Michael Humphreys
Abermiwl, Powys
Mae Michael Humphreys yn ffermwr ifanc ac uchelgeisiol sy’n rhedeg fferm gymysg 400 erw ym Mhowys. Cymerodd drosodd y fferm oddi wrth ei ewythr yn 2019 gan ddod yn bartner cyfran ac ers hynny mae wedi ehangu nifer yr erwau a’r cynhyrchiant.
Mae'n rheoli mentrau defaid, gwartheg a moch ac mae hefyd yn tyfu cnydau megis betys porthiant ac india-corn fel porthiant ar gyfer ei dda byw. Mae'r fferm yn cynhyrchu cig eidion Wagyu sy'n cael ei werthu'n uniongyrchol i gyfanwerthwr. Ei brif ddull pori yw pori cylchdro, gan ei alluogi i wneud y gorau o nifer yr anifeiliaid sy'n cael eu pesgi ar borthiant yn unig.
Ar ôl ennill gradd mewn Amaethyddiaeth gyda Rheolaeth Busnes ym Mhrifysgol Reading, symudodd Michael i Awstralia a threuliodd amser yn gweithio ar safle gwartheg yn y gwyllt.
Yn gneifiwr medrus, mae Michael yn cneifio eu holl ddefaid ei hun, yn ogystal â rhedeg menter gneifio fach. Mae Michael yn mwynhau chwarae pêl-droed pan nad yw’n ffermio.
Mae cynlluniau Michael ar gyfer y dyfodol yn cynnwys dod yn fwy effeithlon yn ei arferion ffermio a dechrau gwerthu mwy o'i gynnyrch yn uniongyrchol i ddefnyddwyr. Wrth feddwl am yr hirdymor, mae’n edrych ar ba mor ymarferol fyddai trosi ei fferm yn fenter laeth unwaith y dydd sy'n lloia mewn bloc yn y gwanwyn.
Mae Michael yn edrych ymlaen at gwrdd ag unigolion o'r un anian â'r un awydd am ddatblygiad busnes a thwf personol.