Rhydeden Diweddariad ar y prosiect – Gorffennaf 2024
Dechreuodd y prosiect ym mis Ionawr 2024 gyda phroses o'r enw profi GeneEze yn cael ei chynnig trwy NMR. Defnyddir yr uned samplu meinweoedd (TSU) ar gyfer y canlyniadau a'r cywirdeb gorau, mae'r TSU yn caniatáu i'r ffermwr gymryd rhicyn clust bach gan unrhyw anifail o unrhyw oedran, gan ddefnyddio naill ai TSU annibynnol neu fel rhan o'r pâr tag swyddogol.
Yna, mae'r genoteip yn cael ei gynhyrchu gan echdynnu a phrosesu DNA yn y labordy NMR. Yna, caiff y data o’r broses echdynnu a phrosesu DNA ei gyflwyno i AHDB Dairy and Egenes, sy'n cynhyrchu data gwerthuso genomig unigol sy'n canolbwyntio ar iechyd, cynhyrchiant, ffrwythlondeb, Mynegai Lloia yn y Gwanwyn (SCI) a math trwy adroddiadau genetig y fuches.
Cynhaliwyd prawf GeneEze ar y 15 o fuchod stoc ifanc llaeth cyfnewid 11 mis oed R1 ym mis Ionawr. Dilynwyd y broses ganlynol:
1. Tagiodd Eurof yr heffrod R1 ym mis Ionawr 2024
2. Anfonwyd samplau drwy'r post i NMR i'w dadansoddi
3. Derbyniodd y ffermwr ei ddata Genomig ar gyfer 8 o’r heffrod R1 o fewn ychydig wythnosau, fel y dangosir yn Ffigur 1.
Ffigur 1: Canlyniadau genomig hyd yma o gymharu â data Holstein Friesian
Yn anffodus roedd y 7 arall yn uwch mewn gwaed croesfrid sy’n golygu nad oedd yn bosibl derbyn gwerthusiad genomig ar gyfer yr heffrod hyn tan yn ddiweddarach yn 2024. Bydd 102 o samplau pellach yn cael eu hanfon o'r heffrod eraill yr hydref hwn fel eu bod yn cael eu cynnwys yn y gwerthusiadau genomig pan fyddant ar gael.
Ar ôl dadansoddi'r canlyniadau, bydd yn rhoi'r dewis i'r ffermwr werthu'r lloi a berfformodd waethaf yn y profion genomig fel heffrod dros ben, a bydd yn helpu i wneud penderfyniadau ar ddewis teirw cyn bridio ar gyfer lloia yng ngwanwyn 2026; byddant yn dechrau bridio ar 1 Mai 2025.
Gellir cymharu teilyngdod genetig ar gyfer y grwpiau o heffrod a ddewiswyd gan genomeg â'r cyfartaledd ar gyfer heffrod blaenorol a ddewiswyd ynghyd â'r manteision a ragwelir o ran cynhyrchu llaeth a nodweddion eraill.