwy gofnodi perfformiad a gwella geneteg.

Drwy weithio’n agos gydag arbenigwyr geneteg fyd-enwog, Innovis, a AHDB-Signet, mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar gefnogi ffermwyr i gofnodi perfformiad eu diadelloedd a defnyddio gwerthoedd bridio tybiedig (EBV) i’w llawn botensial i wella perfformiad eu diadell.
 

Beth fyddwch chi'n elwa ohono wrth gymryd rhan?

  • Dysgu sut i ddefnyddio gwerthoedd bridio tybiedig (EBV) i sicrhau potensial bridio gorau eich diadell, trwy ddewis nodweddion allweddol sy'n berthnasol i'ch diadell eich hun.
  • Creu cynllun gweithredu bridio gydag argymhellion clir ar y camau y dylech eu cymryd i wella ansawdd eich diadell gan gynnwys cofnodi perfformiad a dadansoddi data allweddol.
  • Cyngor arbenigol i sicrhau bod eich defaid yn gwneud cynnydd o ran geneteg, gan sicrhau gwell iechyd y ddiadell a chynyddu proffidioldeb eich busnes.
  • Dysgu mwy am ddatblygiadau allweddol ym maes geneteg defaid a chymryd rhan mewn ymchwil arloesol. 

Strwythur y Rhaglen

Mae’r rhaglen wedi ei rhannu’n ddwy haen, Haen 1 a Haen 2.

Yn ogystal â chymorth wedi’i dargedu ar gyfer bridiau defaid mynydd ac ucheldir yn Haen 1, trwy gynnwys Haen 2, mae’r rhaglen hefyd yn cynnig cymorth i fridiau mamol penodol cymwys sydd wedi’i gyfyngu i: Defaid Lleyn, Romney, Charmoise Hill ac Wyneblas Caerlŷr.

Bydd ceisiadau ar gyfer y ddwy haen ar agor i ddiadelloedd sy'n cofnodi ar hyn o bryd yn ogystal â diadelloedd sy'n newydd i gofnodi perfformiad.

Mae meini prawf cymhwyster i'w gweld yma. Sicrhewch eich bod yn darllen y wybodaeth yn ofalus cyn gwneud cais.

Beth fydd y rhaglen yn ei chynnwys, a beth fyddai angen i mi ei wneud?

Trwy wneud cais a chael cynnig lle ar y rhaglen, bydd gofyn i chi:

  • Benderfynu pa un yw'r opsiwn gorau ar gyfer eich diadell - cofnodi â llaw (tagio ar enedigaeth) neu gofnodi DNA (gan ddefnyddio DNA i ganfod tras) Mae manteision i’r ddau, mae'n dibynnu beth sy'n gweddu orau i'ch system. Siaradwch â Swyddog Geneteg os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofnodi â llaw yn erbyn cofnodi DNA. Gellir dod o hyd i brotocolau Cofnodi â Llaw a chofnodi DNA ar y dudalen 'Deunyddiau Defnyddiol' ar ein gwefan.
  • Ymrwymo i gasglu data yn ymwneud â chofnodi perfformiad craidd a’i gyflwyno yn ôl yr angen er mwyn cael gwerthoedd bridio tybiedig ar gyfer eich diadell.
  • Mynychu gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth i ehangu eich gwybodaeth am welliant genetig a sut y gall fod o fudd i'ch diadell.

Mae dadansoddiad llawn o'r cyllid sy'n egluro faint o gyllid sydd ar gael i'w weld yma.

Sut mae gwneud cais?

Mae ceisiadau ar gyfer diadelloedd Haen 1 a Haen 2 bellach ar agor. Darllenwch y wybodaeth uchod, a'r dogfennau cysylltiedig yn ofalus cyn cyflwyno'ch cais.

Ymgeisiwch yma  

Y dyddiad cau ar gyfer pob cais yw 12pm 28 Hydref 2024.

Sylwer: Ychydig o leoedd sydd ar gael, felly bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu dewis ar sail a ydynt yn bodloni gofynion cymhwysedd ac ar sail y cyntaf i’r felin.