Emily Thompson
Llandrindod Wells, Powys
Mae Emily Thompson yn astudio ar gyfer ei chymwysterau Lefel A mewn cemeg, bioleg a mathemateg yn Ysgol Calon Cymru ar hyn o bryd. Gartref, mae Emily yn gweithio ochr yn ochr â’i theulu yn ffermio buches o wartheg Limousin a diadell gymysg o famogiaid Mynydd Cymreig a Miwl, yn ogystal â’i diadell fechan ei hun o ddefaid Brith Iseldiraidd a defaid Dorset.
Mae Emily yn aelod balch o CFfI Llanfair ym Muallt, ac ar hyn o bryd, hi yw stocmon iau'r flwyddyn CFfI Brycheiniog. Mae hi hefyd yn mwynhau canu’r piano a'r sacsoffon.
Mae Emily'n gobeithio mynd ymlaen i'r Brifysgol ac mae'n dyheu am fod yn Filfeddyg, gan arbenigo o bosibl mewn anifeiliaid cnoi cil neu barasitiaid, ac mae ganddi fryd ar radd doethuriaeth yn barod! Yn ogystal â gweithio fel milfeddyg, hoffai Emily ffermio ei buches ei hun o wartheg a’i diadell o ddefaid brith Iseldiraidd pedigri.
Gwnaeth Emily gais i fod yn rhan o’r Academi Amaeth er mwyn cael y cyfle i ehangu ei gwybodaeth a’i dealltwriaeth o arferion ffermio amrywiol. Dywedodd Emily mai “ei breuddwyd fwyaf yw bod yn filfeddyg anifeiliaid mawr, gan weithio mewn practis cymysg”.