Cian Iolen Rhys

Bethesda, Gwynedd

Ffermwr ail genhedlaeth o Fethesda, Gwynedd yw Cian Iolen Rhys. Mae Cian yn fyfyriwr llawn amser yng Ngholeg Glynllifon; mae’n cydbwyso ei astudiaethau gyda gwaith fferm ar fferm wartheg bîff 120 erw ei deulu yn Nantporth, Bangor ac yn gweithio ar fferm gyfagos, sef, Hendy, Caernarfon.

Cian yw ysgrifennydd clwb CFfI Dyffryn Ogwen ar hyn o bryd, ac mae’n aelod gweithgar o’r clwb. Ar benwythnosau, mae Cian yn mwynhau chwarae i dîm rygbi Ieuenctid Bethesda, ac mae’n cymryd rhan mewn cystadlaethau canu lleol, gan gynnwys yr Eisteddfod, sef rhywbeth y mae wedi ei fwynhau ers iddo fod yn ifanc iawn.

Mae Cian yn dyheu am fod yn arwerthwr da byw ac mae eisoes wedi ennill profiad gwerthfawr trwy leoliadau gwaith a chymryd rhan yng nghystadlaethau arwerthu'r CFfI, a hyd yn oed drefnu ei arwerthiant ei hun yn nigwyddiad elusennol cneifio cyflym Dyffryn Ogwen. Mae Cian yn mwynhau mynychu arwerthiannau yn lleol ac ymhellach i ffwrdd.

Mae rhesymau Cian dros ymgeisio am yr Academi Amaeth yn cynnwys ceisio ennill sgiliau newydd, ehangu ei orwelion, a chysylltu ag unigolion o’r un anian, ond y prif reswm oedd chwilio am her a fydd yn ei wthio i feddwl yn wahanol i’r arfer.