Prosiectau Gwndwn Llysieuol Cymru
A yw glaswelltir aml-rywogaeth mor amrywiol â ffermydd Cymru?
Mae prosiect Cymru gyfan yn rhoi cyfle i archwilio ymhellach y budd o ran cynhyrchiant a budd amgylcheddol a ddaw o laswelltir aml-rywogaeth ar ffermydd Cymru, mewn cymhariaeth â glaswelltir confensiynol.
Gwndwn dros dro yw glaswelltir aml-rywogaeth, y cyfeirir atynt yn aml fel gwndwn llysieuol, sy’n cynnwys cymysgedd o laswelltau, codlysiau a pherlysiau. Mae cynnwys gwndwn llysieuol yng nghylchdro pori ffermydd yn cynyddu o ran poblogrwydd yng Nghymru, gyda chyfoeth o fanteision i’w gweld yn y priddoedd, porthiant a da byw, pan fyddant yn cael eu rheoli’n briodol.
O ystyried cymhlethdod a nodweddion cyferbyniol gwndwn llysieuol mewn cymhariaeth â gwndwn glaswellt confensiynol, mae angen i’w sefydlu a’r gwaith rheoli fod yn wahanol i wndwn rhygwellt parhaol a meillion, er mwyn iddynt ffynnu. Bydd amodau naturiol y safle, fel y math o bridd, ei strwythur, ei nodweddion cemegol a’r hinsawdd hefyd yn cael effaith ar lwyddiant y gwndwn. Mae ymchwil sy’n bodoli eisoes wedi edrych ar rai o’r ffactorau hyn, ynghyd ag ymchwilio i effeithiau penodol gwndwn llysieuol ar safleoedd penodol. Ond, mae bylchau allweddol yn yr ymchwil o ran gwndwn llysieuol sy’n cynnwys nifer o wahanol rywogaethau ar draws Cymru.
Trwy gynllun treialu sy’n cael ei ddyblygu mewn caeau ar nifer o ffermydd sy’n rhan o Rwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio ar draws Cymru, bydd effeithiau ail-hadu gwndwn llysieuol o ran cynhyrchiant a’r amgylchedd yn cael eu cymharu â gwndwn glaswellt confensiynol. Mae’r effeithiau hyn yn cynnwys perfformiad y gwndwn a’r anifeiliaid. Bydd y prosiect hefyd yn cynnig cyfle i ymchwilio i effaith amodau amrywiol ar y safle (h.y. ffermydd gwahanol ar amrywiaeth o fathau o bridd) ar lwyddiant y gwndwn.
Beth fydd yn cael ei wneud?
Bydd cae a ddewiswyd ar bob fferm sy’n cymryd rhan o Rwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio yn cael ei aredig, a’i rannu yn ei hanner ar gyfer ail-hadu (ardaloedd gwyrdd ac oren yn Ffigwr 1 isod). Defnyddir canlyniadau profi pridd diweddar yn y caeau a ddewiswyd i bennu gofynion maetholion y gwely hadau (os oes unrhyw rai). Bydd y ddau gymysgedd o hadau yn cael eu hau ar y gyfradd o 34.6 kg/ha.
Mae rhai o’r ffermydd sy’n cymryd rhan wedi hau ar ddiwedd haf 2023 a bydd y prosiect yn dechrau ar ffermydd ychwanegol yng ngwanwyn 2024 oherwydd patrwm ail-hadu’r ffermydd.
Ffigwr 1. Patrwm cae’r prosiect. Ardaloedd gwyrdd yn dangos y plotiau gwndwn llysieuol a ddyblygwyd(n=3) a’r ardaloedd oren yn dangos y plotiau glaswellt-meillion a ddyblygwyd (n=3). Mae’r ardaloedd glas yn dangos y darnau y bydd anifeiliaid yn cael eu cau ohonynt i gasglu data (bydd union leoliad y rhain yn cael ei drafod gyda’r ffermwyr unigol).
Fel y gwelir yn Ffigwr 1 (Plotiau 1, 2 a 3), rhennir pob cae yn system fydd yn cael ei phori ar gylchdro. Bydd rhannu’r plot, ynghyd â’r amser a phatrwm pori yn dibynnu ar y cae, pa mor llwyddiannus fydd y gwndwn wedi sefydlu, ynghyd â pha stoc sydd ar gael. Bydd y da byw a ddewisir i bori’r cae (ŵyn ar y rhan fwyaf o ffermydd) yn cael eu rhannu yn ddau grŵp cyfartal (o ran niferoedd ac oedran/pwysau) i bori’r gwndwn llysieuol a’r gwndwn glaswellt/meillion yn annibynnol oddi ar ei gilydd. Bydd yr ardaloedd sydd wedi eu cau rhag anifeiliaid yn cael eu sefydlu trwy ddefnyddio cewyll pori a’u gosod ar hap ar ardaloedd unffurf o’r caeau.
Pa rywogaethau fydd yn cael eu cynnwys yn y gymysgedd hadau?
Gwndwn llysieuol - cyfanswm o 14 rhywogaeth, gan gynnwys rhygwellt parhaol, rhonwellt, peiswellt y waun, meillion gwyn a choch, ecotain, y godog, ysgall y meirch a maglys rhuddlas
Gwndwn glaswellt confensiynol - Rhygwellt parhaol canolig a hwyr, cymysgedd o feillion a rhonwellt
Pa ddata fydd yn cael ei gasglu?
Bydd y data a fydd yn cael ei gasglu’n cynnwys -
- Ansawdd y porthiant (cynnwys macro- a microfaetholion)
- Cyfansoddiad o ran rhywogaethau
- Mesuriadau o ran cynnydd mewn pwysau byw
- Samplo gwaed (cynnwys macro - a microfaetholion)
- Samplo cyfrif wyau ysgarthol
Cesglir data pellach ar rai ffermydd, gan gynnwys mesur bioamrywiaeth.
Am ragor o wybodaeth ac i ddilyn datblygiadau’r prosiect, ewch i wefan Cyswllt Ffermio.