Reuben Davies
Aberhonddu, Powys
Dychwelodd Reuben Davies adref i fferm organig 300-erw'r teulu ar ôl treulio 6 blynedd yn gweithio i ffwrdd yn Swydd Gaerloyw a chyfnod yn Seland Newydd ac Awstralia yn gwneud gwaith contractio ar wahanol ffermydd. Mae hyn wedi rhoi llawer o brofiad iddo ac mae wedi dysgu am hanfodion twf cnydau ac iechyd y pridd.
Ac yntau bellach wedi dychwelyd adref, y cam nesaf i Reuben yw cymryd cyfrifoldeb am fferm ei nain a’i daid. Mae Reuben wedi bod yn edrych ar odro defaid ers nifer o flynyddoedd a’i brif uchelgais ar gyfer y busnes yw parhau i wella geneteg anifeiliaid a phlanhigion er mwyn dod yn fwy cynaliadwy a gwella nodau ac incwm menter arallgyfeirio’r fferm.
Ar ôl bod oddi cartref ers blynyddoedd lawer yn cael profiadau gwahanol mae am amgylchynu ei hun gyda phobl o'r un anian yn y sector sydd eisiau datblygu eu gyrfa. Ei flaenoriaethau ar gyfer yr Academi Amaeth yw dysgu mwy am siopau fferm, cynllunio busnes, ailstrwythuro a rheoli risg.