Y broses o fabwysiadu atebion technoleg amaethyddol ar gyfer gwella effeithlonrwydd gwartheg sugno
Mae buchesi sugno yn chwarae rhan hollbwysig yn amaethyddiaeth Cymru, gan gyfrannu’n sylweddol at gynhyrchu cig eidion ein cenedl ac mae ganddyn nhw ran i’w chwarae mewn rheoli cynefinoedd yng Nghymru. Ond mae cynnal buches sugno broffidiol yn gofyn am wella effeithlonrwydd yn gyson. Gyda thechnolegau newydd yn dod i’r amlwg yn gyson er mwyn helpu ffermwyr i gyrraedd y nod hwn, mae’r prosiect hwn yn ceisio arddangos y broses o fabwysiadu technoleg amaethyddol ar fferm Brynllech Uchaf i wella effeithlonrwydd buches y fferm o 35 o wartheg sugno, Gwartheg Duon Cymreig, a buchod sy’n lloia yn y gwanwyn a’r hydref.
Bu gaeaf 2022–2023 yn heriol i Rhodri a Claire. Collwyd dwy fuwch oherwydd problemau metabolaidd yn ystod cyfnod olaf beichiogrwydd. Ysgogodd hyn y ddau i edrych yn agosach ar iechyd a pherfformiad y gwartheg trwy broffilio metabolaidd yn ogystal â ffyrdd sy’n fwy effeithiol o ran amser wrth fonitro iechyd a maeth y fuches, cyn ac ar ôl lloia.
Er mwyn gwella maeth y gwartheg ymhellach a monitro cyn ac ar ôl lloia, wrth hefyd nodi a mynd i'r afael ag unrhyw faterion afiechyd sylfaenol eraill, ymchwilir i’r defnydd o dechnoleg amaethyddol. Nod y prosiect fydd arddangos y broses feddwl angenrheidiol y tu ôl i gymhwyso atebion technoleg amaethyddol i broblemau ar y fferm a monitro'r arbedion o ran cost llafur o ganlyniad.
Anelir at wella effeithlonrwydd cyffredinol eu menter gwartheg sugno, gan gyfrannu at gyflawni hefyd y canlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy canlynol:
- safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel
- lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fferm