Jack Hughson
Llanfair-ym-Muallt, Powys
Magwyd Jack ar fferm bîff a defaid ger Llanfair-ym-Muallt, a bydd yn graddio eleni o Brifysgol Harper Adams gyda gradd mewn Peirianneg Amaethyddol. Ochr yn ochr â’i astudiaethau academaidd, mae Jack wedi parhau i ymwneud â’r gwaith ar ei fferm gartref, sy’n cynhyrchu ŵyn benyw miwl ac sy’n cynnwys buches sugno groes Limousin.
Cyn y Brifysgol, cymerodd Jack flwyddyn allan a threuliodd chwe mis yn Seland Newydd, yn gweithio gyda Bridfa Wairere Genetics a ffermydd llaeth ar raddfa fawr. Ehangodd y profiad hwn ei ddealltwriaeth o arferion a thechnegau amaethyddol.
Er bod Jack yn breuddwydio am ddod yn ymgynghorydd fferm ryw ddydd, mae'n cydnabod gwerth adeiladu sylfaen gref mewn rolau eraill yn gyntaf. Gyda’i gefndir ym maes peirianneg, mae diddordebau Jack yn ymwneud â dylunio datrysiadau i wella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd o fewn busnesau ffermio, gan gynnwys dylunio siediau gwartheg. Ei nod yn y pen draw yw rheoli ei fferm ei hun ochr yn ochr â darparu cyngor dibynadwy ar lawr gwlad i ffermwyr lleol.
“Credaf y bydd cymryd rhan yn yr Academi Amaeth yn adeg dyngedfennol yn fy ngyrfa a’m twf, gan gynnig cyfleoedd i ennill sgiliau newydd a meithrin cysylltiadau ag unigolion o’r un anian.”