Emyr Wyn Owen
Corwen, Sir Ddinbych
Mae Emyr Owen yn rheoli gweithrediadau fferm organig Ystâd Rhug o ddydd i ddydd, sy’n cynnwys ystod amrywiol o fentrau da byw gan gynnwys Defaid, Bîff, Dofednod, Buail, a Cheirw Parcdir.
Mae Ystâd Rhug wedi arallgyfeirio’n helaeth dros y 25 mlynedd diwethaf i gynnwys busnes cyfanwerthu a manwerthu cig sy’n gwasanaethu bwytai a gwestai â sêr Michelin yn Llundain, y Dwyrain Canol ac Asia. Mae hefyd siop fferm ar y safle a siop tecawê y gallwch archebu o’r car.
Yn ogystal â’i rôl yn Rhug, mae Emyr hefyd yn rhan o fenter ffermio cyfran mewn partneriaeth â’i gymydog ar ei fferm deuluol lle maent yn godro 450 o wartheg ar system lloia yn y gwanwyn.
Mae’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn bwysig i Emyr, ac mae'n mwynhau treulio amser gyda'i wraig a'i blant ifanc.
Ei nod ar gyfer y tymor byr i ganolig yw paratoi'r fferm ar ansicrwydd yn y dyfodol. Ymhlith y datblygiadau mae buddsoddiadau sylweddol mewn isadeiledd pori, ychwanegu menter laeth o bosibl, ac archwilio bridiau defaid newydd.
Mae Emyr yn credu mewn dysgu rhwng cymheiriaid ac mae’n gobeithio y bydd yr Academi Amaeth yn darparu syniadau a phrofiadau a fydd yn ei alluogi i ddychwelyd i’w fusnes gyda phâr o lygaid newydd a brwdfrydedd i ymgymryd â’r set nesaf o heriau a chyfleoedd.