Siân Downes

Aberaeron, Ceredigion

Mae diddordeb Siân Downes mewn defaid wedi bod yn amlwg yn ei llwybr gyrfa hyd yma.

A hithau wedi graddio mewn Amaethyddiaeth a Gwyddor Anifeiliaid o Brifysgol Harper Adams, mae Siân yn fridiwr brwd Poll Dorset sy’n mwynhau mynychu digwyddiadau ac arwerthiannau’r gymdeithas.

Mae'n gweithio fel cynrychiolydd gwerthu dan hyfforddiant i Wynnstay ar hyn o bryd. Mae hi wedi cael profiad o weithio ar sawl fferm ledled y Deyrnas Unedig ac yn Seland Newydd, a bu’n gweithio am 2 flynedd fel Bugail i ddiadell o 3000 o famogiaid y Brenin Siarl yn Ystâd Sandringham.

Y tu allan i faes amaethyddiaeth, mae Siân yn mwynhau cadw’n heini drwy chwarae pêl-droed i Dregaron a rhedeg gyda chlwb rhedeg Aberaeron.

Mae busnes ffermio’r teulu, a leolir ym Mhenuwch ac Aberaeron, yn gartref i ddiadell o 150 o ddefaid Poll Dorset , gyda chynlluniau i leihau nifer y mamogiaid er mwyn canolbwyntio ar y fuches laeth, sydd â 240 o wartheg croesfrid Friesian yn bennaf ar hyn o bryd, gan werthu llaeth i First Milk.

Gan fod lleoliad y fferm yn agos at dref Aberaeron mae yna gyfle i arallgyfeirio  i dwristiaeth gan ddefnyddio’r adeiladau addas sydd ar y fferm gan gynnwys yr opsiwn o ychwanegu podiau glampio, pebyll saffari neu gytiau bugail. 

Mae Siân yn awyddus i ddefnyddio’r Academi Amaeth i ddatblygu cynlluniau ar gyfer ffrydiau incwm ychwanegol.

Mae Siân yn ystyried ei rhan yn yr Academi Amaeth yn gyfle i feithrin cysylltiadau ag aelodau o’r diwydiant a fydd nid yn unig yn rhoi mwy o hyder iddi wrth siarad ag arbenigwyr, ond hefyd yn rhoi mewnwelediadau gwerthfawr a all gael effaith gadarnhaol ar eu busnes gartref.