Gwrandewch ar y recordiad yma o ddigwyddiad fferm Pentrefelin, Llandyrnog i glywed trafodaeth ar sut i hybu pridd iach.
Bydd Huw Foulkes yn rhannu ei daith wrth gymryd yr awenau ar y fferm deuluol sy’n cynnwys creu system ffermio adfywiol. Gall ei system, sy’n cynnwys gwerthu cynnyrch yn uniongyrchol o’r fferm fod o fudd i’r amgylchedd, cynhyrchu bwyd maethlon yn lleol, a mynd i’r afael a materion cymdeithasol sy’n wynebu ffermwyr Cymru, yn ogystal ag adeiladu gwytnwch ar y fferm rhag sychder, llifogydd ac effeithiau eraill newid hinsawdd ar y fferm.
Bydd yr agronomegydd profiadol Nick Woodyatt sydd wedi bod yn helpu i ymgorffori systemau adfywiol proffidiol gyda ffermwyr ers blynyddoedd lawer yn ymuno â ni rannu eu farn. Mae wedi gweithio’n agos gyda Tim Parton, Rheolwr Fferm Fferm Parc Brewood, lle mae wedi bod yn frwd dros amaethyddiaeth adfywiol ers 15 mlynedd, gan feithrin yr ystâd 300 hectar yn Swydd Stafford gyda gweledigaeth i wella’r pridd am genedlaethau i ddod.