Dr. Lavinia Mitton BSc BVetMed MRCVS
Enw
Dr. Lavinia Mitton BSc BVetMed MRCVS
Lleoliad
Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro
Prif Arbenigedd
Llaeth a Bîff
Sector
- Cyngor Milfeddygol Arbenigol
- Agweddau technegol yn ymwneud ag Iechyd a Lles anifeiliaid a Bioddiogelwch
Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?
- Mae Lavinia wedi gweithio yn y sector ffermio yng Nghymru ers graddio ac mae ganddi’r sgiliau i gynghori ffermwyr ar iechyd ataliol ar gyfer buchesi, gwella lles anifeiliaid a rhoi argymhellion er mwyn gwella proffidioldeb mentrau ffermio.
- Mae’n cydweithio gyda ffermwyr a’u timau i ddatrys problemau’n effeithiol gan greu perthynas dda gyda ffermwyr. Mae ei sgiliau cyfathrebu yn ei galluogi i greu cynlluniau gweithredu ymarferol wedi’u teilwra i bob fferm.
- Mae ganddi ddiddordeb brwd mewn iechyd ataliol ac mae’n teilwra cyngor ar lefel y fuches ac unigolion.
- Mae Lavinia yn deall costau clefydau o safbwynt proffidioldeb a lles anifeiliaid, ac mae’n gweithio’n agos gyda ffermwyr i wella iechyd eu buchesi drwy gyflwyno newidiadau i reolaeth neu gynlluniau brechu.
- Mae Lavinia yn rhagweithiol iawn o ran sicrhau bod ganddi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith ymchwil, ac mae’n mwynhau cyflwyno’r wybodaeth hon i’r gymuned ffermio leol.
- Ar hyn o bryd, mae’n gweithio tuag at dystysgrif mewn Ymarfer Milfeddygol Uwch mewn meddyginiaeth i wartheg
- Aelod o goleg brenhinol y milfeddygon.
- Blynyddoedd o brofiad o weithio gyda ffermydd llaeth a bîff.
- Amrywiaeth o gyrsiau ar Iechyd Trosiannol, Mastitis, Maeth, Cloffni a ffrwythlondeb mewn buchesi bîff a llaeth.
-
Qualifications/Achievements/Experience
- Ar hyn o bryd, mae’n gweithio tuag at dystysgrif mewn Ymarfer Milfeddygol Uwch mewn meddyginiaeth i wartheg
- Aelod o goleg brenhinol y milfeddygon.
- Blynyddoedd o brofiad o weithio gyda ffermydd llaeth a bîff.
- Amrywiaeth o gyrsiau ar Iechyd Trosiannol, Mastitis, Maeth, Cloffni a ffrwythlondeb mewn buchesi bîff a llaeth.
Top Tip/Quote
Mae cyfnod pontio’r fuwch yn allweddol er mwyn sicrhau llwyddiant ei chyfnod llaetha nesaf, ac mae methu â throsi’n llwyddiannus yn gyfrifol am y rhan fwyaf o broblemau iechyd anifeiliaid y byddwn yn eu gweld ar ein ffermydd, ac felly maent yn costio llawer o arian i’n ffermwyr. Mae’n effeithio’n sylweddol ar gostau cynhyrchu ac mae’n bwysig er mwyn sicrhau proffidioldeb cyffredinol y fferm.