Sophie Thornton
Llanfair-ym-Muallt, Powys
Mae Sophie Thornton yn edrych ymlaen at ei thaith fel newydd-ddyfodiad i’r diwydiant amaeth gyda’i phartner.
Gyda chefndir cryf mewn amaethyddiaeth, a gafwyd trwy brofiad personol ar fferm ei theulu yn Iwerddon a gwaith proffesiynol gydag arweinwyr yn y diwydiant fel Avara Foods, mae gan Sophie ddealltwriaeth gytbwys o amaethyddiaeth. Ffurfiodd Sophie y sylfeini i’w gyrfa gyda gradd mewn Amaethyddiaeth gyda Marchnata ym Mhrifysgol Harper Adams. Ei nod yw adeiladu busnes teuluol llwyddiannus, gan ganolbwyntio ar arallgyfeirio a chynhyrchu cig eidion a chig oen i gefnogi model uniongyrchol i ddefnyddwyr a menter amaeth-dwristiaeth.
Mae Sophie yn edrych ymlaen at gysylltu â pherchnogion busnesau amaethyddol eraill i gydweithio a rhannu gwybodaeth drwy'r Academi Amaeth. I ddysgu am gymwysiadau masnachol ac arferion arloesol. A hefyd i ddeall cyfleoedd arallgyfeirio i’r farchnad gwyliau Cymreig a thwristiaeth Amaeth hefyd.