Strwythur y Rhaglen

Mae’r rhaglen wedi ei rannu i ddwy haen, Haen 1 a Haen 2. Mae Haen 1 yn cynnwys bridiau defaid mynydd ac ucheldir.

Yn ogystal â chefnogaeth wedi ei dargedu i fridiau o fewn Haen 1, drwy gynnwys Haen 2, mae’r rhaglen hefyd yn cynnig cefnogaeth i fridiau mamol penodol cymwys sydd wedi ei gyfyngu i: Defaid Lleyn, Romney, Charmoise Hill ac Wyneblas Caerlŷr.

Mae diadelloedd sydd yn rhan o’r rhaglen yn gymysgedd o gofnodwyr profiadol yn ogystal â diadelloedd sydd yn newydd i gofnodi perfformiad. 
 

Beth mae’r rhaglen yn ei gynnwys?

Drwy gydweithio’n agos gydag arbenigwyr geneteg fyd-enwog, Innovis, a AHDB-Signet, mae’r rhaglen yn ffocysu ar wella effeithlonrwydd economaidd ac amgylcheddol diadelloedd defaid yng Nghymru drwy ddefnyddio casglu a dadansoddiad data fel teclyn, yn ogystal ag archwilio i arloesedd ac ymchwil sydd yn torri tir newydd.

Mae’r rhaglen yn cynnwys elfennau gwahanol, gyda’r prif nod o gryfhau'r wybodaeth a dealltwriaeth o gofnodi perfformiad a dethol gwerthoedd EBV yn seiliedig ar anghenion y ddiadell. 

Mae diadelloedd sydd yn rhan o’r rhaglen yn cael eu cefnogi drwy Cyswllt Ffermio i gasglu data perfformiad allweddol y ddiadell yn ystod hyd y rhaglen, gyda’r opsiwn o gofnodi gyda llaw neu drwy ddefnyddio olrhain DNA. Caiff sganio uwchsain hefyd ei gwblhau yn flynyddol ar ŵyn er mwyn asesu cyhyrau a dyfnder braster.

Mae un elfen o’r rhaglen yn cynnwys casglu dangosyddion perfformiad allweddol (KPIs) ar gyfer pob diadell, a fformiwleiddio cynllun gweithredu bridio yn seiliedig ar berfformiad cyfredol, gan werthuso tueddiadau genetig. Mae’r cynllun hwn yn caniatáu i ddiadelloedd sydd yn rhan o’r rhaglen adnabod nodweddion i’w gwella, a’u cynorthwyo i ddethol hyrddod gyda gwerthoedd EBV er mwyn targedu anghenion eu diadell.

Elfen arall o’r rhaglen yw cael mynediad i gefnogaeth Cyswllt Ffermio, fydd yn cael ei gynnwys o dan y faner ‘Gerio fyny i eneteg’.

Mae agwedd ‘Gerio fyny i eneteg’ y rhaglen yn cynnig cyngor ac arweiniad i unigolion drwy wahanol rodfeydd, gan gynnwys er enghraifft, gweithdai, clinigau, digwyddiadau a dosbarthiadau Meistr. Gall gyfranogwyr gael mynediad i wahanol gefnogaeth a digwyddiadau, yn ddibynnol ar eu lefel o brofiad o fewn maes gwella geneteg. 

Mae’r rhaglen hefyd yn archwilio i arloesedd a thechnolegau newydd yn ymwneud â geneteg defaid.

Cynigir y cyfle i gyfranogwyr fod yn rhan o ymchwil sydd yn torri tir newydd, gyda’r nod o fformiwleiddio nodweddion er mwyn targedu materion penodol.